Hide Articles List

10 articles on this Page

YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD.

ARGLWYDD ROSEBERY AR Y LLYWODRAETH…

MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN,…

[No title]

[No title]

Y WEINYDDIAETH NEWYDD.

[No title]

Y PRIFWEINIDOG A'R BRENIN.

Y GWEINIDOGION NEWYDD.

News
Cite
Share

Y GWEINIDOGION NEWYDD. Y PRIFWEINIDOG. Y mae Syr Henry Campbell Bannerman, Llywodraeth newydd yr hwn sydd wedi derbyn cymmeradwyaeth y brenin, wedi bod yn cynnrychioli rhanbarth Stirling er 1868, ac wedi bod yn arwainydd y blaid Rydd- frydig yn Nhy y Cyffredin er Chwefror, 1899. Ganwyd ef yn 1836, a mab ieuengaf y diweddar Syr Henry James Campbell ydyw. Derbyniodd ei addysg yn Mhrifysgol Glasgow, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Y mae wedl bod yn dal swydd fel Ysgrifenydd Cyllidol i'r Swydofa Rhyfel, 1871 i 1874, ac o 1880 f 1882; Ysgrifenydd y Mor lys, o 1882 i 1884; Prif Ysgritenydd yr Iwerddon, 1884 I 1885 Ysgrif. enydd Rhyfel, 1886, a. thrachefn vn 1892 i 1895. Cymmerodd yr enw chwanegol Bannerman o dan ewyllys ei ewythr, y diweddar Henry Bannerman, Honton Court, Kent. ARGLWYDD GANGHELLYDD. Ganwyd Syr Robert Thresie Raid, K. c., yn Corfu, yn 1846, a dychwelwyd ef yn aelod dros Henffirdd yn y flwyddyn 1880, Yn etholiad cyffredinol 1885 safodd dros sir Dam barton, ond gorchfygwyd ef Y flwyddyn ganlynol, modd bynag, dychwelwyd ef yn aelod seneddol drachefn dros ranbarth Dumfries, ac y mae wedi bod yn cynnrychloli yr un rhanbarth byth er hyny. Galwyd ef i fod yn fargyfreith- iwr, Inner Temple, yn 1871, a dyrchafwyd ef i'r faingc farnol yn mhen un mlynedd ar ddeg ar ol hyny. Daeth Syr Robert i Weinyddiaeth Rosebery yn 1891 fel Gyfreithlwr Cyffredinol. Ni ddahodd y swydd hon ond am ychydig o fisoerid; yr un flwyddyn pennodwyd ef yn Ddadieuydd Cyffredinol, fel olynydd i Syr John R gby. Gwnaed ef yn farcbog ya 1894, a daeth yn G. C. M G ya 1899, am ei wasanaoth yn achos cylafareddiad terfyndir Venezuela. YR YSGRIFENYDD CARTREFOL. Y mae Mr. Herbert J. Gladstone, pedwerydd raab y gwladwainydd Rhyddfrydig enwog, yn 51ain ml vydd oed, ac y mae wedi bod yn un o gynnrychiolwyr Leeds er y flwyddyn 1880. Ba yn ysgrifenydd preifat i'w dad, 1880-1; Argl wydd Ieuengaf y Trysorlys, 1881-5; Dirprwy Ddirprwywr Bwrdd y Gweithiau, 1885; VB. grifenydd Cyllidol y Swyddh Rhyfel, 1886 Ia-ysgrifenydd Cartrefol, 1892-4; a Phrif Ddirprwywr y Gweithiau. 