Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
GWEINYDDIAETH GREF.
News
Cite
Share
GWEINYDDIAETH GREF. HYSBYSASOM yn y rhifyn diweddaf fod Mr. BALFOUR w di cyflwyno ei ymddiswyddiad fel Prifweinidog i'r brenin; fod ei fawrhydi wedi ei dderbyn; a'i fod hefyd wedi anfon at Syr HENRY OAMPBELL BANNERMAN, gan orchymyn iddo ffurfio Gweinyddiaeth Rydd, frydig yn lie yr un Doriaidd. Wrth gwrs, n' t5 ni ddywedodd y Brenin EDWARD wrth Syr HENRY, mewn cynnifer a hyny o eiriau- I Ffurfiwch Weinyddiaeth Ryddfrydig.' Nid oedd angen iddo ddyweyd dim o'r fath wrtho. Del\lla y ddan eu gilydd yn drwy- adl ar y pen hwnw. Oydsyniodd 'OB.' ar unwaith, er fod rhywrai wedi darogan mai gwrthod a wnai, ar yr esgus mai Mr. BAL- FOUR a ddylai fod y Prifweinidog i appelio at y wlad. Erbyn hyn y mae y Weinydd- iaeth newydd wedi ei ffurfio; a chyn y daw hyn o dan lygad y darllenydd, bydd seliau swydd wedi eu cyflwyno i'w gwahanol swyddogion, a Llywodraeth yr ymherodr- aeth nad yw yr haul byth yn machlud arni yn weithredol yn eu dwylaw. Nid ydym yn petruso dim ynghylch pen- awd ein herthygl fel disgrifiad cywir o honi. Gweinyddiaeth gref ydyw mewn gwirion- edd. Am hon nis gellir dyweyd yr hyn a ddywedid am y Weinyddiaeth ddiweddar, mai I Gweinyddiaeth o Is-Ysgrifenyddion, ag eithrio ei Phrifweinidog,' ydyw. Nid Gweinyddiaeth o fechgynos mewn gwlad- weiniaeth sydd wrth y llyw heddyw Hob law hyny, llongyfarchwn Syr HENRY OAMP- BELL BANNERMAN o herwydd ei lwyddiant yn crynhoi ynghyd Weinyddiaeth mor gyn- nwysfawr. Wrth hyny golygwn ddau beth, nid amgen, dwyn i mewn iddi gyn- nrychiolwyr teg o bob adran o'r farn a'r teimlad sydd yn nodweddu y Biaid Rydd- frydig yn y dyddiau presennol; ac hefyd, dewis ei ddynion i swyddau ag y gellir dy- weyd, oddi wrth yr hyn a wyddom am danynt, sydd yn cyfatteb i'w hanianawd a'u dyhewyd; ac am hyny, swyddau ag y gellir yn rhesymol disgwyl i'r dynion brofi eu hunain yn swyddwyr effeithiol ynddynt, Taerodd y newyddiaduron Tornidd lawer yn ystod yr wythnos ddiweddaf mai aphlaid ymranedig yr oedd gan y Prifweinidog ne- wydd i ymwneyd, a phrophwydeot yr an- hawsderau mwyaf ar ei tfordd i ffurfio ei Weinyddiaeth. Gwyddom, wrth gwrs, nad ydoedd hyn oil namyn I breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys.' Dyna a ddymunasent hwy. Aruthr ydyw eu siom gan hyny, pan yn canfod mor hwylus yr aeth Syr HENRY trwy yr oil o'i waith pwysig. Am ba beth y prophwydant hwy yn nesaf ? Ni'n dawr. Ond, yr ydym yn dyfalu Y ddfirogan nesaf fydd-ymranu pan y dechreuant hwy weithio Wel, ceir gweled hyny hefyd, os cwn fyw Nad oes ymraniadau yn y blaid yn awr a brofwyd hwnt ammheuaeth gan y rhestr o aelodau yn ei I Gabinet,' ac eraill, a gyf- lwynodd y Prifweinidog i'r Brenin nos Sul diweddaf. Yr holl arweinwyr Rhyddfrydig ydvnt yn cydweithredu yn galonog. Ag eithrio Arglwydd ROSEBERY, wrth gwrs. Gwell ganddo ef barhau i I arddu ei gwys mewn unigrwydd.' Efe ei hun pisu yr ymadrodd. Ymraniad, yn wir! Pwy a faidd s6n am ddim o'r fath pan geir Syr EDWARD GREY a Mr. HALDANE yn aelodau biaenllaw mewn gweinyddiaeth ag y bu y Torïaid yn taeru hyd lesni gwyneb nas gallent gyd-dynu am awr a. Syr HENRY CAMPBELL-BANNERMAN. Ymraniad, yn wir, meddwn etto, pan y mae Mr. ASQUITH, Mr. MORLEY, Mr. LLOYD-GEORGE, a Mr. JOHN BURNS yn myned i eistedd wrth yr un bwrdd! Yn sicr, rhaid i'r Toriaid ddy- chymygu rhyw gawd arall o edliwiadau ac