Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Hide Articles List
15 articles on this Page
TALU GORMOD.
News
Cite
Share
TALU GORMOD. YB ydym yr wythnos hon etto yn dymuno gwneyd rhai nodiadau cyffredinol ar y mesur mawr yr ydys yn disgwyl cym- maint oddi wrtho, a'r hwn sydd yn peri y fath gythrndd i ysbrydoedd parsoniaid Eglwys Loegr ac offeiriaid Eglwys Rhuf- ain. Yr hyn a deimlir gan laweroedd yn y Dywysogaeth ydyw fod y meaur, a'i gymmeryd yn ei gyfander, yn rhy ffafriol i elynion Addysg rydd ac anenwadol. Nid ydym yn sicr nad ydyw y gwrthwyn. ebiad i'r 2ii, y 3edd, a'r 4edd a ran yn y cynllun, yn cryfhau. Gwelir oddi wrth y cyfieithiad a roddwyd genym o'r adranau hyny pa beth a ddarperir ynddynb hwy. Ac yn awr, pan y cofiom, yn y lie cyntaf, y bydd yr enwad a biau yr ysgoldy yn cael ei ddefnyddio yn hcllol ddi-warafun fel o'r blaen tuag at ei amcanion enwadol ei hun, ac ar yr un pryd, yn yr ail lie, fod hoi) draul yr addysg elfanol i'r plant yn cael ei daflu ar y trethi, ac ar yr awdurdod addysgol leol, pa ryfedd fod y pris y rhaid ei dalu i 1 dylwyth yr enwad' yn cael edrych arno yn ormodol am fenthyg yr adeilad am ych ydig oriau ? Ni ryfeddwn os gwelwn gryn frwydro yn cymmeryd lie ar y rhan hwn o'r maes ?
TEULU DI RESWM Y GRWGNACHWYR.
News
Cite
Share
TEULU DI RESWM Y GRWGNACHWYR. Wythnos i heddyw cyhoeddodd Ysgrif- enydd y Cynghrair Addysgol (Mr. MUN- DELLA) ffigyrau neillduol o ddyddorol yn dal perthyras ag adran y pedair rhan o bump' o rieni y plant a fyddont yn gofyn am i'r addysg grefyddol gael ei chyfranu mewn ysgol. Nid ydym yn cael ein synu o gwbl fod yr ystadegau newyddion hyn wodi cario dylanwad cryf ar liaws o aelodau y Blaid Ryddfrydig. Dengys Mr. MUN- DELLA yn y modd mwyaf goleu ac anwadad- wy y bydd yr ysgolion enwadol, o dan yr adrah hon, yn manteisio yn ddirfawr ya fwy nag y dychymygodd neb ar y cyntaf. Dichon mai un o effeithiau y ffigyrau hyn fydd creu chwaneg o frwdfrydedd o blaid y I, mesur mewn rhai mynweeau Rhyddfrydig. Gall effeithio yn wahanol ar eraill, yr ydyrn yn addef. Modd bynag, ymddengys oddi wrth yr ystadegau yr ydys yn cyfeirio atynt y bydd yn bossibl dwyn rhyw dair mil o ysgolion perthynol i Eglwys Loegr, wyth cant a deugain o ysgolion perthynol i Eglwys Rhufain, tri chant o ysgolion y Wesleyaid, ac amryw perthynol i gyfan- debau Ymneillduol eraill, o dan gylch gweithrediad yr adran hon, Mor bell ag y mae yr ysgolion Wesleyaidd ac Ymneill- duol eraill yn myned gallwn, yn ddïau, gym- meryd yn ganiataol y byddant hwy yn cael en trosglwyddo ya rhwydd i d ;wylaw yr awdurdod adrljsgol leol Ond, ar y llaw arall, yr eftaith ynglyn a'r ysgolion Anglican- y aidd a Pbabaidd fydd sefydlu oddi mewn i'r hyn a elwir yn drefniant cenedlaethol o addysg nifer o ysgolion enwadol, yn rhifo yn agos i bedair mil mewn nifer. Yn y rhai hyn bydd yn bossibl cyfranu addysg grefyddol enwadol yn gysson bum niwrnod bob wythnos. Diddymir y proflwon enw- adol ar yr athrawon a'r athrawesau, y mae yn wir; etto, gellir bod yn bur sicr mai Eglwyswyr fydd athrawon yr ysgolion Eglwysig, a Phabyddion athrawon yr ysgol- ion Pabaidd, fel o'r blaen. Byddant, yn ymarferol, o'r un blaid a'r hon fydd yn perchenogi yr ysgol Oanlyniad union- gyrchol hyn fy d sefydlu,' meddwn etto, drefniant enwadol yn nghanol trefniant cenedlaethol o addysg. Os yw y fath drefn iant yn myned ar gyfeiliorn mewn unrhyw gyfeiriad, yr ydym heb betruao moment yn dyweyd mai cyfeiliorni y mae trwy fod yn rhy fawrfrydig i'r Egiwyswyr a'r Pabydd ion Ac etto, nid yw y boblach hyn yn cael eu digon Dywedant, yn hytrach, eu bod yn myned i gael en gormesu. Nid oes dim a'u boddlona ond i'r wlad gynnal eu hysgol- ion, a pheidio ymyraeth & dim ond gofalu am yr arian.
