LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN.|1905-12-13|Baner ac Amserau Cymru - Welsh Newspapers Online
Hide Articles List

18 articles on this Page

LLECHI MEWN YSGOLION.

PWYS GONESTRWYDD.

CWMNI CYDSODDEDIG RHODESIA,…

[No title]

PARHAU I FYNED YN MLAEN 0…

LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN.

News
Cite
Share

LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN. Y WEINYDDIAETH DRANCEDIG. Y MAE gan Pope, y bardd Saesnig, ddwy iinell hynod gymmhwys i amgylcbiadau Mr. Balfour y dyddiau hyn, yn diosg ei arfau 'And you, brave Cobham, to the latest breath, Shall feel your ruling passion strong in death.' Felly yn gymmhwyg ybugyda Mr. Balfour. Y mae wedi bod yn hynod gyfrwys i gelu ei amcanion, ac i gadw y wlad yn y tywyllwch er's amser. Ond yr oedd rhoddi yr awenau 1 fyny rhvw fis cyn y flwyddyn newydd yn profi ei fod am daflu ei olynydd i gymmaint penbleth ag yr oedd modd iddo ei wneuthur, trwy ei orfodi i ffarfio Llywodraeth, ac ym- aflyd yn yr awenau fia cyn dadgorphoriad y senedd. Ond, er hyn oil, da genyf fod Syr Henry Campbell-Bannerman wedi ymgym- meryd a'r gwaith fel y peth doethaf a mwyaf manteisiol i'r wlad yn gyffredinol o dan yr amgylchiadau; a chyn y bydd y F ANER allan, cawn weled pwy fydd ei gadfridogioo. Ond y mae byn yn eglur, tod ganddo lu o ddynion cymmhwya i lanw y gwahanol swyddau dynion ydynt wedi profi eu hunain yn gewri fel gwlad arweinwyr- dynion ydynt, hefyd, yn hyder y wlad a dynion gant gydymdeimlad cyffredinol o dan yr amgylchiadau, ac yn eu plith nifer nid anenwog o Gymru, a nifer o honynt; wedi enwogi eu hunain mewn gweinydd- iaethau blaenorH, dan lywyddiad Mr. Glad- stone, ac eraill. Awgrytair yo y wlad y bydd Syr Henry Campbell- Bannerman yn cael ei ddyrchafu i'r Ty uchaf; ond yr wyf yn mawr obeithio y bydd iddo aroH yn Nby y CyfiPrftdin am ddwy flynedd, o'r byn lleiaf, er iddo roddi ei wasanaeth fel Prifweinidog yn y iaaf; o blegid nid oes dadl Dad yn y Ty isaf y bydd mwyaf o alw am ei wasanaeth, nes yatyried a phasio amryw fesurau fyddant yn aicr o gael eu gwrthwynebu byd at waed. Dyna gwestiwn Masnach Rydd, a chweatiwn Addysg, a llu o gweatiynau eraili fydd yn galw am holl arfogaeth y Weinyddiaeth i'w penderfynu yn Nhy y Cyftredin. Y mae y wlad yn mawr obeithio y bydd Isrll Spencer yn cael ei adferyd, hefyd, fel ag i'w alluogi i flaenori y blaid Ryddfrydig yn y ucbaf. Dyna, hefyd, Iarll Roaebery, ac eraill. Yr wyf yn deall fod Iarll Spencer yn llawer gwell mawn iechyd nag y bu ar ol y ddam- wain iddo. Y mae y Prifweinidog wedi gallu arwa'n y blaid Ryddfrydig yn Nb £ y Oyffredin o dan amgylchiadau hynod an- fFafriol yn ystod y blynyddoedd diweddaf, yn hynod lwyddiannua ac mae yr areitbiau a draddodwyd ganddo gyda gallu, nertb, Be argyhoeddiad, yn ystod y flwyddyn bon vedi profi fod ei gorph a'i feddwl yn hoyw ac iach ac y mae wedi ennill poblogr;vydd cyffredino! yn y wlad. Ac os ydym am gael senedd ddigon cryf, ac yn meddu arfwyafrif digonol i'w galluogi i basio y mesurau fyddant yn cael yr ystyriaeth flaenat yn y eenedd, mae bron yn anhebgorol cael y Prif- weinidog yn Nb £ y Cyffredin i arwain y blaid. iT mae Mr. Chamberlain newydd draddodi araeth fawr, danllyd, yn Rhydycbain, nos Wener-aneth y mae yn disgwyl iddi ennill llu o ddysgyblion i bleidleisio dros Ddifiyn- dolliaeth; ac yn ngbanol ei frwdfrydedd wrth anerch y gynnulleidfa gwaeddodd allan nerth ei bon, I G;ill pobl eraill (meddai) logellu eu hargyhoeddiad, ond nid ydych chwi yn meddwl fy mod i yn un o'r cyfryw yn amcanu llogellu fy argyboeddiadau Ar hyny dyna un o'r gwrandawyr yn gwaeddi nerth ei ben, I Y mae eich Ilo-ellau chwi oil yn ilawn eisoes o argyhoeddiadau wedi eu llogellu.' Ac yn un o'r newyddiaduron am heddyw mae digrif-ddarlun ^ur awgrymiadol mewn atte^ ad i sylw yr areithiwr, yn rhoddi darlun o'r mesurau y mae y g*r wedi eu cefnogi yn ei yrfa wleid- yddol. Dyma nhw :-Maspach Rydd, Gwell- iantau yn y Deddfau Tirol er lies y lliaws, Hunanlywodraeth i'r lwerddou, sef senedd yn yr Iwerddon, Tair Acer a Buwch i'r Gweithiwr, a Gwerin-lywodraeth i'r wlad hon a dyma y g*r sydd yn ddigon haerllug, beiddgar, a gwyneb- galed i gyhoeddi ger bron y wlad 'yn ngwyneb haul, llygad goleuni,' nad ydyw ef, Joseph Cham- berlain, erioed wedi bod yn euog o werthu dim un o'r egwyddorion y bu yn credu ynddynt; ac y mae, yn yr araeth fawr hon, wedi bod yn ddi- gon gwyneb galed wrth gyfeirio at y blaid sydd yn lied debyg o gael mwyafrif yn y senedd nesaf i ddyweyd y byddai pob pleidlais a roddir gan yr etholwyr ir Rhyddfrydwyr yn bleidlais dros hunan-reolaeth i'r Iwerddon ac nid annhebyg na byddai yr un g*r, pe cawsai gyfle i fod yn aelod o Weinyddiaeth o'r Undebwyr a'r blaid Doriaidd, na byddai ar y blaen etto i roddi hunan-reolaeth i'r Iwerddon, os byddai hyny yn rhyw fantais iddo i ddriBgo i fyny i ben yr ysgol.

GORUCHWYLIWR ARIANDY.

DINB YC H.

FFAIR Y NADOLIG.

ARDDANGOSIAD AO ARWERTHIANT…

CAERNARFON.

YR YMOSODIAD AR GEIDWAD YR…

Y TWYLL DIWEDDAR YNGLYN A…

YMOSOD AR GEIDWAD YR AFONYDlJf

RHUTHYN.

,1;;-,).. BANGOR.

[No title]

TROSGLWYDDO Y SELIAU.