ensyniadau. Ddaw hi ddim y ffordd ene, beth byn¡;g,' a defnyddio ymadrodd llafar gwlad ar DdySryn Olwyd Yn mysg y Toriaid y mae ymraniadau, ac hyd yn oed ymrwi giadau. Yn mysg y Rhyddfrydwyr ni fu erioed gymmaint o undeb ac ysbryd cydweithrediad. Er enghraifft, un ffaith eglur oddi wrth enwau aelodau y Weinyddiaeth newydd ydyw fod Masnach Rydd yn I blanc arbenig yn eu credo gwleidyddol. Nid oes yn eu mysg gymmaint ag un nad ydyw wedi dadguddio ei hun, dro ar ol tro, yn y modd mwyaf cyhoeddus, yn Rhyddfasnachwr diymmod. Am allu y Weinyddiaeth newydd ni raid petruso moment. Nid ammhriodol a fyddai cymmhwyso ati y disgrifiad anrhydeddus Z, y o un o'r gweinyddisethau blaenorol Gweinyddiaeth Talent.' A hono y dalent anhebgor i lanw eu cylchoedd newyddion. Yr ymffrost Dorïaidd wedi myned yn ffasiwn' yn y glymblaid y naill oddi wrth y Hall—ydoedd mai ganddynt hwy yn unig yr oedd y dalent wladweiniol. Pan oedd Mr. CHAMBERLAIN, Syr MICHAEL HICKS- BEACH, a Mr. RITCHIE, yn aelodau yn eu gweinyddiaeth gallasem ddygymmod i ryw fesur â/u honiad anwir. Ond, am Wein- yddiaeth nad oedd ynddi, ar ol gadael allan o honi y cyn Brifweinidog, ac hwyrach y cyn-Weinidog Tramor, ond Mr. BRODRICK, Mr. AUSTEN CHAMBERLAIN, Mr. LYTTLETON, Mr. GERALD BALFOUR, a rhai mamch hyd yn oed na hwy, yn aros, nid oedd yr haeriad yn ddim amgen na thrais, enllib, a chabledd ar wirionedd. Ac yn dystion o hyny cymmerer eu gweithredoedd. Ni fynwn sarhau y Weinyddiaeth newydd tnyyei chyferbynu am foment a'r un sydd newydd ddyfod i'w thrange. Coll amser yn gystal a sarhad a fyddai gwnsyd. Nid oes gymmhariaeth na chyferbyniad rhyngddynt, oni bae cymmharu a chyferbynu o honom un o fryniau iselaf y DywysogaeLh i'r Wyddfa, neu Gadair Idris, a hyny er mwyn galw sylw at iselder trum y naill ac ucbel- der copa y llall. Gadawer i ni fyned dros y rhestr (yr hon a geir mewn ffulf gryno mewn colofn arall). Dyna y Prifweinidog ei hun. Nid dyn yn eistedd ar y gamfa ydyw efe. Gwyr ei feddwl ar bob pwngc. Nid oes ganddo ar- awyd i neb, pwy bynag, wybod ar ba ochr i'r clawdd y saif efe ar Fasnach Rydd, Cwestiwn yr Ynys Werdd, nac unrhyw bwngc llosgawl' arall. Nid Arglwydd Ganghellydd opiniyngar, nac un a ddefnyddia ei swydd oruchel i wobrwyo ei ffryndiau a ffyddloniaid ei blaid ar wahan i allu a chymwhwysder sydd genym yn awr. Bydd Syr ROBERT REID yn sicr o gadw urddas y swydd i fyny heb ei lychwino ei hun, na goddef i eraill wneyd dim o r fath. A medda yr holl anhebgorion i wneyd y blaenor yn y gyfraith' fydd yn sicr o ennill parch a phoblogrwydd. Cydnebydd pawb fod yr iawn ddyn wedi ei osod yr y Swyddfa Dramor. Am gym- mhwysder Syr EDWARD GREY i fod yn Wein- idog Tramor nid gormod fyddai dyweyd fod hyd yn oed y Toriaid eu hunain yn eu cyd- nabod. Yr unig wrth-ddadl y gallant ei chodi yn erbyn y pannodiad arno ef ydyw, mai aeiod o y Cyffredin ydyw, pryd yr arferent hwy yo wastad dybio mai i DJ yi Arglwyddi y dylai pob Prifweinidog fyned i; ymofyn am y (Jweinidog hwn. Maetais' fawr fydd i'r Gweinidog Tramor fod yn aelod o Dy y Cyffredin, meddwn ninnau. Un peth arall nas dylem beidio ei ddyweyd am Syr EDWARD GREY ydyw, ei fod yn debyg o ennill ymddiried Ilywodraethwyr y gwled- ydd tramor y bydd ganddo i ymwneyd a hwy. Gwna Mr. ASQUITH Ganghellydd y Trysor- lys a fydd yn sicr o gadw i fyny draddod- iadau uchel y swydd pan oectd hi yn Dwylaw Mr. GLADSTONE a Syr WILLIAM HARCOURT, a