Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

TY Y CYFFREDIN.

News
Cite
Share

TY Y CYFFREDIN. Dydd Llun, Ebrill Sfed.—AiI ymgyfarfydd- odd y Ty heddyw, am y waith gyntaf ar ol gwyliau y Pasc. Dechreuwyd ar y gweith- reaiadau am chwarter i dri. Deheu Westmeath. Ar gynnygiad Mr. P. O'Brien rhoddwyd gorchymyn am 'writz' er ethol aelod dros Ddeheu Westmeath, i lenwi y sedd wag a achoswyd trwy farwolaeth Mr. D. Sullivan. Diddymu Caethwasiaeth yn ddioed. Mr. Churchill, mewn attebiad i Mr. Byles, a ddywedodd fod yr Ysgrifenydd Trefedig- aethol, ar y 7fed o Ionawr, wedi anfon brys- neges i'r swyddog oedd yn gwemyddu y Rhag- lawiaoth yn Nwyrain Affrica, yn awgrymu, yn ei farn ef, fod yr amser wedi dyfod i ddi- ddymu y sefyllfa gyfreithiol ynglyn a chaeth- wasiaeth ar y eyfandir, yn gystal ag yn nhiriogaethau Ynys Sultan y Zanzibar, a bod y mater yn cael ei gario allan mor fuan ag yr oedd yn bossibl. Ffraingc a Thwnel y Sianel. Mr. Runciman, mewn attebiad i Mr. Byles, a ddywedodd fod Syr Edward Grey, yn deall fod ein rhesymau dros beidio rhoddi ein cydsyniad i gynllun Twnel y Sianel yn cael ei deall yn iawn yn Ffraingc, ac yn cael ei Ilawn werthfawrogi. Gyflenwad. Ymffurfiodd y Ty yn bwyllgor cyflenwad, a chymmerwyd o dan ystyriaeth amryw faterion cyssylltiedig a chadwraeth y palasau bren- hinol, y tai seneddol, yr Oriel Genedlaethol, yr Amgueddfa Brydeinig, a sefydliadau eraill. Eglurodd Mr. Harcourt, Prif Ddirprwywr y Gweithiau, y cynlluniau y bwriedir eu cario allan. Cynnygiodd Mr. W. W. Rutherford ostyng- iad mewn pleidlais, fel gwrthdystiad yn erbyn y cynnygiad i wario 80,000p. ar dai swyddog- ol i Brif Arglwydd y Morlys ac Arglwydd Cyntaf y Mor. Mr. Harcourt, mewn attebiad, a ddywed- odd fod y cynnygiad yn un oeddynt wedi ei etifeddu oddi wrth eu rhagflaenoriaid. Cafodd y gwelliant ei wrthod trwy 183 o bleidleisiau yn erbyn 27. Cododd Mr. Ashley i annog y Llywodraeth i brysuro i godi Ilythyrdy newydd yn Black- pool. Dywedodd Mr. Harcourt y cawsai y gwaith ei gwblhau yn mhen tua dwy fivnedd. Pasiwyd pleidlais o 21,000p. tuag at gof- adail i'r diweddar Arglwydd Salisbury yn Westminster Abbey. Cafodd yr oil o'r pleidleisiau y gofynwyd am daiiynt eu pasio erbyn chwarter wedi wyth. Wedi hyny gohiriodd y Ty.

. TY Y CYFFREDIN.

Advertising

I' ] TO COMMITT«fl5 OF TOi…

LLOFKUDDTO MIB YN UVk-HPOOL

- . AMGUE-DFA CYMRO.|

.----,-,-------, ONnFB VSOOLFON…

IRHIWABON.

".-.,-...-----..-..' LLANSANNAN.

.-..--...:::':.w-.--...-.!…

Advertising

YMOSODlAD Mil KKI k HARD;…

YMADAWIAD Y PARCH. W. WILLIAMS…

T R 1 8 A N T

PSSWOH v f-WMlACJ AC ANWYD