Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CYNJSWYSIAD, I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNJSWYSIAD, Y Deffroad Genedlaethol Cymreig 3 Llythyr Llundain 4 Detaendlr Cymru [[[ 4 Lland&in \[\ 4 F Brawdlyaoedd 4 Tregaron £ 4 Y Rhy fel 5 Dtnbyob 5 Llanbrynnaair w Ó Gosris .oo 5 Rhnddian 5 Llanelwy 5 Y Gyfraith Addysg yn Nghymru 5 Y Senedd 6 Y Mesur Trwyddedol 6 Bangor 6 Newyddlon OrefyddoJ. "oo 7 Cymshrair Eglwyst Rhyddlon Gogledd Cymru 7 Arddangosfa. Gaffylau yn Nghaemarfon 7 Llythyr Sylwedydd Llangollen 7 Achos o Ysgariad o Ddeheudir Oymru oo. 7 Ano^ueddfa Genedlaethol i Gymrn 7 Oorwen oo.oo 7 Colwyn Bay 7 WowyddioD DJweddaf 8 Digwyddladta* 8 Prlf Erth>gUTi „ 9 Newyddien 0) mietc t 10 Wyddjtrug 10 Liverpool. 10 Gwreosarr 10 Nodlon oBetbeada 10 Y Gyfraith 11 John Jones, Blaenanerch uo 11 Barddosiaet-h n Lloffion 11 Gehebtaeih:m 12 O Ardndwy i Lleyn M 12 RhosllanQTohrugog, a'r Oylchoadd 12 O.ernarfon 12 Gwyrfal 12 Addysg 12 Gewdtgaefchtfft &a. w „ 12 Glyn, get Dlnbych 13 Treffynnon 13 Y Cynghrair Rhyddfrydig 13 Penmorfa 13 Ffeatinlog 13 Mirohnadoedd 13 Dlrwest 14 D: Dow!e—El Waifch a'i Atbrawlaoth 14 Newyddion Tramor 14 Yr Amaeroedd Enbyd Hyn—Gan yr 'Hen Flaenor 14 TroBeddan 14 Y Gwrthwynebial Goddefol 15 Damweiniau 15 Hjrimtada.; 1. 2-15.16
GALWAD AM ARWEINYDD A PHOLISI.
News
Cite
Share
GALWAD AM ARWEINYDD A PHOLISI. GWIR a ddywedwyd ei bod yn rhaid i ni fyned yn ol at y cyffrawd mawrcenedlaethol yn 1868 i gael dim yn hanes gwleidyddol Oymru ag y gellir ei gymmharu a'r fuddug- oliaeth genedlaethol a ennillwyd yn ethol- iadau diweddar y Oynghorau Sirol. Ond, yn 1868, er fod ysbryd yr Anghydffurfwyr mor wronaidd a hunan-aberthol ag y gallai fod, bychan ydoedd y llwyddiant o'i gym- mharu & goruchafiaeth 1904. Yn 1868 cododd Cymru mewn gwrthdystiad yn erbyn goimes y tirfeddiannwyr; yn 1904 cododd Cymru mewn gwrthryfel yn erbyn tra-arglwyddiaeth sectaraidd. Yn 1868 gwrthdystiad cenedlaethol a gafwyd; cy. hoeddiad rhyfel—dechreuad ymladdfa faith -yn erbyn y dosbarthiadau a'r buddiannau oedd yn attal cynnydd y genedl, ac yn llefchu ei rhyddid. Yn 1904 y mae Oymru wedi 'gwneyd mwy na gwrthdystio yn erbyn y nerthoedd gelynol hyn:—dygodd ei barn mewn gwrthdystiad allan i fuddugol- iaeth ogoneddus. CYCHWYN NEWVDD I GYMRU. Nid & chanlyniadau uniongyrchol yr oruchafiaeth hono, er mor fawrion ydynt, y bwriadwn ni ymdrin yr wythnos hon, ond yn hytrach A'i hefFeithiau Sangach a mwy arosol; nid a'r hyn a olyga y fuddugoliaeth yn ei pherthynas Ag addysg effenol yn unig, ond A'r hyn a olyga ynglyo A holl ddyfodol yr achos cenedlaethol yn Nghymru. I ddechreu, y mae etholiadau y Oynghor- au Sirol yn 1904 yn amlwg yn gychwynfan newydd—yn bennod newydd o'r fath fwyaf addawol mewn gwleidyddiaeth Gymreig. Er's amryw flynyddoedd yn y gorphenol, ac o herwydd amryw resymau, y mae bywyd i politicaidd Cymru wedi bod yn dangos arwyddion gwendid. Beirniaid