Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
GORFOLEDD GWERSYLL BACCHUS.
News
Cite
Share
GORFOLEDD GWERSYLL BACCHUS. PRYDNAWN wythnos i heddyw gwelid rhes o wynebau cochion graenus yn oriel y dy- eithriaid yn Nby y Cyffredin. Darllawyr, bfagwyr, a. thafarnwyr oeddynt wedi dyfod yno i wrandaw ar eu mesur arbenig hwy yn cael ei gyflwyno. Nid gan y Prifwein- idog, fel y disgwylid, eithr gan Mr. AKERS DOUGLAS, yr Ysgrifenydd Cartrefoi, y gwn. aed y cyfiwyniad. Siaradwr plaen, heb fymryn o ddawn areithyddiaeth, yw y gwain- idog hwn. Am hyny, eglurodd ei fesur yn hwyr-drwm a. di-ddyddordeb. Sylfaenir ef sr ddwy egwyddor, o ba rai y gyntaf ydyw fod ad-daliad, neu iawn, yn cael ei roddi i'r oil o'r tafarnwyr hyny ag y byddo eu trwyddedau yn cael eu cymmeryd oddi arnynt am resymau yn codi oddi wrth drefniadau nen angenrheidiau cybooddus, ac nid o herwydd dim camfucheddiad o'u tu hwy eu hunain a'r ail, fod yr ad-daliad neu yr iawn yn cael ei dalu gan y fasnach ei hun. Oddi ar yr ynadon cymmerir, gan v mesur hwn, yr bawl i wrthod adnewyddu trwydded ond yn unig lie y byddo caraym- ddygia-d amlwg wedi cymmeryd lie. Hwy a allant wrandaw yr acbos, ond ni chant ei benderfynu. Yr oil y goddefir iddynt hwy ei wneyd fydd tynu allan adroddiad arno, trwy eu hysgrifenydd, ac anfon hwnw i'r frawdlys chwarterol. Yno y bydd yr hawl i'w benderfynu; ac yno, gall yr ym- geisydd am y drwydded ddyfod yn mlaen, os gelwir arno, i roddi ei achos ger bron ar ei ochr yntau. 1 Ac fel diogelwch arbenig i'r fasnach,' meddai Mr. AKERS DOUGLAS, ni chaniateir i adroddiad yr ynadon ar achos o wrtbodiad trwydded fod yn un geiriol. I Rhaid iddo fod mewn ysgrifen,' efe a chwanegai. Yna, pa bryd bynag y penderfyna y frawdlys chwarterol wrthod caniatau trwydded bydd yr ad-daliad yn cael ei ganiatau. Ni chaiff anghenion ar- dal fod yn y eyfrif o gwbl; dim ond drwg- fuchedd tafarnwr. Swm yr ad-daliad a roddir fydd y gwa- haniaeth rhwng gwerth y ty gyda ac heb drwydded; a'r gwerth hwnw yn cael ei gyfrif yn union feJ pe fta buasai y mesur hwn yn bod o gwbl, Yn mhob amgylchiad lie y bcrnir fod angenrheidrwydd am hyny, ceir galw awdurdodau y Oyllid Mewnol i benderfynu pa beth a fydd y gwerth hwnw. Rhaid i'r fasnach ei bun ddarparu y gronfa angenrheidiol at amcan yr ad daliad. Gel- wir y gronfa hon yn I gronfa yswiriol;' a gwabanol dafarnau yn cyfranu tuag ati yn ol graddeg bennodol. Os na bydd gwerth trethiadol y tafarndy dros 15p. y swm a godir arno fydd 1 p.; os dros 15p., ac o dan 20p., codir 2p.; ac felly yn mlaen, yn uwch, uwch-hyd 150p. Y taliad hwn, wrth gwrs, i fod yn un blynyddol. A thybio fod pob brawdlys chwarterol yn cyfodi yr holl swm possibl iddo, darperid yehydig yn fwy na miliwn o bunnau bob blwyddyn. Heb law hyny, rboddir awdurdod i'r brawdlys- oedd i fentljyca arian ar ddiogelwch y gronfa bon. Yn y bwrdeisdrefi sirol nid at y brawdlysoedd chwarterol y byddis yn appelio, eithr at yr ynadon bwrdeisiol yn eistedd dan lywyddiaeth Cofiadur. Hefyd, caniateir awdurdod i'r brawdlysoedd chwarterol i roddi trwyddedau newyddion allan, naill ai yn gyfnewid am hen rai, neu am daliad o un swm pennodol i lawr, neu, nifer o daliadau olynol. Daw y tai ewrw cyn y flwyddyn 1869 i mewn o dan drefn- iadau y mesur, hefyd. Y rhai hyn oeddynt ei brif ddarpariaethau fel y dadleuwyd hwy gan yr Ysgrifenydd Cartrefol wythnos i beno. Gyda gwynebgaledwch nad ydyw, fe ddichon, yn hollol anehboniadwy, cymmerai yr Ysgrifenydd arno edrych ar y mesur fel Mesur Dirwestol, ac un a ddylai ac a fydd yn debyg o fod yn derfyn bythol ar bob dadl ynglyn & chweatiwn y fasnach mewn d'iodydd noeddwol Ni fu arweinydd y Rhyddfrydwyr ond byr dro yn didwyllo y dyn gorhyderus, mor bbil ag yr oedd ei sylw diweddaf yn myned. Yn y modd mwyaf diboced a difloeegni