Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Hide Articles List
17 articles on this Page
LLANFAIR CAEREINION.
News
Cite
Share
LLANFAIR CAEREINION. FONEDDIGION, Prin yr oeddwn yn coelio. pan glywtus gyntaf, I rhyw ddyrnaid mewn Cwrdd Plwyfol feiddio pender- fynu codi treth ar yr holl blwyf bwn. er mwyn datolu y coroniad gyda thê yn Llanfair. Pe buasai y plwyf yn fychan a chryao, ni ddywlidaswn air yn erbyn ond gan ei fod yn fawr a gwasgarog bydd y cynllun yn rhwym o fod, i rai ardaloedd, yn un pur orthrymus. Perthyna rhanau helaeth o'r plwyf hwn i ganol- bwjntiau eraill; ae yn y manau hyny fe ddathlir y ooroniad gyda rhoddion gwirfoddol; ao yn naturiol fe ddisgwylir rhoddion o b wyf Llanfair felly, fe welwch mai gorthrwm ydyw defnyddio dichell a chyfralth i gael gaa y bobl yna gyfranu at y row yn Llanfair. Ydwyf, &c., UN o DOP Y PLWYF.
HUNAN! HUNAN!! HUNAN!!! 1
News
Cite
Share
HUNAN! HUNAN!! HUNAN! WEOI CAEL FY NGALW I EDRYCH ANSAWDD IEOHYD Y DYWYSOGrAETH.) FONEDDIGIOy, Y mae genyf i ddyweyd wrthych fod y Dywysoj;aeth yn bur sal o glefyd gwauth na'r iyph .vi Clefyd sydd o natur y darfodedigaeth. Y mae pob peth gwerth ei alw yn fywyd yn darfod o dan ei effeithiau. Y mae yn rapid weithiau. Y mae yn sior o ladd yn araf os na bydd yn rapid. Y mae ambell un yn cael bod ar y ddaear yma wedi peidio a byw am Bynyddoedd, ac wedi marw-marw yn meddyliau eraill y maent, ac yn fyw iawn yn eu meddyliau eu hunain. Dechreu yr afiechyd oedd, i ryw ysbryd daflu rhyw fath o oleuni iddynt arnynt eu hun"in-goleuni oedd yn peri iddynt hwy eu hunain edrych yn ffafriol arnynt eu hunain. Y maent wedi cael y fath olwg ar y 'myfi' yna nad anghoflant hwy byth mo hono mewn un man o dan unrhyw amgylchiad. Y mae sefyllfa eu meddwl yn regular mania. Y maent wedi gwirioni yn Un ar y 'myfi.' O! ydynt: y maent wedi dotio ato, Nid oes neb mwy. Y maent yn meddwl am dano, ac yn siarad eu meddwl, fel yr oedd Evan Thomas, y Lôn. yn dyweyd am y Brenin mawr, ao wrtho:—' Yr wyt ti yn fwy na phawb, ac yn well na. neb.' Y 'myfi' anfeidrol ddoeth yma sydd ar y blaen ac yn y ffrynt i bob gweithrediad o'u heiddo; ae efe sydd yn y golwg yn ngwyneb pob siarad o'u heiddo. Os gwnant ryw wrhydri, y 'fi' fawr a gaiff y clod. Os canmolant rywun, Duw a'i helpo! Fe fydd y 'fi' fawr yn marchogaeth ar ei gefn ef fel hunllef, ac yn eeiaio bod yn uwch o droedfeddl nag ef. Y maent yn wenwyn i gyd. Y mae arnynt wenwyn ofnadwy i'r Brenin mawr ac i Iesu Grist, am nad oes dim chance iddynt hwy gael bod yn ddoethach na hwy, nac yn well. Y maent yn methu a gwybod yn y byd sut i basio Dydd Coroniad Edward vn., am na buasent hwy yn cael eu coroni yn ei le ef; ac y mae yn biti ganddynt na buasai y Deyrnaa Gyfunol yn gwybod am danynt. Pe buasai dim ond hyny, ni fuaaai petrusder ganddynt