Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
51 articles on this Page
f r C YN-V W YSIA D.
f r C YN-V W YSIA D. liysbysiadati 1, 2 Profiad ychrynllyd Criw o Gymry 2 Marchna-doedd 2 I: ifjwyddiadau 3 Prif Erthyglan 4 Y Gwrthryfel yn Nghymrn 4 Newyddion Cymreig 3 Caernarfon 5 Rhyl 5 Rhuthyn 5 Llanymddyfri 8i. 5 Claddedigaeth Mrs Davies, Plas Castell, Dinbych 5 Gohebiaethau 6 Nodiadau o Ganolbarth Ceredigion 6 Llanrwst 6 Myddfai. 6 Genedigaethau 6 Y Senedd 7 Telegrams Arthur Llwyd m 8 Dirwest 8 Dinbych 8 Barddoniaeth 8 Penmaclino 8 Cynghor Dosbartb Gwledig Llanelwy (Dinbych) 8 -q-
[No title]
Prydnawn Sadwrn aeth y Brenin Ed- ward a'r Frenhines Alexandria o Tou- lon, yn Ffraingc, i Carthagena, yn Ys- paen, yn eu pleserlong eu hunain. Yn y rhan foreu o'r diwrnod talodd ei fawr- hydi ymweliad a'r rhyfel-long Ffrengig Jebba,' yr hon a ddrylliwyd gan ffrwydrad yn y porthladd.
[No title]
Aeth ar ei bwrdd fel arwydd o barch i goffadwriaeth y swyddogion a'r moriil- wyr a laddwyd yn y ffrwydrad. Gwnaeth archwiliad manwl ar y llestr; ac effeithiodd yr hyn a welodd yn ddwys ar ei deimladau, yn enwedig gweled y man neillduol yn mha un y cafwyd deu- gain o gyrph meirwon gyda'u gilydd.
[No title]
Yr ydym yn wastad yn caru son am natur pan yn gwneyd ei harddangos- iadau o'i nerthoedd penaf. Hanes felly sydd genym yn awr o Unol Dalaethau yr America. Yn y plygain dydd Gwen- er ysgubodd corwynt cryf trwy dref Al- exandria, yn nhalaeth Louisiana, a gwnaeth anrhaith dychrynllyd yn y lie. Dywedir i bymtheg o bersonau gael eu lladd.
[No title]
Niweidiwyd o ddeutu cant eraill. Dymchweliad adeiladau, yn benaf, achosodd hyn. Gwnaeth yr hyrddwynt lwybr goleu clir trwy ganol y dreflan, yr hwn oedd yn ddau cant o latheni o le. Prif fasnachdai ac annedd-dai y lie oeddynt yn union yn ei lwybr. Gweith- fa goleuni trydanol a phedair o ffactri- oedd a lwyr ddinystriwyd.
[No title]
y Prif bwysigrwydd y dref hon ydyw, fod pump o gwmniau ffyrdd haiarn yn gyru eu llinellau iddi. Holl adeiladau y ffordd haiarn a wnaed yn gydwastad a'r llawr. Daeth y corwynt yn hollol ddi-rybudd. Gan mai yn y plygain y daeth, y bobl i gyd ynmron oeddynt yn mreichiau trymgwsg; a'r syndod yw, na chawsai chwaneg eu lladd.
[No title]
Er's amser maith odid yr a'i diwrnod heibio heb i ladradau cyfrwys a beiddgar gael eu cyflawni ar linellau ffyrdd haiarn yr Eidal. Cludgelfi a phobpeth y gellid yn hwylus eu cludo ymaith a attafael- id. Am eu bod yn digwydd mor fynych, ac yn mron ar bob llinell, peidiodd llawer o ymwelwyr ag anturio i'r wlad -rhag cael eu hysbeilio.
[No title]
Ond, o'r diwedd, yr ydys yn gobeith- io fod attalfa wedi ei roddi ar y dyhir- dra lladronllyd, a disgwylir y bydd yr ymwelwyr mor liosog ag erioed yr haf nesaf. Os sylweddolir y gobaith hwn, bydd i'w briodoli, debygem, i'r dargan- fyddiad sydd newydd gael ei wneyd gan heddgeidwaid Turin. Daeth y rhai hyn o hyd i'r lladron y dydd o'r blaen.
