Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

C CAROHARORION 0 FLAEN YR…

DYDD GWENER.

News
Cite
Share

DYDD GWENER. Dechreuwyd ar weithrediadau y llys heddyw boreu trwy i Mr. E. B. Lloyd, llywodraethwr •cangen Llanrwst o Fange y Metropolitan, gael ei groesholi gan Mr. Humphreys o berthynas i -drafodaeth y Mti. David Jones a Roberts a'r bangc hwnw. Wedi hyny rhoddodd Mr. E. Jones Owen, llywodraethwr cangen Llanrwst o Fangc Gogledd a Deheudir Cymru, ei dyetiolaeth. Talwyd un swm o 3,OOOp. i Mrs. Hughes, gweddw y testanientwr, a llogau hanner blyn- yddol. Pan ofynwyd a oedd efe yn gwybod fod 14,0000. wedi cael ei dalu iddi o gwbl, dywedodd y tyst nad oedd efe yn gwybod a oedd i'w gyfiawnbau wrth ddadguddio cyfrifon clients eraill, ond yr oedd yn barod I ddyweyd fod swm mawr wedi cael ei daln i'w chredyd. Mcr bell ag yr oedd a wnelo ei fange ef, yr oedd wedi cael David Jones bob amser yn un y gellid ym ddiried ynddo. Nid oedd Roberts erioed wedi bod ynly bange mewn cyssylltiad a chyfrifon Jones a Williams. MR. THORNTON JONES YN Y Boes. Dywedodd Mr. Thornton Jones, cyfreithiwr, Bangor, i Mrs. Hughes ynogynghori ag ef yn Hydref diweddaf ynghylch ei hamgylchiadau. Ysgrifenodd lythyr at bob un o'r ymddiriedol. wyr, ac yr oedd nn o bonynt at Mr. David Jones. Ni dderbyniodd un atteb i'r llythyr hwnw. Ar y lOted o Hydref rhoddodd writ allan yn erbyn ymddiriedolwyr ewyllys David Hughes, yn hawlio cyfrif o'r rhenti ac ennillion ystad y testamentwr, i symaaud David Jones o fod yn ymddiriedolwr, a bod y gwaith o gario allan y mddiriedolaeth yr ewyllys yn c^el ei gario allan gan y llys, a bod derbynydd yn cael ei noii. Cafodd copi o'r tent ei gwasanaethu ar y diffynydd David Jones gan glere y tyst ar y 12fed o Hydref; ac ar yr un diwrnod ysgritenodd lythyr at yr ymddiriedolwyr, i ofyn iddynt am holl gyfrifon yr ystad Hydref 17eg yn Mange Gogledd a Deheudir Jymru, Llanrwst. Boren yr 17eg derbyniodd wefreb oddi wrth Mr. David Jones yn gohtrio y dydd iad. Anfonodd yntau wefreb fod y peonodiid yn bwysig, ac nas gellid gohirio. Aeth ef a Mr. Cadwaladr Davies i Lanrwst y diwrnod hwnw. CyfarfyddJdd cydymddiriedolwr Mr. David Jones, Thomas Williams, yr hwn a aeth gyda'r tyst i Fangc Gogledd a Deheudir Cymru. Ni ddaeth David Jones yno. Wedi hyny aeth y tyst i swyddfa David Jones, ond ni wel.. odd David Jones yno. Yn ddilynol aeth y tyst i Westty y Victoria i gael byrbryd; a thra yno clywodd lais David Jones yn y bar. Gan ei fod yn gwybod felly fod David Jones yn y dref, aeth y tyst drachefn i'r swyddfa, ond yr oedd wedi cael ei chau, gan ei bod yn banner diwrnod gftyl wythnosol. Methodd a gweled David Jones o gwbl y diwrnod hwnw, a bu raid iddo fyned oddi yno heb wneyd archwiliad ar y gwyat iadan. Ar y 23ain o Hydref derbyniodd wefreb oddi wrth y diffynydd Roberts, yn gofyn am gael ymgom âg ef yn Nghonwy; a daeth i'w weled ar ol hyny yn Mangor, agofyn- odd beth oedd an wneyd mewn perthynas i ymddiriedolaeth ystad Ty'ngwern, gan ei fod ef (Roberts) mewn anwybodaeth hollol o'r hyn oedd yn cael ei gario yn mlaeo, ond