M buasent yn cael eu dewis, a'u coroni; ond ni buasai hyny yn ddigon ganddynt cyn pen yr awr. Buasent yn dechreu meddwl sut i fyned i orsedd y bydysawd, yn ngororau pell gwlad y gwawl. Er pan ydwyf wedi canfod arwyddion o'r afiechyd arnynt y maent yn gwneyd clem am bob cader possibl. Y maeut yn marw yn nheimlad pobl lednais, ac yn fyw iawn yn eu teimladau eu hunain. Y maent yn gyfiawn dros ben; ond y mae y 'fi' fawr yn gwthio ei big trwy eu cyf- iawnder. Y maent yn dduwiol ofnadwy; ac y maent yn ddig os bydd neb arall felly. Y maent yn gwmeyd tipyn o dda, ond welsoch chwi erioed gymmaint o drwst fydd yn cael ei wneyd ar ol hyny. Os rhoddant bar o esgidiau i fachgen tlawd, neu bâr 0 ddillad, rhaid iddynt gael dyweyd hyny i bawb wedi iddi wella ar y bachgen. Wedi i mi deimlo pulse y Dywysogaeth, a sylwi ar ei llygaid hi, a tharaw fy nghlust wrth el chalon hi. nid oes afiechyd yn y byd ami nad ellir ei wella yn fuan ond hwn. Y mae wedi suddo yn fwy na neb o dan effeithiau hwn mewn ychydig. Nid oes obaith o honi os na wella o hwn. Y mae arwyddion o houo i'w gweled yn eglwysi y Cynnulleidfaolwyr, ac yn y cyf- arfod chwarter a'r gymmanfa. Y maent i'w gweled yn nghorph y Wesley aid ac yn nghyfundeb y Bedydd- wyr; ac nid ydyw yn absennol o Gorph y Methodist- iaid, a'r sasiwn, a'r cyn-lywyddion. Gwelais ddan o honynt yn ddiweddar &'r svmtoms yn ddrwg iawn sraynt. Fuasai neb yn meddwl wrth edrych o draw ar eu dyn oddi allan. Ond ni fuasai raid i physygwr :ddim ond eu clywed yn eiarad nad oedd yr arwyddion yn dyfod i'r golwg. Y mae un arall yn gwelJa ychydig. Nid oedd yn son cymmaint am dano ei hun yn ddiweddar ag y clywaia i ef; ac yr oedd yn siarad fel dyn wedi colli nen anghofio llawer arno ei hun. Ni chlywais mo hono er's blynyddoedd A'r afiechyd wedi colli cymmaint o'i leferydd ef. Yr wyf fi a'm e yd feddygon yn dal gobaith gwan am dano y gall ddyfod yn iach oddi witho, er ei fod yn hen glefyd arno, ac yn glefyd y teulu. Ond am ddau oedd yno, nid oes genyf ti a'm cyd feddygon ddim gobaith. Etto, yr ydym yn myned ati hi i roddi cyffyr i'r ddau, ao operation, hefyd, oa bydd raid-cyffyr ac operation cryf iawn, cyffyr a fydd yn k It or cure iddynt. Ond nid oes dim arall i'w wneyd, gaa eu bod hwy yn dyfod fel hyn yn y cyflwr y maent yisddo ar bwys eu hawl i leoedd cyhoeddus. Credu yr wyf y gwel pawb ein bod, fel physygwvr, yn gwneyd y peth goreu o dan yr amgylehiadau. Bu fy nghyd physygwyr a minnau yn meddwl pe tase yn bossibl tynu y fi fawr' o honynt cyn eu cychwyn i le cyhoeddus, a'i chadw mewn cist haiarn, a cbloion arui, neu gist o gutta peroha, neu rywbeth arall, y buasai yn dda. Ond y mae gwreidd- iau y drwg mor ddwfn ynddynt fel y mae arnom ofn eu lladd. Cofion goreu. Yr eiddoch yn ddiffuant, Luc Y PHYSYGWR.
-----ABERGYNOLWYN.