efe a ddywedodd ar uawaitb y byddai iddo ef, a'r rbai a arweinir ganddo, ofalu am daflu pob rhwystraudichonadwy ar ffordd y mesur ar ei yrfa trwy y T £ Ac wrtb gwrs, rboddodd ei reswm dros y gwrtbwynebiad diymmod hwn I yr un mor eglur. Am nad ydyw yn ddim ond ildio yn wasaidd i fasnach fawr a dylan- wadol er mwyn cyrbaedd amcanion poliic- aidd yr oeddynt yn myned i wrthwynebu. Yr ydym yo ddiolchgar i Syr HENRY CAMP- BELL BANNERMAN am gyhoeddi v rhyfel y foment gyntaf yr oedd yn bossibi, ac heb golli amper na eefyll ar seremornau. Ar ei ol ef rhuthrodd dau hen arwr dirwestol di- gymmar-Syr WILFRID LAWSON a Mr. WHIT- TAKER-ar y meeur, gan ei ridyllio yn ddi- dostur. Am y tro Mr. WHITTAKER ydoedd y llymdostaf. Y mae yr boll bwngc ganddo ef ar flaenau ei fyeedd,' 1a dy wedir; a pfaan y deebreua ymosod ar ei elynion o ddifrif bydd ei ddyrnodian bob amser yn cyrbaedd hyd adref. Dangosodd mai canlyniad yr etholiadau yn Woolwich a Rye, yn fjpyaf arbenig, oedd wedi dwyn y weinjddiaeth at draedy tafarnwyr. Gwnaeth y Prifweinidog yr oil a allai i droi mln y feirniadaeth lem- dost oddi wrth y mesur. G*yr yn dda fod llygaid darllawyr a thafarnwyr y deyrnas arno ef yo y cyfwng presennol. Efe a wyr befyd yn dda fod ei dynged ef ar gledr eu llaw hwy. Ond ei ymresymiadau cryfaf a geir yn y dyfyniadau hyn Nid yw ymos- odiad ar anghymmedroldeb fel rheol ond ymosodiad anghymniedrol ar y tafarnwr.' • Nid yw dirwest ond enw neis ar gasineb tuag at ,tr y da.rarn.' I Ai bwystfil drwg i gael ei hela i'w farwolaeth ydyw tafarnwr ?' Buasai yn resyn genym i Gymru fod yn ddistaw hyd yn oed y noson gyutaf ar fesur gwaradwyddus Gwaddoli y Dafarn. Ni bu hi yn ddistaw. Y cyntaf i godi ar ol Mr. BALFOUR ¡ oedd Mr. LLOYD-GEORGE. Rhoes ei chyunrych iolydd penaf ddadganiad clir fei sain udgorn i'w llais. Byddymeeurhwn/meddai y dirwestwr aiddgar o Arfon, yn gosod gwerth ffugiol ar y tafarnau gwaethaf, a hyny ar draul y rhai goreu. Oud hwyrach mai y rhan fwyaf grymus o araeth Mr. GEORGE ydoedd ei ddynoethiad ofnadwy I ddi-arbed ar yr hyn sydd wedi bod yn myned yn mlaen yn etholaeth neillduol y Prifweinidog yn I Nwyreinbartb Manchester, lie y rhoddir y fath gefuogaeth iddo gan y darllawyr. Yn yr ethol- aeth hono y mae rhai darllawyr neillduol wedi bod yn llwgrwobrwyo yr heddgeidwaid yn v dull mwyaf digywilydd a gwaradwyddus. Caed rhai ynadon hefyd yn chwsrsu rhan y darllawyr. Wedi en dal yn y gwaith-wedi eu hattal i fyned yn mlaen gydag ef— weie y fasnach ofnadwy hou yn awr yn dyfod Y11 mlaen &t 'ein bynaws BriS- weinidiig/ gan ddywedyd heb wrid ar eu bwyn- ebau :—' Fedrwn ni ddim breibio chwaneg ar y i I h a plis fedrwn ni ddim cario dylanwad ami hag 1 etto ar yr ustusiaid-rbaid i chwi ein helpu ni f bellach.' Heb flew ar ei dafod—ni bu efe erioed yn euog o adael iddynt dyfu arno !—dywedodd Mr. LLOYD-GEORGE wrtb Mr. BALFOUR yn ei wyneb ei fod yn dra pharod i gospi troseddwyr y gyfraith 08 byddaut o'r blaid wrthwynebol iddo ef ei hun. Y sylw hwn a wnaeth y Todaid yn nwydwyllt. Tynodd yntau y gair yn o\ ond mynodd chwauegu fod cryn wahaniseth rhwng y driniaeth i dafarnwyr Dwyreinbarth Manchester a Chynghorau Siroedd Cymru. Yn naturiol, dehrodd yr st-aetb hon un o ddarliawvr Man* Chester ei hun-Alr. GROVES C*, LIO yn erbvn cbwaetb ddrwg Mr. LLOYD-GEORGE oedd y cwbl a fedrai, a bu raid iddo dynu hyd yn oed byny yn ol. Wedi methu gyda'r ergyd hon, aeth yn ddigon bahanaidd i edliw mai yn Manchester y ganwyd Mr. GEORGE. Ie, siwr. Amhydedd i Fanchester ac nid oedd gan Mr. GEORGE mo'r help am r anrhydedd chwaith. Y diwedd fu rhanu y Ty ar y darlleniad cyntaf, yr hyn sydd beth anarferol. Y ffigyrau oeddyit 314 yn erbyn 147. Wrth gwre, nid yw hyn yn arwydd,") dim mewn perthynas a'r lliawsymraniadau fjdd yn cymmeryd He arno yn ol Ilaw.