[No title]
Fel y dyfalai pawb, yr oeddynt yn fintai gref. Ond yr hyn na ddychymyg- odd neb ydoedd, mai gweision cwm- niau y ffyrdd haiarn eu hunain oedd- ynt. Ac etto, dyna y ffaith, gydag ychydig eithriadau, yr ydysyn cael ar ddealI. Yn mysg y rhai sydd yn y ddalia gellid nodi, er enghraifft, tri gard, a thri o frecwyr ar y tren cyflym o Rufam i Paris. J
[No title]
Mae swm anferth o nwyddau-gêm- au a dillad, gan mwyaf, wedi eu hol- rhain a u hattafaelu. Cariai yr ysbeil- wyr (y bobl y rhoddid y fath ymddir- ied ynddynt) eu lladradau yn mlaen ar y raddfa eangaf, ac o fewn eu clymblaid yr oedd agos bob dosbarth o weitliwyr ar y llinellau.
[No title]
v Nid yw hyd y Dreadnought' (Hong rhyfel fwyaf y byd ar hyn o bryd) yn hollol rydd a diogel oddi wrth ddam- weiniau. 0 ddeutu tri mis yn ol anfon- wyd hi ar ei mordaith gyntaf—mor- daith brawf—i'r India Orllewinol. Ar ei dychweliad bu amryw anffodion ar ei bwrdd, a chafodd'tri o'i dynion eu hanafu yn lied dost.
[No title]
Yn mlien y pum' niwrnod wedi iddi gychwyn adref ymddrylliodd tube un o'i berwedyddion yn liollol ddisym- mwth, gan ysgaldio y tri dyn y cyfeir- iwyd atynt a'r ager a ollyngwyd allan. Buasai chwaneg wedi cael eu llosgi, yn ddiau, oni bae i'r ager gael ei droi yn y fan i gyfeiriad arall. Bychain ac ys- geifn oedd yr anffodion eraill.
[No title]
Llawer ydys yn ei son yn awr ac yn y man am eglwysydd gweigion ein gwlad. Ceir eglwysydd gweigion yn Lloegr, hefyd. Er enghraifft, yn eglwys Colne, yn swydd Huntington. Yno bu y gyn- nulleidfa yn weddol liosog, ac ymddang- osai yr achos yn weddol flodeuog. Ond o dipyn i beth y mae hi wedi lleihau nes nad ydyw erbyn hyn namyn tri ar y Sul arferol.
[No title]
Y dydd o'r blaen cynnaliwyd festri flynyddol y plwyf, a chymmerwyd yr achos,' a'i wedd edlychaidd, o dan ys- tyriaeth. Gallesid disgwyl cynnulliad gweddol gryf yno ar Sul y Pasc, yn enwedig; ond yr oil oedd yn bresennol ydoedd y ficer, yr organydd, a'r cloch- ydd. Gwneid y festri i fyny o bobl nad ydynt byth yn t'wllu yr eglwys;' a hwy oedd yn cymmeryd ei chyflwr o dan ystyriaeth.
[No title]
Daethant i benderfyniad unfrydol pa beth i'w wneyd. Yn y penderfyniad hwn cvttunasant i anfon deiseb at Es- gob Ely. Efe yw eu pen ysbrydol, gall- em dybio. Awgryment ei fod ef yn gwneyd un o ddau beth; nid amgen" gosod gwr arall yn y fywoliaetli, neu ynteu, galw ar y clerig presennol i ym- ddiswyddo, a chau y drws.
[No title]
Nid yr un rheswm sydd dros eglwys- ydd gweigion Cymru, a rhai gweigion Lloegr. Maent yn weigion yn ein plith ni am nad oes Eglwyswyr i'w cael yn ein plwyfydd i fyned iddynt. Rheswm arall sydd yn cyfrif am eu gwagder mewn cymmydogaeth fel Colne. Mae yno gyflawnder o Eglwyswyr. Aw- grymir yr achos o wagder hon yn neill- duol yn y penderfyniad.
[No title]
Gan mai o ddiffyg rhai i'w llanw y mae yr eglwysydd yn weigion yn Nghymru, ni thalai o gwbl i ni alw ar esgob Llanelwy, neu ei frawd o Dy Ddewi, i droi parson o'i Ie. Ar yr un pryd, rhydd llythyren y gyfraith cystal hawl i wneyd hyny a'r Eglwyswr mwyaf selog. Beth fyddai i'r Esgob Edwards gael llythyr rhyw foreu gwaith, yn cyn- nwys penderfyniad tebyg i'r uchod.
