Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y FLWYDDYN 1905.'

News
Cite
Share

Y FLWYDDYN 1905. YR AIL ERTHYGL. THEM ar wledydd tramor yn ystod y flwydd- yn ddiweddai yn unig a gymmerasom yn ein herthygl gyntaf, gan addaw troi tuag adref yr wythnos hon. Gwelsom mai blwyddyn doreithiog ei digwyddiadau pwysig ydoedd 1905 i'n cymmydogion o'n hamgylch. lieddyw, ymdrechwn ddangos na bu ronyn llai ei thoraeth o honynt i ninnau fel deiliaid o'r Ymherodraeth Bryd- einig. I'n teulu brenhinol — rhaid i ni ddechreu ein cofnod yn rhywle a chyda rhywnn-hi a fa yn flwyddyn brysur ei gwala, yn enwedig i'r Brenin IORWERTH y Seithfed. Yn wir, bu enw ein Grasusaf Ben Teyrn yn rhwym wrth agos yr oil o brif symmudiadau y byd yn ystod y deu- ddeng mis sydd newydd fyned heibio. Ychvdig cyn diwedd mis Ionawr bu Ty- wysog y Goron ar ymweliad a'r Ynys Werdd, lie y cafodd y croesaw gorea a allasai calon wresog y Gwyddel ei roddi iddo. Yn ystod ei arosiad yn yr ynys efe a fa mewn dwy arwest (levee) yn Nghastell Dublin—y ddwy arwest yn cael eu cynnal yn arbenig er dathlu ei ymweliad ef Caf. odd ei groesawu yn y rhai hyn gan hufen cymdeithas yr ynys, fel yr oedd I y werin a'r miloedd; wedi bod yn gorhoian iddo yn mhob rhan o'r wlad. Ychydig yn flaen orol buasai y Brenin yn dadorchuddio cof- golofn i'r rhai a gwympasant yn rhyfel De yr Affrig yn eglwys y gwarchodlu milwrol yn Windsor. Yn mhen o ddeutu mis yn ddiweddarach appwyntiwyd Etifedd y Goron yn Arglwydd Warchodwr y Pum Porth. Y nglyn a'r swydd hon y mae Castell Walmer yn dilyn fel preswyl y swyddwr pwy bynag a fyddo. Ond gan nad ydoedd Tywysog Oymru mewn angen am dy, efe a orchymynodd i'r castell gael ei daflu yn agored i'r eyhoedd i fyned trwyddo i syllu ar y rhyfeddodau sydd yndd@, a'i lawntydd mawrion yn lleoedd chwareu. Yn y cylchoedd uchaf bu cryn ddawr o herwydd yr hysbysiad a wnaed ar y 25ain o Chwefror i'r perwyl fod y Dywysoges MARGARET 0 CONNAUGHT wedi ei dyweddio i'r Tywysog GUSTAVUS ADOLPHUS, o'r Ys- weden. Deuddydd wedi hyny talodd ei fawrhydi ymweliad a'r Tywysog Louis o BATTENBURG, ar fwrdd ei ryfel-long — y Drake. Y mae y tywysog hwn yn un o'r llyngeswyr Prydeinig Yn gynnar yn mis gwyntog Mawrth—ar y 4ydd—talodd y Tywysog FERDINAND o Bwlgaria ymweliad &'r lly's Prydeinig, a chafodd ei wneyd gan y Brenin a'r Frenhines yn dra chartrefol tra y bu efe dan eu crongwyd. Cyndiwedd yr un mis cychwynodd y Frenhines ALEXAN DBA i fordaith hirfaith yn y bleserlong fren- hinol. Gan hin dymmhestlog gyrwyd y bleserlong i mewn i Yigo, yn Yspaen, am noddfa; ac yno y bu yn llechu am ddiwrnod, hyd