Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

DINBYOH,

News
Cite
Share

DINBYOH, LLYS YR YNADON BWRDEISIOL. Y GYFRAITH DRWYDDEDOL NEWYDD. DYDD Gwcnor cynnaliwyd y llys hwn, pan yr eisteddai y maer (Mr. A. U. Evans), Mr. J. Harrison Jones, y Milwriad Lloyd Williams, Mri. John Davies, Robert Owen, Dr. J. R Hughes, Mri. T. J. Williams, R Humphreys Roberts, W. Mellard, a James Hughes. Yr oedd dirprwyaath liosog, yn cael ei blaenori gan y Parch. James Charles a rheithor Dinbych (y Parch. Daniel Davies). yn bresennol, i gyilwyno deiseb mewn perthynas i ddarpariaethau y Gyfraith Drwyddedol newydd, ar ran yr amrywiol enwadau crefyddol a'r cymdeithasau dir- westol yn y dref. Dywedai y ddeiseb fod y deisebwyr yn credu yn gryf fod y Gyfraith Drwyddedol newydd yn ymgais bwysig a theilwng i ymwneyd a'r drwg mawr o feddwdod; a'u bod yn barnu, os cawsai y gyfraith ei chario allan yn bend-erfynol, y profai yn gaflaeliad mawr i'r cyhoedd. Dadganai farn, hefyd, fod n'fer y tafarndai yn llawer gormod i atteb i angen y cyhoedd; ac annogid yr ynadon i roddi cyfarwyddiadau ar i ymchwil- iadau gael eu gwneyd gyda'r amcan oddwyn or'di amgylch, mor fuan ag yr oedd yn bossibl, ostyngiad mawr yn eu nifer. iSiaradodd Mr. Charles a'r rheithor yn gryf yn ffafr lleihau y tafarndai. Addawodd y maer y byddai i'r ddeiseb gael ystyriaeth fwyaf difrifol yr ynadon; ac i'r amcaa hwnw y rhoddid cyfarwydd- iadau i arolygydd yr heddgeidwaid i wneyd ymchwiliadau, a gosod y canlyniad o hyny ger bron y llys. Cydnabyddodd y Parch. Joseph Evans yn fyr hynawsedd yr ynadon wrth dderbyn y ddirprwyaeth. llhybudd i ddyn ieuangc.- Y n yr heddlys nchod, dydd Gwener, ger bron y maer (Mr. A. O. Evans), ac ynadon eraill, cyhuddwyd Robeit Wynn, 20ain mlwydd oed, Henlian Street, o wrthod myned allan o dafarn yr Eagles pan mewn ciod. Hefyd, cyhuddwyd ef o ym- osod ar George Williams, y tafarnwr. ac o wneyd niwed i flenettr ya y tý. Addawodd y diffyn- ydd ddiwygio ac wedi rhoddi cerydd Ilym iddo gan y maer a Mr. J. Harrison Jones, gollyng- wyd ef yn rhydd, Meddw ac Afreolus.—Dirwywyd Robert Jones, llafurwr, Henllau Street, i 5s. a'r costau, am y trosedd uchod, a gyflawnwyd ganddo dros fis yn ol. Y pryd hwnw cafodd yr achos ei ohirio, er cael gweled pa fodd yr ymcldygai y cyhudd- edig. Dywedodd Arolygwr yr Heddgeidwaid ei fod wedi gwe!ed Jones dan effeithiau diod yn nghorph y mis, ond nad oedd Y11 afreolus. Rhy- buddiwyd ef y byddai yn berygl iddo, os na ddiwygiai. gael ei osod ar restr y meddwon dan y ddeddf newydd. Meddw a Owrthod Ymadciel o Dafarn.