chyn ei disgyniad i'r dyfuder ma.wr yn nwylaw Mr. AUSTEN CHAMBERLAIN. Am y pennodiad ar Mr. JOHN MORLEY i Swyddfa yr India digon heddyw ydyw dyweyd fod yr India ei hun wedi dadgan yn groyw, mewn modd cyhoeddus, ei dymuniad mai efe a fyddai yn cael ei bennodi iddi. Yn lie Mr. ARNOLD-FOSTER yn y Swyddfa Rhyfel ceir Mr. HALDANE. Ei ben clir a'i allu diammheuol ef a'i cyfaddasa yn amlwg iawn i adennill ymddiried y fyddin i'r swyddfa sydd yn ei rheoleiddio. Bydd y cyfnewidiad yn ddirfawr yn y swyddfa hon, yn arbenig. Ac yn Swyddfa y Trefedigaethau yn ogystal bydd cyfnewidiad mawr. Y profiad a gafodd efe fel Rhaglaw yr India, a'i wybodaeth eang am Brydain hwnt i'r mor,' a wna Arglwydd ELGIN ef yn gynllun o Weinidog y Trefedigaethau yr ydym yn credu. M^n ef sychu ymaith waradwydd caethwamnaeth ar y Rand, yr ydym yn teimlo yn hyderus. Caiff y Llynges wr profiadol a chyfarwydd i'w rheoleiddio yn mherson Arglwydd TWEEDMOUTH Un felly fydd Mr. HERBERT GLADSTONE yn y Swyddfa GartrefoL Yr ydym yn falch neillduol o Iarll CAR- RINGTON fel Gweinidog Amaethyddiaeth. Nid o herwydd ei ffyddlondeb i Ryddfryd- iaeth yn unig. Efe oedd cadeirydd y I)dir- prwyaethDirol yn Nghymru. Efe, hefyd, yw yr unig dirfeddiannwr mawr sydd wedi rhoddi treial teg ar gynllun y man-ddaliadau amaethyddol ar ei etifeddiaeth ei hun. Pe y gofynasid i ni pwy a roddasem yn y Swyddfa Addysg dywedasem yn lied ddi- betrus—Mr LLOYD GEORGE. Ond, gan mai Mr. AUGUSTINE BIREELL fydd yn llywyddu belJach yno, Did ydym yn pryderu dim am y dyfodol. Gwna Mr. SYDNEY BUXTON Bostfestr Cyffredinol rhagorol. Ni bydd perygl iddo ef anghofio ei hun fel Arglwydd STANLEY, a galw enwau drwg ar y postmyn.' Dylai Ysgotland fod yn falch o'i Hysgrif enydd hithau. Un o'i meibion ieuaingc Rhyddfrydig mwyaf talentog ydyw Mi. JOHN SINCLAIR. Llawenydd a ddylai lanw calon yr Ynys Werdd, hefyd, am gael newid Mr. WALTER LONG am y Proffeswr BRYCE. Yn lie dyn di-n6d, heb nemawr allu, ac fel poblach fychain yn gyffredin, yn orlawn o ragfarn, caiff yn ysgrifenydd iddi ddyn ag y mae ei enw yn glodfawr trwy yr holl fyd, »c yn hysbys fel dyn parod ac awyddus i roddi i'r Gwyddelod yr hyn a gyfiawn haeddant, fel oenedloedd eraill y Deyrnas Gyfunol, ar lwybr iawnder. Yr ydym yn falch fod Mr. JOHN BURNS 0 fewn y Cylch Cyfrin. Yr Aelod Llafur cyntaf erioed i gael yr anrhydedd. Yn Mwrdd y Llywodraeth Leol efe a gaiff waiih wrth ei fodd ac efe a'i gwna yn onest. Os metha, y mae yn ddigon o ddyn i ymddi- swyddo. Yr ydym wedi gadael y pennodiad mwyaf dyddorol i ni yn Nghymru hyd yr olaf. An- fonasom ein llongyfarchiadau yn union- gyrchol gyda'r pellebyr i Mr. LLOYD GEORGE; ac yr ydym etto, yn y modd mwyaf oyhoedd- us, yn ei longyfarch, ac yn eidduno iddo lawer o flynyddoedd a nerth iechyd yn ddibrin i wneyd Llywydd dan gamp yn y Bwrdd Masnach. Efe yw y Cymro cyntaf o waed ac iaith, hyd y gwyddom ni, i gael ei alw i fod yn un o weinidogion blaenaf ei Fawrhydi. Boddhad cyffredinol a roddodd y pennodiad arno. Nid ydyw y dyrchafiad hwn ond yr hyn y mae ei wasanaeth i'r blaid wedi ei lawn deilyngu. Yn awr, i Syr HENRY CAMPBELL-BANNER- A,rA,Y, ai Weinyddiaetli Gref, dymunwn bob llwydd i wneyd y gwaith mawr a ddisgwyl- ir oddi wrthi, mewn dattroi gweithredoedd deng mlynedd o ormes, a dwyn diwygiadau angenrheidiol i weithrediad. Yr ydym yn ei dynghedu ef a hithau i gofio Cymru yn helaeth
Y RHYFEL-GRI WEDI EI| GODI!