News
Cite
Share
ABERGYNOLWYN. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH RICHARu OWEN JsLLIS. DYDD Sabbath, y 25ain cynfisol, tuag un o'r gloch y prydnawn, bu farw y dyn leuangc hwn, yn dra sydyn. Dim ond rbyw chwe diwrnod o gystudd. Bu farw cyn i liaws mawr o'i gyfeillion a'i gydnabod ddeall ei fod yn glaf o gwbl. Yr oedd wedi bod yn cynnorth- wyo cyfaill i symmud dydd Sadwra, yr wythnos flaeu- orol, pryd y darfu iddo wlychu yn drwm a chafodd ei daraw gan y dolur ofnadwy hwnw, yr ennyniad (inflammation); ac er holl ofal a medr y meddyg, Dr. E. L. Lloyd, lowyu, bu farw fel y nodaia yn barod, yn 27ain mlwydd oed. Mab ydoedd i Owen a Catherine Ellis, Water Street, Abergynolwyn; ac yr oedd yn frawd i Mr. David O. Ellis, myfyriwr yn ngholeg y Methodistiaid Calfin- aidd yn y Bala. Y mae iddo ddau frawd yn Unol Dalaethau yr America, y Mri 0. Meirion Ellis ae R. Owen Ellis. 1 aethant yms o ddeutu deng mlynedd ar hugain yn ol, o ardal chwarelyddol Penygroes, sir Gaernaifon ac y mae y tad yn 6f y chwarel er pan y daeth yma, a'r plant wedi eu dwyn i fyny yn chwarel- wyr. Collodd y rhienl ddau o'u plant yn flaenorol, ychydig flynyddoedd yn ol mewn modd sydyn iawn, y naill drwy afiechyd, a'r llall drwy ddamwain yn y chwarel, a phob ua or ddau yn mlodeu eu dyddiau A dyma Dcck.tf etto wedi caol ei dori i lawr mewn moment, bron. Yr oedd yn ddyn ieuangc talentog mewn llawer ffordd. Yr oedd yn ddatganwr da; a byddai yn ami yn ennillydd yn y c- rddau llenyddol a chyatadleuol ar hyd y cymmydogaethau hyn. Yr oedd, hefyd, yn adroddwr campus,Jac yr oedd y rhan fynychaf yn fuddugwr. A chredaf mai ychydig yw nifer y rbai cyfartat iddo mewn gallu dyawaredol a chof. Dysgodd bobpeth yn drwyadl, a hyny mewn amser by-t. Bu yn cymmeryd rhan flaenllaw gyda'r Ddrama Gantata 'Llewelyn v Llyw Olaf,' yr hon a berfformiwyd mewn lliaws o fanau gyda chymmerad- wyaeth mawr. Yr oedd yn wastad gyda rhyw waith cyhoeddus. Yr oedd ar hyd y tlwyddyn ddiweddaf yn or-aelog gyda r achoa dirwestol. Nid oedd yr un cyfarfod La byc!d d Richard yn gwneyd ei ran ynddo drwy ganu, adrodd, neu ddadleu. Mewn gair, yr oedd yn brif fywyd ac ysgogydd ein oymdeithaaau yn y lie. Yr oedd yn meddu ar rhyw nwyfiant ac ysbrydiaeth iu hwnt i neb o'i gyfoedion pa le bynag y byddai, ac yn gallu llanw pobpeth yr ymaflai ynddo a'i ddelw ei hunan. Pan yn myned neu ddyfod o'r chwarel, byddai ganddo yn wastad gwmni o ddwsin neu ddau yn ei ganlyn, ac yn cael eu swyno gan ei ffraethineb a'i arabedd llawen. Nid oedd ball ar ei waith yn ail adrodd rhyw hen gymmeriad neu gilydd gyda hwyl ddiniwed. Mewn gair yr oedd yn un ag yr oedd pawb, yn hen ac ieuangc, yn ei anwylo a'i gafu yn mhob cylch y troai ynddo. Cafodd gystudd caled am rhyw chwe diwrnod; ac er fod y meddyg a phawb wedi gwneyd ymdrechion eithriadol ar ei ran, yr oedd yn eglur boreu Sabbath ei fod yn oyllym singcio; ac yr oedd efe ei hunan yn teimlo byny. Daliodd ei ymwybyddiaeth bron ar hyd el gyatudd. Adroddai ranau o bregethau neu emyn- au yn ami; a rhyw ychydig cyn myoed i'r gIya, dy. wedai wrth un o'r oyfeillion oedd ger llaw:— Wei, Evan bach, mae'r cyfan wedi cael eu maddeu, mae'r cyfan wedi eu maddeu;' a thorodd i ganu mewn rhyw hwyl orfoleddus yr hen emyn adnabyddus — Er nad yw'm cnawd ond gwellt, A'm hesgyrn ddim ond clai, Mi ganaf yn y mellt, Maddeuodd Duw fy mai; Mae craig yr oesoedd dan fy nhraed, A'r mellt ya diffodd yn y gwaed.' A thra yr oedd eysgodion y mynyddoedd tywyll yn cau o'i amgylch, ac yntau yn canu 'Maecraig yr oesoedd dan fy nhraed.' 