1894-5. Pennodwyd ef yn Brif Chwip y Blaid Ryddfrydig yn lie y diweddar Mr. T. E. Ellis. YSGRIFENYDD TRAMOR. Syr Edward Grey, wyr Syr George Grey, yr ail farwnig, a gor-nai yr ail Iarll Grey, y gwladwein- ydd enwog, a anwyd yn Llundain 43.iin o flyn- yddoedd yn ol, ac y mae wedi bod yn cynnrych- ioli Berwick-on-Tweed er y flwyddyn 1885. Bu yn It-ysgrifenydd Tramor o 1892-5, a gwnaed ef yn gvfrin-gynghorwr yn 1902. Efe ydyw cadeir- ydd Cwmpeini Ffordd Hatarn y Gogledd Ddwvr- ain, ac y mae yn un o'r chwareuwyr goreu ar tennis. YSGRIFENYDD TREFEDIGAETHOL Y mae Victor Alexander Bruce, y nawfed Iarll Elgin a Kincardine, yn 56ain mlwydd oed, a daeth i mewn i'r teitl yn 1863. Bu yn Drysorydd y Teulu, a Phrit Ddirprwywr y Gweithiau ya 1886, a Rhaglaw India o 1894-9. YSGRIFENYDD INDIA. Y mae enw Mr. John Morley, mewn cyssylltiad a gwleidyddiaeth a llenyddiaetb, mor hysbys fel nad oes angen ond cofnodiad byr am ei fywyd seneddol. Brodor ydyw o Blackburn. Ei ymgais gyntaf i gael ei ddychwelyd yn aelod eeneddol ydoedd fel un o'r aelodau dros Westminster, yn 1880, tra yr oedd yn 42ain mlwydd oed. Tr6dd yr ymgais hono yn un aflwyddiannus; ond yn mhen tair blynedd ar ol hyny dychwelwyd ef dros Casuewydd-ar-Wysg, yr hon etholaeth a gyn- nrychiolodd, am y deuddeng mlynedd nesaf, Wedi iddo gael ei orchfygu yn yr etholiad eyflred- inol yn 1895, dychwelwyd ef dros ranbarth Mont- rose, vn 1896, a thrachefn yn 1900. Efe cedd Prif Ysgrifenydd yr Iwerddon yo nhrydeddgwein- yddiaeth Mr. Gladstone, a chymmerodd yr un swydd drachefn yn 1892. CANGHELLYDD Y DRYSORFA. Brodor o Morley, sir Gaerefrog, ydyw Mr. Herbert Henry Asquith, a chafodd ei eni yn 1852. Dychwelwyd ef i Dy y Oyffredin, i ddeohreu, yn etholiad gyffredinol 1886, ac y mae wedi cyn- nrychioli yr un etholaeth (Dwyrain Fife) byth er hyny. Yr oedd, trwy ei yrfa lwyddiannus yn Rhydychain, a'i lwyddiant fel bargyfreithiwr, wedi gwneyd enw iddo ei hun, cyn iddo gael ei ddychwelyd i'r senedd, ac yr oedd rhagfynegiadau ei gyfeillion gyda golwg ar y marc oedd yn debyg o adael ar y byd gwleidyddol yn cael eu cyfiawn- hau yn brysur. Nid oedd wedi bod yn y senedd ond am chwe blynedd, pan y pennodwyd ef yn Ysgrifenydd Cartrefol yn ngweinyddiaeth olaf Mr. Gladstone, swydd y parhaodd efe i'w dal pan y daeth Arglwydd Rosebery yn Brifweinldog. Ar 01 cwymp gweinyddiaeth Rosebery, ail ymaflodd Mr. Asquith yn ei ddyledswyddau fel bargyf- reithiwr. Cymmerodd ran fywiog yn y dadleuon ar Fesurau Addysg y Llywodraeth ddiweddar 3e y mae ei areithiau diweddar yn y wlad yn erbyn cynnygion cyllidol Mr. Chamberlain wedi chwan- egu llawer at ei enw da. PRIF ARGLWYDD Y MORLYS. Y mae Edward Majoribanks, ail fab Barwn Tweedmouth, yn ei 57&in flwydd o'i oedran. Dychwelwyd ef yn aelod seneddol yn 1890, fel aelod dros sir Berwick. Yr oedd yn Rheolwr y Teulu yn 1886, Ysgrifenydd Seneddol i'r