Hide Articles List

25 articles on this Page

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

I Y DDIRPRWYAETH AR YR EGLWYS…

STREIC Y MEDDYGON YN NGWRECSAM.

PROFFESWR NEWYDD I GOLEG Y…

[No title]

HELYNT Y FFYRDD HAIARN.

. YNYSOEDD Y 'COCOA.'

. MR. MORLEY AR YR INDIA,

News
Cite
Share

MR. MORLEY AR YR INDIA, TRADDODODD Ysgrifenydd yr India araeth i'w gynnrychiolwyr yn Arbroath, yn Ysgot- land, nos Lun, ar agwedd bresennol yr am- gylchiadau yn ein Hymherodraeth Ddwyr- einiol. Yr ydym yn sier y bydd pob Rhyddfrydwr cywirgalon yn derbyn ei sylw- adau gyda o leiaf y cydymdeimlad llwyraf. Nid oes Ryddfrydwr uwch ei barch yn yr India, fel yn y wlad hon, na Mr. John Morley. Mae efe, mewn gwirionedd, yn rhwym o fod yn wrthddrych ein cydym- deimlad dyfnaf. Efe o bawb a yrwyd gan yr amgylchiadau i uniawnu y dirfawr gamwri a wnaethpwyd gan Arglwydd Curzon yn ystod ei deyrnasiad fel Rbaglaw yr India. Prin y mae yn bossibl i rai oddi allan feddu dirnadaeth glir am yr anhaws- derau yr oedd gan Mr. Morley i'w gwynebu. A sylfeini ei wladweiniaeth nid oes un dyn ystyrbwyll, yn Mhrydain na'r India, a ddichon anghyttuno. Gan nad pa un ai er da ai ynteu er drwg, y mae gan y wlad hon ei dyledswydd i'w chyflawni nas gall ei hosgoi nac ymwrthod a, hi bellach. Nid oes angen yn y cyssylltiad hwn i ddadleu pan un ai mantais ai anfantais i'r ddwy wlad ydyw fod yr India o dan reolaeth Prydain. Fel Mr. John Morley, yr ydym oil yn cydnabod fod yn rhaid i'r rheolaeth hono barhau. Nid ydyw y cwestiwn hwn mewn dadl o gwbl. Hyd yn oed yr Hindwiaid eu hunain ni ddisgwyliant i ni droi ein cefnau ar eu gwlad. Nid am y gwyddant na wnawn yn gymmaint ag na ddymunant i ni wneyd. Os felly, ni ddy- wedodd Mr. Morley gymmaint a gair yn ormod am y drwgo bregethu anfoddogrwydd i'r bobl iwyaf anwybodus yn yr India. Ar yr un pryd, gwyliwn wneyd y pwngc yn dywyllach nag ydyw trwy haeru nad oes eisieu, gan hyny, gwneyd dim ond sefyll wrth gefn yr oil a wnaed neu a wneir gan ein swyddogion yn y wlad neu, dim ond anfon gwefreb i Arglwydd Kitchener,' chwedl tin. Dywedodd y prif fardd Al- maenaidd Goethe unwaith fod v bobl pan y gwrthryfelant bob amser yn iawn.' Hwyrach fod gormod o farddoniaebh yn y dywediad hwn i fod yn hollol wir. Credwn, modd bynag, fod hyn yn wir:âPa le bynag y ceir anfoddogrwydd mawr rhaid fod ang- hyfiawnder wedi neu yn cael ei wneyd. Yn awr, y mae anfoddogrwydd cryf a chyffred- inol yn yr India. Nid anfoddogrwydd<pobl eithafol, ychydig o rif mewn cymmhariaeth, ydyw chwaith. Ceir y bobl gymmedrol a dysgedig dano, hefyd pobl yn cj^drubad fod y rbeolaeth Brydeinig yn hanfodol i hvydd y India. Y camgymmerlad mwyaf y gallem ei wneyd fyddai meddwl mai ds- dwrdd gelynion ydyw y cyfan. Mae ein cyfeillion diledryw yn anfoddog. A'r hyn a ofnwn ydyw fod y camgymmeriad dybryd I- y hwn wedi ei wneyd, ac mai arwyddion di- gamsyniol o hono ydyw erledigaeth yr awdurdodau lleol ar y wasg frodorol, y gwaharddiadau ar gynnaliad cyfarfodydd politicaidd, ac alltudiaeth dynion tebvg i Lajput Rai. Y pwngc mawr yn y dyddiau presennol, heb os nac oni bae, ydyw deall cwynion y corph mawr o bobl gymmedrol sydd yn gofidio o herwydd y wladweiniaeth a roddodd fywyd newydd yn yr hen elyn- iaeth rhwng y Mahometaniaid a'r Hindwaid, a'r hon cyn hyny oedd yn prysur ddiflann. Gwladlywiaeth ydoedd hon a sylfaenasid ar y cyfeiliornad mwyaf gorphwyllog y gellir meddwl am dano, nid amgen mai diogelwch ein rheolaeth ni ar yr India ydyw ei chael nid yn un, eithr yn rhanedig. Neu, mewn geiriau eraill, rhoddi swewr i eiddigeddau cryfion y gwahanol genedloedd a wnant boblogaoth yr India i fyny. T6n ddigllawn oedd yn ngeiriau Mr. Morley, nos Lun, pan yn son am ein swyddogion Indiaidd yn dy- chwelyd adref, ac yn y fan yn cymmeryd rhan weithredol yn ein dadleuon ynglyn a llywodraethiad y wlad. Ac nid at y dos- barth hwn yn unig y dylai efe gyfyngu ei anghymmeradwyaeth yn unig. Dylai, hefyd, ymdrechu cael cyfnewidiad trwyadl a di- ymdroi yn null ac agwedd y llywodraeth- wyr tuag at y rhai a lywodraethir. Nid ydyw ,yn ddichonadwy i ddyrnaid o bobl wynion lywodraethu yr India heb eu bod yn meddu ymddiried a chydymdeimlad ei phobl. Yr ymddiried a'r cydymdeimlad hyny a gloddiwyd o dan eu sylfaeni gan wladweiniaeth ffrystiog Arglwydd Curzon. Gresynus i'r eithaf ydoedd gwneyd ei fath ef yn Rhaglaw yr India o gwbl. A Llyw- odraeth Doriaidd yn unig a geid yn barod i'w wneyd.

. RHY HEN I

Y DDAMWAIN YN YR AMWYTHIG.

---'--------------.-4 NYES…

TEULU YN NEWYNU.

I : 'SARDINES' YN ACHOS 0…

YR EGLWYSWYR A CHYFRAITH PRIODAS.'

[No title]

[No title]