Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
Hide Articles List
24 articles on this Page
Y DRYCH."
News
Cite
Share
Y DRYCH. DIOD, IECHYD, A MOESAU'R BOBL. GAN GWYLIEDYDD. Tafarnau Fflint: Cwrthdystio. Blinir rhanau gwledig sir Fflint gan aml- edd o dafarnau isel-math o gytiau—cyfedd- ach a diota. Awdurdodwyd clerc Cynghor Plwyf Halcyn i alw sylw Pwyllgor Heddweis- ion y sir at y cyfryw, a chrefu gan y gallu hwnw i ddefnyddio moddion er eu lleihau. Nodir fod yno ddeuddeg o dafarnau ar gyfer pymtheg cant o drigolion. Teimlo y mae y Cynghor Plwyf fod y tri phentref a enwir ganddynt yn dioddef yn ei foesoldeb oddi wrth y deuddeg. Ymddengys yr edrychir arnyr-.t fel lleoedd peryglus i fywyd moesol lacb-, ac am hyny chwennychir cael ymwared & hwynt. Y mae llawer darn o wlad yn gyffelyb i fro Halcyn, a doeth iawn y gwnel- ai Cyrddau Plwyf ymysgwyd er difa lloches- feydd y gyfeddach.
Syr C. B. a'r Darliawyr.
News
Cite
Share
Syr C. B. a'r Darliawyr. Yr wythnos ddiweddaf ymwelodd dirprwy- aeth o ddarllawyr gyda'r Prifweinidog. Cyn hyny ymwelai dirprwyaeth o ddiwyg- wyr dirwestol gydag ef. Rhoddodd dder- byniad boneddigaidd a charedig i'r naill fel y llall. Rhagorodd o ddigon yn hyn o beth ar Mr. Balfour. Nid anghofir rhawg ang- hwrteisrwydd y gwr hwnw tra yn Brifwein- idog at ddirprwyaeth y dirwestwyr. Ond er tirioned y Prifweinidog Rhyddfrydig gyda phenaethiaid y fasnach feddwol, nid oedd ganddo air o gysur i'w adrodd wrthynt-o leiaf, ynglyn a'u masnach. Er hyny, bodd- hawyd hwy nid ychydig gan yr addewid ben- dant a roddwyd ganddo mai budd y genedl fel cyfangorph oedd prif nod y Llywodraeth i ennelu ato. Budd y fasnach gyda'r Tori- aid; budd y cyhoedd gan y Rhyddfrydwyr- dyaa arwydd-air y ddwy blaid.
Urdeb Dirwestol y Railwe.
News
Cite
Share
Urdeb Dirwestol y Railwe. Ya ystod yr wythnos cynnaliwyd undeb blynyddol llwyrymwrthodwyr Llinell y North Eastern, yn Darlington, Mr. Phillip Burt, dirprwy brif reolwr y cwmni, yn y gadair. Yr oedd dau gant o gynnrychiolwyr yn y oynnadleddau Rhoddodd Mr. Burt, yn ei anerchiad, arebnigrwydd ar ofynion arbenig gwasanaethyddion y ffyrdd haiarn. Sylwodd fod deall cyflym a barn glir yn han- fod i Iwyddiant a dyrchafiad ar yr hoi linell- au, yn gystal ag yn holl geingciau eraill masnach a thrafnidiaeth. Ac i'r pwrpas hwnw yr oedd llwyr ymwrthodwyr yr ang- enrhaid blaenaf. Yr oedd hyd yn oed y darllawyr yn cydnabod hyny, ac yn gweith- redu yn 01 y rheol. Sylwodd Mr. Burt fod rhai o'r cwmniau darllaw mwyaf yn gwrthod hyd yn oed cymmedrolwyr mewn rhanau o'u gwasanaeth; rhaid iddynt gael llwyrym- wrthodwyr.
Gwraig a'l Trodd.
News
Cite
Share
Gwraig a'l Trodd. Amryw byd o flynyddau yn ol yr oedd y diweddar Mr. W. S. Caine, A.S., yn treulio hwyrnos mewn gwestty ar gyrion Cymru. Teithiwr masnachol oedd efe ar y pryd. Ar- ferasai yfed yn gymmedrol gyda'i fwyd, ac ar achlysuron eraill, er's blynyddau. Ni theimlodd un amser ei fod yn cyflawni yr hyn oedd yn niweidiol iddo ei hun na pher- yglus i eraill. Yn hollol ddamweiniol, dig- wyddodd daraw ei law yn yr ystafell lie y gorphwysai ar lyfr byehaii-eynnyreh ysgrif- ell boneddiges o'r enw Mrs. Wightman. Os nad yw fy nghof yn pallu, teitl y llyfr oedd Haste to the Rescue.' Achos sobrwydd oedd defnydd y gyfrol. Darllenodd Mr. Caine y Ilyff, a theimlodd ei fod yn cydio ynddo dynach, dynach, gyda'r canlyniad ffodus iddo gael ei lwyr argyhoeddi ganddo. Tranoeth aeth a chymmerodd yr ardystiad. Ymroddodd o'r pryd hwnw allan i achub gweddillion anghymmedroldeb. Arweiniwyd fi i gofnodi'r digwyddiad hwnw wrth weled fod cyfrol o hanes Bywyd Mrs. Wightman' ar fin dyfod allan o'r wasg. Rhaid y bydd efe yn ddyddorol, canys yr oedd y foneddig- es yn un o genhadon cyntaf yr achos dir- westol.
.Y Meddygon a'r Plant.