CYMRU, Y DDEDDF ADDYSG, A'R…
News
Cite
Share
CYMRU, Y DDEDDF ADDYSG, A'R LLYWODRAETH. FE ymddengys yn Iled amlwg fod yr am- gylchiadau yn graddol weithio eu hunain i bwynt ynglyn a'r ewestiwn addysgoL Nid peth i ofidio o'i herwydd yw hyny, mewn un modd. Mae yn bryd i ni gael terfyn, bellach, ar yr helynt. Tua chanol yr wythnos ddi- weddaf cyflwynodd y Mr. LAWRENCE hwnw a anfonwyd i lawr i sir Gaerfyrddin gan y Swyddfa Addysg ei adroddiad ar ei ym- chwiliad i Dy y Cyffredin. Yr adroddiad hwn, fel yr ymddengys, a fu yn foddion i ddeftro y Llywodraeth i ystyried y dylai bithau, bellach, geisio gwneyd rhywbeth effeithiol. Ond, pa beth ? Nid ydys yn gwybod hyd sicrwydd Ni flinir ein cyng- horau a mandamus, y mae yn fwy na thebyg. Mae canlyniad yr etholiadau yn Mawrth wedi gwneyd hwnw yn arf rhy beryglus i'w ddefnyddio, debygid Anturiaeth rhy enbyd hyd yn oed i Lywodraeth Mr, BALFOUR yw mentro gosod gwlad gyfan daDO Prin y dymunai yr esgobion wynebu y dymmestl a godai y fath oruchwyliaeth sarhaus yn erbyn 'yr Eglwys.' Mae ganddynt eisieu arian i gynnal eu hysgolion edlychaidd. Ni bu yr eisieu erioed yn fwy. Ond n;d yn y ffordd hon y dymunant eu cael, yn sicr. Rhag drygu yr Hen Fam, nid a mandamus y deuir i'w swcwr, gan byny. Pa fodd, ynteu ? Un llwybr arall sydd. A thrwy hwnw gellid cyrhaedd yr amcan yn annibynol ar y cyng- horau gwrthnysig, ac heb ofyn am ddimai goch iddynt. Gosod cynnaliaeth yr ysgolion a Phabaidd yn uniongyrctpol ar y Trethi Ymherodrol 1 Y Llywodraeth ei Lou i'w cynnal! Amser a ddengys yn fuan ai dyma y llwybr a ddewisir. Nid yw hwn yn llwybr mor rwydd, chwaitb, ag y gall ym- ddangos ar ei wyneb, Mae anhawsderau bron anorfod ar ei ffordd. A dyna, drachefn, trwy fesut ffurfiol yn Nhy y Cyffredin y gellir gwneyd y peth ac fe wrthwynebir hwnw hyd yr eithaf gan y Rhyddfrydwyr. roethi y mae y frwydr, ti a weii, ddarhenydd. Bydd y mesur yn cael ei ddwyn ger bron heno (nos Fercher), meddir.
ARGLWYDD LONDONDERRY YN NGHAERNAliFON.