FPURF Y GtWRTHWYNNBIAD.
News
Cite
Share
FPURF Y GtWRTHWYNNBIAD. Yn unol a'r penderfyniad sydd wedi ei osodarlyfrau y Ty bwriada Syr HENRY ORAIG gynnyg ar fod y mesur yn cael ei wrthod yn llwyr ac yn hollol. Nid yw y barwnig yn dwyn ei welliant yn mlaen yn swyddog- ol ar ran yr Wrthblaid; cynnygiad personol o'i eiddo ef ei hnD,ac yn cael ei ddwyn yn mlaen ar ei gyfrifoJdeb ac yn ol ei fympwy ei hun ydyw. Wrth gwrs, bydd arweinwyr yr Wrthblaid yn saethu at y mesor oddi ar eubftaei hun, er nad ydynt, byd y gwyddom, wedi trefnu eu b*a na'u saethu yn derfyn- ol. Hwyrach na welir hwy yn gwneyd hyny hyd nes y gwelant adeg yr ail ddar- lleniad wedi ei bennodi. Fel y crybwyllas- om yr wythnos ddiweddaf, y tebygolrwydd ydyw mai Syr EDWARD OLARKE a ddewisir ganddynt yn ben saethwr. Awgrymasom y pryd hyny ei fod ef yn awyddus i wasan- aethu ei frawdoljaeth yn y cyfeiriad hwn, er mwyn lliniaru peth ar eu llid tuag ato mewn cyfeiriad arall—ynglyn Diffyndoll- iaeth. Yr ydym yn dal at yr awgrym hwn heddyw etto. Yr hyn y gall ammheuaeth fod yn ei gylch ydyw, pa ffordd a gymmer efe :-pa un ai cynnyg yn ffurfiol, fel Syr HENRY CRAIG, fod y mesur yn cael ei fwrw allan bendramwnwgl, ai ynteu ffurfio pen- derfymad wedi ei wneyd i fyny o holl wrth- ddadleuon y blaid Doriaidd i'r mesur. Ar o ol ysgrifenu yr uchod deallwn fod Syr EDWARDwedi cael ail ymosodiad oi afiechyd. Bydd yn rhaid felly cael rhyw un heb law efe i arwain cad y Toriaid.
Y PABYDDION YN GWISGO EU HARFAU.
News
Cite
Share
Y PABYDDION YN GWISGO EU HARFAU. Ychydig ddyddiau yn ol cynnelid cyfar- fod gan • Gymdeithas y Gwirionedd Cathol- ig.' Ynddo darllenwyd dadganiad neu fani flesto wedi ei dynu allan gan yr esgobion Pabaidd. Fel y gallesid disgwyl, cyhoeddi rhyfel di-ymmod y mae y preladiaid meitr- og. Nid oes ond en hanathema uwch ben psiwb a feiddia feddwl yn wrthwynebol iddynt. Dywedir un peth arwyddocaol iawn, os nad drygargoelus, yn y proclamas- iwn trahaus hwn, nid amgen fod ganddynt hwy (yr esgobion) seiliau cryfion drcs gredn y bydd, pob un sydd yn cynnrychioli budd- iannau Pabaidd yn y Ty yn rhoddi eu cefn- ogaeth lwyraf i'r dadganiad ? Hyny ydyw, y bydd yr oil o seneddwyr gwladgarol yr Ynys Werdd yn rhoddi gwrthwynebiad di- ymmod i'r mesur ar ei ail ddarlleniad ac yn y pwyllgorau. Amser a ddengys a fydd Mr. JOHN REDMOND a'i ganlynwyr yn was- aidd i ewyllys y preladiaid i'r graddclu a aw- grymir gan hyn. Nis gallwn lai na dywej d dau beth yn y cyssylltiad hwn. Yn y He cyntaf, er nad ydym am foment yn gwadu hawl yr aelodau Gwyddelig i bleidleisio ar a dinystrio pob mesur (os gallant) a ddygir o flaen Ty y Cyffredin, etto, rhaid iddynt -o leiaf, dylent goflo-mai 'ymyraeth 4 materion rhai eraill' y byddant hwy os ant i daflu rhwystrau ar Iwybr y Mesur Addysg. Nid yw yn perthyn dim iddynt hwy, na'u hynys. Mesur i Gymru a Lloegrydyw Ac yn yr ail Ile, hwy a ffiomant y rhai sydd yn addaw gwneuthur y cymmwynasau mwyaf iddynt hwy a'a hynys. Gan y Llywodr. aeth a'r Blaid Ryddfrydig yn unig y gall yr Iwerddon ddisgwyl am yr iawnderau ag y mae hi yn dyheu am danynt. Os ant hwy eyda'r gelynion, ar archiad yr offeir- iaid, yn erbyn mesur pwysicaf y senedd d/mmor, a fyddai yn 810 ganddynt hwy i weled y Llywcdrapth a'r Blaid Ryddfrydig yn colli eu dyddoid u JudO materion neill- duol hwy ? Galiai eu gwaith hwy yn ymyr- yd, yn unol ag ewyllys yr esgobion Pabaidd, i ba rai nad oes arnynt y ddyled leiaf, yn amgylchiadau Cymru a Lloegr beri i fwyaf- rif y seneddwyr Rhyddfrydig, a'r Weinydd- iaeth ei bun, i benderfynu peidio ymyryd Ag amgylchiadau y Iwerddon.