News
Cite
Share
Y RHYFEL-GRI WEDI EI GODI! YR unig gasgliad y gallwn ei dynu oddi wrth araeth Mr. CHAMBERLAIN i ddiwygwyr y Tariff yn Rhydychiin nos Wener, ydyw ei fod ef am fyned i mewn i'r ffrwgwd bres- ennol yn ei ysbryd arferol. Wrth gwrs, nid ydyw ei ddylanwad ef yn ein gwlad- weiniaeth yn awr y peth a fll. SAMSON wedi tori ei wallt ydyw; ond, nid o gwbl yn debyg o ddwyn yr adeiia i i lawr ar ei elynion wrth ei ddwyn i lawr arno ei hun fel hwnw. Gyda threigliad y blynyddoedd, ac edwiniad ei ddylanwad, ni ddylem synu fod ei fustl yn chwerw. Am ein bod yn adna- bod y dyn a'i waith nid ydym yn cyffroi dim pan to efe yn ymfflamychu hyd yn oed ar yr hyn a eiiw ei edmygwyr yn uchel- fanau y maes.' Modd bynag, wele, y mae efe wedi dechreu ar y rhyfelgyrch. Onid efe ydyw y cyntaf i wneyd hyn? Gyda llaw pa ham yr aeth efe i Rhydychain nos Wener 1 Ai am oi fod yn gwybod y bwr- iadai Mr. BALFOUR fyned i Fanchester nos Sadwrn; ac y carei i'r cyn-Brifweinidog ddarllen ei araeth ef yn mhapyrau y boreu cyn dechreu ar ei araeth ei hun yn yr hwyr? A thybio y gallai y dyfaliad hwn fod yn un cywir yr ydym yn gallu deall pa ham yr oedd efe yn 'seboni' cymmaint. Yn yr ymfflamychiad yn Mryste-yr araeth a arweiniodd i'r ymddiswyddiad-ni phetrusai ddyweyd fod arweinyddiaeth Mr. BALFOUR yn Nby y Cyffredin wedi ei ddwyn ef a'r blaid Undebol i gyflwr o ddarostyngiad mwy na dim ag yr oedd efe yn ei gofio ar hyd ei holl yrfa boliticaidd. Ond, yn Rhydychain yr oedd wedi newid ei d6n yn hollol. Yno nid oedd ganmoliaeth ry uchel ganddo i'w roddi i Mr. BALFOUR. Wedi iddo ei weled 'ar y clwt yn glir,' y mae yn debyg 'Mae Mr. BALFOUR wedi ymddi- swyddo o'r swydd sg y creda pob dyn di- ragfarn ei fod wedi cyflawni ei dyledswyddau gyda'r gallu mwyaf ysblenydd ynddi.' Yn ofer, yn ddiau, y gofynwn pa le y mae cyssondeb. Canmawl yn awr, wedi yr ymddis wyddisd Bid siwr, Diffyndolliaeth fydd y I plangc' mawr yn ei raglen, Ond, gWyr efe na ddryga hwnw ddim ar y Rhyddfrydwyr; ac, wrth gwrs, nis gellir myned i'r gad heb gri yn eu herbyn hwythau. I Bwgan mawr' Ymreolaeth i'r Iwerddon sydd i wneyd y 'busnes' arnynt hwy, debygem. Yn hwn fe ymuna Mr. BALFOUR yn galonog ag ef; ond, dylal yr arweinydd Torlaidd wladeiddio yn ostyngedig, a chydnabod yn wastad mai nid efe piau y clod o godi y cri yn gyntaf. Perthyn hwnw i Apostol Diffyndolliaeth. O'r ddau gwell genym iddi fod felly, canys credwn y disgyna yr ensyniad yn I ffi!\tiacb. ar y wlad hyd yn oed na phe buasai Mr. BALFOUR ei han yn ei godi. Modd bynag aengys yr araeth nos Wener mai hwn a fwriedir i'n drygu ni. Yr ydym yn cofio yn dda mai y cri o anwladgarwch a gyfodid yn ein herbyn, gan yr un g*r, yn yr ethol- iad cyffredinol diweddaf yn 1900. Rhoddid ar ddeall y byddei pob pleidtais a roddid i Ryddfrydwr y pryd hwnw yn gystal a bod yn bleidlais i'r Bwriaid, ac mai gelynion yr ymherodraeth a fyddai pob un a roddai bleidlais o'r fath, Ysywaeth, gwnaeth y rhyfelgri anwireidus a chywllyddus o anonest hwnw waith efleithiol yn y wlad