yr oedd wedi gweled un o lythyrau y tyst at y diffyn- ydd Jones. Dywedodd y tyst wrth Roberts sut yr oedd pethau yn sefyll, pan y dywedodd Roberts fod ei bartner yn edrych i mewn i'r mater, a chwanegodd, y gwnai ef i fyny pa ddiffyg bynag a allii fod. er mwyn ei gymmer iad ei hun, ac yr oedd ganddo eisieu tori y bartneriaeth i fyny yn ddioed. Dywedodd y tyst nas gallai ddyweyd, pa un a oedd yno ddiffyg ai peidio. Y diwrnod canlynol der- byniodd wefreboddi wrth Mr. David Jones, yr hon oedd i'r perwyl a ganlyn :-I Attaliwcii y gweithrediadau bydd i mi gydsynio i bennod- iad ymddiriedolwyr newyddion, a throsglwyddo y gwystliadau un ai yn Llanrwst neu Fangor.' Attebodd y tyst nas gallai wneyd dim gyda golwg ar attal y gweithrediadau hyd nes y byddai ei gtient' wedi cael allan y ffelthiau, a'i gyfarwyddo o berthynas i hyny, ond y talai ymweliad a Llanrwst ar y 26ain o Hydref. Aeth ef a Mr. Cadwaladr Davies, ac un arall oedd yn derbyn budd oddi wrth yr ewyllys, yno, a chyfarfyddodd David Jones ar yr heol, pan y dywedodd David Jones, Y mae hwn yn tater difrifol, gwaeth nag ydych yn ei feddwl.' Wedi hyny aethant i swyddfl1 y diffynydd. pan y dywedodd y diffynydd Jones ei fod am ddyweyd wrth y tyst yr holl wir, a bod llawer iawn o arian yr yiuddiriedolaeth wedi cael eu colli. Dywedodd y tyst wrtho, os mai felly yr oedd hi, ei fod yn tater difrifol iawn Yna cymmerodd y tyst nodiadau o'r ymctdiddan a gymmerodd le wedi hyny. Dangosodd hefyd restr o'r gwystliadau oedd yn meddiant ei glient,' ac aeth trwyddi gyda'r diffynydd David Jones, yr hwn, mewn attebiad i gwest. iynau y tyst, o berthynas i pa bryd yr oedd y diffygion wedi dechreu, a ddywedodd, i fyny i'r amser pan y talodd Dr. Evans ei dir-wystl i fyoy ni chyffyrddwyd & dim. Yr oedd Dr. Evans wedi talu cyn Awst, 1900. Mewn atteb- iad i ofyniad, pa fodd y gallai hyny fod yn ngwyneb yr archwiliad a wnaed ar y gwystl iadau yn 1900, dywedodd Jones, yn mhresennol- deb Mr. Cadwalndr Davies, • Dmgosais hen weithredoedd yn 1900 ac feUy, darfa i mi eich twyllo.' Dywedodd Mr Thornton Jones i'r ditfynydd ddyweyd :—'Fe! rheol, yr oedd pob arian a dderbyuid pan delid y tir-wyetliadau allan yn myned i gyfrify ffirm, gyda rhai eithr- iadau. Telais logau i Mrs. Hughes am symiau oedd heb eu cf ffwrdd, ond yr oedd heb dderbyn y cyfryw logau ondyr oedd, ar y llaw arall, wedi parhau i dalu llogau ar symiau oedd ci edi cael eu talu i ffwrdd, ac nid oedd gwystliadau iddynt mwyach. Y cam cyntaf a gymmerais a arweiniodd i'r anhawsderau presennol ydoedd i'm ffirm brynu un ran o bump o gyfran gweddill yr ystM wrth iddi gael ei throi i Robert Hughes. Cafodd y weithred ei rhoddi yn wystl i fuDgcwyr y ffirm, er sierhau y swm dros y cyfrif, Y mae gryn lawer o wystliadau o'a ffirm ni heb law hon, Yr oedhvn yn meddwl wrth brynu felly y gallem droi yr arian ar dir, a thrwy dalu y llog i'r tenant gadw yr Yl'tâd i tyned yn mlaeti. Yr ydym yn Kwneyd busnes yn dangos ennill o 2,500p. yn fiynyddol. Ni bydd i'r psrsonnu sydd yn dyfod i mewn am y rhan gweddill ddioddef; o'r hyn lleiaf, dyna