nes yr aeth y cerhynt heibio. Erbyn yr 22ain o Fawrth wele yr oedd si mawr hydi wedi cyrhaedd Lisbon, prifddinas Portugal. I Talu echwyn adref yr oedd hi yno. Ychydig fisoedd yn flaenoroi bu asai Brenin a Brenhines Portugal ar ei haelwyd hithau yn Nghastell Windsor. Hwyliodd oddi yno, gan fyned i Gibraltar, i weled cadarsfa. gryfaf ymherodraeth ei phriod. Bu yno am rai dyddiau. Y lie nesaf y galwodd hi ynddo ydoedd Palms, yn Ynysoedd Balearic, ac oddi yno aeth i Genoa a Villefranche; ac ar y 5ed o Ebrill bwriodd ei llestr angor yn mhorthladd mawr Marseilles, eiddo Ffraingc. Ei ham- can hi yn troi i mewn yno ydoedd i ddis- gwyl dyfodiad ei phriod, yr hwn a gyr- haeddodd yn mhen deuddydd. Wedi gwib. I forio am dymmor byr yn M6r y Oanoldir dychwelodd y Brenin i Marseilles, gan fyned oddi yno i Paris, ar ymweliad âg Arlywydd y Weriniaetli Ffrengig, M. LOUBET. Ar y 5ed o Fehefin cyrhaeddodd y Brenin AL- FONSO o Yspaen i'r glanau Prydeinig, a bu yn westeiwr i'r Brenin EDWARD am wyth- nos gron. Rhoed i'r teyrn leuengaidd gryn groeaaw a gwledd longyfarch gan Arglwydd Faer y Brifddinas, ac aeth o'n plith gyda meddyliau uwcb am danom na phan yn dyfod. Ba Tywysog Cymru, ar yr 17eg o'r un mis, yn cjflawni gorchwyl pwysig, nid am- gen agor gwasanaeth ggerlongau O/aghor Sirol Llundain ar yr afon Tafwys. Ni phrofodd y 'gwasanaeth' hwn mor llwydd- iannus mewn ystyr arianol ag y disgwylid ar y cyntaf iddo wneyd. Yr ydym yn ofni i'r cynghor anturiaethus golli cryn swm arno. Yn mhen y deuddydd-ar y 19eg— yr oedd bagad o gynnrychiolwyr Canada yn cael eu croesawu yn Mhalas Buckingham gan y Brenin a'r Frenhines, ac yn troi cefn oddi yno oil gyda syniadau hyfryd am y teyrn a'r deyrnwraig. Prin y cafodd wyth- nos fyned heibio nad oedd angen croesawu dau o gynnrychiolwyr urddasol ymher- awdwr Japan, nid amgen y Tywysog a'r Dywysoges ARISUGAWA. Bu y rhai hyn yn y wlad am gryn ennyd a phan y troisant adref, yr oedd eu syniadau am Brydain a Phrydeinwyr wedi eu dyrchafu yn uchel- uchel. Gorchwyl syml, ond dyddorol, oedd y nesaf a ddisgynodd i ran eu mawrhydi; sef, sefyll fel tad a mam fedydd i fab bychan Tywysog Cymru ar ei fedydd yn Mhalas Sandringham. Enw y tywysog bychan ydyw JOHN CHARLES FRANCIS. Gan basio heibio i fis Gorphenaf yn y cyesylltiad hwn, prif ddigwyddiad mis Awst, yn ddiiau, yd- oedd ymweliad rhan o lynges Ffraingc a glanau deheuol ein gwlad. Heb os nac oni bae, yr oedd hyn yn un o'r arwyddion mwyaf digamSyniol o'r cyfeillgarwch sydd rhwng Prydain a Ffraingc; a gwnaeth lawer, yn ddiaa, i'w ddyfnhau. Yn Cowes, ar y 7fed o'r mis, rhoddodd