A GBIR DADL FAITH ?
News
Cite
Share
A GBIR DADL FAITH ? A ydyw y ddadl ar ail ddarlleniad y mesur i fod yn un faith ? Mae yn sier o fod yn un chwerw: a fydd hi hefyd yn ddadl hir ? Rhoddir ar ddeall fod yr ar. weinwyr Undebol am hawlio iddi barhau am bedair noswaith. Os gwnatit hyny, pob peth yn dda mor bell ag y mae yr ochr Ryddfrydig yn y Ty yn myned. Ar y meingciau hya yn rhwydd y gellid cael digon o ddadleuwyr i'w chario yn mlaen am ddau a thri pedwar diwrnod, a chwaneg, Ond a all y TorJid fforodio digon o ddadleuwyr hyd yn oed am y tym- mor byr&f 1 Ammheuwn hyny, ac hwyr- ach y bydd yn dda ganddynt ei gweled yn terfynu yn gyntna pbryd.
CHWANEG AM Y PABYDDION.
News
Cite
Share
CHWANEG AM Y PABYDDION. Os yw yr esgobion Pabaidd o ddifrif—ac, wrth gwrs, nid oes genym sail o gwbl i feddwl yn amgen-golygir brwydr ffyrnig Hyny ydyw, os ydynt am lynu yn dyn wrth yr oil y dywedant eu bod am fynu eu caeJ. Bydd dwy fyddin yn ein herbyn—rheng- oedd Eglwys Loegr a chatrodau Eglwys Rhufain. Ond y mae yn ammheus genym a ydyw preladiaid y Babaeth yn ddigon o ynfydion i osod eu hunain yn ddi-ymmod a di-symmud ar y tir a roddir i lawr gan- ddynt yn eu dadganiad Y grei yw eu bod yn codi eu herch-waeddiadau presennol gan dybio mai felly y gallant hwy megs gorfodogi y Llywodraeth i ildio rhai pethau yn ffafr eu hysgolion hwy ynglyn a'r adran yr ydys wedi cyfeirio ati yn barod-adran 'y pedair rhan o bump.' Yr hyn a garent hwy a fyddai ei bod yn cael ei gwneyd yn ei gweithrediad yn orfodol, ac nid ei gadael, fel y mae hi yn y mesur, yn ben agored, ac at ddewisiad yr awdurdodau addyggol lleol, Gwir fod eu maniffesto, o ran ei eiriad, yn myned gryn lawer yn mhellach na hyn. Ond digon tebyg yw y byddant hwy yn foddlawn ar gryn lawer yn llai. Ar y llaw arall, os ydynt hwy yn banderfynol o uno eu catrodau a rhengjedd yr Eglwys wyr, rhaid cydnabod fod y blaid Ryddfryd- ig yn wynebu ar yr ymdrechfa boethaf a chaletaf y bu hi ynddi er's llawer o flyn- yddoedd. Fel y dywedwyd yn y paragraph blsenaf, rhydd yr Archesgob BOURNE a'i gydesgobion 9 dibyniad ar Mr. JOHN RED- MOND a'i ddilynwyr; ao y mae Mr. RED- MOND wedinaddaw bod yn bresennol yn y cyfarfod Pabaidd mawr sydd i gael ei gyn- nal yn faan yn yr Albert Hall yn Llundain. Pa beth a olyga hyn? Nis gall lai nag ymddangos yn dra angbysson ag egwydd- orion sylfaenol Ymreolaeth i'r Ymreolwyr hyn i ymuno A'rTori.%id mewn gwrthsefyll a dirymu barn bendant y cyhoedd yn Mhrydain ar Bwngc -4ddysg. Os gwnant hwy hyny, yr ydym yn ail ddyweyd y byddant hwy yn rhoddi yr arf cryfaf yn bossibl yn nwylaw gwrthwynebwyr Ym" reolaeth i'r Ynys Werdd. A fyddant hwy yn ddigon o ffyliaid i wneyd dim o'r fath beth ? Ar hyn o bryd ymddengys i ni yn anhygoel. Os mai trwy bleidleisiau y Gwyddelod byn y dyfethir vr ymgais clod. wiw presennol i wneyd cyfiawnder ag add ysg ein plant ni, yn Nghymru a Lloegr, yn ofer y trSant hwy atom am help i gario eu materion eu hunain allan. Yr ydym yn ail ac yn trydydd ddyweyd hyn am ein bod yn credu yn ddwfn ynddo.