News
Cite
Share
Y Meddygon a'r Plant. Dydd Llun, wythnos i heddyw, ymwelodd dirprwyaeth o ddeuddeg o brif feddygon y deyrnas gyda Mr. Birrell, Gweinidog Add- ysg. Yn eu plith yr oedd Syr Thomas Bar- low, Syr Victor Horsley, Dr. Clifford Allbut, Syr Lauder Bronton, ac eraill o benaethiaid yr alwedigaeth. Achos iechydeg a dirwest yn yr holl ysgolion oedd pwngc yr ymweliad. Chwennychent ad-drefnu gwersi mewn gwyddoniaeth gyffredinol er corphori eg- wyddorion iechydeg a dirwest yn y cylch- wersi yn hytrach na gwneyd pyngciau new- yddion o honynt. Argymmhellent ddysgu iechydeg a dirwest yn yr holl golegau ath- rawol, ac i'r holl ddysgybl-athrawon; a rhoddasant bwys ar fod y pyngciau hyny yn cael lie amlwg yn mhlith y materion sydd yn wrthddrychau arolygiaeth swyddogol. Yr oedd y meddygon o'r farn y gallesid drwy y plant ledaenu gwybodaeth am y moddau i ochel afiechyd yn mhlith corph y bobl.
Cwyr Cradd.
News
Cite
Share
Cwyr Cradd. Yr oedd Mr. Birrell o'r farn y dylesid cychwyn diwygiad dirwestol o'r fath drwy yr ysgolion gyda'r prifysgolion. Y mae srym y dyhead addysgol i gyfeiriad y gradd- au. Dyna'r ffaith ynglyn a holl ganghenau gwybodaeth. Nid oes neb meddylgar yn ys- tyried ei hun, ac yn cael ei ystyned gan eraill, o nemawr werth heb fod wedi graddio. Dyna sydd yn talu oreu. Am hyny dylid yn mlaenaf dim amcanu at ennill y Prifys- golion i ddodi iechydeg a dirwest yn mhlith eu pyngciau. Heb law hyny, y mae Mesur Dirwestol y Llywodraeth yn cynnwys petal newydd—arolygiaeth feddygol dros yr ysgol- ion. Y mae hyny yn tybied cymmhwysder yn yr holl athrawon i drafod materion lech- ydeg gyda'r meddygon, a dysgu ganddynt. Ar yr un pryd, nid oedd ffydd Mr. Birrell yn gryf y gellid meistroli y pyngciau hyn yn ystad bresennol cymdeithas, Rhaid oedd amcanu at ennyn dyddordeb cyffredinol yn yr holl genedl at lanweithdra, agor ffenestri, bwydydd maethol; hyfforddi y plant yn y mawr bwysigrwydd a berthyn i'r cyfryw bethau, a thanio sel yr athrawon at y cyt- ryw orchwyl. Yn gryno wele ei efengyi ef
Mesur y Llywodraeth.
News
Cite
Share
Mesur y Llywodraeth. Bydd ar raglen y flwyddyn newydd. Nid heb achos, yn ddiau, y gwna hyrwyddwyr y fasnach achwyn yn dost wrth ragfeddwl am effeithiau Mesur Dirwestol y Llywodraeth. Yn adroddiad blynyddol Cymdeithas Tafarn- ""T Gorllewin Lloegr ceir brawddeg fel hyn: I Yr ergyd boliticaidd drymaf a ddioddefodd y fasnach drwyddedol oedd mynediad y Llyw- odraeth Ryddfrydig i awdurdod.' Cyhuddir y Llywodraeth o golli pob syniad o gyfrif- oldeb moesol pan yn ymyryd a breintiau y .asnach.' Am y bwriedir codi clawdd terfyn i "iawndal, cyhuddant hi o or-Herodeiddio Herod.' Y dydd o'r blaen cafodd y Canon Barker sgwrs gyda'r Prifweinidog am natur Mesur y Weinyddiaeth; a chafodd genad i gyhoeddi yr adeiledir ef ar linellau rheol- aeth leol, gan osod y fasnach i orphwys ar ewyllys y bobl yn y gwahanol ardaloedd. Ar wahan i dynged y fasnach, rhaid yr eddyf pawb synwyrol fod dodi cyfrifoldeb y fas- nach ar ysgwyddau y bobl eu hunain y dull tecaf y gallesid meddwl am dano. Bydd hon yn dafell odidog o ymreolaeth.
Coichilr Ysgyfaint.
News
Cite
Share
Coichilr Ysgyfaint. Ychydig ddyddiau yn ol traethodd un o brif feddygon y deyrnas 'fod yr ysgyfaint ('lungs') mewn cymmaint o angen am gael eu golchi yn lan a'r corph dynol, eithr nid eu golchi a dwfr na llaeth, cwrw na licer, eithr ag awyr bur. Ar ol eistedd mewn cynnulleidfa gref mewn adeilad mawr; neu gynnulliad fechan mewn ystafell ddi-awyr, y a'r ysgyfaint gan ddued a gwyneb glowr ar ol bod yn llafurio yn y pwll am hanner diwr- nod. Gweithred amserol, a doeth, gan hyny, y v baddio'r ysgyfaint. 0 berthynas i'r dull o wneyd hyny, o herwydd ei symledd, gall pawb gario allan y cyfarwyddyd. Erchir taflu y pen yn ol, a sugndynu yr awyr drwy y ffroenau. Dylid gwneyd felly nes ym- chwyddo o'r ysgyfaint hyd yr eithaf. Ni wna dim llai na phump ar hugain Ilonaid yr ysgyfaint o awyr y tro i olchi ymaith aflen- did yr awyr aflan a anadlwyd i mewn. Rhuthra yr awyr lan fel afon gynnhyrfus drwy holl gelloedd a chonglau yr ysgyfaint, ac wrth ei ollwng allan cymmer y mater peryglus i'w ganlyn. Wedi hir eistedd mewn awyr farw, aflan, rhoddwch brawf ar faddon i'r ysgyfaint; chwi a ryfeddwch at yr effeithiau adfywiol a chryfhaol a ddilyna y cyfryw weithred,' ebe'r meddyg.