yr adeg hono. Yr oedd yr etholwyr yn ehud, ac yn llawn o ysbryd rhyfelgar. Ond, am y rhyfelgri newydd, yr hwn sydd yn llawn mor anwireddus a diegwyddor, ni phetruswn am foment ddyweyd, gan farnu yn deg ar yr arwyddion, na chaiff unrhyw effaith o'r fat h. Yn ofer y gwastraffa ei nerth arno. Ni chredir ef. Nid a gwlad ehud y bydd efe yn delio yn yr etholiud gyff edinol sydd wrth y drws. Yr ydym er's llawer o amser weithian wedi peidio rhyfeddu at haerllug- rwydd Mr. JOSEPH CHAMBERLAIN. 0 her- wydd hyny nid ydym yn rhyfeddu at ei haerllugrwydd presennol. Yr hyn a ddis- gwyliem yw y cyfan. Ymddengys nad oes unrhyw fesur ffurfiol ar Ymreolaeth i gael ei ddwyn yn mlaen. Mae y Rhyddfrydwyr yn rhy gyfrwys i wneyd hyny yn eu sefyllfa ranedig bresennol. Pa beth sydd i fod ynteu, yn ol yr orael o Firmingham..1 ( Ymreolaeth fesur y darn,' ac I Ymreolaeth ar drefn yr echwyn!' Ond, cofier, Ymreol- aeth i'r Iwerddon, a rhoddi eu dymuniadau i'r Gwyddelod, fydd y cyfan mewn gwir- ionedd. Ar hwn, wedi i'r blaenor ddechreu, y bydd Chamberlainiaid a Balffbwrisid Torï- aeth yn telynori bellach yn gegrwth ar hyd y frwydr. Ond, pa beth a ddywed y partner mawr,' efe a ofynai yn ei ddull nod weddiadol 'am wafth y Prifweinidog yn cymmeryd ei orchymynion oddi wrth elyn- ion ei wlad V Bydded y dyn dawel. Yn mhen o ddeutu mis neu bum wythnos bydd efe yn gwybod pa beth ydyw barn 'y partner mawr am dano ef a'i gwestiwn mawr cyllidol,' Caiff ddeall yn ddigamsyn- iol na oddenr iddo ef: Mr. BALFOUR, Mr. CHAPLIN, a'r criw, ddrygu y gyfundrefn fas- nachol sydd wedi dwyn Prydain Fawr i flaenori yn mysg teyrnasoedd y byd. Am y bwgan nad oes iddo fodolaeth ond yn ei ddychymyg ef a'r cyn-brifweinidog, ni bydd gan yr etholwyr ddim i'w ddyweyd ond yn unig mai bwgan, lledrith, a drychiolaeth ydyw, wedi ei greu yn bwrpasol i aiEcanion drygionua. Yn y cyfamser cawn ninnau, os bydd hamdden yn caniatau, edrych arn- ynt yn I trotian eu hasyn' breuddwydiol allan ar Iwyfanau eu plaid. We1 hai etto A oeid Mr CHAMBERLAIN wedi meddwl y buasii Rhagluniaeth yn gweithio yr amgylchiadau yn y fath fodd fel y cllwsai efe ei wneyd yn Brifweinidog y tro hwn ? Ai gweled cyflousdra olaf am byth ei uchel- gais yn llithro o'i afael, a'r siomedigaeth chwerw a barai hyny iddo, sydd yn esbonio ei ensyniad disail a chableddus am y Prif- weinidog newydd, yr hwn, o herwydd amledd gorchwylion pw sfawr, nad oes ganddo h&mdden i sylwi ar ei ddadwrdd. 'Mai Llywodraeth y Lloegr Fechan fydd y Llywodraeth nesaf,' y mae genym awdur- dod y Prifweinidog ei hun, yr hwn a ddywedodd ei fod ef yn cashau y gair Ym- herodrolaeth dros gredu,' meddai yr oily mae angen ei ddyweyd parthed yr ensyniad ffol hwn ydyw, fod urddas, mawredd, a chyfander yr Ymherodraeth Brydeinig mor ages cs nad yn agosach, at galon Syr HENRY CAMPBELL BANNERMAN nag y bu erioed at galon yr ecsyniadwr a phssio heibio. Ond, y rhyfel- gri mawr yn erbyn y Rhyddfrydwyr, y mae yn amlwg, yw Bwgan Ymreolaeth, Nid ofnwn ddim arno. Gwyddom mai drychiol- aeth yw.
