Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

Marwolaeth

News
Cite
Share

Marwolaeth EMRYS AP If AN. A GALAR dwys yn llanW ein calon yr ydym heddyw yn gorfod cofnodi marwolaeth y cyfaill cu a'r brawd ffyddlawn uchod-y Parchedig Robert Ambrose Jones (Emrys ap lwan), gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn y Rhewl, Rhydycilgwyn, a Llanbedr, ger Rhuthyn. Bu farw prydnawn Sabbath di- weddaf, yn nhf Mr. Roberts, ger Haw capel y Rhewl. Yno y llettyai efe er pan ymsef- ydlodd fel gweinidog i'r ddwy egiwys a nod- wyd. Yr oedd efe o ddeutu 54ain mlwydd oed. Ei afiechyd ydoedd y cancr o dan yr afu ac o ddeutu chwech wythnos yn ol efe *&fu o dan weithrediad llawfeddygol Dr. Paul, o Liverpool, yr hwn a welodd yn eglur pa beth a'i bammharai, ac a ddywedodd wrth rai cyfeillion fod ei achos yn un hollol anob- eithiol am wellhad. Ar yr eithaf ni roddai iddo fwy na dau fis i fyw. Daeth y diwedd yn gynt hyd yn oed na hyny. Y Sabbath cyntaf o'r flwyddyn newydd ehedodd yr ysbryd cryf o'r babel 1 adfeiliedig acnid oes ammheuaeth gan neb o'r rhai a'i hadwaen- ent i ba le yr ehedodd ysbryd yr athrylith- lawn Emrys ap Iwan. Er's misoedd yr oeddis, gyda gofid, yn ei weled yn graddol waelu, a'r g*r a arferai fod mor gryf a chydnerth, a'i olwg yn addaw hir ddyddiau, yn curio ac yn edwino dan ddyrn- odiau cystudd mewnol nas gwyddai efe na neb, hyd yn oed y meddygon, gyda sicrwydd, pa beth ydoedd, hyd oni ddadguddiwyd y gwirionedd galarustrwy ygweithrediad llaw- feddygol y cyfeiriwyd ato-gwirionedd nas dadguddiwyd mo hono iddo ef, wrth gwrs. Yn wir, gobeithiai efe yn mron hyd y di- wedd y caffai adferiad, am, meddai, fod gan- ddo, fel y credai, waith yn aros i'w wneyd. Ar yr unprydtystiolaetboddnid unwaitb na dwy- waith ei ymostyngiad i ewyllys ei Dad Nefol, yn yr hwn yr oedd efe wedi arfer ymddiried ar hyd ei oes. j < Byddem i'n beio yn ddirfawr pe na chyf- eiriem am y gofal tyner a diorphwys a ddangoswyd tuag ato ar hyd ei gystudd gan ei lettywraig garedig. Yr Arglwydd a dalo i Mrs. Roberts, ac i'w phriod, am eu tiriondeb dihatal tuag at ei was, yr hwn, o herwydd ei fod yn ddi-briod, nid oedd ganddo gartref ond yr anneddau y llettyai ynddynt yn yr amrywiol fanau y bu yn gwasanaethu fel gweinidog. Yn yr wythnosau diweddaf iddo fyw, a phan ydoedd efe, ar ol yr oruch- wyliaeth feddygol, wedi ei wneyd yn dra di- nerth, dangoswyd tiriondeb a gofal am dano gan Mrs Henry Hughes, Bachymbyd (priod un o flaenoriaid eglwys y Rhewl), a Miss Williams, Plas y-ward (merch un arall o r blaenoriaid yn yr un eglwys), a'r ddwy yn trained nurses. Gwnaeth ei gyfeillion, hefyd, yr oil o fewn au gallu i loni ei ysbryd ac yn arbenig y Mri. John Morris, Robert Roberts, Trefnant a Henry Williams, Plas y Ward. Pan o ddeutu canol yr haf diweddaf y dy- wedodd .un o'r gw £ r cyfarwydd fu yn ei ar- chwilio wrtbo y gallai mordaith i F6r y Canoldir wneuthur lies iddo, ymgymmerodd y brodyr rhagorol hyn & cbasglu swm digon ol o arian i gyfarfod y draul o'i anfon yn gyntaf i Ddin bych y Pysgod, ac wedi hyny i'r fordaith. Ysywaeth, aeth yn rhy wael i allu myned hyd yn oed i'r lie blaenaf. Dasth arian edmygwyr Emrys i'w gysuro a sicrhau pob bonder iddo yn ei gystudd gartref. Ei feddygon oeddynt y Dr. Medwyn Hughes, o Ruthyn, a'i gynnorthwywr, Dr. Anderson a theg ydyw tystio iddynt hwythau, hefyd, wneuthur eu goreu iddo. Gadswodd uaig chwaer mewn dwfn alar ar ei ol. Claddwyd ei weddillion (yn ol ei ddymuniad ei bun) yn mynwent capel y Rhewl ddydd Iau, am hanner awr wedi dau o'r gloch y prydnawn.

[No title]

BWRDD Y GWARCHEIDWAID.

YSGOL GANOLRADDOL |ABERGELE.

[No title]

[No title]

[No title]

Y O 0 G L E D D

t?B'TT D s H B u

ISOUTHPORT.

OYNGHOR DOSBARTH GWLEDIG LLANDYSSUL.

NODION 0 LUNDAIN.

ANNIBYNWYR DOSBARTH TREFFYNNON.

GYFFYLLIOG.

[No title]