Trysor, lys a Phrif Chwip y Rhyddfrydwyr yn 1892-4- ao Arglwydd y Gyfrin Set, a Changhellydd Duc- iaeth Lancaster, 1894-5. Dyrohafwyd ef i Dy yr Arglwyddi yn 1894. Bydd i Arglwydd Tweedmouth, yn bresennol, ymgymmeryd a'r arweinyddiaeth yn Nby yr Ar- glwyddi, gan fod afiechyd Iarll Spencer, yn an- ffodus, yn ei luddias i gyflawni y ddyledswydd hon. PRIF YSGRIFENYDD YR IWERDDON. Y mae Mr. James Bryce, yr hwn a anwyd yn 1838, wedi bod yn y'senedd er 1880-1 ddeobreu fel aelod dros Tower Hamlets, ac er 1885 dros Aberdeen. Fel Mr. Morley, y mae wedi ennill gryn enw iddo ei hun mewn gwleidyddiaeth a llenyddiaeth. 0 1870 i 1893 bu yn Broffeswr y Gyfraith Wladol yn Mhrifysgol Rhydychain; Yn 1886 y cafodd ef ei brofiad seneddol cyntaf, pan y bu yn Is-ysgrifenydd 'Iramor am bum mis. Yn 1892 gwnaeth Mr. Gladstone ef yn Ganghellydd Daciaeth Lancaster, gyda sedd yn y Weinydd- iaeth; ac yn mhen dwy flynedd ar ol hyny pen- nododd Arglwydd Rosebery ef yn Llywydd Bwrdd Masnach. LLYWYDD BWRDD MASNACH. Y mae Mr. D. Lloyd George wedi gwneyd enw iddo ei hun fel un o'r dadleuwyr seneddol goreu, ac fel areithiwr ar yr esgynlawr. Oafodd ei eni yn Manchester, yn 1863; dygwyd ef i fyny yn hollol yn Nghymru, ac mewn Rhyddfrydiaeth ac Y mneillduaeth Gymreig. Nid oedd ond dwy flwydd ar hugain oed pan y daeth allan fel ym- geisydd, ao yr ennillodd fwrdeisdrefl Caernarfon i'r Rhyddfrydwyr; ao er iddo, mewn etholiadau ar ol hyny, gael ei wrthwynebu gan y gwrthwyn- ebwyr cryfaf a alleaid eu sicrhan, y mae wedi dal y eedd yn barhaus. Gwnaeth Mr. Lloyd George argraph, i ddeohreu, fel dadleuydd di-ofn dros hawliau cenedlaethol i Gymru, yn gystal ag i'r Iwerddon ac Ysgotland; ae y mae yn parhau i ffafrio y cynllun i leihau y gwaith yn Westmin- ster trwy gael cynllun o Ymreolaeth oyflawn. Ar ol marwolaeth Mr. T. E. Ellis, I Parnell Cymru,' daeth Mr. Lloyd George i'r ffrynt, mewn modd Ct flym, fel gobaith newydd y Cenedlaethol- wyr Oymreig. Ni ddarfu iddo modd bynag, gyfyngu ei ddyddordeb i Gymru. Trwy ei bresen- coldeb oysson yn Westminster, a'r astudiaeth fwyaf gofalus o reolau y Ty, daeth yn felstr cyd- nabyddedig mewn cario gwaith seneddol yn mlaen. Yn y wlad, yn ystod y blynyddoedd diweddar, y mae ei enw wedi dyfod i fwy o fri yn barhaus fel dadleuydd dros egwyddorion Rhyddfrydig; ac yn y maea hwn, yn ystod rhai o'i ddyddiau tywyllaf, y mae wedi estyn i'w blaid wasanaeth o'r radd uchaf, Yn ddiweddar y mae wedi rhoddi gryn lawer o'i amser i astudio Cyfreithiau Addyeg y Llywodraeth ac efe oedd yn gyfrifol am drefnu a chyfarwyddo y gwithryfel Cymreig, amcan pa un, trwy weithredu mewn modd medrus, ydoedd attal i