— Dirwywyd Owen Jones, Fron, i 5s. a'r costau. am fod yn feddw, a gwrthod ymadael o'r Golden Lion, Dinbych. Haerai y cvhuddedig ei fod wedi cael y ddiod yn y ty am wneyd neges, ac na thalodd am ddim yno. Meddw.—Cyhuddwyd Edwin Roberts, Oastell, o fod yu feddw ar y 3ydd cyfisoJ, yn L6n y Crown, a dirwywyd ef i 2s. 6c. a'r eostau. Ymosod.—Cyhuddwyd John Jones, Henllan Street, gan Robert Hughes, o'r un beol, o ym- osod arno ar y 3ydd cyfisol. Hefyd, cyhnddid Hughes gan Jones o ymosod arno yntau. Rhwymwyd y ddau i gadw'r heddwch am chwe mis, pob un i dalu ei gostau ei hun. Dwfr mewn llefrith.—Ymddangosodd W. Williams i atteb gwys am werthu llesrith wedi ei wanychu yn ormodol gyda dwfr. Eglurodd y diffynydd mai trwy ddamwain y digwyddodd yr anffawd sef, bod y dwir wedi ei adael yn y llestr llaeth dros nos gyda'i" amcan o'i ddefn- yddio at waith y ty yn y boreu. Yn anfiodus, yr oedd ei wraig yn rhy wael i godi y boreu hwnw, ac yn ei habsennoldeb fe dywalitodd ei ferch fecban y Ilefrith i'r llestr bob wybod fod y dwfr yno. Wedi amlygu ei ofil o herwydd y ddamwain estynodd y diffynvdd nifer o lythyr- au i'r faingc oddi with Mrs, Davies, Plas Castell, Mrs. Andrews, Dr. Lloyd, ac amryw eraill, yn hysbysu eu bod yn caol eu cyflenwi a llefrith gan y diffynydd, ac na chawsant erioed le i wsled bai. Dirwywyd ef i 5s. a'r eostau. Bygwth heddgeidwad A dryll.—Cymmerid cryn ddyddordeb yn achos yr heddwas John Davies yn erbyn Moses Jones, Stryd Henllau. Daeth yr achos yn ixtlaen gyntaf yn yr heddlys blaenoroi, pan y cyhuddwyd Moses o fygwth y phsman gyda gwo. Tystiai y swyddog iddo I gaei ei alw i ôy y diffynydd nos Nadoiig i roi pen ar helynt oedd yno. Tra yn y ty, neidiodd Moses i'w wddf a phan gafodd efe y gwaethaf o'r ysgarmes, cymmerodd afael mewn gwn, gan fygwth y tyst ag ef. Addetodd Moses ei fod wedi tynu'r glvn i lawr, a chyhuddodd y swyddog o fod wedi yfed rhan o chwart o gwrw yn y tý cyn myned ymaith. Gohiriwyd yr achos i alluogi y diffynydd i alw tystiou ynghylch yfed y cwrw. Daeth un tyst yn mlaen yn y cwrt presennol i dyngu fod Davies wedi yfed o'r cwrw. ond dywedai eraill na wolsant gwrw yn y He. Yn y diwedd rhwymwyd Moses Jones yn y swm o 5p. i gadw'r heddwch a;ii chwe mis. Dywedodd y maer nad oedd mwyafrif yr ynadon yn credu ystori'r cwrw. Gorchymynwyd i Moses Jones dalu y costau, sef 27s. Cadw UeUyivyr heb drwydded.—Dirwywyd Mrs, Adams, Yale Street, i 20s. a'r eostau, am y trosedd hwn.

"UNDIB -DIRWESTOL , MERCHEDI…

MAEN-Y-GROES, GER CKINEWYDD.

CYMDEITHAS DDIRWESTOL DWYREIKBARTH…

[No title]

Advertising

SIR, FON.

L L A N G 0 L L E N.

TREFFYNNON.

CONWY.

-------EBION 0 NANT CONWY.

MYDDFAI.

BWRDD GWARCIIBIOWAID FFESTINIOG.

ANFADWAITH TEULUAIDD YN NEWCASTLE.

CAFODD Y M W A R ED O 'jl…