Tori ei Ardystiad.
News
Cite
Share
Tori ei Ardystiad. Alaethus i'r pen yw hanes Willie Ker- shaw, Bradford. Nid oedd namyn 25ain oed. Aeth yn gaethwas y ddiod. Chwen- nychai ddyfod yn.ddyn rhydd. Yr oedd wedi ei ddyweddio i Eva Middleton. Ar ei chais hi cymmerodd yr ardystiad. Parhaodd am flwyddyn. Ond yr wythnos ddiweddaf aeth at y ddiod drachefn. Tra yn y cyflwr hwnw, cyfarfu a Miss Middleton ynghyd a'i chwaer. Dechreuodd y ddwy ei gyhuddo o dori ei ymrwymiad, a thorodd yntau allan i wylo yn chwerw dost. Aeth rhagddo i gyf- eiriad y gamlas, a'i ddyweddi yn ei ddilyn o hirbell. Pan gyrhaeddodd warchglawdd y gamlas rhedodd yr eneth ar ei ol, a chydiodd ynddo. Aeth yn ymdrechfa rhyngddynt. Pan ollyngwyd y llangc yn rhydd, rhoddodd naid i'r dwfr, a bu foddi ger bron llygaid y ferch. Nid oedd gan y trengholydd ond cyhoeddi y ddedfryd arferol—' Hunanladdiad tra yn wallgof.' Y mae rhybudd digwydd- iad adfydus camlas Bradford yn hawdd ei ddehongli. Yn y Gymraeg dyna ydyw: 'Langciau! Gochelwch y gwpan.'
Sul, Tachwedd 25ain.
News
Cite
Share
Sul, Tachwedd 25ain. Hwnw yw Sul Dirwest drwy y deyrnas. Wele ychydig loffion o'r Llyfr Glas am draul ac anrhaith y ddiod "n Nghymru a Lloegr am y flwyddyn 1905 Persohau a euogfarn- wy.i am feddwdod: dynion, 164,864; merch- ed, 42,307; cyfanrif, 207,171. Tafarnwyr am oddef meddwdod yn eu tai, 1,660. Meddwon a anfonwyd i Ysbyttai Diwygiadol: dynion, 86; merched, 329; cyfanrif, 415. Troseddwyr y rhestr ddu: dynion, 175; merched, 294; cyfanrif, 469. Allan o 197,967 o feddwon cyhoeddus, anfonwyd 70,665 i garcharau. Traul blynyddol hedd- geidwaid Lloegr a Chymru, ar wahan i Lun- dain, tair miliwn, tri chant a thair o fil- oedd, cant a thrigain a, dwy (3,303,162p.) o bunnau. Traul heddgeidwaid Llundain Fwy- af, 2,101,835p. heddgeidwaid Dinas Llun- dain, 174,989p. cyfanrif, 5,579,986p. Traul cadw'r caroharau, 773,843p. Gwallgofdy Troseddwyr Broadmoor, 37,001p.; cyflogau ysbyttai diwygiadol y wladwriaeth, 3,401p. At yr uchod dylid chwanegu traul cadw llys- oedd barn, cyflogau a threuliau barnwyr lleol, a swyddogion eraill, ynghyd a threul- iau ysbyttai diwygiadol plant. Addefir fod dwy ran o dair o'r treuliau Uchod yn gyn- nvrch y ddiod feddwol. Gwariwyd 164,167,941p. y flwyddyn ddiweddaf—swm cyfartal i 3p. 15s. ll^c. y pen o boblogaeth y wlad.
Cwyn y Barnwyr a'r Meddygon.
News
Cite
Share
Cwyn y Barnwyr a'r Meddygon. Meddwi, meddwi, meddwi; dim ond meddwi. Ni ddigwyddasai dim yn y llys hwn oni bae am y ddiod (y Barnwr Martin, Dundee). 'Pe byddai llai o feddwi byddai llai o droseddu; pe darfyddai yfed, ni byddai angen gwasanaeth hanner y barnwyr, a di- flanai y draul yn ol cyfartaledd y lleihad (Barnwr Cleuer, Llundain)^ 'Pasiwyd tair rheithfarn ar ddeg yn y llys hwn heddyw. Amrywia y gosp o dri mis gyda llafur caled, i saith mlynedd o alltudiaeth gyda llafur caled. Yr oedd pob un o'r troseddau yn ganlyniad uniongyrchol y ddiod (Barnwr Rentoul, Llundain). Fy argyhoeddiad,' ebe caplan carchar Preston, yw, mai y ddiod yw achos pedwar ar bymtheg o bob ugain o droseddau cyfreithiol; mewn gwir- ionedd, nid yw troseddau cyhoeddus ond cnewyllyn alcohol.' Bu y dafarn ar hyd y canrifau yn ystafell-gyntedd y tlotty; yn gapel anwes y gwallgofdy; yn orsaf ad-gyf- lenwi yr ysbyttai; yn gyrchfan yr hap- chwareuwr, ac yn faes gynnull y carchar (John Burns, A.S.). Ni buasai pobl allan o waith, ac angen a thlodi yn ein teyrnas pe pawb o honom yn llwyrymwrthodwyr (Ar- glwydd Rosebery).' Yn ol deddf cyfartal- edd, y mae bywyd llwyrymwrthodwr (dywed- er pan y byddo y person yn 19eg oed) yn fwy o werth o saith mlynedd na bywyd yfwr eymmedrol' (Dr. V. H. Rutherford). 'Deil yr alwedigaeth feddygol i ddefnyddio llai, lai o alcohol, o herwydd eu bod yn amgyff- rel ei werth yn well o ddydd i ddydd. r>yiia'r pa ham yr ydym yn cydnabod nad yw alcohol 1111 bwyd, na meddyglyn, ac, am hyny. o werth neillduol o fychan i gymdeith- ns (Syr Victor Horsley, F.R.S.).