gelynol, ar y naill law, yn y Time, a manau eraill, ydynt wedi ein cyfeirio gyda mesur o orfoledd at arwyddion o ddarfodedigaeth ymddangosisdol; a sylwedyddion cyfeillgar, ar y llaw arall—brodyr nad ofnent edrych ffeithiau vn eu wynebau-oeddynt yn cael eu gorfodi o'u hanfodd i gydnabod fod y symmudiad cenedlaethol Cymreig wedi colli-neu. ei fod yn ymddaDgos fel pe wedi colli-peth o'i yni a'i nerth blaenorol. Goddefodd yn ddwfS trwy goili arweinwyr, yn y senedd ac vn y wlad. THOMAS GEB, ¡' JOHN PARRY, HERBKR EVANS, a Uu 0 ddewrion eraill, ydynt wedi cwympo yn y rhengoedd blaenaf; ac i fesur helaeth, nid ydyw eu lie etto wedi ei lanw. Ar un adeg ymddangosai yn debyg y buasai plaid Gymreig newydd, o dan arweioiad TOM ELLIS, yn cymmeryd achos diwygiad cenedl- aethol Cymreig i fyny, ac yn ei ddwyn yn 11 mlaen i fuddugoliaeth ar ysgwvddau ieuaingc a chrvfion; ond TOM ELLIS a dorwyd i lawr yn awr anterth bywyd gan angeu; diffyg undeb a ddinystriodd y gallu er daioni yn y rhai oedd wedi bod yn gwasanaethu gydag ef, ac yn cyd-gyfranogi ag ef yn ei obeithion aeth y blaid Gymreig yn y senedd yn nemawr ddim mwy nag enw yn y trefniadau (organization) cenedlaethol Rhyddfrydig, nid oedd ond ychydig, os dim, brwdfrydedd wedi ei adael; mewn gair, ymddangosai cenedlaetholdeb Gymreig fel pe wedi myned i lyn cysgod angeu. Yn sydyn, fel pe dan gyffyrddiad gwialen swynwr, y mae y tywyllweh wedi diflanu, a'r haul yn pelydru mewn dïsgleirdeb I drachefnj He, o'r blaen, yr ydoedd difraw- der, ymraniadau, a gwendid, ceir yn awr ddifrifwch, undeb, ac ymwybyddiaeth o nerth. Y mae Cymru wedi ymgodi fel un g*r mewn ymdeimlad newydd o rymusder ac unoliaeth. Y mae ysbryd hen arwein- yddion yr amaer a aeth heibio wedi dychwelyd a gorphwys ar eu meibion yn y dyddiau hyn. Ystorm a chyfyngder yr ymdrechfa addysgol a derfynodd mewn ail enedigaeth cenedl 1 Ymgododd teimlad y genedl Gymreig fel llifeiriant anwrthwyn. ol, gan ysgubo dros y Dywysogaeth o gwr- bwy-gilydd. Y mae yr hen genedl yn orlawn o fywyd newydd; a'r cwestiwn sydd yn wynebu arweinwyr Cymru yn awr ydyw-pa un ydyw y Ilwybr doethaf i gadw a defnyddio y bywyd newydd hwn er llesiant yr holl genedl ? YR ANGEN AM ARWEINYDD. Yr ammod cyntaf ynglyn ag unrhyw adgyfansoddiad parhaol mewn gwleidydd- iaeth Gymreig ydyw presennoldeb arwein- ydd cenedlaethol. Nid un wedi ei ddewis gan fwyafrif o'r pwyllgor hwn neu arall, ond un ag y byddo yr holl genedl yn edrych i fyny ato am arweiniad—dyn yn meddu cynlluniau ac amcanion pendant yn ei ¡ feddwl ei hun; dyn yn meddu y ddawn i I ennyn brwdfrydedd yn ei ganlynwyr; a dyn ag y byddo ei safle yn y senedd yn gyfryw ag i beri fod sylw yn cael ei roddi i'w olygiadau yn y Ty ac yn y wlad. Ar hyn o bryd nid oes genym ond un sydd yn dyfod i fyny yn llawn a'r ammod. au hyn. Pe gofynid i bobl Cymru heddyw i enwi y dyn aydd yn sefyll i fyny yn amlwg fel arweinydd cenedlaethol yn mysg pawb