Hide Articles List

10 articles on this Page

YR AILODAU CYMREIG A DADGYSSYLLTIAD.

ARGLWYDD ROSEBERY AR Y LLYWODRAETH…

MARWOLAETH MR. HUMPHREYS OWEN,…

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Trwst dynesiad yr etholiad cyffredinol.-Nid oes ammheuaeth erbyn hyn na fyddwn yn nghanol berw etholiad cyffredinol ar fyrder; mae nerth trwst ei ymdaith ar ein clustiau yn brawf digonol ei fod wedi dyfod yn lied agos atom. A'r ymofyniad yn meddwl pawb yn awr ydyw, Beth lydd y canlyniad ? Gan nad pa mor ddisglaer hynag oedd rhagolygon y blaid Ryddfrydig rai wythnosau yn ol, tueddu i gym- mylu y maent fei yr ydym yn myned rhagom. Barn llawer ydyw mai y peth doethaf i Syr H. Campbell-Bannerman fuasai gwrthod derbyn swydd Prifweinidog, nac ymgymmeryd a ffurfio gweinyddiaeth, heb gael dadgorphoriad ac ethol- iad cyffredinol yn gyntaf, ac y mae y llwybr a gymmerwyd gan Mr. Balfour yn eu cadarnhau yn nghywirdeb y farn hono ond bydded a fyddo am hyny, derbyn y swydd a wnaeth C. B., gan gredu, yn ddiau, mai hyny oedd oreu er ei les. Myn y rhai y cyfeiriais atynt na fydd yn hir cyn cael ei argyhoeddi ddarfod iddo wneuthur cam- gymmeriad. Achwyn arno a glywir hefyd o'r un cyfeiriad am ail godi bwgan yr Ymreolaeth Gwyddelig, canys efe a gyll lawer trwy hyny, heb ennill dim. Ond camachwyn ydyw hwnw. Mae ei ddistawrwydd ef, yn gystal ag eraill o flaenoriaid y blaid Ryddfrydig, ar bwngc Dad- sefydliad a Dadwaddoliad yn Nghymru yn peri i ni y ffordd yma ofni nad oes fwriad i wneuthur nemawr ddim i Hen Wlad y Bryniau yn amgen na'i gosod i eiatedd o'r bu cefn, a pheri iddi fod yn ddistaw am ei hachos, cyhyd ag y byddo gwaitb arall yn cael ei ddwyn yn mlaen. Mau rhoddi swydd i Mr. Lloyd-George o fewn y Weinyddiaeth ei hun yn ddigon o atteb I'r en- syniad hwn. Ond afreidiol ydyw manylu ar bethau heddyw. Nid ydyw y sibrwd fod cyn- nrychiolwyr Llafur yn amcanu encilio yn llwyr oddi wrth y blaid Ryddfrydig, ynghyd Ar am- rywiaeth barn hbnedig yn mhlith gwyr blaenaf y blaid, yn meddu nemawr sail, os dim, sôn am argoelion amlwg nad oes genym sail i ddiagwyl rhyw lawer oddi wrth y Llywodraeth nesaf etto, er iddi fod yn Llywodraeth Ryddfrydig. Yn wir, yn hytracb, diagwylir llawer, hyd yn oed i Gymru, oddi wrth Lywodraeth mor gref a'r newydd hon. Ond rhaid caniatau amser iddi. Rhaid penderfynu Cwestiwn Addysg yn Nghymru, er engbraifft, yn gyntaf. Nid wyf yn cael fod y brwdfrydedd a'r aiddgarwch yn fawr yn y parthau hyn etto. Dichon fod rhe- swm neillduol am dawelwch y Rhyddfrydwyr yn y darn hwn o'r wlad sef, cyflwr di-obaith y Toriaid i allu gwneuthur dim o honi yn yr etholiad nesaf. Y sefyllfa yn Gower.- Mae yn argoeli bod yn ymdrechfa galed yn Rhanbarth Gower rhwng yr ymgeisydd Bhyddfrydig a'r ymgeisydd Llafur ac fe ddywedir yn awr fod Mabon, ar ol deall pob peth ynglyn a'r sefyllfa, wedi addaw gwneuthur yr oil a fedro efe o blaid y Llafurwr yn erbyn y Rhyddfrydwr. 0 ran y ddau ym- geisydd sydd eisoes ar y maea, tebygwyf na fydd o nemawr bwys i'r wlad pa un o honynt a ddy- chwelir, gan fod y naill a'r Hall wedi eu gwneu- thur o'r un priddyn ond fe all y ffrwgwd rhyngddynt demtio Tori i ddyfod i'r maes, a rhoddi cyfleusdra iddo lithro i mewn rhwng y ddau. Toriaid Abertawe yn chwilio am ymgeisydd. -Mae Torlaid tref Abertawe yn brysur iawn yn chwilio am ymgeisydd i wrthwynebu Syr George Newces. Y blaenaf a fynent gael ydyw Syr Griffith Thomas, cadeirydd yr Harbour Trust; ac os methant gydag ef, y maent yn meddwl am y Milwriad Wright, cadeirydd Doc- iau Aberafan (Port Talbot). Dichon fod gwell siawns i Dori yn nhref Abertawe nag sydd mewn llawer o etholaethau yn y Deheudir. Plaid Llafur yn achosi blinder yn Nghas- newydd.