H E L YG F, N
News
Cite
Share
H E L YG F, N GORMOD 0 DAFARNDAI. ANFONODD Mr. Peter Evans, clerc Cynghor Plwyf Helygen, yr ohebiaeth ganlynol i Bwyll- gor Heddgeidwaid sir Fflint a'r Prifgwnsfcabl Dymunir arnaf gan Gynghor Plwyf Helygen i alw sylw Pwyllgor Unol sir F Hint at y nifer liosog o dafarndai yn y rhanbarth hwn nifer yr oedd-y cynghor yn meddwi oedd yn llawer mwy na digon i gyfarfod fig anghenion y gym- mydogaeth. Yn mhentre Helygen yr oedd pedair o dafarndai ar gyfer poblogaeth o tua 400; yn Helygen, pedwar o daf ar gyfer poblog- aeth o 670; ac yn nhrefddegwm Hendrefigillt, pedwar o dai i boblogaeth o tua 500. Yr oedd v rhan fwyaf o'r tai mewn eyflwr drwg mewn ystjrr iechydo], ac ychydig o honynt allai dderbyn dyeithriaid, ac nid oeddynt yn ddim ond lie i yfed. Yr oedd y sefyllfa hon ar beth- au yn cael ei ystyried gan y cynghor yn niweidiol i fuddiannau goreu y boblogaeth; a dymunir arnaf (i ofyn i Bwyllgor yr Hedd- geidwaid vstyried rhyw foddion i ddwyn oddi amgylch ostyngiad yn eu nifer.'
CYDRADDOLDEB CREFYDDOL I CYMRU.
News
Cite
Share
CYDRADDOLDEB CREFYDDOL I CYMRU. [Ymddangosodd yr ysgrif ganlynol yn y Liberator am fis Medi; a chan ei bod yn dwyn perthynas arbenig a. Chymru, credwn y bydd yn dda gan lawer o'n dar- llenwyr ei chael mewn gwedd Gymreig.] 0 dan y teitl hwn ysgrifenodd golygydd y 'Iterator' gyfies o erthyglau byci jn i'r South Wales Daily News '—y prif newydd- iadur Rhyddfrydig Saesnig yn Neheudir Cymru. Yn y gyntaf o'r rhai hyn dangosai fod Cymru yn genedl o Ymneillduwyr. A chymmeryd Dyddiaduron swyddogol ped- w is !'J:f enwad yr Eglwysi lthvilioii—v Bedyddwyr, yr Annibynwyr, y Methodist- iad, a'r Wesleyaid, dengys mai fel y canlyn y safant o ran nerth:- Cymmunwyr 511,633 Sittings 1,436,995 Athrawon Ysgol Sul 58,027 Ysgolheigion yn yr Ysgol Sul 508,256 Yn chwanegol at y rhai hyn yr oedd yna dros 13,000 o aelodau o'r cyrph lleiaf o Fethodistiaid, tra nad oedd ffigyrau Byddin yr lachawdwriaeth, Undodiaid, a Phabydd- ion (yr oil y tu allan i Eglwys Loegr) i'w cael. Ffigyrau Eglwys Loegr yn Nghymru, fel yr oeddynt yn cael eu rhoddi yn y Blwydd- iadur Swyddogol, 1906, ydynt:- Cymmunwyr 160,191 Sittings 467,466 Athrawon Ysgol Sul 13,144 Ysgolheigion yr Ysgol Sul 171,494 Y mae y ffigyrau hyn yn ddiweddarach na'r rhai gyhoeddwyd ddechreu y flwyddyn; ac o hyn allan bydd iddynt gymmeryd eu lie. Y mae'r erthygl yn myned yn mlaen i ddyweyd:— Rhydd Blwyddiadur Eglwys Loegr offrwm gwirfoddol Eglwys Loegr yn mhedair esgob- aeth Cymru. Yr wyf yn gadael allan y ffigyrau tuag at gynnorthwy clerigol, ac ys- golion yr Eglwys, o blegid nid ydy-w y ffig- yrau hyn yn hollol wirfoddol. Cyrhaedda y cyfanswm i 229,579p. Cyfanswm incwm egl- wysi y Methodistiaid Calfinaidd (a gadael allan danysgrifiadau y Saeson) ydyw 267,508p., a'r Annibynwyr, 196,846p. Wrth ystyried tlodi cymmharol Cymru, dengys y ffigyrau hyn fod nerth rhifyddol yr Eglwysi Rhyddion yn rhywbeth gwirioneddol, ac, hefyd, y gall unrhyw eglwys fforddio ymddir- ied'ei hun i haelfrydigrwydd ei gwrandawyr. Dengys yr adroddiad seneddol am 1901 mai y presennoldeb ar gyfartaledd yn Nghymru, yn yr hyn a elwid yn ysgolion dyddiol yr Eglwys ydoedd 76,159, allan o gyfanrif o 298,115 yn yr holl ysgolion-un ran o bedair yn mron. Nid ydyw ystadegau priodasol yn un safon o nerth yr eglwysi. Y mae pobl yr Eglwys vn priodi bob amser yn mron yn yr eglwys. Yr Ymneillduwyr yn yr eglwys, capel, neu swyddfa y cofrestrydd, fel y disgwydda fod yn gyfleus. Yn mhellach, yr oedd unrhyw eglwys blwyf yn swyddfa cofrestrydd, tra yr oedd llawer o gapeli heb eu trwyddedu. Allan o 142 o gapeli Pabyddion yn Nghym- ru, nid oedd dim ond 57 wedi eu trwyddedu. A barnu oddi wrth yr ystadegau priodasol, nid oedd Eglwys Loegr yn Nghymru wedi gwneyd fawr o gynnydd:— Priodasau yn Pnonasau tu yr E?1wys4 allan i'r Eglwys. 1892 5,135 9,429 1903 5,156 11,100 Nid ydyw y Pabyddion yn cyhoeddi dim ystadegau. Wrth gwrs, y mae y rhan fwyaf o honynt yn Wyddelod, neu yn disgyn o linach Wyddelig, mor bell ag y mae a wnelo Cymru a hyn, a thuag at Eglwys Loegr y maent yn gymmaint o Ymneillduwyr a'r Bedyddwyr a'r, Methodistiaid. Yr oedd y Pabyddion, o angenrheidrwydd, yn gweith- redu ar yr egwyddor wirfoddol, ac yr oedd- ynt yn cynnal 101 o leoedd o addoliad, a 147 o offeiriaid.