y Breain ED- WARD wledd fawreddog ar fwrdd ei bleser- long i swyddogion uwchraddol y llynges Ffrengig Rhoddodd dlysau anrhydeddus i'r rhai blaenaf yn eu plith, Ar y 9fed yr oedd adran o'r llynges Brydeinig wedi dy- fod yno atynt, a bu ei fawrhydi yn gwneyd arolygiad ar yr oil o honynt. Ar y 18fed o Fedi arolygodd ddeng mil ar hugain o wirfoddolwyr yn Edinburgh, yn nghanol arwyddion o frwdfrydedd neillduol, er pob peth a wnaethai y Swyddfa Rhyfel i ddi- jstyru y Ilu -^wirfoddol. Yr ydym yn troi am eiliad yn awr at fater tra hyfryd. Yn barod cyfeiriasom at ymweliad ysgwadron Ffraingc a'n r,ororau» Dilynwyd hyny ag ymweliad gan ysgwad- ron Brydeinig M6r y Werydd a gororau Ffraingc. Y ddau ymweliad hyn a fuont yn foddion i osod y cydgord calon' rhwng Prydain a Ffraingc uwch law ammheuaeth yn ngolwg yr holl tyd. Gwahoddwyd nifer liosog o swyddogion a morfilwyr y llynges Ffrengig i Lund^in, i wledd loogyfarch ar yr lleg o Awst; ac yr oedd y croesaw yn un o'r pethau mwyaf brwdfrydig a gafwyd ar achlyeur o'r fath erioed. I nifer o'r swyddogion, hefyd, rhoddodd Maet Windsor wiedd a'r Prifweinidog, Mr. BALFOUR, y pryd hwnw, hefyd, a roddodd ei wledd yntau iddynt. Ond y rhan benaf o'r croes- aw ydoedd y wledd i'r swyddogion hyn yn y Neuadd Fawr yn Westminster gan y ddau Dy seneddol. Bu hyn ar y 12fed. Ar yr achlysur hwn trad iodwyd &reithiau nodedig o hapus gan y gwesteiwyr a'r gwesteiaid. Bydd croniclau y dyfodol yn son, yn ddlau, am hwn fel 'dydd y llyth- yren goch/ neu, yn weli, gan ddefnyddio ymadrodd Beiblaidd, I dydd o lawen chwedl' i'r ddwy genedl ag y buasai teimladau oer- aidd yn ffynu ihyngddynt am flynyddoedd. Yn mhen rhyw chwech wythnos ar ol hyn —ar y 30ain o Fedi-ni a gawn y Brenin EDWARD yn'agor'Pont Victoria dros yr afon Dee, neu Ddyfrdwy, Y=gotland. Pyth efnos yn ddiweddarach-ar yr 16eg o Hydref —cawn ef a'i Frenhines yn gosod careg sylfaen v Llythyrdy Cy redinol newydd yn Llundain; ac yn mhen v ddeuddydd wed'yn -ar y 18fed—a digwyddiad arbenig mewn gwi; iontdd ydoedd hwn — yn agor, gyda rhwysg a seremoni rhyfeddol, yr hyn a elwir Fford-i y Brenin' King sway'), yr heol fawreddog a wnaed gan Gynghor S rol Llundain o'r Strand i Holborn. Nid oes dim wedi harddu mwy ar y ddinas fawr na'r rhodfa ardderchog hon. Gwneid y seremoni yn fwy nodedig tyth gan y ffaith fod lly wydd ac aelodau Cynghor Dinas Paris yn bresennol. Y rhai hyn a ddaethent drosodd fel gwesteiaid y cynghor a ymgymmerasai a'r anturiaeth enfawr. Gwnaeth ei fawrhydi yn fawr o honynt, wrth gwrs ac nid oedd y myrddiynau pobl oeddynt yn bresennol ar yr achlysur yn