eraiil, ni phetrusem ddyweyd y byddai y farn gyhoeddus hono yn nnfrydol o blaid Mr. LLOYD-GEORGE. Y mae efe wedi gwneyd gwleidyddiaeth yu waith ei fywyd. Pe buasai eraill wedi canolbwyntio eu hymadferthoedd ar 1 bolitics fel y mae efe wedi gwneyd, gallasent hwythau gyrhaedd yr un tir ag yntau; ond y rhai cydradd mewn gallu &g ef ydynt wedi rhoddi rhan fawr o'u hamser i'w galwedigaethau; a thrwy droi eu sylw at wahanol betbau y maent ¡ hwy wedi methu gosod eu hargraph ar eu 11', cenedl fel y mae Mr. LLOYD-GEORGE wedi llwyddo i wneyd. Yn ail, nid yw Mr. I LLOYD-GEORGE, tra yn cymmeryd dyddordeb dwfn yn amgvlchiadau yr ymherodraeth Brydeinig yn gyffredinol, am foment wedi colli ei ddyddordeb yn mhyngciau gwleid- yddol Cymru fel ei ddyledswydd flaenaf a goruchafj a'i brofiad ef a ddengys nad ydyw yn angenrheidiol i arweinydd Oymreig gadw ei hun ar wahan oddi wrth aelodau Saasnig ao Ysgotig y blaid Ryddfrydig er mwyn I gallu dadleu dros ddiwygiadau i Gymru. Yr arweinydd Cymreig a wna hyny a fydd yn sicr yn gwneyd camgymmeriad andwyol. Yr ydys wedi ei glywed yn cael ei awgrymu dro ar ol tro y dylai yr aelodau Cymreig ymffurfio yn Waid annibynol hollol, ac na ddylai unrhyw seneddwr Cymreig gydsynio I i dderbyn swydd o dan Lywodraeth Rydd- frydig. O'r Ynys Werdd y ceir y drych- feddwl gwyllt hwn. Ond, dylid cofio fod y bleidlais Wyddelig lawer yn gryfach na'r bleidlais Gymreig; a phrofiad a'n dysga mai trwy gynghreiriad A Rhyddfrydwyr Lloegr ac Ysgotland y bydd Cymru yn fwyaf tebyg o hyrwyddo ei hamcanion ei hun, ac nid trwy weithio fel plaid annibynol ar wahan. ¡ Hysbys ddigon yw fod y dfweddar Mr. T. E. ELLIS, er na feddai sedd yn y WC"lD. í yddi^eth yn abl, vn rhinwedd ei gyfathrach agos A phenaetlsiaid swyddogol y blaid Ryddfrydig, i gario dylanwad arnynt mewn ffordd a fuasai ya llwyr ammhossibl i un o'r tu allan; a dylid cadw y ftaith hon mewn cof pan yr ydym yn s6a am Mr. LLOYD- GEORGE yn y cyssylltiad yr ydys yn ymdrin Ag ef. Pe penderfyaai Mr. LLOYD-GEORGE aros o'r tu allan i'r Llywodraeth Rydd- frydig, dylanwad yr aelod preifat yn unig a fyddai ganddo; ond, fel aelod o honi, efe a fyddai yn alluog i gynnrychioli buddiannau Cymru yn uniongyrchol o fewn cynghorau cycrin y blaid; ac am foment nis gellir gwadu y byddai mantais Cymru yn an- fesurol trwy ei ddadleuaeth gref ef. Hyd yn hyn y mae Mr. LLOYD GEORGE wedi ennill ei enwogrwydd fel dadleuydd medrus, cynHuniwr cyfarwydd, a dinystrydd arfaethau y gelyn. Gan mwyaf, ei wasan- aeth hyd yma yw ymosod ar y galluoedd gwrthwynebol. Fel arweinydd cenedlaethol Cymru bydd ei waith bellach o natur wahanol. Bydd yn rhaid iddo ddefnyddio y dry wel yn gystal a'r clêdd; dangos y medr efe adeiladu yn gyatal a thynu i lawr; ei fod ef yn feddiannol ar yr amynedd a'r nerth gwladweiniol angenrheidiol i lun- iaethu a chuio allan gynlluniau cenedl- aetbol mawrion, yn ogystal a beirniadu cynlluniau y