YSTORI DDA ! Y DDWY DDEISEB…
News
Cite
Share
YSTORI DDA Y DDWY DDEISEB GROES A'R UN ENWAU WRTHYNT I Yr ydym yn ddyledus am yr ystori ddon- iel a ganlyn i Mr. WINFREY, yr A s. dro Dde Orllewin swydd Norfolk. Ychydig wythnosau yn ol soniasom am bybyrwch y boneddwr anrhydeddus hwn ynglyn a'r gofyn arno i dalu degwm, a'r modd y dym- chwelodd efe y byrddau ar y rhai a'i blin. ent. Y tro hwn, ei hanes yu anfon HyMUf at reithor Necton, plwyf bycban o fewn 'ei etholaeth, ynghylch dwy ddeiseb a anfon- wyd iddo i'w cyflwyno i Dy y Cyffredin. sydd genym i'w rhodd i'n darllenwyr Un ydoedd y ddeiseb yn erbyn y Mesur Addysg, wedi ei hanfon iddo gan y parch- edig' ei hun. Y Hall ydoedd un hollol groes i hon, ac yn gofyn am reolaeth y cy- hoedd, a diddymu pob proflwon cref yddol i'r athrawon. Y gyntaf a gynnwysai 54 o enwau rhieni y plant a fynychant yr Ysgol Eglwysig. Wrth y llall yr oeid 63 o enwau. Ond, dyna, ebai yr aelod, y mae y ddwy ddeiseb wedi eu Ilawnodi gan ddeg ar hugain o'r un p-irsonau!' Heb law hyny, ceid mamau y plant yn 'seinio' un ddeiseb, a'u tadau yn I seinio' y Hall. At hyn chwanega Mr. WINFRFY: -Y mae genyf sail dros dybio na ddarllenwyd. mo'ch deisob chwi (y parson) i'r personau cyn cael eu henwau wrthi; a phan wybuant wrth ba fath o ddeiseb y rhoddasent eu henwau, llanwyd hwy gan ddigofaint ao yna yn y modd mwyaf dibetrcs, rhodd- asant eu henwau wrth y ddeiseb aralt, yr hon a ddarllenwyd ac a esboniwyd idd- ynt.' Dan yr amgylchiadau hyn, yn na. toriol a doeth, gwrthodai yr A.S. gyflwyno deiseb y parson, rhag bod yn gyfranog mewn camarwain Ty y Cyffredin. Ac nid o Necton yn unig yr anfonwyd deisebau yn erbyn y mesur wedi eu Ilawnodi gan bersonau cyn gwybod pa beth ydoedd eu cynnwys. 0 Thretf H a Swaffham, hefyd. Wrth gwrs, ni ddylijlbri neb roddi ei enw '"It> -m- wrth unrhyw ddeiseb heb wybod ei chyn- nwys a'i hamcan. Ond ai bob amser y medr pobl gyfiredin wrthod cydsynio & chais rhai yn meddu dylanwad arnynt, ac hwyrach eu bywotfaeth yn eu Ilaw 1 Nid ydym yn petruso dyweyd nad ydyw yr hyn: a ddynoethir gan Mr. WINFREY ond eng- ¡ hraiflb syml o'r modd y cafwyd y nifer lios- ocaf o'r deisebau yn erbyn y mesur. Druan o'r Hen Fam, a'i dull o ym'add ei brwydr!
GWKLLIANT DIGYWILYDD.