Amddiffyn y Cymry.
News
Cite
Share
Amddiffyn y Cymry. Mewn erthygl ddilynol yn y 'South Wales Daily News,' dywed golygydd y Libera- tor' Uwch law pob ammheuaeth yr jedd Cymru yn wlad Ymneillduol, fel yr oedd wedi cael ei arddangos eisoes. Ond yn ol damcaniaethau Eglwys Loegr, nid ydyw Cristionogaeth o nodwedd Ymneillduol o fawr werth, neu ddim. Pe buasai athraw- iaeth olynwyr yr apostolion yn wir, dylai Cymru fod yn wely brwd trosedd ac anfoes- oldeb. Yn wir, yr oedd clerigwyr dallbleid- iol neillduol, y rhai na feiddient draethu yr athrod o dan eu henwau eu hunain, yn arfer gwneyd yr honiad yn fynych mewn newydd- iaduron Eglwysig. Yr wyf fwy nag unwaith wedi dadlfenu eu twyll, ac nid ydynt yn awr yn cael eu hail adrodd ond trwy awgrym neu gasgliad, yn neillduol felly pan y gwneir cyf- eiriad at yr honiad o ddidduwiaeth ysgol- ion y cynghor. Rhyw genedlaeth yn ol ym- driniodd fy nghyfaill Henry Richard mewn modd effeithiol a'r clerigwyr enllibgar; ond y mae yn angenrheidiol i'r gwaith gael ei wneyd drosodd 'etto, a da genyf gael y cyf- leusdra. Bydd i'r gwaith gael ei wneyd yn drwyadl unwaith am byth. Yn gyntaf, gadawer i mi ddyfynu darn o dystiolaeth farnol. Dyma fel y siaradodd y diweddar Farnwr Gwilym Williams, tra yn llywyddu yn mrawdlys Caerdydd (Ionawr 6ed, 1903). :—- Nid ydyw mwyafrif y troseddau gyflawn- ir yn cael eu cyflawni gan Gymry, ond gan bobl o genhedloedd eraill oedd wedi dyfod i'r wlad hon. Dengys ffigyrau gyflenwyd gan gyfaill dysgedig, tra mewn brawdlys- oedd chwarterol yn y siroedd yr oedd y tros- eddwyr Cymreig yn cyrhaedd 30 y cant o'r holl nifer y cymmerwyd gweithrediadau yn eu herbyn, yr oedd y Saeson yn cyrhaedd 47.3; y Gwyddelod, 14.4; a'r Ysgotiaid 2.3.' Ond ceid tystiolaeth mwy boddhaol fyth yn y gyfrol swyddogol o ystadegau trosedd- ol am 1904-y gyfrol olaf gyhoeddwyd. Cynllun yr
Enliibwyr Clerigol
News
Cite
Share
Enliibwyr Clerigol ydyw nodi allan a gwyrdroi rhyw ffaith neill- duol. Nid ydynt byth yn blino cyhoeddi, gyda golwg ar drosedd, fod Morganwg a Myjiwy y siroedd gwaethaf yn y deyrnas. Y mae y ffaith hon yn cael ei chofnodi ar tu- dalen 145; ond nid ydynt ond yn edrych ar waelod y tudalen, gan anwybyddu y rhan uchaf. Rhydd y tudalen hwn ddosbarthiad daearyddol o drosedd yn y naill sir ar ol y llall. Yn awr, y mae y siroedd lleiaf sydd yn meddu y cyfartaledd lleiaf o drosedd, yn cael eu henwi yn y drefn a ganlyn:—Aber- teifi, Cernyw, Mon, Westmorland, Penfro, Meirionydd, Rutland, Norfolk, Caergrawnt, Trefaldwyn, Caernarfon, a Chaerfyrddin. O'r 52 o siroedd yn Lloegr a Chymru, y 12 hyn ydynt y rhai goreu, ac y mae saith allan o'r deuddeg yn siroedd Cymreig. Bydd i'r darllenydd sylwi fod y saith hyn y siroedd mwyaf Cymreig, lie yr oedd Ymneillduaeth yn eithriadol o gryf. Yr oedd y siroedd ar y terfyndirFflint, Dinbych, Maesyfed, a Brycheiniog-yn is o lawer yn y raddfa, a'r isaf o'r oil ydoedd Morganwg a Mynwy. Cynnwysa y ffigyrau hyn gamymddygiad- au. Boed i ni droi i tudal. 62, yr hon sydd yn ymwneyd yn hollol a'r troseddau mwyaf difrifol brofwyd yn y brawdlysoedd neu y brawdlysoedd chwarterol. Nifer y person- au gospwyd yn Nghymru, gan gynnwys sir Fynwy, ydoedd 458. Pe buasai troseddau difrifol yn ffynu yn Nghymru fel yn yr holl wlad, cawsid dros gant chwaneg wedi eu cospi. Os bydd i ni archwilio y tudalen yn mhellach, gwelir, tra yr oedd 28 o garchar- orion yn Lloegr a Chymru wedi eu dedfrydu i farwolaeth, nad oedd dim un yn Nghym- ru. Yn Nghymru yn unig dedfrydwyd 41 i benydwasanaeth, 27 yn Morganwg a Mynwy yn unig—gan adael dim ond 14 yn yr 11 o siroedd eraill. Ond yr oedd yna
Ffeithiau Dyddorol Eraill
News
Cite
Share