gwrthwynebwyr. Mynych y gofynwyd: A ydyw efe yn meddu yr ansoddau meddyliol a'i cymmhwysant ef at y gwaith hwn o adeiladu 1 Amser yn unig a'i dengys; ond am danom ein hunain, ni phetruswn ddyweyd fod genym ffydd ynddo, ac na welir ef byth yn troi yn siomedig i obeithion cenedlaethol ei gydwladwyr ynddo. SEILIAU ELIF 'POLISI' CENEDLAETHOL. Yn uniongyrchol ar ol y cwestiwn ynghylch yr arweinyddiaeth daw y cwestiwn ynghylch ein 'polisi' cenedl. aethol. Yn ein mysg ni yn Nghymru ceir un egwyddor fawr sylfaenol, ar ba un y rhaid i bob gwladlywiaeth genedlaethol gael ei gosod i orphwys —yr egwyddor o ddemo- cratiaeth cydraddoldeb dynolryw hawliau y bobl yn erbyn rhagorfreintiau y dosbarth- iadau. Yn ofer yr esgeulusir cymmeryd y ffaith i ystyriaeth fod pob symmudiadau politicaidd yn Nghymru yn cymmeryd eu I t6n oddi wrth grefydd y bobl. Y mae y Beibl o hyd yn cael ei ddarllen a chredu I ynddo yn y Dywysogaeth, a'r rhai a sugnant ea hegwyddorion allan o'r Beibl a gychwyn- ant gyda'r gwirionedd fod pawb dynion yn gydradd ger bron Duw; y dylent gael mwynhau rhyddid perffaith mewn meddwl a [ gweithred; mai cymmeriad, a dealltwriaeth, a diwydrwydd yw yr ansoddau sydd yn ardderchogi dynion; nid cyfoeth lawer, Deu etifeddiaethau eang, neu deitlau pendefig- aidd. Yn yr argyhoeddiadau hyn y gorwedda gwreiddiau dJfoaf democratiaeth. Nid yw Rhyddfrydiaeth Cymru, mewn gwirionedd, yn ddim amgen na Rhyddfrydiaeth y Beibi ei hun-nid Rhyddfrydiaeth cyfarfodydd pwyllgorawl yn Westminster—a'i wyneb a osodir yn wastad yn erbyn anghyfiawnder, a gormes yn mhob ffarf arno. Nid felly y i mae yn Lloegr. Yno, yn yr eglwys, mewn politics, ac mewn bywyd cyhoeddus yn I gyffredinol, cyfoeth ydyw y dylanwad gor- uchaf. Oddi gerth mewn ychydig enghreifft iau eithriadol iawn. ceir yr arweinyddion yn perthyn i'r dosbarthiadau goludog. Ond, I pwy ydyw yr arweinwyr gwirioneddol yn Nghymru ? Nid yr aristocratiaeth—y due- iaid, yr arglwyddi, a'r barwnigiaid. Y maent hwy o'r tu allan i gyloh bywyd y bobl. Yr arweinwyr gwirioneddol yn Nghymru ydynt feibion y werin—TOM ELLIS, LLOYD-GEORGE, OWEN- EDWARDS, JOHN RHYS, ELLIS GRIFFITH—dynion wedi cyfodi yn unig trwy nerth eu cymmeriad, gallu eu hymenydd, a'u diwydrwydd eu hun- ain. Dyma y math ar ddynion a anrhydeddir gan genedl y Cymry. Yn Nghymru nid rhywbeth mewn damcaniaeth yn unig ydyw democratiaeth; egwyddor fyw yn cario dylanwad ar fywyd y wlad ydyw. Dywed- odd siaradwr cyhoeddus yn Lloegr yn ddi- weddar ei fod ef wedi gweled mewn capel yn Ngbymra filiwnydd adnabyddus yn eistedd mewn cyfarfod eglwlsig, a'r pen llafurwr ar ei ystfid ef ei hun yn gadeirydd; a gofynai ef, Yn mha le ar wyneb daear Duw y cewch ehwi olygfa fel hon yna oddi eithr o fewn moriau di-addurn, ond cys- segredig, y capel bychan yn Nghymru ?' Dyma y math o ddemocratiaeth sydd gan y byd eisieu cael ei ddysgu iddo; a dyma y math sydd eisoes yn gorwedd wrth wraidd y deffroad