News
Cite
Share
GWKLLIANT DIGYWILYDD. Os nad yw yr Arglwydd HUGH OECIL yn meddu hawl i ymfflamychu yn Nhy y Oyffredin, y mae gan ei frawd llai ei ddawn a i allu hawl i eistedd yno. Yr un ysbryd aydd yn corddi y ddau. Gan yr Arglwydd ROBERT y mae gwelliant wedi ei osod ar y llyfrau Am hyfdra digywilydd buasai yn anhawdd cystadlu & phenderfyniad ei ar- glwyddiaetb, Symmud pob rhwystr oddi ar ffordd yr addysg grefyddol enwadol i gael ei chyfranu, ac i'r wlad dalu am dano yn union fel am yr addysg elfenol neu fydol, ydyw ei amcan. Ni raid i ni ddyweyd fod y gwelliant hwnw yn myned yn union- gyrchol o dan aylfaeni y mesur. Gwir nad yw yn welliant swyddogol, mwy nag eiddo Syr HENRY ORAIG. Ond gan mai dyma sydd gan yr esgobion Anglicanaidd a'r offeiriaid Pabaidd ei eisieo, ni raid petruso dyweyd y caiff efe yr Wrthblaid yn gryno a ffyddlawn i'w gefnogi.
MR. MOBLEY AB Y PWNGC.
News
Cite
Share
MR. MOBLEY AB Y PWNGC. Nos Wener rhoddwyd gwledd longyfarch i Mr. JOHN MORLEY gan Glwb y Pedwar Ugain (The Eighty Club). Efe ydyw llywydd y clwb h Nn y flwyddyn hon. Nid y wledd ei hun oedd y peth mawr arseth Mr. MORLEY ei hun. Nid yw efe byth yn methu dyfod i fyny yn llawn a'r achlysur, a sylweddoli y disgwyliadau wrtho. Ni wnaeth hyny y noson dan sylw, chwaith. Yn naturiol yr hyn a gymmerodd efe yn gyntaf mewn llaw ydoedd y Mesur Addysg. Cym- merodd olwg eang a ohynnwyafawr ar y sefyllfa, Mewn modd pendant y gwadodd y oyhuddiad a ddygir gan rai yn erbyn y Llywodraeth ynglyn a'r mesur. Nid oes mymryn o wirionedd yn yr haeriad eu bod wedi ei ddwyn yn mlaen er mwyn dial cam Ymneillduwyr y deyrnas ar yr Eglwyswyr. Nid pwngc capel ac eglwys ydyw. Ag iddynt gael chwareu teg, nid yw y Rhydd- frydwyr yn rhedeg eu gwladweiuiaeth ar unrhyw linelliu o'r fath un amser. D -,na wfer y Toriaid yn wastad; a pha fodd i droi y bendithion o bob rhyw yn nghyfeiriad eu heglwys ydyw eu hamcan cysson, pa bryd bynag y ckat eu hunain A'r awenau yn u dwylaw. Ond ymgeidw y Rhyddfrydw3p rhag pob gorbleidiaeth anghyfiawn o'r fath. Siorhau cyfundrefn o addysg a fydd yn deg i bawb ydoedd unig amcan y Llywodraeth yn ei mesur newydd. Gwneir y weinydd- iaeth l fyny o ddynion yn coleddn anaryw- iaeth o opiniynau crefyddol. Oeir ynddi Eglwyswyr, Anghydffurfwyr, Pab ddion, ac Agnogticiaid. Ond nid oes cymmaint ag un o honynt nad yw ei galon yn llawn yn yr amcan mawr o gael trefniant ynglfn ag addyag y plant a wna degwch a phawb nas gwna annhegwch A neb; a'r cyfan yn sylfaen- edig ar yr egwyddor lydan a chyfiawn, pa le bynag y byddo arian y oyhoedd yn oael eu gwatio fod hyny yn cael ei wneyd o dan reolaeth y cyhoedd. ——————————
,DAU ESGOB A'U BARN.
News
Cite
Share
DAU ESGOB A'U BARN. Anhawdd fydd enwi dau esgob mwy gwahanol i'w gilydd na Dr. PBRCIVAL, esgobyr Henffordd, a Dr. TALBOT, esgob Southwark. Ac ar y pwngc addysgol ceir y ddau yn arddangos eu gwahaniaeth yn y modd mwyaf amlwg. Y blaenaf yw yr unig Ryddfrydwr ar y faingc breladaidd, a pha ryfedd ei fod ef yn dyrchafu ei lef yn glir ac yn glochaidd yn erbyn ymfflamychiadau eithafwyllt ei frodyr meitrog ar y mesur addyag. Anfonodd gylchlythyr trwy ei esgobaeth yr wythnos ddiweddaf, yn yr hWp. y gwrthdystio yn y modd ciyfaf yn erb..n 'y gwrthwynebiad diymmod a wneir yn erbyn cynllun y Llywodraetb,' a chwanega:—' Ein cynllun mwyaf doeth ni o lawer ydyw derbyn yr ail ddarlleniad ar y mesur, a gwneyd ein goreu i sicrhau gwell. iantau yn mha le y bernir bynag gwelliantau yn angenrheidiol.' Gymmaint afddfet&ch mewn doethineb yw y prelad o'r Henffordd, mewn barn a theimlad, yn y cyfwng pres ennol na'r Archesgob DAVIDSON o Gaer gaint, a'r gweddill o'r fintai ddrwg-dym- mherog PI in y dylid rhoddi unrhyw bwys ar ddim a ddywed esgob Southwark ar y mesur, nid yn unig o herwydd ei fod yn eagob, ond hefyd am fod ganddo y fath ran yn lluniaethiad y ddeddf y disgwylir i'r mesur hwn fod yn dorf»nygliad at ni. Cym- mer hwn yn ganiataol fod pob Eglwyswr yn wrthwynebwr i'r mesur. Nid oes ganddo hawl i synio dim o'r fath beth. Y gwir- ionedd ydyw fod corph cryf o'r ileygwyr yn yr Eglwys yn bleidwyr selog iddo, ac yn dra gwrthwynebol i'r safle a gymmer y glerigaeth mewn perthynas ag ef.