vsgolion yr Eglwya gael eu cynnal o'r tretbi. Bedyddiwr ydyw Mr Lloyd Gesage, ao edrychir arno yn y Weinyddiaeth fel yn cyn- nrychioli buddiannau Ymneillduol Saesnig a Ohymre!g. ARGLWYDD LYWYDD. Bydd Arglwydd Creae yn 48ain mlwydd oed ar y 12fed o lonawr nesaf. Mab ydoedd i Arglwydd Houghton, yr ysgrifenwr a'r gwleid. yddwr, a ddygodd y teitl hwnw o 1886 i 1895, pan y crewyd ef yn Iarll Crewe. Yr oedd ei fam yn ferch i ail Farwn Crewe, a daeth Crewe Hall, ger Crewe, yn gystal a'r palas y trigian- nai ei dad yn agos i Fryeton, yn Ngorllewin sir Gaerefrog, yn etifeddiaeth iddo. Y mae yn fab yn nghyfraith i Arglwydd Rosebery; ac yr oedd ei briodas gyda Lady Margaret Primrose yn un o'r digwyddiadau cymdeithaso! yn 1899. Bu Iarll Crewe yn ysgrifenydd preifat cyn. northwyol i Iarll Granville yn 1883 4, tra yr oedd Arglwydd Granville yn Ysgrifenydd Tramor ac yn 1886 yr oedd yn At glwydd Dis. gwyl i'r Frenhines. Yn y Llywodraeth Rydd frydig ddiweddaf yroedd yn Arglwydd Raglaw yr Iwerddon. Y POSTFEISTR CYFFREDINOL. Ganwyd Mr. Sydney Buxton yn 1853. Bu yn aelod o Fwrdd Yegol Llundain o 1876 i 1882. Dychwelwyd ef yn aelod seneddol droa Peterborough ya 1883; gorchfygwyd ef yn etholiad 1885; ac y mae wedi cynnrychioli Poplar er y flwyddyn 1886. Hn yn Is-ysgrifen- ydd y Trefedigaethau ar hyd tymmor y wein- yddiaeth Ryddfrydig ddiweddaf. Gwnaeth enw iddo ei hun yn gynnar yn y byd gwleid- yddol trwy ei Handbook to Political Questions.' LLYWYDD BWRDD ADDYSG. Nid ydyw Mr. Augustine Birrell, K.c., yn y senedd yn bresennoJ; ond disgwylir yn hyder- us y bydd iddo ennill sedd yn Bristol yn yr ethollad gyffredinol. Safodd yn ymgeisydd droa Oerledd-ddwyrain Manchester yn 1900, oud nl chafodd ei ddyehwelyd. Er yr adeg hono y mae wedi estyn gwasanaeth mawr i'w blaid fel cadeirydd y Cynghrair Rhyddfrydig Cenedl. aethol. LLYWYDD BWRDD Y LLYWODRAETH LEOL. Mr. John Burns ydyw yr arweinydd Llafur cyntaf a ddyrchafwyd o'r safle o aelod preifat i fod yn aelod o'r weinyddiaeth. Gwasanaeth- odd el amser fel prenfcis o beiriannwr, ac y mae wedi dilyn ei alwedigaebh mewn gwahanol ranau o'r byd. Cymmerodd ran flaenllaw yn Nghymdelthas Unedig y Peiriannwyr, ac yr oedd yn arweinydd yn streic mawr y doc yn 1889. Y mae wedi bod, hefyd, yn un o aelodau mwyaf blaenllaw Cynghor Sirot Llundain. CANGHELLYDD Y DDUCIAETH. Y mile Syr Henry Fowler, yr hwn sydd yn 75^ mlwydd oed, wedi bod yn cynnrychioli Wolverhampton yn y senedd er 1880. Bu yn Is ysgrifenydd Cartrefol yn 1884 5, ac ya Ysgrifenydd Cyllidol i'r Trysorlys yn 1886. Pan ffurfiwyd y Llywodraeth Ryddfrydig yn 1892, pennodwyd ef yn Llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol, gyda