[No title]
Llywodraeth Japan a fwnada- gael Hong rhyfel newydd o un mil ar hugain o dynelli. Ac yn y wlad hon y gwneir hi. Dywedir fod swyddogion y Llyw- odraeth Japanaidd yn awr ar eu ffordd i daraw y fargen am ei gwiieuthuriad. Tybiwyd ar un adeg fod Japan, o hyny allan, yn myned i wneyd ei llongau rhyfel i gyd ei hun, gartref. Nid yw hi am wneyd hon, modd bynag, y mae yn amlwg. 0
[No title]
Cydfyw a'i deulu ar delerau nodedig o annymunol yr oedd y diweddar Bro- phwyd Dowie.' Aeth o'r byd heb faddeu iddynt. Yn ei ewyllys ddiwedd- af gadawodd ei holl eiddo i EglwYR Seion, gyda r eithriad o'r ychydig oedd y gyfraith yh pi orfodi i'w adael i'w wraig, a dim ond deg doler yn unisr i'w fab Gladstone.- Ni chawsai yr un o honynt ffyrlmg pe gallasai beidio.
[No title]
I Swyddog yn myddin Ffraingc, yn Ajaccio, yn Corsica, a v<[ yn farw, y dydd o'r blaen, par, vn' dyfod allan 6 dy bwyta, Corsiciad, a'i enw Antonctti, a'i saethodd. Saetliodd y llofrudd bedair ergyd, pob un yn ddigon i beri marwolaeth.. Yna ffodd yr adyn, a'r heddgeidwaid ar ei ol. Pan oddi- weddwvd ef, efe a daniodd ar ei erlid- wyr, gan niweidio dau o honynt.
[No title]
Diangodd ar ol hyn i'r mynyddoedd, ac yno y mae yn awr, yn ymguddio. Dial ar y swyddog milwraidd am ddar- ostwng ei chwaer ef yr oedd Antonetti. Geneth ddwy flwydd ar bymtheg, mewn gwasanaeth yn y bwyd-dy, oedd hi. Cyn marw, dywedodd y swyddog ei fod ef wedi cael ei gamgymmeryd am un arall.
[No title]
Fiordd ardderchog, liollol groes i ffordd gweinidog Toriaidd, sydd gan Lywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol i dreulio ei wyliau. Un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, pwy a ddaeth i mewn, heb rybudd, ac yn sicr heb ei ddisgwyl, i Dlotty Ipswich ond Mr. Burns. Bu yno am o ddeutu awr, ac yn mynu gweled pob peth. Tlotty newydd sydd yno, a boddhawyd yntau yn fawr ynddo.
[No title]
Unwaith yn rhagor teyrnasiad dy- chryn sydd yn Odessa. Mae y ddinas yn nwylaw 'y Cant Du.' Ofnir mai effaith y teyrnasiad fydd cyflafanau. Yr Iuddewon yn arbenig ydynt mewn dychryn annaele, canys eu gelynion anghymmodlawn ydyw 'y Cant Du.' Ar hyn o bryd nis gall yr awdurdodau wneyd dim yn eu herbyn.
[No title]
Y chydig ddyddiau yn ol lledaenwyd sibrwd ag yr oeddis yn edrych arno fel un dymunol, a gobeithiem yn hyderus mai troi yn wir a wnai. Y sibrwd yd- oedd, fod yr Ymherawdwr Nicholas o Rwssia wedi gwneyd ei feddwl i fyny i ddisgyn oddi ar ei orsedd; a hyny yn ebrwydd. Ysywaeth, nid oes gair o wir yn y chwedl.
[No title]
Gweithwyr yr Almaen ydynt lawer gwaeth eu cyflwr na'u brodyr yn y wlad hon. Serch cael gwaith cysson, nid yw y cyflog a gant am dano yn ddi- gonol i'w cynnal hwy a'u teuluoedd. Nid ydym yn rhyfeddu at hyn. Dyma hanes cyffredin gwlad sydd yn anwesu Diffyndolliaeth fel yr Almaen.