HELYNT RWSSIA,
News
Cite
Share
HELYNT RWSSIA, GWAETHYGU o ddydd i ddydd y mae yr amgylchiadau yn Rwssia; a'r bobl yn arddangos mwy-fwy o benderfyniad am eu hiawnderau. Am fanylion hanes yr hyn sydd yn cymmeryd lie yno nis gwyddom y nesaf peth i ddim, am fod y cymmundeb bellach wedi ei attal, Yr boll adroddiadau a geir ydynt rai wedi eu dwyn gan negeseu- wyr yn eu cludo dios y terfyn i'r Almaen ac Awstria, a'u gosod ar y gwifrau yno. Mor bell ag y mae y rhai hyn yn myned, nis gallai dim fod yn fwy torcalonus; ac etto, ynddynt hwy eu hunain rhoddir ar ddeall fod pethau yn waeth mewn gwirion- edd o lawer. 0 herwydd hyn, amlwg yw mai drychfeddwl gwan a allwn ei ffurfio am sefyllfa wirioneddol Rwssia ar derfyn y flwyddyn. A ddylem ni synu o herwydd hyn 1 Onid ffrwyth canrifoedd o ormes I ydyw, a'i ffrwyth naturioll Yr unig gysur y gallwn ei sugno oddi wrth y fath sefyllfa adfydus ydyw, nas gall unrhyw dro ynddi fod heb iddo fod yn dro er gwell. O'r mawr ddrwg ofnadwy hwn credwn nas gall ond daioni annifeiriol yn lliosogrwydd ei fendithion ddeillaw. Ceir gweled Rwssia yn dyfod allan o'i phurdan wedi ennill urddas, cymmeriad, a dylanwgd moesol na bu hi erioed o'r blaen yn ei feddu; ei phobl yn mwynhau cysuron cyfreithlawn bywyd, a'i phenaethiaid yn Uywedraethu mewn cyfiawnder. A gormes gwhdol a chref- yddol, wedi ei alltudio ymaith am byth. Dyma ddyfodol Rwssia, ni a gredwn. Ond, a'i phresennol y mae a wnelom ni yn awr. Fel yr awgrymwyd, prin y mae yn ddichonadwy ffurfio dirnadaeth gywir am dano; yn un peth, am fod yr adfyd mor wir ddychrynllyd; ac, hefyd, am nad yw y gwihau yn gweithio. Yr oil a allwn ei ddyweyd ydyw, fod digon yn hysbys i ddangos trueni anghymmharol. Am yr ymherawdwr ceir adroddiadau gwahanol. Mewn rhsi dywedir ei fod yn arswydo dangos ei hun yn y brifddinas yn ymgadw o fewn muriau ei balas ymherodrol, ac yn barod i ffoi ymaith ar toment o rybudd. Mewn brysneges arall dywedir ei fod I yn cadw ei galon i fyny,' ond wedi heneiddio yn ddirfawr,' ac yn edrych yn hynod o welw.' Daw, hefyd, ddigon o'i hanes i ddangos ei fod mor anwadal ag erioed-on diwrnod yn barod i ildio pob peth i'r bobl a'r diwrnod nesaf yn gwrthod symmud cam yn mlaen. Am y fiwrocratiaeth eglur yw na fyn hi ddysgu gwersi symlaf y sefyllfa. Saif yr uchel dducipii yn erbyn pob diwyg- iad mor wallgof gyndyn ag erioed. Y bobl, ar y Haw arall, ydynt benderfynol, fel y dywedwyd. Y streic a ymleda. Yn Moscow wythnos i heddyw yr oedd pymtheg cant o honynt yn penderfynu ei chsrio yn mlaen yn ddiymmod hyd oni byddo Rwssia wedi cael ei hiawnderau. Daeth yr heddgeidwa id i mewn i'r cyfarfod, a chymmerasant ei !ywydd yn garcharor. Yn y fan llwyddodd y streicwyr i gvmmeryd un o swyddogion yr heddgeidwaid i'r ddalfa. Dywedent mai yr unig amll od 8r ba un y gollyngent ef yn rhydd ydoedd fod en llywydd hwy yn cael ei ollwng yn rhydd. Ac felly y bn. Yr heddgeidwfid orfu ildio. Elfen arbenig yfa y sefyllfa ydyw gwrth- ryfel y filwriaeth. Mae yn Manchuria rbyw bedwar can mil o filwyr heb eu dwyn adref etto. Ai rhyfedd gan y darllenydd fod yr ysbryd mwyaf e-nfoddog yn ffynu yn ea plith ? Yn nghanol gerwinder eithafol gauaf Manchuria, heb ddigon o ymborth, dillad, ns. thanwydd, ac heb ddim rw wneyd ood synfyfyrio ar drueni eu sefyllfa, pa fodd Jai y gallant beidio teimlo yn barod i godi mewn gwrthryfel ? Ufudd-dod rw swyddogion sydd allan o'r cwestiwn. Nid yw LINIEVITCH yn gallu anfon yr hanes i'w Lywodraeth, am fod y mellt' wedi peidio A'a gwasanaeth; a phe y gallai, pa beth a alia! yr ymherawdwr na'i gynghoriaid ei wneyd i'w gynnorthwyo 1 Y milwyr yn Rwssia ei hun ydynt, hefyd, wedi eu meddiannu gan yr un ysbryd gwrthryfelgar. Yn ofer y rhydd eu swyddogion orchymynion iddynt. Mewn llawer man, pan orchymynir iddynt i droi allan i ddarostwng terfysgoedd poblogaidd, gommeddant symmud o'u lie ac hyd yn oed pan y digwydd iddynt droi allan, os gorchymynir iddynt danicf ar eu cydwladwyr, naill ai gwrthndant wneyd hyny yn bendant, nea, saethant eu hergyd- ion i'r awyr. Y fyddin yn yr amser gynt a arferai fod yr atteg gadarnaf i'r fiwrocrat- iaeth, a phrif offeryn ei gormes; ond, erbyn heddyw, nis gall y Cesar na'i ewythrod ymddiried ynddi. Dywedir nad oes ond y Cossxciaid yn arcs yn ffyddlawn. Yn Kieff y mae chwyldroad arall wedi tori allan, a'r gwrthryfel wyr wedi cael y llaw oruchaf yn y ddinas. Yn mysg y sibrydon, hefyd, ceir fod y Count WITTE wedi rhoddi ei swydd i fyny; a bod yr ymherawdwr wedi gofyn iddo :—' A ydych chwithau yn wladgarwr mor wael fel y mynweh fy ngad- ael ar adeg o fath hon V Adroddiad arall a ddywed nad oes gwir yn y sibrwd hwn. Yn nghanol y cwb!, y mae y rhsgolwg gyllidol yn dywyll a pbruddaidd, Mewn gair, y mae pob peth yn arwyddo dymchweliad yr ormes, a gwawriad dydd rhyddid.