-Mae tebygolrwydd yr awrhon y bydd ethoiiad tri-chornel yn Nghasnewydd, o her- wydd fod plaid Llafur yn dwyn allan un Mr. Winstone i wrthwynebu y ddau ymgeisydd sydd eisoes ar y maes. Os a Mr. Winstone, yr ym- geisydd Llafur i'r pdl, efe a berygla yn fawr ddy- chweliad Mr. Lewis Haslam, yr ymgeisydd Rhyddfrydig. Nid llawer o'r -gweithwyr sydd yn Doriaid yn Nghymru a'r cyffiniau, a'r ychyd- ig sydd y maent yn weddol sicr o sefyll at eu hochr. Y Rbyddfrydwyr a gaiff y niwed mwyaf oddi wrth y Llafurwyr Annibynol. Yr ymgeisydd Ceidwadol yn Mwrdeisdrefi Penfro wedi ymddiswyddo. Dydd Mawrth derbyniodd Pwyllgor Gweithiol Cymdeithas Geidwadol Bwrdeisdrefi Penfro ymddiswyddiad Mr. R. Mainwaring, eu hymgeisydd ar gyfer yr etholiad nesaf. Fe ddywedir na fu Mr Main- waring ar unrhyw adeg yn ymgeisydd cryf ac mewn canlyniad i rhyw ddadganiad annoeth a wnaeth efe yn Ninbych-y-Pysgod beth amser yn ol, am bolisi y Llywodraeth mewn perthynas i'r Dock Yard, yr oedd yn amlwg y byddai pleidlais yr iard hono yn lied gyfan yn ei erbyn ef. Felly, efe a farnodd mai y peth goreu iddo oedd ymddiswyddo a thebygol fod y pwyllgor yn falch o gael cyfleusdra i dderbyn ei ymddi- swyddiad. Etholaeth anwadal ei gwala ydyw Bwrdeisdrefi Penfro wedi arfet bod ond y mae y Toriaid ynddi ar hyn o bryd mewn cyflwr digon digalon i feddwl am sefyll brwydr. Yr olwg gyffredinol ar bethau yn y Deheudir. âNi wyddom beth a fydd yfory mat un dydd weithiau yn esgor ar gyfaewidisdau mawrion. and cyn belled ag y geUir barnu oddi wrth yr olwg ar bethau yn bresennol, caiff nifer mawr o'r Rhyddfrydwyr yn Neheudir Cymru, ac fe allai y nifer mwyaf o honynt, eu dychwelyd yn ddiwrthwynebiad, Nid oes dim argoel y bydd un ymdrechfa etholiadol yn sir Gaerfyrddin, na chwaneg na hyny o argoel y bydd ymdrechfa yn yr oil o etholaethau Morganwg. Ymddengys fod y Ceidwadwyr dan ddyltnwad crediniaeth mai eu nerth hwy am y tro hwn ydyw bod yn llonydd. Eithr fel y dywedwyd, nid da bod yn sicr cyn yr amser, gan na wyddis beth a ddichon ddyfod i'r golwg ar yr unfed awr ar ddeg. Hanes blin o Nantyffyllon.-Yn Nantyffyllon, Maeateg, yn bwyr dydd Gweoer, cafwyi Eliza- beth Barnes, 26ain mlwydd oed, gwraig Charles Barnes, Heol tonna, glowr, yn farw ar y gwely. Yr olaf a'i gwelodd hi yn fyw oedd ei gwr, pan aeth efe allan i'w waith am chwech o'r gloct y boreu hwnw wedi iddo fyned allan hi a glddd y drws at ei ol ef. Pan ddychwelodd yn yr bwyr, a chael y drws yn ngblô, a methu o hono gael attebiad, efe a wthiodd y drws yn agored. Wedi myned i mewn cafodd ei wraig wedi ym- wisgo yn gyflawn, ac yn gorwedd yn farw ar y gwely. Dywedai Dr. Poterfield, pan ddaeth i'w I gweled, y rhaid ei bod wedi marw er's deng awr neu chwaneg na hyny. Yn llechu wrth ei hochr yr oedd baban saith mis oed, a baban arall dwy flwydd oed yn cysgu yn y gwely. Gan na sylw- odd neb o'r cymmydogion fod dim allan o le bu y rhai bychain heb ddim gofal drostvut, ac heb ddim bwyd, trwy ystod y dydd.

Y WEINYDDIAETH NEWYDD.

[No title]

Y PRIFWEINIDOG A'R BRENIN.

Y GWEINIDOGION NEWYDD.

TROSGLWYDDO Y SELIAU.