[No title]
Parhau y mae yr helynt ynghylch cyfoeth y Wyddones Gristionogol yn Unol Dalaethau yr America. Enw y wreigan oludog ryfedd hon yw Mary Baker Eddy. Mae hi wedi cyflwyno ei boll arian i ddwylaw ymddiriedolwyr, gan adael ei theulu allan o bob rhan a chyfran o honynt. Ond ei mab, 'ac eraill o'i theulu, a ddygant gynghaws yn y llys am eu rhan hwythau.
[No title]
Dywedwyd mewn rhai newyddiadur. on, yr wythnos ddiweddaf, fod priodas wedi ei threfnu yn ystod ymweliad Ym- herodres Waddolog Rwssia yn ddiwedd- ar a'r wlad hon rhwng yr Uchel Dduc Michael o Rwssia, a'r Dywysoges Vic- toria o Schleswig-Holstein, merch y Tywysog a'r Dywysoges Christian. Dim banner sill o wir, medd ei theulu hi.
[No title]
A sibrwd arall y mae yn dda genym roddi y celwydd iddo. Am y Hall, nid yw o bwys genym am dano, y naill ffordd na'r llall. Sibrwd yn dyweyd fod Tywysog Cymru wedi cael ei daraw yn glaf yn ddisymmwth ydoedd hwn. Dim sill o wir etto. Yr oedd efe un o'r dyddiau diweddaf allan ar ei farch, yn mwynhau ei hun yn rhagorol.
[No title]
# Ar hyn o bryd nid oes gan y merched eisieu chwaneg na'r etholfraint senedd- ol. Pe caent eu dymuniad, byddai -an- 1 ddynt eisieu cael myned eu hunain i i senedd. Y rhagorfraint hon a fwynheir senedd. Y rhagorfraint hon a fwynheir yn barod gan eu chwiorydd yn Ffin- land. Yn senedd newydd y dywysog- aeth hono nid oes dim Ilai na phedair ar bymtheg o ferched yn mysg ei hael- odau.
[No title]
II Yn mysg y rhai sydd ar fin cyrhaed l i r wlad hon ar gyfer y gynnadledd dref- edigaethol, y mae, yr Anrhydeddus Al- fred Deakin, Prifweinidog Gwladwr- iaeth Awstralia. Bydd Mr. Deakin, yn sicr, yn un o'r personoliaethau hynot- af yn y cynnulliad agoshaol. Am hy- av.'dledd areitliyddol, odid y bydd yno un a ddeil gymmhariaeth ag ef.
[No title]
Pe digwyddai i olygydd anffodus, yn a-mryfus, gvhoeddi enllib yn ei bapur yn y wlad hon, ei benyd fydd talu lawn i'r enllibiedig. Yn yr Almaen, yn chwan- egol at yr ad-daliad, rhaid iddo fyned i garchar. (lolvgydd o'r fath yn Ham- burg a enllibiodd fasnachydd o'r un ddinas, ac y mae efe yn awr yn rhwym am dri mis o garchariad, ond, yn ffodus, heb iawn, y tro hwn.
[No title]
Ofnadwy drwm ydyw cyfrifoldeb brenin y Belgiaid am y golud anghyf- iawn a gii o Dalaeth Rydd y Congo. Gall efe fod yn un o golofnau cadarn- af y Babaeth yn Ewrop, ond ei weision ar lanau anghysbell yr afon Congo ydynt hyd yu oed yn croeshoelio y brod- orion yn unig am na ddygant ddigon o rubber i goffrau y cwmni y mae e; fawrhydi yn ben arno.
[No title]
Daeth ein seneddwyr yn ol o wyliau y Pasc dydd Llun. Hyny yw, daeth rhai o honynt. Dranoeth a thradwy y daeth y doraeth fawr o honynt. Hyd yn oed y Prifweinidog ydoedd ar ol ei amser. Chwareu teg iddo, y mae efe wedi gweithio yn galed; ac amser calet- aeh fyth etto o'i flaen. Bydd yn y senedd brysurdeb mawr o hyn i'r Sul- gwyn.