sgdd yn y weinydd- iaeth, ac yn 1894 daeth yn Ysgrifenydd India. YSGRIFENYDD RHYFEL. Galwyd Mr. R. B. Haldane yn fargyfreith- iwr yn 1879, a daeth yn Ddadieuydd y Fren. hines yn mhen un mlynedd ar ddeg ar ol hyny. Yn y cyfamser-yn 1885 -etholwyd ef dros sir Haddington; ac y mae wedi bod yn cynnrychr ioll yr echolaeth hono byth er hyny. YSGRIFENYDD YSGOTLAND. Y mae Mr. John Sinclair yn ysgrifenydd preifat i'r Prifweinidog. Fel dyn ieuangc gwasanaetbodd yn Ngadgyreh Suakim yn 1885, a daeth yn gadben ar y Lancers Gwyddelig Brenhinol. Bn yn gadweinydd i Iarli Aberdeen, pan yr oedd yr olaf yn Arglwydd Raglaw yr Iwerddon, ac yn ysgrifenydd lido, tra yr oedd yr la n ya Rhaglaw Cyffrediriol Canada. Safodd yn ymgeisydd dros Ayr yn 1886, ond nl ddy. chwelwyd ef; ond y mae wed! bod yo cynnrych- ioli air Dumbarton (1892 6), a sir Forfar (er 1897). Ba am dair blynedd yn aelod o Gy nghor Sirol Llurtdaln. Y mae yn un o'r Chwiplan Rhyddfrydig. ARGLWYDD GANGHELLYDD IWERDDON. All ymafla yr Arglwydd Farnwr Walkar yn y swydd o Arglwydd Ganghellydd yr Iwerddon, yr hon a ddaliodd o 1892 1 1895. Nid ydyw y swydd yn awr yn car!o tedd yn y weinyddiaeth tel yr oedd yr Arglwydd Ganghellydd dros Iwerddon yn weinyddiaeth sydd newydd fyned allan o swydd. ARGLWYDD Y GYFRINSEL. Y mae Ardolydd Ripon yn 78ain mlwydd oed. Cafodd ef el ddychwelyd yn aelod seneddol mor bell yn ol a'r flwyddyn 1852; daeth i mewn i r teitl o Iarli Ripon yn 1859, ajjjdyrchafwyd ef yn ardalydd yn 1871. 018M i 1866 bu yn lienwi y swyddi o Is-ysgrifenydd Rhyfel, Is, ysgrifenydd Iodfa, Ysgrifenydd Rhyfel, Ysgrif- enydd India. Yn ngweinyddiaeth Mr. Glad' stone yr oedd yn Argl-ydd Lywydd y Cynghor (1868 73). Ar ddychweliad Mr. Gladstone I awdurdod yn 1880 hl1 yn Rhaglaw India am bedair blynedd. Yn 1886 yr oedd yn Brif Arglwydd y Moriys; ac o 1892 I 1895 ba yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. ARGLWYDD RAGLAW YR IWERDDON. Gwasanaethodd Iarll Aberdeen fel Arglwydd Raglaw yr Iweiddon o dan Lywodraeth Ryddfrydig o lonawr i Mehefin, 1886, Yn 1893 pennodwyd ef yn Llywodraethwr Cyffred" lnol Canada, a daliodd y swydd hono hyd 1898. Y mae yn Arglwydd Raglaw air Aberdeen, a bu yn Uchel Ddirprwywr i'r Gymmanfa Gyffredlno'1 yn Eglwys Ysgotland. Y mae wedi cymmeryd rhan flaenllaw, hefyd, ar yr esgynlawr gyhoeddns. PRIF DDIRPRWYWR Y GWEITHIAU. Y mae Mr. L. V. Harcourt yn fab i'r diwedd' ar Syr W. Harcourt. Y mae wedi cynnrychioli rhanbirth Rosssndale, ar ol ymneillduad Syr William Mather y flwyddyn ddiweddaf; ac y mae wedi gwneyd gwasanaeth da I Ryddfryd* jaeth mewn rhanau eraiil o'r wlad.

TROSGLWYDDO Y SELIAU.