Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

DREFACH, FELINDRE, A'R OYLCH.

MARWOLAETH HANNAH JONES, PANT…

[No title]

Foneddigion,

HENLLAN, GER DINBYCH.

IGWERTHU LLYFRAU YN YR YSGOL…

Advertising

Advertising

PWYLLGOR HEODGETDWAID SIR…

News
Cite
Share

PWYLLGOR HEODGETDWAID SIR DREFALDWYN. YN v Drefnewydd y cynnaliwyd cyfarfod o'r pwyJlgor hwn, dydd Gwener. Yr oedd yn bresennolCadben Mytton (cadeirydd) Mn. R. Jones, T. Watkin, R. Rees, C. W. Owen, R. E. a G. J. Newell, a'r clero (Mr. G. D. Harrison). Cynnygiodd Mr. R E. Jones fod Cadben Mytton yn cael ei ail ethol yn gadeirydd a chefnogodd Mr. R. Jones; a chafodd hyny ei basio. Cafodd cais o eiddo y prifgwnstabl, am i'w 11 gyflog gael eigodii'r un swm a'i ragflaener-sef, 300p., yn He 270p.-el ohirio hyd y cyfarfod nesaf. Derbyniwyd llythyr oddt wrth yr Ysgrifen ydd Cartrefol yn gwneydcaisam i ddrws gael ei wneyd yn y doc yn Llysdy Brawdlysoedd y Drefnewydd. Ysgrifenodd Mr. E. Powell, cyfreitbiwr i Gwmni Neuadd Gyhoeddus y rrefnewydd lythyr mewn attebiad i lythyr oddi wrth y clerc \n gofyn am i'r drws gael ei wneyd, fod y cwmpeini wedi myned i gryn g6st i gario allan welliantau ar y llys, a'u bod yn disgwyl cael rhywbeth mewn ffordd o ad daliad oddi wrth y Cynghor Sirol a'r pwyllgorau a gyn- nelid yn y neuadd. Heb unrhyw reswm amlwg, yr oedd y cynghor wedi barnu yn ddoeth i gyfarfod mewn adeiladau eraill, y rhai a gydnabyddid oedd yn lie llai cyfleus. Yr oedd perchenogion y neuadd gyhoeddus, mewn canlyniad i hyny, yn goriod myned i'r g6st dair gwaith yn y flwyddyn o wneyd ystafell y llys i fyny, er i'r cyfryw gael ei defnyddio yn rhydd oddi wrth unrhyw dU gan y sir, er fod tref gymmydogaethol yn derbyn, yn ol fel |yr hysbynir, 80p. yn flynydd 'l am ragorfreintiau cyffelyb. 0 dan yr amgylcbiad- au, nis gallai ef gyfarwyddo ei gliest' i wneyd cyfnewidiadau pellach ar yr adeil&d, na chaniatau i'r cyfryw gael ei wneyd, oddi eithr eu bod yn dylod i rhyw trefniant teg a rh*- symol. Y cadeirydd a sylwodd ei fod yn cael ei synu braidd yn ngwyneb tôn y llythyr, wrth gym moryd i ystyriaeth fod y brawdlysoedd a'r brawdlysoedd chwarterol wedi cael eu dwyn i'r Drefnewydd ar y dealltwriaeth bendant y darperid digon o gyflensderau. Tybiai ef y dylai y pwyllgor wasgu ar fod y gwaith yn cael ei wneyd. Y clerc a sylwodd, os na ddarperid cyfleus- derau priodol, y gallai yr Ysgrifenydd Cartref- ol symrnud y brawdlysoedd i rywle arall. Penderfynwyd gofyn i Mr. Powell pa un a oedd ei benderfyniad yn derfynol. Y cadeirydd a sylwodd. os byddai i'r cwmni ddal dros yr hyn a ddadleuid ganddynt, mai dyledswydd y pwyllgor fyddai ysgrifenu at yr Ysgrifenydd Cartrefol i'w hysbyau ef o'r am. gylchiadau.