[No title]
Byd nas gwyddom ni ddim am dano ond a glywn gan eraill, ydyw byd yr actorion a'r actoresau. Y peth diwedd- af a glywsom o'r byd neillduol hwn ydyw, fod un o'i wyr blaenaf yn Llun- dain—Mr. Beerholm Tree-wedi myned drosodd i brifddinas yr Almaen, i ar- ddangos ei ddoniau; ei gyfeillion wedi rhoadi gwledd iddo cyn cychwyn; a'r Ymherawdwr William yn myned i roddi croesaw neillduol iddo.
[No title]
Colled Awstria yw ennill Prydain oedd penawd paragraph mewn newydd- iadur ychydig ddyddiau yn ol. Y goll- ed yw ymddiswyddiad Herr Siegfried Popper, prif beiriannydd llynges Aws- tria. Yr ennill ydyw fod yr un gwr wedi ei gyflogi gan Lywodraeth Pryd- ain at wasanaeth ei Ilynges hi.
[No title]
Yn ol yr arwyddion presennol, bydd y rhyfel rhwng Honduras a Nicaragua, yn Nghanolbarth yr America, yn cael ei dwyn i derfyniad buan. Y gweriniaeth- au cymmydogaethol iddynt ydynt yn dwyn eu dylanwad i weithio arnynt i ymheddychu. Os na wrandawa y ddwy ar hyn fe'u gorfodir gan y lleill mewn undeb a'u gilydd.
[No title]
Am fod ei fryd ar osod ei droed ar Begwn y Gogledd bwriada y mordwy- wr Americanaidd enwog Peary gychwyn ijsv fordaith yn haf y flwyddyn nesaf. Nid oes ond ychydig fisoedd er pan y dy- cliwelodd efe o ymdaitli hir yn y goror- au pegynol. Cymmer o hyn i'r adeg a nodwyd i orphwyso, a gwneyd ei baro- toadau i'r ail ymgyrch.
[No title]
Newydd gael ei wneyd vn hysbys ydyw fod y Brenin Edward a Gweinid- og Tramor Yspaen wedi cael ymgom gyf- rinachol a'u gilydd yn Biarritz. Dy- wedir iddynt fod ynghyd yn mron hyd i r plygain. Yn naturiol, y dyfaliad yw fod y cyfan yn dal perthynas a chyd- gord calon rhwng Prydain ac Yspaen, fel rhwng Prydain a Ffraingc.
[No title]
Bu camgymmeriad difrifol yn mhrif- ddinas Yspaen foreu Sul diweddaf. Clywid trwst ergydion cyflegrau yn di- aspedain am filldiroedd. Yn y fan tyb- iodd y werin mai arwyddo genedigaeth etifedd yr orsedd yr oedd y cyfan, am yr hyn y disgwylid yn aiddgar. Rhedodd ;n 0 mijoedd i gwmpasoedd y palas. Ond nid oedd y cyfan namyn y cyflegrwyr yn my-ieJ trwy eu hymarferiadau arferol.
[No title]
t Ni chyrhaeddodd chwaer ei wraig, Ymherodres Waddolog Rwssia, i Biarritz mewn pryd i weled y Brenin Edward. Yr oedd efe newydd gychwyn am Toulon a Canf agena. Ond hi a gafodd wasan- aeth ystafelloedd y cyfanneddai efe yn'' at. Hi a erys yno am ysbaid r xnos. Cadwed Duw hi i barhau > ei gelynion. Yn ol adrod;ii:i.-i dhvedd yr wytlmos
[No title]
o'r blaen, o i. -l^huk, gwrthododd gwladwyr Koknlvi >; pentref vn_ Mace- donia, roddi y riwyo.dau a ysbeiliasaot hwy oddi ar y tirfcddlannwyr i fyny. 0 herwydd hyny, dvgodd yr awdurdodaU gyflegrau i danbelcau eu treflan. Goll* yngwyd amryw rowndiau o ergydion i'w canol, gan ladd lliaws o honynt.
[No title]
Codi cofgolofn i Arglwydd Clive yw y, peth mawr yn meddwl Arglwydd Cur- zon yn y dyddiau presennol. Rhyfela yn yr India, a gwneyd ei ran i gael y Wlad hono yn eiddo i Brydain, yw y gwasanaeth yn haeddu cofgolofn a wnac-th v gwr hwnw. Er fod llawer yn c ?, ag amcan Arglwydd Cur- zon. prin gellir dyweyd fod y teimlad yn un i--vffredinol.