IAWGRYM I'W GOFIO.
News
Cite
Share
AWGRYM I'W GOFIO. Gwnai y pen-prelad, a'r rbai sydd yn cyd. we'thio ag ef, yn dda gofio brawddeg o araeth Mr. JOHN MORLEY yn yr Eighty Club nos Wener diweddaf. Brawddeg yn dal perthynas fig adroddiad y Ddirprwyaeth ar Ddefodaeth ydoedd hon. GeSlir disgwyl y bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn fuan bellach. Yr ydym yn dyfalu yn lied gryf fod gan Ysgrifenydd yr India syniad gweddol glir yn barod ynghylch ei i natur a'i gynnwys. Os ydyw y gibrwd yn ( gywir, bydd ynddo ddadguddiadau brawi. '<, l ychus yn cael eu gwneyd am gynnydd defodaeth ac arferion ofergoelus Eglwys Rhufain oddi mewn i Eglwys Loegr Os prof. hyn yn wirionedd, brdd yn sicr o roddi nerth adnewyddol yn mreichiau y Llywodraeth yn ei hymdreeh i attal y Wladwriaeth i dalu am ?yfranu addysg yn yr athrftwiaethau melldigedig hyn i'r plant. Gwna pob Ymneilldtiwr a gwir Brotestant yn fwy aiddgar nag erioed i gael y rheol- aeth ar yr ysgolion hyn i ddwyJaw y cyhoedd; a darbod ar fed addysg ein hysgolion elfenot yn hollol rydd ac anenw. adol. Brysied y Llywodraeth i gyhoeddi adroddiad y Ddirprwyaeth, a thrwy hyny dynu llawer o'r gwynt o hwyliau yr esgob- ion Anglicanaidd a Rhufeinig.
HELYNT Y DYN DU.
News
Cite
Share
HELYNT Y DYN DU. BRYSNEGES o Johannesburg a ddywed fod yr anesmwythder brodorol yn Natal yn troi allan yn fwy t ifrifol nag y credid ei fod ar y cyntaf. Gohebydd y Daily Chronicle yn y rhanbarth a ddywed mai y gred dra chyffredin yno ydyw fod DINIZULU, mab yr hen benaeth CETEWAYO, wrth wraidd yr holl gyffrawd. Teg yw dyweyd, nas gellir sicrhau hyny heb chwaneg o dystiolaetbau nag sydd genym yn awr. Ac nid ydyw yr adroddiad yn gysson a'r adroddiad ei fod ef wedi anfon cenad arbenig at y llwythau gwrthryfelgar i'w darbwyllo i beidio I troi aHan.' Ychydig yn chwaneg o newyddion sydd genym i'w mynego am BAMBAATA, yr hwn sydd wedi cilio i ran o'r wlad anhawdd cario gweithrediadau milwraidd o'i mewn. Yr ydym yn sylwi fod Syr ALBERT HIME, cynbrifweinidog Natal, yn tueddu i gym- meryd golwg obeithiol ar y sefyllfa. Ei gred ef yw fod DINIZULU yn ffyddlawn. Arwydd ffafriol arall ganddo ydyw y diffyg undeb a chydweithrediad sydd rhwng y llwythau brodorol a'u gilydd. Nid oes lenym ond hyderu y sylweddolir ei obeithion ef. Nid oes genym le i dybio fod gan y brodorion arfan ac nid yw dewrder diarhebol y Zulu, heb ddim ond gwaywffon a tharian, yn ddigon i wyneba catrawd o filwyr dysgybledig, gyda'r arfau goreu a magnelau mewn cyfhwnder at eu llaw. Ar y maes agored ni saif y brodorion ennyd awr o'u blaenau. Ond yn unig yn y llwyni 1
TWRCI ETTO.