GORUCHAFIAETH Y GOL.
News
Cite
Share
GORUCHAFIAETH Y GOL. YR ydym yn y modd mwyaf calonog yn dymuno llongyfarch Syr EDWARD RUSSELL, golygydd y Liverpool Daily Post & Mercury, a'r boll swydd- fa, ar y fuddugoliaetb fawr a enoillasant hwy yn mrawdlys y ddinas hono ddydd Sadwrn diwedd- af. Yr ydjm yn cyfeirio at y cyughaws a ddyg. wyd yn erbyn Syr EDWARD gan nifer o ynadon trwyddedol Llynileifiad am gabldr«eth. Cy- huddid hwy, mewn ertbygi arweiniol yn y new- yddiadura enwyd, o fod yn anffyddlawn i'w dy- ledswyddau pan yn eistedd ar y faingc drwyddedol. Parhaodd y prawf am dri diwrnod, a therfynodd mewn dedfryd gan y rheithwyr o blaid Syr EDWARD, a'r ddedfryd hono a dder- byniwyd gan y llys llawn gyda chymmeradwy- aeth gyfiredinol. Wrth gyhuddo yr ynadon hyn o attal a rbwystro gweinyddiad y Ddeddf Drwyddedol trwy wrthod terfynu y nifer llawn o drwyddedau a gauiateid gan y gyfraitb, gwyddai Syr EDWARD RUSSELL ei fod yn dwyn achwyniad difrifol yn eu herbyn; ond glynodd wrth ei ynau yn bybyr, er gosod ei hun yn yr enbydrwydd mwyaf. Dadl yr ynadon ydoedd mai fel barcwyr' ac nid fel gweinyddwyr y gweithredent hwy. Mr. RUFDS ISAACS ydoedd dadleuydd Syr EDWARD a pha mor uchel byn- ag y safai y bargyfreitbiwr enwog cyn y prawf hwn, l Baif lawer yn n web yu awr. Deunaw munyd yn unig fu y rheithwyr yn cydymgyng- bori, ac yna dygasaut eu dedfryd yn unfrydol o blaid y GOL. Yr ydym yn llongyfarch y g*r eofn a galluog unwaith yn rhagor, ac yn ei edmygu am ddynoethi, yn ei newyddiadur pobl- ogaidd, yr ynadon byn a ystyriai efe y pryd hwnw, ac sydd erbyn herdyw wedi ei brofi, yn ddaroatyngiad ar eu swydd bwysig.
TRAMOR.
