Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

CYNGHRAIR EGLWYSII RHYDDION…

News
Cite
Share

CYNGHRAIR EGLWYSI I RHYDDION GOGLEDD CYMRU. Y GYNNADLEDD FLYNYDDOL YN NGHAERNARFON. DYDD Mawrth cynnaliwyd cyfarfod blynyddol Cynghrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn Nghaernarfon. Yr oedd cynnrychiolwyr yn bresennol o wahanol siroedd Gogledd Cymru. Disgwylid i'r Parch. Thomas Law, ysgrifen- ydd y Cynghor Cenedlaethol, 1 gymmeryd rhan; ond lluddiwyd ef i fod yn bresennol trwy afiechyd; ond ymgymmerodd y Parch. Mr. Palmer, Folkestone, a'r gwaith yn ei Ie. Llywyddid cynnadledd y boreu gan y Proffeswr Phillips, o Goleg Prifysyol Gogledd Cymru, yr hwn a sylwodd mai yr hyn yr oedd yr Ymneillduwyr yn ei wrthwynebu yngtyn iig addysg ydoedd, nid i'r Eglwyswyr ddysgu eu hathrawiaethau i'w plant, ond dysgu crefydd ar goat y Llywodraeth. Yr oedd y teimlad hwn mor gryf fel yr oedd 20,000 o bersonau wedi cael eu gwysio eisoes am beidio tala y dreth addysg, ac yr oedd miloedd o bersonau wedi gadael i'w nwyddau fyned ar wertb, tra yr oedd llawer o bersonau wedi myned i garchar. Teimlai yr Ymneillduwyr, fel corph, fod yn rhaid iddynt wneyd gwrthsafiad cyhoeddus yn erbyn cyfraith y tir Nid oedd wiw iddynt feddwl yn awr am wneyd cyttundeb hanner y ffordd. Yr oedd yn rhaid gwneyd y plentyn a'r athraw yn rhydd (cym.). Wedi hyny darllenodd Mr. William George (brawd Mr. Lloyd George) bapur ar C Pa bryd, ac o dan ba amgylchiadau, yr oedd y gwrth- wynebiad i'r gytraith i'w gyfiawnhau.' Cafwyd papur rhagorol gan Mr. George, yn toha un y cyfeiriai at yr amgylchiadau yr oedd yr Ymneillduwyr yn cael en gosod ynddynt yn bresennol ynglyn &'r Gyfraith Addysg; ac y dadganai ei grediniaeth y dylai dyn wrandaw ar lals ei gydwybod, yn hytrach nag ar gyfraith y wlad. Yr oeddynt hwy yn benderfynol, nid yn unig i attal gwaddoliad pellach ar sectariaeth o'r eiddo cenedlaethol, ond i yegaru yr Eglwys oddi wrth y Llywodr- aeth (cym.) Yn nghwra y ddadl sylwodd Mr. H. Lewis, Bangor, i esgob Bangor, rai canrifoedd yn ol, bregethu pregeth ar linellau tebyg iawn i bapur Mr. George, ac iddo gael ei gondemnio gan y Confocaeiwn (chwerthin) Cydnabyddodd yr anhawsder i benderfynu pa bryd yr oedd ^gwrthwynebiad i'r gyfraith i'w gyfiawnhau; ond dadleuai, gan i'r Gyfraith Addysg gael ei ,phasio heb awdurdod oddi wrth y bobl, fod pob 'dyn yn meddu hawl i'w gwrthwynebu, am ei food yn dymchwelyd egwyddorion y cyfansodd- iad Prydeinig (cym.), Y Parch. T. Gasquoine, Bangor, a ddadleuai Had oedd y Llywodraeth yn meddu hawl i godi tal trwy orfodaeth at waith crefyddol; ac yr oedd am i'w gyfeillion a wysid o flaen yr ynadon ddadgan eu bod yn gwrthwynebu yn gydwybodol, nid yn anig dalu at ddysgu Pab- yddiaeth.ond dysgu athrawiaethau Ymneillduol hefyd. Cynnygiodd y Parch. P. Jones Roberts banderfyniad, yn ail ddadgan gwrthwynebiad y gynnadledd i'r Gyfraith Addysg, ac yn gosod allan yr angenrheidrwydd am gynllun o addysg genedlaefihol o dan reolaeth poblogaidd, ac yn amlygu ei phenderfyniad i ddiddymu y gyfraith, neu i gael y cyfryw welliantau ynddi ag a wnai gyfarfod a'r cam oedd yr YmneiUduwyr yn ei ddioddef. Cefnogodd Dr. Griffith Evans, Bangor, y jpenderfyniad, yr hwn a gariwyd. Llywyddid cynnadledd y prydnawn gan y Parch Dr. Hugh Jones, Bangor; ac yn nghwrs ■ei araeth ar 4 Ddyfodol Ymneillduaeth Gymreig,' iannogai ar fod prawflyfr yn cael ei gyhoeddi, yn cynnwys hanes, a chatecism yn cynnwys -egwyndorion Ymneillduaeth, yn cael ei gyhoeddi. Cyfeiriodd at yr arferiad yn mysg Thai Ymneillduwyr o gael clerigwyr i wasan aethu mewn angladdau. Yr oedd yn llawn bryd i'r arferiad hon gael ei chladdu. Dadleuai y dylal Ymneillduwyr, mewn etholiadau ar gyrph cyhoeddus, roddi eu cefnogaeth i ym- geisiaeth Ymheillduol, ac nid oedd yn gwybod am ddim mwy anghysson nag Ymneilldiiwr Ceidwadol. Yr oedd gan Ymneillduaeth