Ffeithiau Dyddorol Eraill yn yr un gyfrol. Ar tudal. Ill, rhoddir y nifer o bersonau sydd o dan arolygiaeth heddgeidwadol. Yn yr oil o Gymru nid oedd dim ond 95, ac yr oedd 86 o honynt yn Mor- ganwg a Mynwy-dim ond 9 yn yr 11 o sir- oedd eraill. Ar tudal. 115, rhoddir nifer troseddwyr parhaus oedd yn rhydd. Yr oedd y rhai hyn yn 86 o gwbl-84 yn Mor- ganwg a -Mynwy—dim ond 9 yn yr tl o sir- siroedd eraill. Rhoddir nifer y tai o nod- wedd ddrwg, hefyd. Yn Morganwg, 15; yn Mynwy, 4; yn yr lleg o siroedd eraill, dim un. Nid oes genyf wrth law gofrestriad o gredo y troseddwyr. Hwyrach y bydd i chwi, gan hyny, ganiatau i mi ddyfynu darn golyg- yddol o'ch colofnau chwi am Mai 17eg, yn mha un yr ydych yn ymwneyd a Chredoau Crefyddol Dadganedig carchardai Prydein- ig ar yr 28ain o Fawrth blaenorol. Er fod hwn yn cyfeirio at yr holl garchardai, ac nid at Gymru yn unig, gwna y tro yma fel tystiolaeth o effaith yr addysg Ymneillduol. Yr oedd nifer y personau mewn carcharau y diwrnod hwnw yn 21,580, ac yr oeddych chwi yn dyweyd :— 'O'r rhai hyn yr oedd 16,089 o dan y pen- awd Eglwys Loegr,' a 4,397 o Babyddion. O'r cyfanrif, gan hyny, yr oedd yr Eglwys Saesnig yn cael ei gwaradwyddo a 74 y cant, agos i dair rhan o bedair, er nad ydyw yr Eglwys yn hawlio dim ond hanner y boblog- aeth. Yr oedd y Pabyddion, y rhai oedd yn meddu hyd yn oed fwy o athrawiaethau, a llai o Feibl, yn anfon 20 y cant i garchar- au. Fel yr oedd yr Ymneillduwyr, gyda'u llacrwydd tybiedig o ddysgu athrawiaethau, a'r oil o'u camgymmeriad tybiedig o ddim ond dysgu y Beibl yn syml, heb anfon dim ond 6 y cant i'r carcharau.' Gymmaint a hyn yna am gredoau a char- charorion. Y mae y ffigyrau yn derfynol yn eu tystiolaeth i werth addysg Ymneillduol. Yn awr, gadewch i ni droi i Morganwg a Mynwy, drygioni eithriadol pa rai ydyw hoffbwngc yr enllibwyr clerigol. Y mae Ue genedigol pob carcharor yn ddigon o amddi- ffyniad i'r Cymry. Yr oedd y porthladdoedd yn cael eu gwneyd i fyny, i raddau helaeth, o fyd-ddin- aswyr, ac yr oedd rhanbarthau diwydiannol mawrion Deheudir Cymru wedi attynu nifer liosog o Saeson a Gwyddelod. Dyma ffigyr- au swyddogol y tri charchar, Abertawe, Caerdydd, a Brynbiga, fel y rhoddir hwynt ar tudal. 145:- Cyfanrif y Cymry. Carcharion. genedigiol. Caerdydd 3,194 1,713 Abertawe 2,190 1,384 Brynbiga 1,692 291 Yr wyf yn tybio fod y carcharorion a an- wyd yn Mynwy yn cael eu cyfrif yn Bryn- biga fel Saeson; ond y mae yn ddiogel dad- gan nad ydyw hanner y carcharorion yn y siroedd hyn yn Gymry o gwbl. Hwyrach y byddai cystal chwanegu ffigyrau y carcharau yn yr oil o'r Dywysogaeth:— Cyfan rif Cymry Carcharorion genedigol. Yn y saith o gar- I charau yn Nghymru 9,269 4,422 Nid oes angen dyfynu chwaneg o dystiol- aeth; neu buasai yn hawdd gwneyd dyfyn- iadau o'r hyn a draethwyd gan amryw o farnwyr ei Fawrhydi y rhai oedd wedi myn- ed ar gylchdaith yn Nghymru, ac wedi ael nad oedd yno ddim carcharorion i'w oroji Yr oedd Cymru, mewn modd pendant, yn wlad y menyg gwynion.' Yn ystod yr am- seroedd diweddar, y mae mwy nag un car- char wedi cael eu tynu i lawr, am eu bod bob amser yn mron yn wag. Yn Nghymru, anaml iawn yr oedd y cyhuddiadau yr oedd- wn wedi cyfeirio atynt yn cael eu gwrandaw; yr oeddynt yn cael eu bwriadu ar gyfer y Saeson yn unig. Ond yn Lloegr, yr oeddynt yn myned yn mhell, ac yn suddo yn ddwfn. Ni chaniateir i amddiffyniad ymddangos yn y papyrau Eglwysig oedd yn rhoddi cyhoedd- usrwydd iddynt. Yr oeddynt oil yn dyfod o'r un ffynnonell; yr oedd eu gwraidd a'u dechreuad mewn casineb clerigol at Ymneill- duaeth. Pell wyf o wneyd yr Eglwyswyr Saesnig yn gyffredinol yn gyfrifol o wneyd defnydd o'r fath arfau gweftwynedig, y rhai nad ydynt ond yn niweidio a gwarthruddo yr Eglwys ar ran pa un yr oeddynt yn cael eu defnyddio. Yr oedd y troseddwyr yn gweithredu oddi ar yr arwyddair iselwael, Taftwch ddigon o laid, a bydd i beth o hyny lynu.' Y mae digon wedi cael ei ddyweyd yn awr i ddangos nad oes gan Ymneilldu- wyr Cymru un rheswm i gywilyddio o her- wydd cyflwr moesol y Dywysogaeth, a bod ei buddiannau uchaf yn ddiogel yn nwylaw yr Eglwysi Rhyddion, y rhai sydd yn anni- bynol a'r unrhyw gynnorthwy oddi wrth y Llywodraeth.