News
Cite
Share
ARGLWYDD LONDONDERRY YN NGHAERNAliFON. BWRIAD Y LLYWODRAETH YNGLYN AG ADDYSG YN NGHYMRU. WRTH anerch arddangosiad mawr o Geid- wadwyr yn Nghaernarfon, nos Lun, ym- driniodd Arglwydd Londonderry yn hollol a'r Gyfraith Addysg. Cydnabyddai fod y gyfraith yn un amroherffaith, a bod ei gweinyddiad yn achosi anfoddlonrwydd, yn neillduol felly yn Nghymru, ond dywedodd fod y Llywodraeth yn cael ei gorfodi i ddeddfu ar y cwestiwn i'r amcan o gyd- drefnu yr amrywiol raddau o addysg, a galluogi yr awdurdodau Ileol i godi trethi tuag at addysg uwchraddol. Gwadai yn beudant fod y gyfraith wedicael ei phasio neu ei gweinyddu er mantain i'r clerigwyr, awdurdod pa rai dros addysg fydol oedd yn cael ei drosglwyddo yn hollol i'r cynghorau, ac awdurdod pa rai dros addysg grefyddol oedd yn cael ei ranu yn gyfartat a phump o lywiawdwyr eraill. Yr oedd cwynion ac anallu yr Ymneillduwyr, mewn gwirionedd, yn cael eu lleihau, ac nid eu cynnyddu, trwy y gyfraith Ond yr oedd yn rhaid parhau yr ysgolion gwirfoddol, pa rai a godwyd ar g6st o wyth miliwn ar hugain, ar linellau eu sylfaenwyr gwreiddiol, gan gyfranu addysg grefyddol unol a dymuniadau y rhieni. Gwrthodai Cynghorau Sirol Cymru, y rhai oedd yn cael eu harwain gan Mr. Lloyd George, weinyddu rhanau o'r gyfraith. Yr oedd plant yn yr ysgolion gwirfoddol yn cael eu hamddifadu o'u genedigaeth fraint addysgol, ac yr oedd anghyfiawnder cy- hoeddus yn cael ei wneuthur a hwy. Os parhiiai y cynghorau sirol i gario y :3wrs hwn yo mlaen, byddai i'r Llywodraeth ddwyn yn mlaen ddeddfwriaetb. pa un a wnai sicrhau, mewn modd effeithiol, y man- teision a fwriedid eu hestyn trwy y gyfraith i'r ysgolion gwirfoddol, a bod arian cyhoedd- us yn cael eu gwario mewn modd boddhaol er mantais y plant, talu i'r athrawon, a hyrwyddo addysg gyffrediuol mewn modd effeithiol.
PONT ROBERT.
News
Cite
Share
PONT ROBERT. CLYWAR fod Ysgolion Sabbothol y lie uchod yn darfod, ac yn myned yn hynod o isel mewn rhif; ac fod un o honynt wedi ei chau yn hollol. Greayn mawr. Clywais fod y teilwriaid a'r cryddion yn gommedd myned â'u gwaith adref, ond fod y tafarnwyr mewn llawer man yn gofalu am fyned â'u gwaith hwy adref nos a dydd. Dyna i chwi ddiwygiad mawr Clywais fod Ysgoldy Pont Robert yn myned i afael y Cynghor Sirol. yw,,iis I vsg C'ywais i ysgolfeistr ddvweyd mewn c; f- arfod politicaidd go boeth:—' Dyn a ipo addysg grt fyddol yr enwad.au oni"bae s-.m fy rgofal i am dano Clywais i hen law go ddoniol ddy weyd wrth rywun ar ol yr etholiad nad oes gal y parseniaid ddim trywydd o gwbl ar grefv'da isa pholitics y Cyairo; fod eu ffroenau yn rhy debyg i ffroenau yr Anglican a'r Saxon. Dyna oedd y rheswm, meddai ef, ein bod wedi colli y dydd trwy Gymru.—Clywedog.
Y GYLLIDEB,
News
Cite
Share
pa beth namyn cyffredinedd a allasem e- ddisgwyl odd- wrth ddyn cdfredia ei ddaw.. a'i aBn. (Os yw ei dad yn y rheng flaenaf nid ydys i ddisgwyl o angenrlieidrwyd J iddo ef fod o'r un roe&urau). Nid cyffred- inedd y Gyllideb newydd ydyw ei nodwedd amlycaf. Ysywaeth, iira dd'wg yw. Dnvg i'r werin Brydeinig drwg i achos trefaid- edd gwladwriaethol; ac, wrth gwrs (am > c hyn nid ydym yn ew no), drwg i'r Llyw- odraeth ei hun. Pan ystyriom f J y swm o 23,OOO,OOOp. o drethi rlHfd yn cael eu gadael i orwedd fel hunilef ar ysgwyddau y trethdalwyr, a hyny, mewn adeg o hedd- wch, daw ei drygedd vn eglur i'r golwg. Nis gall y Gyllideb a ofyna am swllt y bunt o doll ar incwm