ei chenhadaeth i'w chyflawni; ond nis gellid cario hono allan ond trwy undeb yn mysg y gwahan- ol enwadau. Wedi hyny traddododd y Parch. J. Puleston Jones anerchiad ar Anghesion preseonol Ym- neillduaeth Gymreig.' Y n mysg y rhai cyntaf o'r rhai hyn yr oedd yr angen am well addysg grefyddol. Yr oedd yn rhaid iddynt beidio boddloni ar Ysgol Sabbothol eu cyn-dadau, o blegid nid oedd Ysgol Sabbothol gan mlynedd yn ol yu cyfarfod &g anghenion y dyddiau pre- sennol. Gallai Eglwys Loegr fodoli heb ddiwygiad, ac heb gytmulleidfa, ond yr oedd yn diolch i'r Nefoedd nas gallai Ymneillduaeth if odoli heb gynnnlleidfaoedd wedi eu meddianim tâ e61 grefyddol yn eu mysg. Angen arall y ;galwodd sylw ato ydoedd ffyddlondeb i r enwad yr oedd pawb yn perthyn iddo. Carai welsd mwy o undeb a chydweithrediad etto yn mysg yr loll enwadau. Da tuasai ganddo weled, er ^nghralfft, lyfr emynau a thonau Ymneillduol; ac hyd nes y ceid yr enwadau yn addfed i hyny, awgrymai ar i'r cynghrair ymgymmeryd a darparu casgliad bychan o emynau «. thonan ar gyfer cyfaifodydd tebyg i'r un a gynnelid ganddynt y diwrnod hwnw. Caed dadl ddyddorol ar y materlon a ddygwyd ger bron yn y papur. HEN YSGOLHEIGION O'R YSGOL SABBOTHOL. Cymmerodd digwyddiad dyddorol le wedi byny. Yr oedd Miss Gee, Dinbych, er cAf am ei diweddar dad, wedi gosod nifer ofathodynau yn nwykw awaurdodeu y cynghrair, er iddynt gael eu nyfn-nm i'r rhai oedd wedi bod am y cyfnod meithaf yn aelodau rheolaidd o'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd y pwyllgor gweithiol wedi gwneyd ymchwili&d gofalus, ac yr oeddynt yn awr yn dyfnnu y bathodynau fel y canlyn:- 1, Hugh Thomas, West Kirby, Liverpool, 86 mlwydd oed, yr hwn oedd wedi bod yn aelod rheolaidd o'r Ysgol Sabbothol am 84 o flynydd- oedd; 2, Owen Pritchard, Tyddyn Mawr, 86 mlwydd oed, aelod o'r Ysgol Sabbothol er's 84 o flynyddoedd; 3, Ruth Williams, Ty Capel, Dinas, Llangefni, 87 mlwydd oed, aelod o'r Ysgol Sabbothol er yn blentyn; 4, Griffith Williams, Ty Capel, Dinas, Llangefni, 84 mlwydd oed, aelod o'r Ysgol Sabbothol er yn blentyn; 5, Mary Evans. ffactri, Saron, Llan- -wddyn, 88 miwydd oed, aelod o'r Ysgol Sab- bothol am 80 o flynyddoedd; 6, Morgan Ed- wards, Aberaman, 89 mlwydd oed, aelod o'r Ysgol Sabbothol am 80 o flynyddoedd; 7. Edward Jones, Tfnygwrych, ger Bala, 82 mlwydd oed, aelod o'r Ysgol Sabbothol o'i blentyndod; 8, John Lewis Beddgelert, 80 mlwydd oed, aelod o'r Ysgol Sabbothol er yn I ./blentyn. [ Cyfiwynwyd v bathodynau gan Miss Gee. YR ADRODDIAD BLYNYDDOL. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor gweithiol cyflwynodd y Parch. Dr. Oliver, Treffynnon, yr adroddiad blynyddol, yn yr hwn y gwneid cyfeiriad it y gwaith a wnaed yn yetod y flwyddyn. Yr oedd ynddo gyfeiriadau at farwolaeth Mr. W. Thomas, Gwrecsam; a Mr. Rowel Gee, Dinbych; a sylw yn cael ei alw at ymweliad y Parch. F. B. Meyer & Wyddgrug, ar y 3ydd o Fai. ETHOL SWYDDOGION. Etholwyd y Parch. A. J. Parry yn llywydd am y flwyddyn, a'r Parch. Edward Humphreys yn is lywydd; ail etholwyd Dr. Oliver yn ysgrifenydd, a Mr. Francis Nunn, Colwyn Bay, yn drysorydd. Pennodwyd y personau canlynol yn aelodau o'r pwyllgor-Miss Gee, Dinbych; Mr. Herbert Lewis, Mr. Henry Lewis, Bangor; Mr. T. C. Lewis, Deganwy; y Parch. Francis Jones, Abergele; Mr. Simon Jones, Gwrecsam; Dr. R. W. Phillips, Bangor; y Parch. T. Roberts, Wyddgrug; H. Barrow Williams, Llandudno Evan Jones, Caernarfon; Dr Hagh Jones, Bangor; a Dr. Owen Evans, Liverpool. Pasiwyd penderfyniad yn condemnio gwaith y Llywodraeth yn dadfcrio llafur Chineaidd i'r Transvaal.

YR ARDDANGOSFA GEFFYLAU YN…

LLYTHYR SYLWEDYDD LLANGOLLEN.

MARWOLAETH MR. EDWARD PARRY,…

Y CYLLID.

MESUR Y TRWYDDEDAU.

ACHOS 0 YSGAR1AD 0 DDEHEUDIR…

GAIR DA AM JAPAN.

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL I GYMRU

CORWEN.

OOLWYN BAY.

Advertising