Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

FFRAINGC A JAPAN.

News
Cite
Share

FFRAINGC A JAPAN. OOLLED annhraethadwy fawr i Ffraingc a fuasai ymadawiad y cryf, y gallaog, y cyfar- wydd, a'r pwyllog M. DBLCASSE o'i Swyddfa Dramor. Nid oes o fewn Ewrop ddiplom- ydd wedi annill uwch cymmeriad nag ef Yn y modd mwyaf dibetrus y gellir dyweyd na bu y Weriniaeth Ffrengig o leiaf yn cael ei gwasanaethu gan ei amgenach yn ystod ei holl hanes. Yr ydym yn hyderu yr erys efe yn ei swydd i weled terfyn a chwal ar y cwmwl sydd wedi cyfodi rhwng ei wlad a Japan. Dylem ddyweyd ar unwaith mai nid yr helynt hwn arweiniodd i'w ymddiswyddiad, eithr, yn hytrach, y miri ffol sydd wedi ei godi gan yr Ymher- awdwr WILLIAM o'r Almaen a'i gynghoriaid ynglfn & Morocco a beryglodd y golled anadferadwy hon i FfraiDgc. Ymddengys fod M. DELCASSE yn ammhoblogaidd yn Berlin er's peth amser, ac ami gais sydd wedi ei wneyd gan ei gwladweinyddion hi ar hyd y blynyddoedd i'w fwrw ef o'r awdurdod. Ar bwngc Morocco cododd anghydwelediad a dadl gref rhyngddo ef & changhellydd yr ymherodraeth Almaenaidd, y Count VON BULOW ac hwyrach ei fod ef, o herwydd hyny, wedi ei ddwyn i deimlo y gallai cyd-ddealltwriaeth rhwng ei wlad a'r Almaen gael ei ddwyn oddi amgylch yn fwy rhwydd pe y ciliai efe i neiliduaeth. Ond nis gall ei gydwladwyr lai na theimlo yn ddigofas pan y meddyliant fod ei ymneilldnad wedi ei ddwyn oddi amgylch trwy ddylanwad yr Almaen, a llawen- ychn am ei fod ef wedi newid ei feddwl, a phenderfynu aros, fel y cawn ddangos yn yr erthygl sydd yn dilyn. Rhwng Ffraingc a Japan, hefyd, y mae flyrnigrwydd teimlad wedi ei gynnyrchu ond yr hwn, ni a fawr hyderwn, a fydd yn cael ei leddfu a'i liniaru gan ddiplomydd- iaeth ddoeth o bob tn. Gwaith y Hynges- ydd Rwssiaidd ROJHDESTVENSKY yn cadw ei lynges yn Mau Kamr.nh, ar lanau Cochin China, tiriogaeth y Ffrangcud yn y Dwyrain Pell, am fwy na'r amser a ganiateirmewnadegoryfelgan y deddfau cyd-genedlaethol ydyw yr achos o'r drwg- deimlad hwn. Pedair awr ar hugain y caniateir i longau gwlad a fyddo mewn rhyfel a gwlad arall i aros yn mhorthladd- oedd gwlad a fyddo yn proffesu ammhleid garwch rhwng y ddwy blaid. Ond caniatawyd i ROJHDESTVENSKY aros am ddyddiau ar y goror a enwyd gan yr awdurdodau Ffrengig. Mewn canlyniad, y mae sefyllfa pur anhawdd,' yn ol un disgrifiad, ac I un a all droi alJan yn setyllfa fygythiol,' yn ol disgrifiad arall, wedi cyfodi rhwng Ffraingc a Japan o herwydd hyn. Nid un rhy galed i ddiplomyddiaeth ddoeth y ddwy wlad ei gorchfygu, modd bynag, ni a fawr hyderwn. Dywedir fod y gwrth dystiad sydd wedi ei anfon gan Japan i Ffraingc yn un ag sydd wedi ei dynu allan, fel y gallasem ddisgwyl, yn yr iaith fwyaf moesgar; ond ar yr un pryd, fe'n sicrheir ei fod yn un cryf a chlir, a'r amgylchiadau ydynt yn gyfryw fel nas gellir oedi rhoddi atteb terfynol buan iddo. Yr ydym yn barod i gredu fod Llywodr- aeth Ffraingc yr un mor barod a Llywodr- aeth Japan i osgoi pob peth anhyfryd mewn achos o fath hwn, er maint ei chyfeill- garwch â Rwssia. Nis gallwn lai na chredu ei bod hi mor awyddus ag yr ydym ninnau yn Mhrydain, er enghraifft, i gytiawni ei dyledswyddau fel gwlad yn proffesu am- mhleidgarwch. Byddai yn chwith genym feddwl Am dani yn amgenach, yn enwedig pan y cofiom fod y gwladweinyddion Ffrengig yn rhwym o fod yn gwybod ar ba ganlymadau y gallai troseddiad ar ddeddfau ammhleidg.