Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Y GOGLEDD.

News
Cite
Share

Y GOGLEDD. Am yr ail waith yn olynol sicrhaodd rhan- barth ysgol Llanelwy y nifer fwyaf o bres- ennoldeb yn yr ysgolion elfenol yn sir Fflint. Ar ol byr gystudd, bu farw Mrs. Leadbet- ter, priod yr Uchgadben Leadbetter, prif- gwnstabl sir Ddinbych, dydd Sadwrn, yn Hafod Alyn, Rossett. Ail etholwyd Mr. David Price, dydd Llun, yn gadeirydd Pwyllgor Addysg Trallwm; a Mr. David Jones yn is-gadeirydd. Yr oedd y ddau yn Rhyddfrydwyr. Pennodwyd y Parch. Hugh Richards, gan esgob Bangor, i ficeriaeth Carno, sir Drefald- wyn, fel olynydd i'r Parch. John Edwards, yr hwn a ddyrchafwyd i fywoliaeth Pwllheli. Trefnir i gartreflu sir Ddinbych a sir Fflint ymgyfarfod yn Ngwrecsam, Mai SOfed ac wedi iddynt gael dillad, arfau, &c., bydd iddynt fyned i Gonwy, er myned o dan eu dvsgyblaeth flynyddol. Gosodwyd y boneddigion a ganlyn gan yr Arglwydd Ganghellydd ar restr ynadon sir FeirionyddY Mri. T. Martin Williams, ac O. W. Morris, Abermaw ac E. Lewis Row- lands, Aberdyfi. Y mae y tri yn Rhyddfryd- wyr. Cafodd cyfarfod sefydliad y Parch. John Charles, diweddar o'r Cefn Mawr, fel gwein- idog eglwys Annibynol Lord Street, Gwrec- sam, ei gynnal nos Wener. Llywyddid y gweithrediadau gan y Parch. Ehvyn Thomas, Seacombe. Nos Wener pasiodd cangen Colwyn Bay o Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru benderfyniad yn annog pwyllgor Ileol Eistedd- fod Genedlaethol Llangollen i beidio caniatau cyfleusderau i werthu diodydd meddwol o fewn cylch yr eisteddfod. Gosodwyd ffenestr liwiedig er cof am y di- weddar Mr. Robert Davies, Bodlondeb-yr hwn, rhyw ychydig amser cyn ei farwolaeth, a roddodd 180,000p. tuag at sefydlu gorsaf genhadol yn India—yn nghapel y Presbyter- iaid Saesnig, Porthaethwy. Nos Sadwrn, yn eglwys y Pentre, Fflint, dadorchuddiodd y rheithor (y Parch. W. LI. Nicholas) dabled mynor er cof am y Parch. John Rees Hughes, yr hwn oedd wedi bod yn giwrad y plwyf am bum mlynedd, ac a fu farw Tachwedd 30ain, 1906, yn 35ain mlwydd Qed. Dydd Sadwrn cliweddaf, yr oedd Mr. James Summers, ieu., mab Mr. J. W. Summers, cadeirydd Cynghor Sirol sir Fflint, ac un o benaethiaid ffirm y Mri. Summers a'i Feib- io In, Cyfyngedig, Shotton a Stalybridge, yn dyfod i'w oed. Gwneir trefniadau i ddathlu y digwyddiad etto. Yn Ilys yr ynadon yn Wyddgrug, dydd Llun, cafodd Abel Edwards, llafurwr ar fferm, ei wysio gan Price Williams, ffermwr, Cilcen, am adael ei waith heb roddi rhybudd. Hawliai yr erlynydd 30s. o iawn. Gorchvm- ynodd y faingc i'r diffynydd ialu Ip. o iawn, a 7s. o gostau; a thalodd 3 diffynydd hyny yn ddioed. Derbyniwyd gair yn Nghaergvbi, ddechreu yr wythnos hon, yn rhoddi many lion am fodd- jad morwr, o'r enw John Swan, o'r dref hono. Gadawodd Liverpool dydd Sadwrn, am Gaer- aydd, er iddo fyned i'w Iestr; ac ar ol gwneyd hyn, caed ef wedi boddi yn y doc. Yr oedd wedi treulio rhyw gymmaii\t o amser yn ngwasaiiaeth Bwrdd Masnach yn Nghaer- gybi. Yn nghyfarfod Cynghor Dosbarth (v'wledig Conwy, ddydd Gwener, pasiwyd pleicv sis o ddiolchgarwch i Dr. Spinther James, j. nad- eirydd, am ei wasanaeth yn ystod y flwycidy Rhoddwyd ar ddeall, hefyd, nad oedd DI. James yn dychwelyd i'r cynghor etto; ac o dan yr anigylchiadau, teimlai y gwarcheid- waid y dylent arddangos eu gwerthfawrog- aad o 1 wasanaeth am dymmor maith ar y cynghor hwnw. J Traddodwyd dyn o'r enw David Williams, o Gaergybi stiward ar fwrdd yr agerlong 0?fwt; ? ^VVaT L1«ndain a'r Gogledd WWa V x: 61 br?wf ar y cyhuddiad o ladrata chwech o oriaduron. Y dystiolaeth dros yr erlyniad ydoedd, fod deud'deg o or- iaduron wedi cael eu rhoddi mewn pecyn i Mr. *CV er' Ar y fordaith rbwng Caer- gybi a Dublin agorwyd y pecyn, a chym- meiwyd chwech o oriaduron oddi yno. Dv- wedid fod y carcharor wedi rhoddi amryw or- iaduron yn aurhegion.

---Y DEHEU.

L LW YN C G fi! Ft A B iRA…

CAERNARFON.

R H Y L.

LLYS YR-YNADON.

---.-------RHUTHYN.

CORWEN.

LLANYMDDYFRI.

IOYPARTALFDD DIGONOL

r i I Claddedigaeth. Mrs.…

HENLLAN, GER DINBYCH.