News
Cite
Share
odd M. KRUSTOLEFF yr arian. Ond, anfon- odd y wefreb i ben ei siwmai yr un pryd. 0 herwydd y bydd yn etholiad cyffredinol yn y wlad hon yn Ionawr y mae aelodau Cynghor Sirol Llandain wedi penderfyna gohirio eu hymweliad a. Paris. Ceidw ea croeaaw, yn ddno, hyd oni chant hwy adeg fwy cyfaddas. Hysbyswyd hyny i Gynghor Paris, a derbyniwyd ef fel rheswm digonol. Nid yw y chwareuyddes Ffrengig enwog, SARAH BERNHARDT, ynboblogaidd yn Quebec, y mae yn amlwg. Pan oedd hi yn myned gyda'i chwmni o'r chwareudy i orsaf y ffordd haiarn, nos Farcher, Iluchiwyd wyau gorllyd tnag atyot. Am hyn y mae yn ymddangoa fod dau reswm. Y cyntaf ydyw, fod archesgob Pabaidd Montreal wedi bod yn ei chondemnio hi a'i chwareaon. Yr ail yw ei bod hi ei hun wedi gwneyd rhyw sylwadau a barasant dram- gwydd i Ffrangcoa Canada. Nid yw 'yr angylea SARAH' yn debyg o wynebu torf o Ganadiaid yn fuan etto. Ar y dydd cyntaf o'r mis hwn cymmeiwyd cyfrif o'r boblogaeth Ganadaidd. Eisoes yr ydys yn hysbys o'r ffrwyth am amryw o dretydd a dinaaoedi ye ymherodraeth. Yn yr oil o'r rhai hyn, dangosir cynnydd mawr ar gyfrif 1900. Lladrones siopaa oed i yr un a ddaliwyd gan heddgeidwaid Paris dydd Marcher. Ed- rychai yn union fel boneddiges oludog, gan mor w?ch yr ymdrwaiai. Daliwyd hi ar y weithred yn celcio yn un o'r prif fasnachdai ar y boulevard (heol) Hauasman. Yn ng-ruf yr heddgeidwaid Ilithrodd ei chôb ffftr oddi ar ei hysgwyddau. Gyda'r g6b Uitbrodd pftr o fotaaau, cadynau o sidanau, a phethau gwerthfawr eraill. Caf wyd lliaws o nodaa arianol yn ei llogellau, hefyd. Ganol yr wythnos ddiweddaf ysgrifenodd Caisar yr Almaen lythyr nodedig o sycwyr- gall at Arglwydd AVEBURY (Syr JOHN LUB- BOCK). Ynddo efe a ddiolcha i bawb sydd yn gwnefd eu goreu i gael teimladau da i ffynu rhwng yr Almaen a Phryddn. Bydd- wn ninnan yn ddio!cbgar iddo yntau am wneyd ei ran ei hun yn yr un cyfeiriad. Y rhai a gynnrychiolant Weriniaeth Ffraingc yn nau Df ei Senedd ydynt yn benderfynol o wahanu y Babaeth oddi wrth y Wladwriaetb. Y bleidlaia a gaed dydd Mercher diweddaf, y mae yn debyg, oedd y ddiweddaf ar y cweatiwn. Caed mwyafrif o 79 dros ddadgyssylltiad. Nid ydyw etholwyr New Zealand wedi cael digon ar eu Prifweinidog, Mr. SEDDON, O gryn dipyn, gallem dybio. Ya yr etholiad cyffredinol yn y drefedigaeth wythnos i heddyw (yr oil ar yr un diwrnod) cafodd ei Lywodraeth fwyafrif llethol. Efe, yn amlwg, yw y dyn mwyaf poblog- aidd yno, er ei holl fombast. Rhywyr bryd ydyw i'r Rhyddfrydwyr i ddyfod at y Ilyw. Dydd Mercher yr oedd jn agos i ddwy fil o Chineaid yn cael eu dwyn i weithio i'r goludogion ar y Rand, yn y Trans- vaal. Osnad oes rhai wedi cychwyn, dim chwaneg yr ydym yn mawr hyderu. Parhau y mae lladroniaeth o bob math yn y M6r Coch. Arabiaid ydyw y gwylliaid. Yr wythnoa ddiweddaf, yr oedd Y Porth' yn anfon tri bad torpedo yno i roddi terfyn ar eu dyhirdra; ond, a rwymwyd y llywyddion i beidio cym- meryd brbl, a'u rhanu yn ddirgelaidd &'u meistr, ABDUL HAMID. Er ein syndod, deallwn fod diSyg mawr yn nghyllideb Unol Dalaethau yr America hyd ganol yr baf diweddaf. Nid ydyw y diffyg hwn, yn ol pen cyllidydd y Weriniaeth, yn ddim llai na thair miliwn ar bugaia o ddoleri. Hyny ydyw, rhwng pedair a phum miliwn o bunnau. Yr hanes diweddaf am yr Arlywydd LOUBET o Ffraingc yw na tyn efe gynnyg ei hun am ail etholiad. Pan yn ymadael y tro neaaf o'r Elysee (fel y gelwir palaady swyddol yr arlywydd) nid ydyw yn ei fryd ymgeisio am unrhyw swydd wladol etto. Yn hytracb, bwriada derfynu ei oes mewn mwynhâd o felusion neillduaeth. Ar hyn o bryd dysbeidiant sydd yn yr argyf- wng politicaidd rhwng Awstria a Hungary. 0 ddydd i ddydd cryfhS, y rbagolwng am gymmod. Bernir pe bae yr ymherawdwr yn symmud ym- aith y Weinyddiaeth a enwyd ganddo ef ei hun, ac yn pennodi un arall a fyddai yn meddu mwy- afrif yn y Saxiedd, y gellid dyfod i ryw gyttun- deb. Mae M. KOSSUTH, arweinydd y Blaid Anni, bynol, wedi derbyn egwyddor yr etholfraint gyffredinol. Ond, efe a esyd i lawr fel ammod nas gellir myned gam yn mlaen heb yn gyutaf i Weinyddiaeth FERGERVARY gael ei dymchwelyd. Y Sosialiaid, mewn maDau, ydynt yn ymderfysgu yn eu penboethui dros yr etholfraint gyffredinol.