cenedlaethol yn Nghymru CYDRADDOLDEB CREFYDDOL. Gan gychwyn gyda'r egwyddor hon fel ein sylfaen, gofynwn pa fodd y gellir e. 1 |chymmhwyso at ffurfiad gwladweiniaeth, neu 'polisi,' cenedlaethol? Am ei bod yn sylfaenedig ar ddysgeidiaeth y Beibl na. turiol ydyw dyweyd y dylai yn, y lie cyntaf 011, gael ei chymmhwyso at fywyd crefyddol y Dywysogaeth a hyn ydyw yr esboniad digonol ar y ffaith mai Dadsefydliad yr Eglwys oddi wrth y Wladwriaeth sydd bob amser wedi cael y He blaenaf yn hawliau cenedlaethol pobl Cymru. Y mae y cyff. rawd am Ddadsefydliad yn Nghymru yn gorphwys ar rywbeth dyfnach na niferi (numbers); ar yr egwyddor grefyddol nad oes gan y Wladwriaeth hawl i ddewis ei grefydd i ddyn; fod gan bawb hawl i rydd- id i addoli yn eu ffordd eu hunain; ac mewn gwlad rydd na chaiff neb rhyw offeiriad arfer ei reolaeth ar feddyliau ac eneidiau dynion. Medda Eglwys Loegr liaws o nodweddion tra phrydferth—ei gwedd'iau cynnwysfawr, ei gwasanaeth ardderchog, a r gerddoriaeth odidog a leinw ei heglwys- ydd cadeiriol. Ond nid ydyw y pethau hyn yn cael unrhyw effaith ar bobl Cymru, o blegid ea bod yn gorphwys ar sylfaen dwyllodrus; o blegid fod yr Eglwys dan gaethiwed i'r Wladwriaetb, o blegid fod y syniad o Eglwys swyddogol yn gwrthdaraw yn erbyn cariad at ryddid a chydraddoldeb. Nis gall Eglwys Wladol byth fod, mewn gwirionedd, yn eglwys pobl rydd. Y mae yr Eglwys yn Nghymru a'i sylfaeni mewn rhagorfraint, ffafr, anghydraddoldeb a thra y byddo y sylfaeni hyn yn aros bydd ysbryd cenedl y Cymry yn parhau i ymgodi yn eu herbyn. Canys y mae Eglwys Wladol yn wrthwynebol, nid yn unig i'w hegwyddor- ion politicaidd, ond hefyd i'w ffydd gref- yddol. Yn y senedd gall y symmudiad o blaid Dadsefydliad lanw a threio; ond nid ydyw y gwahaniaeth mewn nifer yn erbyn neu o blaid yn effeithio dim ar yr egwydd- orion sydd o dan y cyfan. Nid ydvw ang- hydraddoldeb a rhagorfraint yn rhan o'r grefydd Gristionogol o gwbl, a rhaid fod yr Eglwyswyr hyny nad ydynt yn ofni ed- rych yn wyneb y gwirionedd er's amser 9 maith wedi eu hargyhoeddi eu bod, wrth geisio cynnal i fyny Eglwys Wladol yn erbyn dymuniadau y bob], yn ymladd yn erbyn egwyddorion tragwyddol cyfiawnder a chydraddoldeb. DIWYGIAD Y DEDDFAU TIROL. Y mae yr un peth yn wirionedd, i raddau llai, am yr hawliad a wneir yn Nghymru am ddiwygiad yn y deddfau tirol. Yma, drachefn, ceir y frwydr rhwng iawnderau y bobl ar un Haw, a rhagorfreintiau dosbarth ar y Haw arall. Pan y dechreua pobl fedd- wl am y mater, buan y cydnabyddant fod trefaiant presennol ein landlordiaeth yn bwdr a gorthrymus. Rhodd Rhagluniaeth ydyw y tir, yn liawn cymmaint a'r awyr a anadlwn, neu y dwfr a yfwn. Nid gan ddyn y crgwyd ef. Nis gall unrhyw dir- feddiannwr chwanegu at neu dynu oddi wrth ei swm. Fel y mor, daw y tir i ddyn yn un- iongyrchol oddi wrth ei Greawdwr. Ac etto, ceir y tirfeddiannwr cyffredin yn son am y tir fel rhywbeth sydd yn perthyn yn