brin yn eu clodforedd hwthau. Cymmerodd ei fawrhydi fantais ar y cyfleusdra hwn i dderbyn anerchiad oddi wrth y gweithwyr heb waith y dymunid cael ei chyflwyno iddo. Yn ei attebiad dywedodd yntau ei fod yn cydymdeimlo a hwy yn y modd dyfn- af yn eu cyni, ac addawodd wneyd yr oil oedd yn bo&sibl, trwy gynghor ac esiampl, i leddfu eu trueni. Dranoeth agoriad 'Ffordd y Brenin efe a aeth i Portsmouth, i weled ei fab a'i ferch-yn.nghyfraith, Ty- wysog a Thywysoges Cymru, yn cychwyn i'r India, ar fwrdd y Hong rhyfel Renown. GaIlwn ddyweyd wrth fyned heibio fod y derbyniad a roddwyd i'r ddau gan fyrddiynau aneirif India y Dwyrain yn mhob man yn bobpeth ag y gellid ei ddymuno. Wedi bod mor brysur, ac ymddangos mor fynych o flaen ei bobl, cyfarfyddodd ei fawrhydi a damwain fechan yn y maes hela, trwy i'w droed lithro i dwll, ac iddo gael codwm, yr hyn nad oedd yn beth i'w ddymuno i ddyn gweddol drwm o'r fath ag yw efe. Ynffod- us, ni ddigwyddodd iddo ddim ag y gellid dyweyd ei fod yn ddifrifol. Trwy driniaeth feddygol a mesur o orphwysdra daeth yr aelod briw yn fuan yn ddi-ddolur. Ond, er mai bychan ydoedd ynddo ei hun, bu yr am- gylchiad yn foddion i ennyn cydymdeimlad cyffredinol ag ef. Erbyn hyn yr oedd pwngc y gweithwyr heb waith wedi dyfod yn un 1 llosgawl.' Dygwyd ef i sylw y Prifweinidog mewn modd tra-ymarferol. Ffurfiwyd gorymdaith o famau, gwragedd, a merched y rhai di- waith, y rhai a gydymgyfarfyddasant ar y Victoria Embankment, ac oddi yno a gerdd- asant hyd yn Parliament Street, Wrth gwrs, nis gallai Mr. BALFOUR roddi derbyn- iad i'r oil o honynt. Neillduwyd nifer ben- nodol i osod eu hachos ger ei fron ef, yr hyn, hefyd, a wnaed gyda hyawdledd a theimlad o'r fath fwyaf toddedig. Bu hyn ar y 6ed o Dachwedd. Ond, ychydig a doddwyd ar galon y cyn-Brifweinidog. Nid yn unig ni pherthynai yr unemployed i'w ddosbarth ef, nid oeddynt chwaith o'r naill na'r Hall o'r dosbarthiadau ag yr oedd efe erioed wedi arfer darparu dim ar eu cyfer. Yr oil oedd ganddo i'w ddyweyd wrth y ddirprwyaeth ydoedd-I Nis gallaf wneyd dim i chwi!' Ond, yr oedd ganddo gynghor. Nid ydyw cynghor byth yn diwallu cylla gw&g, y mae yn wir. Er hyny, gan mai cynghor Prif- weinidog ydoedd hwn, hwyrach y dylasent deimlo yn ddiolchgar am dano. Disgwyliai yntau eu diolchgarwch Y cynghor ydoeJd ar iddynt appelio at elusen breifat." Myned ar ei union i bwrs y wlad, a dyrneidio yr arian yn ddi brin o hono, y byddai efe pan ofynai y parsoniaid a'r darllawyr iddo am ei help. Pan y daeth y gweithwyr heb waith a'u teuluoedd anghenog ar ei ofyn am ych- ydig gynnorthwy, yr