Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD.

News
Cite
Share

YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD. YMGYNNULLODD aelodau y Blaid Seneddol Gym- reig yn y Devonshire Club, St. James's, pryd- nawn dydd Llun, i ystyried safle y blaid ynglyn & cbweatiwn Dadgyssylltiad, yn ngwyneb y cyf- newidiad Gweinyddiaeth sydd bellach wedi cym- meryd lie. I'r bobl hyny sydd yn hoff o chwilio am gynnen lie nad ydyw, hwyrach nad anfudd- iol fyddai i mi gofnodi y flaith fod cadeirydd y blaid a'r Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George (o blegid dyma ei deitl priodol yn awr) yn hollol gyttuno o bertbynas i'r doetnineb o alw y cyfar- fod. Yr oedd yn bresennol, Syr Alfred Thomas (yo y gadair), Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd- George, y Mri. Herbert Lewis, Herbert Roberts, Ellis Griffith, Samuel Moss, William Jones, Bryn Roberts, Vaugban Davies, Wynford Phil- lipps, Brynmor Jones, Frank Edwards, a Reginald McKenna. Y petb cyntaf a wnaetbpwyd ydoedd pasio pleidlais o gydymdeimlad 3, Mrs. Humphreys Owen, a'r teulu, o blegid marwolaeth y diweddar aelod dros Faldwyn, Cyflwynwyd o'r gadair, a phasiwyd yn unfrydol, benderfyniad o longyf- archiad calonog i Syr Henry Gampbell-Banner- man ar ei bennodiad yn Brifweinido?, ac ar ei waith yn ffurfio Gweinyddiaeth Ryddfrydig gref. Llongyfarchwyd, hefyd, yn y modd mwy- af gwresog, Mr. Lloyd-George ar ei bennodiad yn Llywydd Bwrdd Masnach. Yna aethpwyd yn mlaen i drafod pwngc arbenig yr ymgyfar- fyddiad. Da genym ddyweyd fod cyd-ddeallt- wriaeth unfrydol wedi ei gyrhaeddyd ar y mater, ac y mabwysiedir moddion ar unwaith i gy- hoeddi polisi cenedlaethol Cymr3ig mewn cyn- nadledd gyffredinol i gael ei chynnal yn Nghaer- narfon ar yr 28ain o'r mis presennol. Ystyr yr hyn ydyw, o ddarllen rhwng y llinellau, fod y Blaid Gymreig wedi derbyn sicrwydd boddhaol ar bwngc Dadgyssylltiad gan y Prifweinidog. Yr ydym yn deall na bydd eisieu etholiad acblysurol ynglyn & phennodiad Mr. Lloyd- George, ac eraill o aelodau y Weinyddiaeth, ond yr ettyb y frwydr gyffredinol y tro.

ARGLWYDD ROSEBERY AR Y LLYWODRAETH…

MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN,…

[No title]

[No title]

Y WEINYDDIAETH NEWYDD.

[No title]

Y PRIFWEINIDOG A'R BRENIN.

Y GWEINIDOGION NEWYDD.

TROSGLWYDDO Y SELIAU.