pobl mewn cyfnod pan nad ydys fel cenedl yn tanio ergyd mewn dig yn mron mewn unrbyw ran o'r byd; ac heb law hyny, a wna ymborth a moddion cysur y dosbartbiadau tlotaf yn anhawdd- ach eu cael, ac a gyfoda doll newydd drom ar ennillion gweithwyr a ehrefftwyr y dos- barthiadau canolradd — nis gall Cyllideb ag sydd yn gwneuthur hyn, a chwaneg, fel y cawn ddangos, lai na gwir hae.ldu cael ei disgrifio fel un ddrwg a niweidiol ei gwala. Po fwyaf a ystyrir arni, gwaethaf yn y byd yr a. Oyllideb na ddeil i'w chwilio yw. Yr olwg gyntaf ydyw yr oreu arni. Nod- weddiadol iawn ydoedd y feirniadaeth arni, yn y Tý a'i gynteddoedd, pan eisteddodd ei hawdwr i lawr ar ol gorphen ei dadlenu. Nid ei hegwyddorion pwdr oedd wedi cym- meryd gafael yn meddyliau neb. Nid yw egwyddorion yn cael eu lie dyladwy yn N euadd Stephan Sant o'r bron un amser; ac o dan y teyrnasiad Toriaidd, yn y blyn- yddoedd diweddaf hyn, dim o gwbl. Budd iannau personol sydd amlaf ar v wyneb yno. Am hyny, o'r 1 ron y sylw cyntaf a glywyd am y Gyllideb newydd ydoedd: 'Nid Cyllideb etholiali ydyw o gwbl!' Ac ami aelod Toriaidd sigledig ei sêdd, ac ofnus i wynebu ei etholwyr, a dynai ei anadl yn foddhaus ato wrth feddwl a hyn. Pe yn bwriadu appelio at y wlad yn fuan, gallwn fod yn sicr y buasai y Prifweinidog yn gofalu am i'w Ganghellydd arlwyo rhyw ddarpariaeth lawer amgenlwh na hon. A dyweyd y lleiaf am dani, nid ydyw bon yn Gyllideb i fyned i'r wlad gyda hi i ennill ffafrau yr etholwyr. Hwyrach fod un per- ygl arall wedi ei osgoi hefyd. Os nad yw yn ddigon da i ennill cymmeradwyaeth y wlad. nid ydyw yn ddigon drwg i gael ei damnio gan y Ty chwaith. O'r hyn lleiaf, dyna fel yr ymddengys yr awel yn chwythu yn awr. Ar y pen hwn, modd bynag, dylem ymbwyllo. Nid un na dau o ffydd- loniaid v weinyddiaeth ei hun sydd yn teimlo yn chwerw o herwydd y codiad yn nhreth yr incwm a tholl y te. Gwna y Llywodraeth elynion iddi ei hun mewn cyfeiriadau nad yw hi yn awr yn dychym- ygu am danynfc. Chwerw fydd teimladau yn gystal a geir- iau man fasnachwyr, yn arbenig yn erbyn y grog-doll newydd ar eu hincwm. Dar- luniodd y cyllidydd newydd di-brofiad waeau y dosbarth hwn o drafnidwyr mor ddu a phruddaidd fel y gallasem. yn natur- iol ddisgwyl iddo ddaagos ei gydymdeimlad mewn rhyw ffordd fwy cvsson a'i eiriau na thrwy chwanegu at eu beichiau. Mae gan Dori mor ddiymmod a Syr MICHAEL HICKS BEACH fwy o gydymdeimlad a hwy na hyn. Mynai ef gael rhyw drefnianfc i ysgafnhau p°th ar eu baich, naill ai mewn rhad-roddioi^aeu ynte ar gynllun graddeg- iaeth. Ond mewn geiriau yn unig y cyd- ymdeimlai Mr. CHAMBERLAIN a hwy. Ni thry ffyrling o'u harian yn ol iddynt, am fod ganddo eu heisieu oil, a chwaneg, i gyf- arfod a. gwastraff swyddfeydd y Llywodr- aeth. A dyna, drachefn, y doll newydd ar y tê. Nid ydyw hwn yn llai na bod yn ddyrysWngc ar amryw gyfrifon. Ynddi ei hun y mae y ddarpariaeth y n cyfranogi o natur cnmlonJeb. Nis gall, chwaith, yn 01 natur pethau, fod yn gymmeradwy gan y diffyndollwyr, er mai diffyndollwr, a mab yr apostol diffyndollawl, oedd yn ei gwneyd. Nid yw yn debyg fod y tad yn gwybod am y ddarpariaeth hon, canys sylwodd amryw ar agwedd o anfoddogrwydd yn ymdaenu dros ei wyneb ef pan y clywodd am ei fab yn son am doll y te. Trodd at Mr. CHAP- LIN, wrth ochr yr hwn yr eisteddai, a dy- wedodd rywbeth wrtho, a chymmerir yn ganiataol nad oedd y sylw o gwbl yn un ffafriol. Ond esboniad arall ar y dreth hon