oil oedd ganddo yd- oedd, 'Fedraf fi wneyd dim i chwi,' ac Ewch i fegio!' Yn anhawdd y gallem ddychymygu am achos mor gyfiawn yn cael ei droi heibio mewn modd mor ddiystyrllyd. Nid felly ein Grasusaf Frenhines. G*yr hi pa fodd i weithrsdu cydymdeimlad yn gystal a'i siarad. Attebodd hi ddolef y lhai anghenog o herwydd diffyg gwaith trwy gyfranu dwy fil o bunnau i gychwyn cronfa tuag at eu cynnorthwyo. Heb law tanysgrifao anfonodd allan appel, dan ei henw a i s61, at oludogion y Deyrnas Gyfun- ol am eu cyfraniadau. Yr appel hon a fu nodedig o Iwyddiannus, cmys cyn pen ne- mawr wythnosau yr oedd o ddeutu chwech ugain mil o bunnau mewn Haw at yr achos daionus Mewn ystyr genedlaethol, o saf- bwynt y diplomydd, diau mai un o ddig- wyddiadau pwysicaf yr holl flwyddyn i'r ymherodraeth Brydeinig yn gyffredinol yd- oedd adnewyddiad y cyttundeb rhwng Prydain a Japan. Llawnodwyd y cyttun- deb hwn ar y dydd cyntaf o Fedi; a goddefer i ni ddyweyd, megys rhwng cromfachau, ein bod yn synu nad ydyw y Torxaid ac yn enw- edig Mr. BALFOUR, yn gwneyd y cyfalaf y buasem yn disgwyl iddynt ei wneyd o'r cyttundeb hwn wrth ymladd brwydr yr etholiad presennol. Pa ham, nis gwyddom. Ammodau y cynghrairhwnydynt ynrhwymo y ddwy blaid i barchu ac amddiffyn budd- iannau y naill y llall yn y Dwyrain Pell, yn mha le a pha bryd bynag yr ymosodir ar- nynt yn ystod y deng mlynedd nesaf, Y gred gyffredinol ydyw, fod yr awgrym gwyl- iadwrus a roddasai y Gweinidog Tramor, Arglwydd LANSDOWNE, mewn araeth a dra- ddodwyd ganddo yn mis Mehefin, i'r perwyl nad oedd yn ammhossibl y byddai i gyttun- deb o'r fath gael ei wneyd wedi bod yn fodd- ion i brysuro y Cyfammod Heddwch rhwng Rwssia a Japan. Bydded hyn yna am ei werbh. Gall fod yn wir, neu gall nad oes sail o gwbl i'r syniad. Modd bynag, pan y gwnaed yn hysbys fod y cyttundeb wedi ei wneyd, aeth yn orhoian trwy holl diriog- aethau ymherawdwr Japan. Pan yr ym- angorodd ysgwadron o'r llynges Brydeinig yn gvfagos i Tokio, y brif ddinas, ar y 30ain o Fed', gwahoddwyd y swyddogion a'r dyn- ion i'r lan, a chroesawyd hwy yn y modd mwyaf brwdfrydig gan y Mikado a'i ddeil- iaid. Dygwyd rhai cyfnewidiadau o natur dra phwysig oddi amgylch yn ystod y flwyddyn ynyr India &'r Trefedigaethau Prydeinig. I ddechreu, lledaenwyd y sibrwd fod Ar- glwydd CURZON yn bwriadu ymddiswyddo fel Rhaglaw yr ymherodraeth Indiaidd. Ar yr 28ain o Fehefin cyhoeddwyd gwadiad swyddogol i'r sibrwd ond, nid oedd hyny yn ddigon i w ladd, am fod gwirionedd yn- ddo. Erbyn yr 20fed o Awst yr oedd yn ffaith. Yn mhen y mis-yr 20fed o Fedi -dywedal yn ei anerchiad