News
Cite
Share
TWRCI ETTO. MIDDWN bob ymddiried yn ein Gwein- idog Tramor presennol y bydd iddo arfer pwyll a df ethineb yn yr argvfwng sydd wedi cyfodi rhyngom a Twrci ynghylch y diriofiraeth A iphtaidd yn Tabth ar derfyn- dir Tripoli. Nid dyn i adael i weision ABDUL HAMID ei drin fel y mynant ydyw Syr EDWARD GREY. Gyda'u hyfdra digywilydd arferol y mae y Sultan a'i I Borth I wedi mynu 6angu cylch y cweryl. Nid Tabah yn unig yr hawliant reolaeth arno. Taerant fod ganddynt eu hawliau yn hen anialwch enwog Sinai. Nid oes dim yn oythruddo mwy ar ein hysbryd bob amser na meddwl fod gwledydd enwocaf y Beibl, o'r bron, yn sathrfa o dao g-f au haiarnaidd y Twrc a'r Mahomedan. Tra- ddodiad sydd yn ymestyn yn mhell yn ol a arfera yn wastad osod y diriogaeth anghys- bell yn Ngorynys Mynydd Sinai a hawlir ganddynt fel yn rhan gyfansawdd o'r Aipht, ac heb fod o dan reolaeth union- gyrchol yr awdurdodau yn Nghaer Oysten- yn o gwbl. Dan yr amgylchiadau pres- ennol, jean hyny, nid ydym yn synu dim fod pob trafodaeth o hyn allan i ac eisoes yn cael ei chario yn mlaen rhwng Llundain a Chaer Cystenyn, heb fod gan Lywodraeth r Aipht ran o gwbl ynddi Nid ydyw y diriogaeth yr ymgvnnhenir yn ei chylch o gwbl yn bwysig ac etto, v mae egwyddor nas gellir edrych yn ddibwys arni yn y glorian. Nid oes gau y Sultan, yn yr oil a wna, un amcan heb law cyffroi teimlad- an Mahometaniaid yr Aipht. 0 herwydd hyn dylai Llywodraeth Pr dain fod yn ofalus nas dengys hi unrhyw arwyddion gwendid. Da genym ddeall nad yw y sibrydon ynghylch yr Almeen yn cael eu cadarnhau fel gwirionedd. Pan yr ymgyf- yd anhawsder yn erbyn Prydain mewn unrhyw ran o'r byd ceir rhyw un yn barod bob amser i ddyweyd mai y Caisar Almaen- aidd ydyw 'y gwreiddyn chwerwedd.' Felly y gwnaed yn yr amgylchiad presen- nol. Ond, erbyn hyn, ymddengys yn lied sicr nad oedd y sail leiaf i'r sibrydon dryg argoelus. Ar yr un pryd, y mae gwaith y Brenin EDWARD yn dyfod adref o'r Cvf- andir yn gynt na'i arfaeth wedi ei achosi, yn ol pob tebyg, gan yr hyn a ddigwydda yn Tabab, y M6r Oocb, a Sinai. Heb law hyny, gwaith y Llywodraeth yn anfon milwyr a llongau yn y cyfeiriadau h) n a ddengys yn eglur nad yw hi am adael dim at drugaredd hap a damwain. Gyda gwrthryfel ar fin tori allan yn Macedonia, os nad mewn rhanau eraill o'i ymherodr- aetb, befyd, gwallgofrwydd yn ABDUL HAMID a fyddai tynu y Llew Prydeinig yn ei ben, a dwyn dymchweliad ei deyrnas- iad oddi amgylch. Cyfarfyddir y Porth ar dir hollol deg gan Syr EDWARD GREY ond, rhydd ar ddeall vn bendant iddynt nas goddefir hwy i chwareu ag eiddo na pherthyn iddync.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae crydd yn Devonport, o'r enw Moule, 64ain mlwvdd oed, gr gweddw, gyda thri o feibion wedi tyfu i fyny, a merch, wedi llwyddo i brofi ei hawl i ystad.gwerthtua 100,000p., oedd wedi cael ei gadael gan berthynas a fu farw yn Awstralia bum mlynedd yn 01. Yr oedd amryw hawlwyr a- cyfoeth; a bu dirprwyaeth a ben- nodwyd gan lyaeiadd Awatralia yn arholi tystion yn y wlad hon.
TRA MOR.