ydyw, fod y tad yn gwybod am y peth yn burion; yn cymmhell ei fab i'w roddi i mewn yn ei gyllideb ef; ac yn gwneyd hyny er mwyn cael yr hyfrydwch o'i dynu ymaith pan y bydd Cyllideb ddiffyndollawl yn cael ei dwyn ger bron ryw ddydd a ddaw. Gall nad ydyw y cwbl yn ddim ond ystryw; ac mai chwareu i ddwylaw eu gilydd y maent. Hwyrach y clywn ni y Diffyndollwyr yn dadwrdd yn erwin etto, ac yn dyweyd :—' Da.n drethi fel hyn yr ydych chwi yn griddfan pan yn dioddef Masnach Rydd, Gadewch chwi i ni osod y baich ar y tramorwr.' Cymmered y dar- llenydd y dyfaliad hwn am ei wertb. Nid ydym ni yn rhuthro i benderfynu pwy na beth sydd gywir. Nid oes dim i'w ddyweyd yn erbyn y dull yn mha un y cyflwynodd y Canghellydd ieuangc ei adroddiad i'r Ty. Yr oedd yn eithaf dir., ac yn syml ei arddulL Ei ddiffyg penaf ydoedd diffyg personoliaeth swynol. Nid yw ef yn areithydd. Ni bydd byth, yn ol pob tebyg. Nid mewn areithyddiaeth y mae ei nerth os medd nerth, yn ystyr briodol y gair, o gwbl mewn unrhyw gyf. eiriad. Gwnaeth un camgymmeriad yn marn llawer. Cymmerodd yn ganiataol fod j yr ymgyrch yn Somaliland wedi darfod, yn 5 vyr a hollol. Hanner miliwn o bunnau yn >■ a ganiatiiwyd ganddo ar gyfer ei duliau. CaniatAi fantol-iens (balances) y Drysorfa i syrthio yn rhy issel o lawer, yn syniad lUweroedd. Gwnaeth gamgymmer- iad rrn" vig arall. Y diffyg gwirioneddol ar wn!th y flwyddyn ydyw 5 400,000p. Ond, ar gyfer 4,OOO,OOOp. y gwnat efe ddarpar- iaeth—tair miliwn o arian ad-daledig y Tratiswial, a miliwn trwy sylweddoli llogran au nad ydynt wedi eu hawlio. Trwy hyn gadawa 1,400,OOOp. heb dim i'w cyfarfod. Yr oil a wnaeth ydoedd cymmeryd yn ganiataol y bydd gweddill mwy nag arfer ar gyfrifon y flwyddyn hon; sef, tri chwarter miliwn o bunnau. Hyd yn oed y dybiaeth hon a'i gadawa mewn 600,OOOp. o ddiflyg ac hyd y gwyddis, nid oes ganddo ddim ar gyfer y swm. Modd bynag, ar y cyfan, yr oedd ei ymddangosiad cyntaf fel Cangheilydd yn llawer gwell na'r disgwyl- iad. Ei edmygwyr a ddywedant ei fod yn llwyddiant. Awn mor bell a dyweyd ei fod wedi arddangos llawer o ddiwydrwydd ond, nid yr arlliw lleiaf o athrylith. Gwnaeth araeth na chwynwn o herwydd diflyg eglurdeb ynddi; ond, ni feddai fym- ryn o nerth. Nid chwaethus ydoedd gor- foliannu rhyfeloedd ei dad yn N6 yr Affrig. Yn sicr, nid chwaeth dda ydoedd gwneyd hyny ar draul dylorniaeth ar anturiaethau ein corphoriaethau dinesig a bwrdeisiol- Rhaid iddo astudio y pwngc hwn yn ddyfn- ach. Gadawer i ni fanylu ychydig. Dechreu- odd y cyllidydd di-brofiad gan broffesu gostyngeiddrwydd mawr. Ei wyneb ydoedd welw. Ymddangosai yn nerfus drwyddo. Gwnai bob peth i ennill cydym- deimlad, ac i tesur helaeth llwyddodd yn ei amcan. Golwg bruddaidd ei gwala a gym- merodd efe ar hanes y flwyddyn ddiweddaf. Yr oedd tbn y llwyddiant wedi treulie ei nerth allan. Blynyddoedd culni sydd i'w disgwyl bellach. Blwyddyn anffodus oedd hi wedi bod yn mhob cyfeiriad—amaeth- yddiaeth, marsiandiaeth y llongau, adeil- adu-yr oil wedi bod dan farweidddra. mawr. Yr oeddym wedi colli marchnad- oedd pwysig o herwydd y gystadleuaeth dramor. Aeth yn gyflym dros y ffigyrau a ddangosent hyn, a gwnaeth ddadansoddiad syml ar yr achosion o'r amrywiol collod- ion. Wedi hyny trodd at ein treuliau. Mae hwn yn wastad yn bwngc 11 awn o elfenau tymmestl. Gallesid meddwl arno, modd bynag, nad oedd efe yn deall hyny. Y ffigyrau a gafwyd ganddo oeddynt ddychrynllyd mewn gwirionedd. Cyfan- swm