ymadawol ei fod ef wedi dadleu yn gryf dros wnefd y Flwr- iaeth yn India yn ddarostyrgedig i'r Llyw odraeth Wladol; ac hefyd, dros na byddo y Llywodraeth yn y wlad hon yn ymyryd yn ormodol a'r g\tr ar v fan a'r lie.' Y cyntaf a olygai y cweryJ oedd rhyngddo ef ag Ar glwydd KITCHENER, cadlyw y fyddin Ind- iaidd. Yr ail a gyfeiriai at y cweryl rhyng- ddo a Mr. BRODRICK, Ysgrifenydd yr India. Ar ol traddodi yr araeth hon dal- iwyd Arglwydd CURZON gan afiechyd onid ê y mae yn debyg y buasai efe wedi cychwyn yn gynt tuag adref nag y gwnaeth. Yr oedd hi yn ganol mis Tachwedd arno yn cymmeryd ei long. Mae efe wedi cyrhaedd yn ddiogel er's tro bellach; a'r Toriaid yn Mhrydain yn methu gwybod yn iawn pa beth i'w wneyd ag ef. 0 ran galluoedd nid oes o fewn y blaid un y tu hwnt iddo. 0 ran hyawdledd areithyddol, y mae efe cystal os nad gwell mewn rhai ystyron na Mr. BALFOUR. Gallai wneyd arweinydd "dan ga -vp iddynt; ac y mae efe yn ddyn yn man goreu einioes. Ond—Rhyddfasnachwr yw efe. 0 herwydd hyny, cilwga Apostol Diffyndolliaeth arno, ac ni fyn canlynwyr hwnw fod a wnelont hwy ddim ag ef Am- ser yn uDig a ddadguddia safie ei arglwydd- iaeth yn y blaid. Mymryn o c eliphant gwyn' yw efe heddyw. Modd bynag, ei olynydd fel rhaglaw yw Arglwydd MINTO. Gellir dyweyd ei fod ef wedi cael cryn brof- iad fel llywcdraethwr trefedigaethol, ond, rhaid aros i weled pa fath raglaw Indiaidd a fydd efe. Gorchwyl diweddaf A rglwydd CURZON yn ei swydd ydoedd sicrhau enw Ameer Affghan'stan wrth gyttundeb yn cadarnhau y perthynasau da rhyngddo a'r Prydeiniaid. Yn union fel ynglyn âg Arglwydd CUBZON lledaenid sibrydon parhaus ynghvlch yruddi- swyddiad Arglwydd MILNER fel yr Uchel Ddirprwywr yn Ne yr Affrig. Clywid hyn yn y flwyddyn 1904, a chryfhäai y chwedl yn misoedd blaenaf 1905. Ar y dydd laf o Fawrth wele rhoddwyd terfyn ar bob am mheuaeth, canys hysbyswyd y diwrnod hwnw fod Arglwydd SELBORNK, Prif Arglwydd y Morlys ar y pryd, wedi ei bennodi yn Uchel Ddirprwywr yn ei le. Ar yr 2il o Ebrill fhrweIiodd a'r wiad. Pan laniodd Ar- gl wydd SELBORNE yn Nhref y Penrhyn a mawr groesaw y derbyniwyd ef, Ac â chyffelyb groesaw y derbyniwyd ef yn Nhal- aeth yr Orange (yr hen Dalaeth Rydd) ac yn y Transvaal. Er cyfnewidi yn y Llywodraeth yn Mhrydain nid yw swyddogaeth ei ar- glwyddiaetho angenrheidrwydd. yn terfyno I Dibyna. ei arosiad mewn ewycd ar i ba raddau y gall efe ac Arglwydd I ELGIN, fel Ysgrifenydd y Trefedigaeth- au, gyd-dynu. Ein herthygl sydd eisoes wedi rhedeg yn faith ond byddai yn fai I anfaddeuadwy ynom ei thynu i'r terfyn heb gymmeryd rhyw gymmaint