llwyr a hollol iddo ef, fel pe mai efe ei hun a foasai wedi ei greu, ac na fedda neb arall yr hawl leiaf arno. Os ydyw golwg y tir- feddiannwr yn gywir, yna y mae yn bossibl dychymygu gweled v ddaear ar ba un yr ydym yn byw wedi myned yn gyfan yn berchenogaeth cwmni o anturiaethwyr. Gwirionffol hollol ydyw pob honiad o'r fath pan y gwneir ymchwiliad trylwyr iddo. Oreadigaeth Duw ydyw y tir, wedi e1 fwr- iadu at wasanaeth dynolryw, a rhaid i holl hawliau y landlordiaid fod yn ddarcstyng- edig i'r egwyddor gyffredinol hon. I ryw fesur, y mae y senedd eisoes wedi gweithredu ar yr egwyddor hon. Pan y bo angen am dir at wasanaeth y cyhoedd -at ffordd haiarn, at waith dwfr, at f&n dyddynod, at amcanion adeiladu tai-nid ydyw ond ofer i'r tirfeddiannwr i ddyweyd fod ganddo ef eisieu y tir i fagu ei phea sants neu ei lwynogod arno. Daw y Wlad- wriaeth i mewn, a dywed :—' Y mae iawn- derau y bobl yn fwy pwysig na'ch mym- pwyon personol chwi; ni a dalwn i chwi bris rheaymol am y tir, a rhaid i chwithau werthu yr hyn sydd genym ei eisieu, gan nad pa un a ydych yn hoffi hyny ai peidio.' Daw yr oil o'r diwygiad tirol sydd gan Gymru, a'r gweddill o'r deyrnas, ei eisieu, i lawr, mewn gwirionedd, i'r pwynt hwn; helaethiad ar iawnderau y bob!, a chyfyng- iad, o fewn eu cylcb priodol, ar ragorfreint- iau y rhai sydd yn perchenogi y tir. Nis gall cenedl sydd yn credu y geiriau mai J Eiddo yr ARGLWYDD y ddaear' lai na bod I yn genedl 0 ddiwygwyr tirol, J ADDYSG A DIRWEST. Gan ddllyn yr un Ilioell deuwn at gwest- lynau addysg a dlrwest. Bath yw y ufie Gymrefg ar y rhai byn ? 0 ran egwyddor yr an ydyw a'r lleill. Ynglyn & phwnge addysg yr oil y gofyna Cymru yn syml am dano ydyw rhyddid a cbydraddoldeb- ar fod pob eglwjs a phob doebarth yn cael ymddwyn tuag atynt ar yr un tir. Nid hyn, modd bynsg, a hllwHr gan y blaid Eglwydg. Yoglyo a* achos Prifyigol Cymrn a'r 3 sgolion candraddol, Did oedd yr Eglwyswyr ya foddlawn I gymmeryi eu slawcs gyda'r gweddill o'r genedl, ond, mynenh gael rhagorfreintiau arbenig iddyr t en hunain. A bW7 yn dibyna, ynglyn â'u crefydd, ar ragorfraint a fftfr, mynent yr un petbau ynglyn Ag addysg- ond nis cawsant hwy. Cadwyd yr elfen enwadol yn llwydd iannaa allan o'n colegau a a bysgollon ail raddol; ac yn awr yr ydym yn ymladd i'w gau allan o'n hysgol- ion elfend hefyd, ac i wneyd addyag Cymru, ya mbob rhan o hono, ac yn mhob agwedd arno, ya geaedlaethol ya ystyr hel. aethaf y gafr. Batb, drachsfn, am ddirweBtt Yma, drachefo, ceir ar y naill law fuddiannau peraonol, ac ar y llall fuddisnnau y cyhoedd, Nid ydyw percheDogion y taf- arndaj yn eu cadw yo agored i foddhau y cybceid, eithr yn hytrach o lawar er mwya ennill elw iddynt hwy en hunain. Dism fod y mtsoachwr yo gwneyd yr un modd; ond, yngiyn Ag ef nid ydyw ei fasnach ef yn drygu cymmeriad moesol ac aniauyddol y bob!, Y mse y dyn sydd yn gwertha ymborth iachns a dilladau da yn gym- mwynsswr