y treuliau a ofynid gan y Drysorfa ydoedd 146,961,000p.; neu, a chymmeryd taliadau y trethiad Ileol i mewn i'r cyfrif, 164,96LOOOp. Ceisiodd dynu ei gyfrifoldeb arbenig ei hun i lawr i un pwynt neillduol; sef, pwrcas llongau rhyfel Chili, å swm nad oedd ond 700,OOOp. Yr esgusawd a roddai dros y fargen hon ydoedd, os buasai y llestri hyn yn myned i ddwylaw rhyw allu arall, y gorfodasid ni i fyned i fwy o g6st er mwyn cadw I y fantol lyngesol' yn ei 11e. Dywedai hyn mewn t6n oedd i fesur yn fawreddog, fel dyn wedi gwneyd 1 str6c dda o fusnes,' Y Rhyddfrydwyr—yn anysty wallt, y mae yn debyg-a chwarddent am ei ben, yr hyn a ddygodd rywbeth tebyg i wg arei ael yntau. Ar ddiwedd y rhan hon o'r araeth safai pethau fel v canlyn :— I Y Cyllid Ifl,546)OOOp. Y Treuliau 146,961,OOOp. Y Diffyg 5,415,OOOp. Ei dasg nesaf ydoedd dangos pa fodd yr arfaethai efe lanw y gagendor enfawr hwn. Yr ydym eisoes wedi dyweyd mai mewn rhan y gwnaeth efe hyny. Ar ol attafaelu tair miliwn o bunnau o'r echwyniadau Affricanaidd, a chymmeryd miliwn eraill oddi ar y llogranau heb eu hawlio-yr hyn yr oedd efe yn gallu ei wneyd o dan rag esampl Mr. GLADSTONE—gadawai yn ag,)s i filiwn a banner megys i gymmeryd eu siawns.' Soniodd am ffigyrau chwyddedig y Ddyled Wlarlol-798 o filiynau y flwydd- yn ddiweddaf, ac yn 762 o filiynau hyd yn oed y flwyddyn hon; a 159 o filiynau o gynnydd arni o fewn y pedair blynedd sydd newydd fyned heihio; a'r oil i'w briodoli i ryfel De yr Affrig. Rhyfel ei dad ef! Yna prysurodd oddi wrth yr olwg bon ar ddim ond gwastraff gwir bechadurus i ym- helaethu ar waeth pechod' (?) dyledion lleol, gan ofalu am beidio yngan sill mai ennill clir i foesau, iechyd, cyfoeth, cysuroa, a phleserau y wladwriaeth a geir trwy y 'dyledion' neillduol hyn mewn modd arbenig. Rhoddai ef bwyslais ar yr angenrheid- rwydd am gynnildeb yn hyn. Diau fod peth eisieu siarad yn y cyfeiriad hwn. Ond, pan a ef i ymfflamychu ynghylch gwastraff cyhoeddus, bydded iddo yn wastad gym- meryd ei enghraifft gyntaf oddi wrth was- traff Llywodraeth Doriaidd. Y Torïaid a fanllefent eu cymmeradwyaeth iddo pan oedd efe yn ymosod ar y corpboriaethau bwrdeisiol; ond, anghofient oil — ef a hwythau-nad ydyw y chwanegiad at y Ddyled Wladol trwy y rhyfel Chamberlain- aidd yn gymmaint a'r hyn a fenthycir gan y bwrdeisdrefi mewn pedair blynedd a banner o amser. Edryched gartref yn gyntaf. Pan y gwelodd efe bellRch yn dda droi oddi wrth yr hen flwyddyn at y flwyddyn newydd. dechreuodd pawb glustfeinio yn fwy dyfal nag o'r blaen. Wedi cymmeryd rhybudd oddi wrth brofiad chwerw Mr. RITCHIE, gofalodd am gadw ei aipc&ngyf- rifon o'r cyllid yn isel. A chymmeryd pob peth i ystyriaeth, dywedai oas gallai ddyfalu y bydd y cyllid yn 1904—-5 ond yn nghymmydogaeth y 139,060,000/). Yn ex nghymmydogaeth y 139,060,000p. Yn ei amca.ngyfrif o'r treuliaij ni chaniatäai fwy,! fel y dywedwyd, na. 500,OOOp. ar gyfer y rhyfelgyrch yn Somaliland. Y fantolen, gan hyny, a saif iel hyn :— 1904—5.. Y Cyllid 139.0aO,ooqp. I Y Treuliau. 