¡.rwch ar ran Rwssia o'i thu 9lwain; sef, gorfodi Prydain, o dan ei chyttundeb â Japan, i gymmeryd ei rhan yn y cweryl. Ymgyfarfu Gweinyddiaeth Ffraingc dydd Gwener y Groglith. Nid oes air pendant a swyddogol etto o hanes yr ymgynghoiiad wedi ei gyhoeddi. Ond anhawdd genym gredu na ddarfu i'r Wein- yddiaeth Ffrengig benderfynu ar rywbeth a fydd yn atteb boddhaol i Japan; o'r hyn lleiaf, ar hyn o bryd. Y sibrwd ydyw-a hawdd genym gredu fod sail iddo-fod gwefreb wedi ei hanfon o'r cyfarfod i'r awdurdodau Ffrengig yn y Dwyrain Pell i'w gorchymyn i ddyweyd wrth ROJHDEST- VENSKY a'i lynges, mewn modd dinacad, am 'symmud yn eu blaenau.' Ac nid i'r awdurdodau Ffrengig yn unig yr anfonwyd 'gair, yr ydym yn deall. Anfonwyd at For- lys Rwssia yn St. Petersburg, hefyd, i ddyweyd mai nid dymunol ydyw i'w lynges aros yn hwy yn y dyfroedd Ffrengig, ac y galhi hyny arwain i flinder. Yneinherthygl nesaf gwelir fod hyn yn csel ei gsdarnhitu. Wrth gwrs, y mae hyn yn dra boddhaol. Tuedda i dawelu y meddyliau ag oeddynt yn prysur fyned yn gythryblus. Ynglyn a hyn gallwn chwanegu y sibrwd mai yr hyn a anfonwyd gan y Morlys Rwssiaidd at ei lyngesydd ydyw mai gwell a fyddai iddo I symmnd yn mlaen.' Nid dyma yn hollol yr hyn yr oedd gan Lywodraeth Ffraingc hawl i'w ddisgwyl oddi wrth Rwssia. Dim ond dyweyd wrtho mai 'gwell a fyddai iddo symmud yn miaen,' yn wir Ei orchymyn, yn hytrach o lawer. Anfon ato i ddyweyd yn bendant ac anghamsyniol, Dos o Fau Kamranh ar unwaith A hyny am fod deddfau y cenedloedd yn galw am iddo fyned oddi yno. Nid mater o ddewisiad i'r Llyngesydd ROJHDESTVENSKY a ddylasai y peth fod. Ein hunig esboniad ni ar y ffaith fod Ffraingc yn barod i oddef y dull ammharchus hwn o atteb ei chais ydyw nad yw ei syniadau hi am ammhleidgarwch mewn adeg o ryfel mor uchel, neu mor glir a chyflawn, ag ydyw yr eiddom ni. Y syniad Prydeinig, fel yr ydys eisoes wedi awgrymu, ydyw mai pedair awr ar hugain ydyw hyd hwyaf yr amser y gellir caniatau i lestri pleidiau mewn rhyfel i aros yn nyfr- oedd gwledydd yn proffesu ammhleidgarweh. Dyma y ddeddf Brydeinig. Y rheol a'r ysbaid hwn a fabwysiedir, hefyd, gan Unol Dalaethau yr America, yr Aipht, China, Denmarc, yr Ysweden a Norway, a chan Japan a Rwssia en hunain yn ogystal, bytb er y flwyddyn 1898. Hyny ydyw, dyma. y rheol gyffredinol. Ond nid ydyw Ffraingc na'r Almaen wedi ei mabwysiadu. Am ba resymau nis gwyddom; ond, dyna y ffaith. Y mae Rwssia yn ddigon diegwyddor ar unrhyw adeg. ac yn enwedig mewn argyfwng o fath yr un presennol yn ei hanes, i gymmeryd mantais ar waith Ffraingc yn peidio mab-1 wysiadu deddf neu reol sydd wedi ei mab- wysiadu ganddi hi, i godi y ddadl nad j* ydyw ei llyngesydd, wrth aros mwy na diwrnod yn moroedd Ffraingc, yn tori yr un o ddeddfau Ffraingc. Ond y mae y rheolau Ffrengig, er yn llaca ar bwngc yr amser, yn bendsnt yn gwahardd i unrhyw borthladd Ffrengig