UCHELSIRYDDION DEHEUDIR CYMRU.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
UCHELSIRYDDION DEHEUDIR CYMRU. A GANLYN sydd restr o'r boneddigion a enwyd yr wythnos ddiweddaf i fod yn uchelsiryddi'.n dros wa-hanol ranau Deheudir Cymru .— Sir Fi ycheiniog-1, Mr. Edward Davies, Bwlch- ywaen, Casnewydd, Fsir Fynwy; 2, Mr. Henry Edward Gray, Ynysowden, Dyffryn Merthyr, Morganwg; 3, Mr. John Jas. Watkins, Green hill, Crughywe1, sir Frycheiniog. Str A ¡ edeiji.-I, Mr John Lynn Thomas, Steadmore, Aberteifi; 2, Syr Edward John Webley Parry PryseGogerddau, Bow St., R S.O. Aberystwyth, Sir tJaerfyrddirr.—1, Mr. John B. Phillips, Llwyneithin. Sir Forganvg,—1, Mr. Walter Rice Evans, Eaglesbush; 2, Mr. Frederick William Gibbins, Garthmer; 3, Mr David Lewis, Sunny Bank. Sir Funwy.-I, Mil Charles Thomas Walls, T)hesterholme; 2, Mr E. W. T. Ll. Brewer, Maesruddud; 3, Mr. Edward Steer, Woodlands. Sir Benlro.-i, J. Herbert Clarke Lewis, Castell Hean; 2, Mr. Henry Warin Davis, Trewarin; 3, Mr Richard Poyer Lewis Penn, Camrose. SirFaesyfed.-l, Mr. Albert Simpson, Bury hill Grange 2, Mr. Charles Leyspon Dillwyn Ven ables Llewelyn,Llysynam :(3, Syr Richard Dow- sey Green Price, Glove, Presteign.
TY YR ARGLWYDDI.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI. I Dydd Llun, Tachwedd 19eg.—YmfFurfiodd y Ty yn bwyllgor ar Y Mesur Adysg. Cynnygiwyd amryw welliantau ar adran 9; ond cafodd yr oil o honynt eu galw yn ol. Ar un o honynt, amlygodd Iarli Crewe ei barodrwydd i osod i mewn eiriau yn rhoddi awdurdod i'r Dirprwywyr ganiatau appel i'r Uchel Lys, mewn perthynas i ysgolion a ddy- wedid oedd o dan ymddiriedolaeth elusenol. Cafodd yr adranau yn pennodi Dirprwy- wyr, ac yn gosod allan eu gallu, yn darparu ar gyfer gwasanaeth adeiladau yr ysgolion dros dymmor, ac yn gosod cyfyngiadau dros dymmor gyda golwg ar gau ysgolion gwir- foddol, eu pasio heb unrhyw welliant. Ar adran 13, yr hon a ddywed fod y senedd i ganiatau l,000,000p. i'w rhanu yn mysg awdurdodau lleol, dywedodd Iarll Crewe fod yn ammhossibl gwneyd amcangyfrif cywir o'r swm angenrheidiol. Byddai i'r rhoddion gael eu sylfaenu ar y chwanegiad gwirionedd- ol yn y baich achosid trwy basio y mesur, ao mewn rhan ar gyfanswm y dreth addysg am y flwyddyn. Cafodd yr adran ei phasio. Dechreuodd y Ty gymmeryd o dan ystyr- iaeth adran newydd, yr hon a gynnygiwyd gan Archesgob Caergaint, mewn perthynas i ysgolion a dderbyniai gynnorthwy gan y Llywodraeth; hyny yw, ysgolion a dderbyn- ient roddion y Llywodraeth, ond nid cyn- i-i,-)-cl-hivy,r trethi. Gohiriwyd cymmeryd yr adran hon o dan ystyriaeth. Cododd y Ty am bum muir; d wedi un ar ddeg.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Dydd Llun, Tachwedd 19eg.—Cymmerodd y Llefarydd y gadair am chwarter i dri.
Cost Bltvydd-daliadau.
News
Cite
Share
Cost Bltvydd-daliadau. Mr. Asquith, mewn attebiad i Mr. Liddell, a ddywedodd, mai nifer y personau a rifwyd yn nghofrifiad 1901 dros 65 a 70 mlwydd oed ydoedd 2,018,716 a 1,205,069. Er darparu blwydd-dal o 5s. yn yr wythnos byu hi yn ofynol cael 26,225,000p. yn yr aches cyntaf, a thros 15,500,000p. yn yr ail achos..