News
Cite
Share
r_. Atli, wrth odren Mvnyddofiid Karas, yn ne- orllewinbuth Affrica. Rhifai yr ymosodwyr brodorol o ddenta banner cant. Lladdwyd lID o'r ewyddogion Almaenaidd, a chlwyfwyd I' pedwas inilwr cyffredin. Yr oedd nifer fawr o filwyr yn gwerayllu heb fod neppeil o'r fan a nodwyd—yn ddigon ftgoe i glywed awn yr alarwm a udganwyd yn ddiymdrol. Ciywyd yr odgorn, a throdd tdran gref i erlid ar ol yr anwariaid. Ond, yr oedd y rhai hyny wedi c&el y b!aen arn- ynt, ac aethatJt a'r rhan fwyaf o'r meircb ymaith i'r anialwch gyda hwynt. Y dydd o'r blaen dychwelodd Mine, DU GA8T, merch ieaangc o Ffraingc, adref i Paris, ar ol bod am vib hit yn Morocco. Ym- ddengya fod ganddi ddefnydd cyfrol o'r fath fwyaf dyddorol o hanes ei hantuiiaethau. Yn lied foan ar ei thaithihi a gyfarfyddodd A'r ymhonwr am oraedd y M*riaid. Bu yn byw am beth ennyd, ac yn cael croesaw mawr ganddo yn Kasbah. TreHan o bebyll gyda chaerau o'i hamgylch ydyw hon, Yn nghanol y dref, ceir pabell fawr yr Ymhonwr, a cher Haw pabell ei wragedd, y rhai a rifant ddeuddeg ar hugain. Ymddengys ei fod ef yn byw yn foethus, ac yn cadw pabell o'r fath fwyaf gorwych. Dyn dealins, cryf, liawn yni, o deimladau caredig a mawrfrydig, ac yn meddu y ffydd gryfaf yn ei ddyfodol, ydyw ef. Nid oedd yn hoffi dillad Ewropaidd y foneddlgee; ac am hyny efe a roddodd iddi ddilladau pendefiges o Morocco. Dywed Mme. DU GAST ei bod yn eithaf diogel i dramoriaid i deithio yn y rhan o Morocou ag y bu hi ynddo. Hyny ydyw, yn mhob man ag y mae gan yr Ymhonwr reolaeth aruynt. Efe a goda drethi ar ei ddeiliaid, y rhai y mae eLi yn abl i'w casglu yn rhwydd; ac ymddengys ei fod yn wastad yn meddu cyflawnder o arian. Telir teyrnged lddo gau rai cannoedd o mn bfnaethiaid y wlad, y rhai, hefyd, a'i cydnabydd- ant ef fel unig deyrn gwirioneddol y wlad. Bwriada y Ffrangcea anturiaethua yr ydym yn edn am dani dalu ail ymweliad a Morocco ac a'r Ymhonwr. Dywed ei bod hi wedi addaw iddo ei gymmeryd gyda hi i Ffraingc y tro nesaf. Dychrynllyd mewn gwirionedd ydyw hanea y trychineb i'rlleatr Tahitienne, yn rhanau deheuol y Tawelfor, yr hwn hanea a'n cyrhaeddodd ychydig ddyddiau yn ol. Yr oedd yr yagwner yn rhwym am un o ynysoedd Panto.tuj ood, bo yn rhaid i'w chriw o nn ar ddeg ei gadael, am ei bod hi ar fin suddo. Ar y tath frys y gwnaeth- ant ea hysgraff fechan fel na chawsant amser i gymmeryd ymborth na dwfr. Yr ysgraff ydoedd mor fechan fel yr oedd yn rhaid i'r dynion gymmeryd eu tro mewn estyn eu coesau dros yr ymyl i'r m6r, er mwyn y rhai oeddynt mewn camystum. Yr hin ydoedd boetb, a pharai diffyg dwfr i'w dioddefaint fod yn arawydus. Erbyn yr ail ddydd yr oeddynt wedi eu hamgylchynct gan gannoedd o forgwn nea siarcod newynog. Y bwyetfilod hyn a wnaent eu goreu i gael gafael yn nbraed y morwyr pan yn eu hestyn dros ymyl yr ysgraff. Un enfawr a wnaeth yabongc at goes y cadben, ac a'i llusgodd i lawr i'r mdr o dan lygaid y morwyr dychrynedig, y rhai nas gallent wneutbur dim i geiaio ei waredu. I chwanegu at eu dychryn gWeient yr anghenfil yn ei fwyta yn awchns. Dranoeth bu y cogydd a bacbgen farw dan effeithiau yr hin a'r caledfyd. Chwech eraill a fuant feirw o newyn a syched, ac effeithiau y tywydd. QwyrthioJ, yn mron, yw pa fodd y bu y ddau oedd wedi eu gadael yn weddill fyw am bum niwrnod cyn cael eu gwaredu; a pha ryfedd yw fod un o honynt yn mron wedi gwallgofi pan y pigwyd ef i fyuy gan long a ddigwyddai basio, ac iddo fod am ddyddiau cyn gallu siarad. Po fwyaf o haneB y trychineb yn San Fran- cisco a geir, mwyaf erchyll yr a yn ein golwg. Sonir am nifer wedi llwyr golli en synwyrau dan effeithiau eu colledion a'r hyn a ddiodd- efasant. Own y ddinas, yn eu newyn, ydynt yn bwyta cyrph y meirw. Diolch am yr arwyddion adferiad aydd i'w gweled yno yn y dyddiau hyn.