o drem ar ein seneddwyr yn gweithio yn ystod y flwyddyn. Agorwyd y senedd gan y Brenin a'r Fren- hines ar y 14eg o Chwefror; ac yn y fan dechreuwyd dadleu ar yr Anerchiad mewn attebiad i'r Araeth o'r Orsedd. Oynnyg- iwyd gwelliant yn condemnio polisi diffyn- dollawl Mr. CHAMBERLAIN gan Mr ASQUITH Gwrthodwyd y cynnygiad trwy fwyafrif o j 311 yn erbyn 248 Gwelliantau, gvda'r un | amcan yn cael eu cynnyg gan Mr. WINSTOK » CHURCHILL ar yr 8fed o Fawrth, a chan Syr JOSEPH LEESE ar y 3ydd o Ebrill, a wrthod- wyd yn yr un modd. Bu Llywodraeth Mr* BALFOUR, yn ystod y senedd-dymmor, o dan feimiadaeth lem mewn perthynas 4 dygiad y ChineAsd i weithio yn mwngloddiau De yr Affrig. Yn mysg y mesnrau a basiwyd gallem enwi y rhai ar Esgeulusdra Perchen- ogion Llongau, Niwed i Gnydau, Yr Ymridiriedoiwr a'r Cymmunweinyddwr cy- hoeddus, Gweithio mewn Mwngloddiau, y Trethi AmaethyddoJ, yr Estroniaid Anny- ffiunol, a. mesurau byehain cyffelyb, Ar y 5ed o Fehefin gwnaeth Mr. WILLIAM GULLY yn hysbys ei fwriad i ymddiswyddo fel Llefarydd y Ty. A gofid y derbyniwyd yr ymddiswyddiad, a phenderfynwyd rhoddi bIwydd dal o 4,000^5. iddo, a'i ddyrchafa i Dy yr Arglwyddi. Yno yr aeth efe, dan yr enw Arglwydd SELBY. Yn ei le yn unfryd- ul dewiswyd yr Anrhydeddus J. W. LOWTHER. Ar y 4ydd o Fawrth rhoddodd Mr. WYNDHAM ei swydd fel Prif Ysgrifen- ydd yr Iwerddon i fyny, am fod Undebwyr yr ynys yn ei ddrwgdybio o fod yn gwybod y rhan oedd gan Syr ANTONY MACDONALD yn nghynlluniau Arglwydd DUNRAVEN, y rhai a ystyrid ganddynt yn sawru yn ormod- ol o Ymreolaeth. Olynydd Mr. WYNDHAM ydoedd y gwaelaf y gallesid ei gael, nid amgen Mr. WALTER LONG. Daeth ymddi- swyddiad mwy na'r holl ymddiswyddiadau gydau gilydd ynnechreu mis Rhagfyr;ac yn y fan yr oedd yr holl fyd politicaidd mewn cyffro megys crochan berwedig. Galwodd y Brenin am Syr HENRY CAMPBELL BANNER- MAN ato, gan ddymuno arno ffurfio Gwein- yddiaeth newydd. Nid ymdrodd yntau yma ac acw ar y ffordd. Ffurfiodd ei 'Gabinet' yn hwylus a cbydnebydd pawb fod ganddo y Llywodraeth gryfaf a fn yn gwasanaethu Prydain Fawr erioed. Yn aelod o'i chylch mwyaf cyfrin y mae Mr. LLOYD GEORGE. Yn swyddogion dani y mae Mr. HERBERT LEWIS a Mr. REGINALD McKENNA. Yr ydym yn cymmeryd yn ganiataol fod helyntoedd y Dywysogaeth yn ystod y flwyddyn mor fyw yn ngh6f y darllenydd fel ag i'w gwneyd yn ddiangen- rhaid i ni fanylu dim arnynt. Dau brif nodwfdd y flwyddyn, heb os nac oni bae, ydoedd y CYFFRAWD ADDYSG a'r DIWYGIAD CREFYDDOL. I'r Nefoedd yn unig y di- olchwn yn galonog am y ddau

NODION 0 LLANYMDDFFRIJ

LLANNEFYDD.

c YNIV W YS I AD.