fy syniad, os telir y swm a dynwyd dros ben o'r bangc. Yr oeddwn yn disgwyl i Mrs. Hughes farw tua phedair blynedd yn ol. Yr wyf yn dyfod i mewn am 3,000^?. o dan ei hewyllys. Dywedodd y tyst i Jones egluro pa fodd, yn ol ei farn ef, y gallesid gwneyd hyny. Wedi hyny aeth Mr. Thornton Jones yn mlaen gyda'i adroddiad o gyfaddefiad Jones:- Coll wyd yr arian sydd yn eisieu o-r y Gyfnewidfa {Stock Exchange). Gwnaed y drafodaeth gyntaf fel ffirm &'n harian ein hnnain. Nid ydym wedi gwneyd dim anturiaethau fel ffirm ar y Gyf newidfa er's chve blynedd, oddi eithr cario drosodd rai Randfonteins, ar ba rai y collab 120p. Collasom lawer mwy na 7,000p.' Dy. wedodd y diffynydd fod yr oil o'r gwystliadau eraill yn rhai da. Dangosodd ewyllys o dan bi un yr oedd ar ei fantnia, Fel mater o ragochel. iad, yr oedd yr ewyllys hono wedi cael ei dirymu heb yn wybod iddo. PERTHYNAS Y PARTNERIAID. Ar ol i Jones wneyd y mynegiad hwn, a dy- weyd mai ei bartner oedd yn cadw y llytrau, a'i fod yn gwybod am y drafodaeth a'r trysor- feyddyraddiriedol, darfu iddo ef (Mr. Thornton Jones) siarad a'r diffynydd Roberts, a dyweyd wrtho yn mhresennoldeb fJoaes fod hwn yn fater or pwys mwyaf, Tra yr oedd y tyst yn siarad a Roberts, cyfryngodd Jones, a dy- wedodd 'Nid oes genyf eisieu, mewn gwirionedd, dafln y bai ar Mr. Roberts i arbe i fy hun, ond gwirionedd ydyw gwirionedd.' Yna aeth y tyst dros yr holl ffeitluau a wnaed yn hysbys gan Jones wrth Roberts. Dywedodd wrth Roberts fod Jones wedi dyweyd iddynt golli yr arian yma ar y Gyfnewidfa, ac mai Roberts oedd yn cadw y llyfrau, a'i fod yn gwybod y cwbl am hyny. Ymddangosai Roberts wedi cael ei gyflroi yn fawr, ac ni wadodd fynegiad ei bartner, ond aylwoddnad oedd wedi bo 1 yn c ldw y llyfrau yn ddiweddar, gan et fod yn rhy brysur. Yr oedd David Jones wedi dyweyd eu bod hwy fel ffirm yn gwneyd busnes da, a bod yna tua 6,000p o ddyledion ar lyfr iu yn ddyledus iddynt. Dywedent hwy mal y swm o 2.500,0 oedd yn d iyiedas oddi wrfhynt'i r bangc. Wedi iddo gyfeirio at amryw dra'odaetnau eraill, dy- wedodd y tyst iddo osod y ffeithiau ger bron ei ddadleuydd, ac iddo wedi hyny, gan weith, redu ar gyfarwyddyd, osod y ffeithiau o flaen yr erlynydd cyhoeddus. iVedi hyny eroesholwyd y tyst gan gyfreith- iwr y ddau ddiffynydd, yr hwn a ddywedodd iddo geisio cael allan yn ystod ei ymddiddaa a Jones pa. nn a oedd ei bartner yn gwybod pa fodd yr oeld yr ymddiriedolaeth yn cael ei chario yn mlaen. Yr oedd yn gwybod hyny am tod Roberts, mewn ymddiddan a gatodd ag ef yn Mangor, wedi gwadu pob gwybodieth ynglyn a'r drafodaeth ac yr oedd yn awyddus, os yn bossibl, clirio Roberts ya y mat,er. Yr oedd y tyst wedi cael ei flino yn f t r ya ystod y tri mis diweddaf am fod enw da dau frawd yn yr un alwedigaeth i fewn yn y cwestiwn. Mr. Cadwaladr Davies oedd y ^tyst olaf, yr hon oedd, i raddau pell, yn myned i gadarnhau yr|hyn a draethwyd gan Mr. Thornton Jones. Gohiriwyd y llys hyd ddydd Sadwrn.

DYDD SADWRN. !

DYDD LLUN.

DYDD MAWRTH. --

DYFARNIAD Y FAINGC.

[No title]

ADEILADA U GWAEL A'R GYMMALWST.