i'r werin tra yn ennill elw iddo ei hnn; end addefir mat y fasnach mewn diodydd meddwol ydyw y gangeo fwyaf peryglue o'r boll ddiwydiana&u sydd yo y wlad. Y mae yn gyfrlfol am fwy o droa- eddaa, anfoeaoldeb, tIodl, ac angbysur, nag unrhyw drafnidfaeth arall o gwbl. A all ammheuaetb fod mewn perthynag i'r aafle y dylai pob gwladgarwr el gvmmeryd gyda golwg ar fasoach o fath hon ? D/tziuniad pob gwfr genedlgarwr ydyw gweled el wlad wedi ei rhyddhau oddi wrth bob ffyn- nonell o berygl; ac oi ydyw y laanach feddwol yn ffynnonell o berygl I gymmer- iad y geoedl, yna, daw yn ddyledswydd foesol a pholiticaidd i'w chyfynga hyd y byddo yn bossibl, os nad i'w gwahardd yn gyfangwbl. I'r dfwygiwr dirwestol Cym- relg y mae Ilwybr dyledswydd yn glir- rhaid iddo ymdrechu cael gan y Senedd i ddelio a'r faBnach faddwol oddi ar aafbwynt llesiant y cyhoedd, ac nid oddi ar safbwyct jlogell y darllawydd goladog. HUNAN-LYWODRAETH. Erys nn diwygiad cyffredlnol, yr hwn a ymddengys fel yn cynnwya yr oil o'r lleill ynddo ei bun; set, yr hawl i gael psnderfynu mafcerfon Cymru yn uaol A barn Cymrn. Dyms, mewn gwirionedd, ydyw sylfaen pob deddhrrlaeth dda, CaD) S po fwyaf cyflawn a fyddo gweithred seaeddol mewn cyd* gordiad a'r farn gyhoeddus, tebycif oil 0 fod yn llwyddiannus a fydd. Ya y cya- sylltiad hwn cyfyd efn prif anhawsder oddi wrth yr unieb sydd rhyngom A Lloegr, a gwaith pobl L'.osgr yn gwrthod 1 bobl Cymru gael penderfynu y cwestiwn drostynt eu hunain. Nid oes, mewn gwirionedd, oad un polisi' yn bossibl, a hwnw yw cyfnertha. trwy y naill ragesampl ar ol y llall, hawi Cymru i gael gweini tuag ati ar wahan. Y ngl,tn âg addysg yr ydys wedi sicrhau gradd dda o lwyddiaut yn barod. Ynglyn A dirwest, yn ogystal, mae yr un egwyddor wedi ei gweithio allan yn llwyddiannus* Oddi ar y tir ag yr ydym eisoes wedi ei ennill, rhaid i Gymru fyned yn mlaen i'w eangu a'i helaethu. Nid ydyw o nemawr bwys pa enw a roddwn ar y peth—ymreol- aeth, hunan-lywodraetb, neu ddadblygiad Ileol. Yr hyn sydd genym leI eisieu ydyw bawl i Gymru i gael cwestiynau Cymreig wedi eu penderfynu mewn cydgordiad as argyhoeddiadau pobl Cymru. Lie y caniata- wyd yr hawl hon yn barod, yr ydys wedi cael ffrwyth daionus i Gymru ac i'r Ym- herodraeth a phan y daw y Sais araf ei feddwl i sylweddoli na wna ildio egwyddor Runan-lywodraeth i Gymru beryglu y ileiaf ar ei gysur a'i lwydd ef, ond y bydd, mewn gwirionedd, yn fodd ion i chwanega rhyw gymmaint at y cymmeriad cenedlaeth- ol, yna efe a wel na bydd ganddo ddim i'w ol, yna efe a wel na bydd ganddo ddim i'w ennill trwy barhau i wrthwynebu y dyhead cenedlaethol Cymreig. Oddi wrth hyn oil gwelir nad oes eisieu 'maniffactro' gwladweiniaeth genedlaethol i Gymru, am fod y 'polisi' sydd gan Gymru ei eisieu yn cyfodi yn uniongyrchol ac yn naturioloddiwrthei hanghenion cenedlaethol hi ei hun. Ceir sylfaeni y wladweiniaeth hono ya y cwestiynau yr ydym wedi bwrw