142 880,000/? Diffyg 3,820,00Op. A pha fodd i gyfarfod y diffyg hwn » Caf- odd ei fanllef gyntaf gan y Rhyddfrydwyr pan ar y pen hwn. Dywedodd nad oedd efe yn bwriadu attal gweithrediad y Gronfa Suddol. Mae yn dra thebyg genym mai dyma • y darn o'r Gyllideb' yn unig-yn benaf, o leiaf-a ennillodd gymmeradwy- aeth Arglwydd GoscHEN i fyny yn yr oriel. Ei resymau dros beidio cyffwrdd a'r gronfa hon oeddynt gedyrn, yn sicr. Yn un peth, am mai yn ddiweddar yr adsefydl- wyd hi. Hefyd, hon yw yr unig gronfa sydd genym wrth gefn pe torai rhyfel allan drachefn. Byddai gwanychiad arni hi yn rhwym o droi yn wanychiad ar ein gallu ninnau i gario y rhyfel yn ei blaen yn effeithiol. Heb law hyny, ar yr adeg bresennol byddai y I polisi' hwnw yn eithr- iadol o annoeth; hyny yw, yn wyneb pris- iau diogeliadau y Llywodraeth ac echwynion y Llywodraeth yn y dyfodol. Nid oedd ond troi, yn y lie blaenaf, at dreth yr incwm am help i ddyfod trwy yr anhawsder. Nid oedd y Cangheilydd yn Ilawn mor hapus a medrus pan yn trafod hyn. Yn ol yr hyn a ddywedai, gallesid tybio nad oedd yn bwriadu chwyddo dim ar y doll, os nad oedd yn wir am ei thynu i lawr, Gorchwyl peryglus ydyw ymyryd a threth yr incwm, meddai. Y doll hon yw ein hail grot fa gweddill, fel mai y Gronfa Suddol yw y gyntaf, pe digwyddem gael ein hunain mewn anhawsderau. Heb law hyny, gellir dinystrio ei gwerth mewn adeg o ryfel trwy ei chadw yn uchel mewn adeg o heddwch. Yn mhellach, yn marn y Llywodraeth y mae hi yn eithafol o uchel yn awr, sef lie. yn y bunt. Meddyliodd amryw fod ceiniog, os nad dwy neu dair, i gael eu tynu ymaith, yn anturiaethus, oddi wrthi pan y clywsant hwy hyn. Ond, y frawddeg nesaf a'u di dwyllodd. Pa-ham y cymmerodd efe yJlwybr hwn i arwain y Ty at yr hyn oedd yn ei feddwl, nis g*yr un dyn byw ond efe ei hun. Dyna a wnaeth, modd bynag. Yn y frawddeg nesaf dywedodd ei fod yn bwriadu codi y doll i swllt. Pa beth nesaf i osod dwylaw arno ? Nid ar win, ac nid ar gwrw, ac nid codi ffyrling ar dollau y gwirodydd. Rhaid poidio digio y Pasnach.' Gwaddoli y Fas- nach yn hytracli o lawer 1 Nwydd ag y gwneir defnydd helaeth—rhy helaeth lawer gan rai—o hono yw tybaco. Eisoes tollir ef yn ucbel. Ond, gan fod y Cangheilydd mewn dyryawch, rhaid cael help y myglys i lanw gagendor y diffyg. Off yw y tollau arno eisoes yn uchel, gellir newid oryn lawer ar y dull o'u codi, a thrwy hyny ennill mantais i amcanion y Gyllideb. Diwedd y pentwr o dywyllwch geiriol a gafwyd ganddo ar hyn ydoedd fod y doll i barhau yn 3s. ar y ddeilen ammrwd, ac yn 3s. 3c. ar y stripped tobacco. Yn mhellach, 6c. y pwys yn chwaneg ar cigars' a 6c. eraill ar sigarenau pan y deuant o wledydd tremor. Efe a gadwodd ei doll waethaf hyd y diwedd, yn wrth-gyferbyniol i'r priodfah yn Cana Galilea gyda'i win. Oddi wrth yr holl dollau yr oedd efe eisoes wedi sdn am danynt ni ddisgwyliai gael hanner digon i gyfarfod a'i ddiffyg. Yr oedd ganddo eisieu dwy filiwn yn chwaneg nag a ddygant hwy iddo yn eu cyfanswm. Ond, gwelai yn gy- wir fan i'w cael. Dwy geiniog y pwys yn chwaneg ar d6, a dyna ben ar y dyryswch. GweU oedd ganddo beidio cyffwrdd â. siwgr yn awr, am fod cymmaint o aflonyddu wedi bod arno ef yn ddiweddar. Murmur mawr a redodd trwy yr oil o'r meingciau Rhydd- frydig pan glywsant hyn. Amlwg hefyd oedd na chymmeradwyai ei ochr ef ei hun mo'r baich hwn. Bydd yn sicr o fod yn un o elfenau mwyaf peryglus y Gyllideb newydd, ac nid heb wrthwynebiad cryf a phendant y caiff ei phasio.. Modd bynag, wedi cael y rhai hyn oil i mewn, cyfrifai y byddai ganddo, ar derfyn y flwyddyn, 730,OOOp. o weddill. Fel hyn y gwnai ei fantolen Cyllid 139,060,OOOp. Treuliau 142,880,OOOp. Diffyg 3,820,000p. I'w gyfarfod A- Ie. ar Yr Incwm 2,OOO,OOOp. Oddi wrth Dybaco 550,OOOp. 2c. ar D6 2,000,000p. Trethi newyddioh 4,550,OOOp. Yn gadael yn y diwedd weddill o 730,000p.