Mesur Tenantiaid Trefol yr…
News
Cite
Share
Mesur Tenantiaid Trefol yr Iwerddon. Pan gymmerwyd y mesur uchod, fel yr oedd wedi cael ei ddiwygio mewn pwyllgor, o dan ystyriaeth, cynnygiodd Mr. Balfour fod y ddadl yn cael ei gohirio, er gwrth- dystio yn erbyn gwaith y Llywodraeth yn mabwysiadu mesur preifat, o nodwedd ddadl- eugar, fel yr oeddynt eu hunain. Mr. Bryce, Prif Ysgrifenydd yr Iwerddon, a ddywedodd ei bod yn dyfod yn angenrheidiol weithiau i basio mesur preifat o nodwedd bwysig, er gwneyd i ffwrdd a chwynion oedd yn achosi gryn anhawsder yn ngweinyddiad y gyfraith. Cafodd cynnygiad Mr. Balfour ei wrthod trwy 278 o bleidleisiau yn erbyn 75—mwyaf- rif y Llywodraeth, 203. Wedi hyny cymmerwyd adran 1 o dan ystyriaeth. ae yr oedd yn cael ei dadleu pan gododd y Ty am chwarter wedi un ar ddeg.
GWRTEIDARAWIAD AR Y MOH.
News
Cite
Share
GWRTEIDARAWIAD AR Y MOH. SUDDIAD AGERLONO. UN A DEUGAIN 0 BERSONAU WEDI BODDI. DYWED gohebydd Reuter yn Seattle, Washing- ton, dydd Llun, i ageiloug y borthfa, a elwid Dix, yr hoi oeld yn ihedtg o Seattle i Poll t Bhkely, derig mdldir i'r gorllewin, ar yr ochr arall i G dfor Pugefc, ddyfod i withda;awiad &'r Bgerloog Jennie, ac i'r gyntaf suddo. Allao o'r pedwar ug iu o deithwyr a'r cnw ar fwrdd y Dix hoddodd un a deugaid. Ni dderbyuiodd yr agerlong Jennie un hyw niwed, ac acbubodd hedwar ar bymtheg ar hugain o bersonau. Ffynai dychryn mawr ar fwrdd y Dix.
DIRPRWYAETH YR EGLWYS YN ISGBYMRU.
News
Cite
Share
DIRPRWYAETH YR EGLWYS YN ISGBYMRU. TREFNIADAU AR G" FER TYSTIOL. AETH BELLACH. YR oedd Mr. Wi liam Jones, A.s yn bresennol fel dirpwry oddi wrth yr aelodm seneddol Cymreig, a'r Pwyl'gor Cenedlaethol Canolog, mewn cyfarfod arbenig o nwylJgor tystiolaeth sir Gaernarfon, dydd Sadwrn. Rhoddodd han- es yr hyn oedd wedi cael ei wneyd eisoes mewn ffordd o ddarparu tystiolaet h i'w chyf. Iwyno mewn modd etfeithioi dros Ddadsefydl- iad. Y r oedd efe yn bersonol wedi ta u ym- weliad a'r holi bwy Jgorau sirol yn Neheudir Cymru, ac yr uedd y rhan fwyaf o honynt yn arddangos gryn barodrwydd. Yr oedd y prif enwadau Ymneillduol yn awr wedi enwi y rhan fwyaf o'u tysiion swyddogol, a pheb enwad yn darparu ac yn cyflwyno ei achos ei hun, yn hollol annibynol ar yr aches cene.daetho', a'r achos dros bob sir Yr oedd yn ddealledig yn awr y byddai i'r Ddirprwyaetb, ar ei gwaith yn ail eistedd yn mis Rhagfyr, gyiiinievid, o leiaf ddau ddiwr- nod i ystyried tystiolaeth prawf-ysgrifol; ac o ganlyniad na chawsai tystion eu galw cyn yr ail wythnos yn Rhagfyr. Y tystion cyntaf y bwriedir eu galw yn awr ydyw y tystion swydd- ogol ar ran ymdeiihasfa y Methodistiaid Ca!- finiidd, tystiolaeth pa rai, yn yniarferol, oedd yn barod i gael ei chyflwyno. Bydd i achos y Methodistiaid gael ei gyflwyno gan wyth neu naw o wahanol dystion, a phub un yu cymmer- ",I rhan neillduol o'r maei v i).vii,-dir mvnp.n .V. J --81 droto. Yn dilyn y rhai hyny, decbreu y flwyddyn, y ma'u debygol, y Lyd,lai tyetion yr Annibymvyr, achos ra n, fd y tybir, fydd yn barod i gael ei gyflwyno erbyn hyny. Yr oedd yr Annibynwyr, fel y JVIethodistiaid, wedi rhanu eu tysti;» aeth rhv, ng nifer o dystion medrus. Awgrymid fod yn nr.vriid y Bedydd- wyr gyflwyno tystiolaeth trwy y CYUlllUI; taoedd siro). Yr oedd Mr. W. J OLC" yn meddwi mai dymunol fyddai i dysliolaeth enwi'd^l gilel ei chyflwyno gan ac ar ran pwSl g(.r canolog pob enwad, ac nid gan gymmanfaoedd sirol, Sll gymmaint ag y byddai i'r cynllun d.weddaf liosogi gryn lawer ar y tystion, a chario yr ymchwiiiad yn mlaen am fwy o a &er nag a ddylid Yr oedd yu ddealledig fod tystion y W es eyaid, hefyd, wedi ciel eu henwi, He y bydd- ant yn barod ar ddyddiad buan i ymddangos o flaen y Ddirprwyaeth- Byddai yn ofynol cael nifer o dvsiion, hefyd, o bob sir; hwyrach y '1' trefnid hanner dwti:) i sir Gaernarfon, a siroedd. eraill, yn ol cyfartaledd. Dadganodd Mr. VV. Jones ei foddhid ar y t-wuih oedd wedi ciel ei wneyd uwy y Dysytog-ieth ijyd yma,
[No title]
News
Cite
Share
y e co""Od tivy iigild;y n.Lt,iuwedig'-s;.wui: y- ystody [ Wo' i.; yuedd diweddaf.