[No title]
Un o gymmwynaswyr dynolryw oedd y diweddar Mr. Thomas Beecham. Bu farw yr wythnos ddiweddaf, yn chwc' mlwydd dros ei bedwar ugain. Ennill- odd ei gyfoeth a'i enw mawr wrth wneu- thur pelenau iachol. Odid y ceir gwlad dan haul na cheir yr enw Beecham's Pills yn hysbys ynddynt, fel Pelenau Holloway. A bu eu daioni, yn ddiau, ya annhraethol.
[No title]
Amryw gwestiyna-u dadleuol eu nod- wedd ydynt yn debyg o gael eu pender- fynu gan y cyttundeb newydd rhwng Prydain ac Unol Dalaethau yr America. Yn enwedig y cwestiynau ynghylch y llynau a'r afonydd sydd yn 10 terfynu rhwng y Weriniaeth a Canada a ben- derfynir yn awr, yr ydym yn hyderu. A'r cwestiynau eraill ynghylch pysgota yn y mor, yn ogystal.
[No title]
Y rhai selog dros wneuthuriad y twnel o dan y Sianel Prydeinig a ddywedant y bydd gwaith y Llywodraeth yn myned yn ei erbyn yn sicr o oeri teimladau y Fir an <l, od tuag atom. Ond, yn ol yr hyn a adywedwyd yn Nhy y Cyffredin, nid oor, unrhyw berygl o ddim o'r fath. Mor beU ag y mae hyn yn myned, gall- wn fod yn eithaf tawel ein meddyliaiu
[No title]
Mypych ydyw yr anffodion i'n llong- au rhyfel yn y dyddiau hyn. Dydd Llun aeth y Trafalgar ar y creigiau ar Drwyn y Cythraul,' yn Stonehouse, tra yn cael ei llusgo gan long arall i Ply. mouth. Ond wedi gweithio caled arni ara awr a hanner, fe'i caed yn rhydd. Am yr ennyd yr oedd y cyffro yn mron yn annisgrifiadwy.
[No title]
Pan ar ganol y mor yn dyfod adref- pigodd y Dreadnought forwr i fyny. Mewn bad yr oedd efe. Dywedai fod y Hong wedi suddo, ac mai efe oedd yr unig un a achubwyd; iddo fod ar y mor am bedwar diwrnod, ac yn disgyn ar gared- igrwydd y cadben. Ond gwalch oedd efe. Ysbiydd i ryw wlad. Dodwyd ef dan warchod. Cedwir pob peth yn lied ddistaw yn ei gylch.
[No title]
Cynnelid festri flynyddol Eglwys St. Andreas, Aigburth, Liverpool, nos Lun. Bu yno beth cyffro. Aeth ped. war o ddynion ieuaingc allan yn dryst- iog. Ond bu yn wiw gan fwvafrif y. festri wrandaw ar y ficer-y Parch. C. E. Hayes—yn eu sicrhau ei fod ef yn Brotestant, ac mai athrawiaethau yr of. engyl a fwriadai eu pregethu, fel y die weddar archddiacon Taylor o'i flaen.
[No title]
1 Mae treial mawr Harry Thaw wedi ei ddwyn i derfyniad. Yr oedd yn bryd iddo. Parhaodd yn hwy nag unrhyw brawf arall yn holl hanes cyfreithiol Unol Dalaethau yr America. Tra yr ydys yn ysgrifenu nid ydys yn gwybou y dyfarniad. Ond yr ydym yn dyfalu fod Mr. Delmas wedi llwyddo i'w aohnh ef o'r gadair drydanol.'
[No title]
Un o'r cwestiynau yn Nhy y Cvffred- to hop. Lun, ydoedd, pa faint a gosti» dodrefn a charpedau Ty vr Arfflwvdd." Eadiealiaid oedd yn hi Tttebwyd hwy yn ddomo gan Mr. • Loui h2? couit. Dywedodd mai nid. eisieu oedff"' r -^giwyddi yn anghysurus oedd gan y Llywodraeth, eithr eu gwneyd yn ddiniwed.'
[No title]
Penderfyniad cynnulleidfa y Tab^r- nacl Mawr, yn Llundain, ydyw rhoddi. aeuddeng mis o wyliau i'w gweinidog. -9