i gael ei ddefnyddio fel sylfaen i gario yn mlaen weithrediadau rhyfelgar ynddo neu o hono, nac i ennill cyfleusdra i gael gwybodaeth am y gelyn, neu i chwanegu yr adnoddau rhyfelgar mewn dynion, defnyddiau, ac ystorfeydd, oddi gerth yr hyn a fyddo yn anhebgorol angen- rheidiol er cynnaliaeth y dynion, neu i fordwyo y llongau yn effeithiol. Oyhuddiad y Japaniaid ydyw fod llynges Rwssia J yn cymmeryd mantais er y cyfleusdra a g&nt trwy aros yn nyfroedd Ffraingc i ymbarotoi chwaneg ar gyfer yr ymdrechfa;' ac at hyn chwanega cynnrychiolydd Japan:—'Nid ydym ni yn myned i gydnabod y dull hwn o weithredu.' Pe net fuasai llestri Rwssia yn bwriadu ymladd, medd y cynnrychiolydd Japanaidd, ni fuasai raid cymmeryd sylw o honynt; 'ond fel y mae pethau yn sefyll yn awr, y mae- llongau y Llyngesydd ROJHDESTVENSKY mewn ffordd yn gwneyd Bau Kamranh yn sylfaen i'w gweithred- iadau.' Nid oes ammheuaeth erbyn hyn mai y golygiad Japanaidd ar y sefyllfa a gymmerir yn llawn gan y Llywodraeth Ffrengig hefyd ac o herwydd y cydolygiad hwn, yn ddiau, y mae hi wedi gorchymyn i'w ehyn- nrychiolwyr yn j Dwyrain Pell i ddyweyd wrth ROJHDESTVENSKY a'i lynges am symmud yn eu blaenau. Ond beth os mai gwrthod ufuddhau a wna y llyngesydd Rwssiaidd cyndyn ? Gwyddis mai creaduryn cyndyn ydyw efe. Hyd yn oed yn ei Lywodraeth ei hun nid yw efe yn malio nemawr. Tybier ei fod yn dirmygu y gorchymynion a dderbynia oddi wrth ei Lywodraeth ei hun, yn ogystal a'r awdurdodau Ffrengig. Ni byddai hyny ond y peth a wnaed ganddo pan oedd efe yn torheulo ar ororau Madagascar. Nid ydym yn sicr na thros- eddodd y Ffrangcod beth ar gyfreithiau y teyrnasoedd wrth adael iddo aros yno cyhyd. Nid oedd yn werth gan y Japan- iaid, modd bynag, wneyd helynt tra yr ydoedd efe a'i lestri mor bell oddi wrthynt. Y mae yr amgylchiadau yn wabanol erbyn hyn. Y mae efe erbyn hyn ar finion eu gwlad hwy eu hunain. Os oeddynt yn dawel tra yr ydoedd efe ar lanau yr ynys fawr Affricanaidd nis gallant foddloni er iddo gael lloches anghyfreithlawn yn Mau Kamranh. Ac nid gwrthdystiad geiriol, yn ol pob tebyg, a fydd yr unig beth a wnant hwy yn awr. Os rhydd awdurdodau y Weriniaeth orchymyn i'r llynges Rwss- iaidd fyned o'r Bau, a bod Llywodraeth Rwssia yn gwneyd yr un peth, ond y Llyngesydd ROJHDESTVENSKY, er hyny, yn gwrthod symmud cam allan o'r noddfa, pa beth wed'yn ? Nis gallwn gyda sicrwydd ddyweyd pa beth a ddichon ddigwydd. Gallwn ddyfalu. Rhoddai Llywodraeth Japan orchymyn i'r Llyngesydd TOGO gymmeryd achos y llyngesydd cildynus mewn Haw. Yntau a gymmerai ei ffordd ei hun; ond, teimlwn y bydd hono yn sicr o fod yn ffordd nas gall Ffraingc, fel gallu canolog, godi gwrthwyn- ebiad yn ei herbyn. Ond, yn hyn y mae y perygl; ac yr ydym yn edryeh yn mlaen gyda'r pryder mwyaf at ddadblygiadau yr ychydig ddyddiau nesaf. Dywedir yn un o newyddiaduron Paris fod y Gweinidog Tramor Prydeinig wedi anfon llythyr cryf i Weinidog Tramor Ffraingc ar ol y llythyr a dderbyniodd efe (Arglwydd LANSDOWNE) oddi wrth Lywodraeth Japan.

Y CYMMYLAU YN CHWALU.

DAMWAIN AR Y FFORDD HAIARN…

XVII.—SYR GEORGE NEWNES.

AMGUEDDFA A LLYFRGELL GENEDIJAETHOL…

TRA MOB.