'Fe holltodd y cwmmwl goleuodd y glyn Ehedodd dan ganu o'r Graig i fyd uwyn.' Dydd Mercher daeth torf na fa ei chyffelyb mewn rhif erioed mewn angladd yn Abergynolwyn. Gwel- ais rai o Fachynlleth, Tywyn, Abermaw, a Chorris, a Llanegryn yn neillduol. Dangosodd arweinydd ac aelodau Cor Ciai.4 y Deryn ffyddlondeb neillduol drwy fod yn bresennol. Gweinyddwyd wrth y t' gan y Parch. John Wil- liams (A.) Tywyn ac yn y capel (i gynnifer a allent gael He i fyned i mewn), gan Mr.Williams, a'r Parch. J. R Jones (M.C.), Abergynolwyn. Siaradodd y ddau lawer ar ei ragoriaethau, gan daer annog y dynion ieualngc i gymmeryd ei fantell i fyny drwy ymdafiu i waith fel yr ymadawedig. Yr oedd yn amlwg fod y ddau yn llafurio o dan deimladau dwys, yn neillduol Mr. Jones, am fod y ddau wedi cydweithio cymmaint, yn benaf gyda'r achos dirweatol. Yr oedd yn gorfod ymdrechu yn galed yn erbyn ei deimladau, y rhai a fynent roddi ffordd i gryndod a dagrau yn ami wrth lefaru. Yna symmudwyd yn araf tua'r gladdfa. Gwein- yddwyd yno, drachefn, gan y Mri. Williams a Jones yn wir effeithiol. Ac yr oedd y galar yn beth na fu yn y gladdfa hon ddim yn debyg erioed yn flaenorol- pawb yn wylo, dim gwahaniaeth mewn oed na rhyw. Wedi canu yr hen emyn 'Bydd myrdd o ryfeddodau,' ymadawodd y dorf alaru, gan adael eu cyfaill i huno hyd yr adeg y 'Bydd dorau a beddau byd Ar un gair yn agoryd.' Yr oedd ar ei fedd liaws mawr o bleth dorchau blodau (wreaths), wedi eu hanfon gan gyfeillesau a chyfeilliono bell ac agos. Yr oedd y ) hai canlynol yn tynu sylw mawr :— Not gone from memory, Not from love, But I hope to red with L^rd above. Barmouth. M. JANE WHITI GTON. Llithrodd oer chwa'r dyffryn drosto, Cwympodd pwya ei olaf nos Pa'm y wylwn, oni chododd Seren ddydd ei galon dlfls KKTTY JONKS A MAGGIE ROBBETS. Symrathy. Abergynolwyn. MRS. BERNARD Er cof am fy anwyl frawd. Tanybryn. MRS. M. LEWIS. In Memory. Mhiwfas. M RP- SAMUEL PUGH. Canya ni a wyddom os ein daearol,' 2 Cor. v. 1. Aber. CATHKRINK OWENS. Gyda gofid dwys, ar ol aelod ffyddlawn o Gor Craig y Deryn. OWEN JONES, Bryngwyn, Arweinydd Cor Craig y Deryn, Llanegryn. Rhodded yr Arglwydd el aden gypgoflol drostvnt fel teulu, yn neillduol y rhieni yn eu haml ,u blin gystuddiau; a chynnortbwyed y brodyr sydd yn yr America i gynnal y newydd trlst heb ymollwng i dristweh gormodol. A bydded i'r brodyr a'r chwior- ydd sydd gartref gael eu symbylu gan aydynrwydd y gwahaniad i sicrhau lie, fel eu brawd, yn Ardal lonydd yr aur delynau,' lie na raid byth ymadaw mwy, a lie y mae ei hln- sawdd yn rhy dymmherus i'r un o'i phreswylwyr gael ennyniad (inflammation) i dragwyddoldeb. YR HEN IDRIS.
PHESCOT.
News
Cite
Share
PHESCOT. CYFARFOD PREGETHU BLYNYDDOL YR ANNIBYNWYR. SAIF y lie hwn tuag wyth milldir p Liverpool, ac y mae yn lie hynotl a pbwysig ar lawer ystyr. Y mae yw myued ar gynnydd parhaus mewn ystyr gweithfa il. Y mae yn Prescot a'i amgylchoedd. ac i Ryfeitiad St. Helens, liaws o weithfeydd glo. fel y gellir dyweyd fod yn y rhanbarth rai miloedd o iowyr; ac hysbyewyd fod yr oil o'r gweithfeydd hyn mewn sefyllfa ragorol a llwyddiannus yn y byd masnachol. Gwaith arnll y cawngyfeirio ato ydyw gwaith oriaduron, sef y Lancashire WatchCo. Ltd. Y mae yn y gwaith hwn taa 1,500 o weithwyr, yn cyn, nwys merchei, a phlant, a chawn ar ddeall eu bod yn troi ailaa o'r gwaith yn fi-ol dros 10 000, o oriaduron, a'r rhai hyny yn cael ea hanfon i wahanol ran au o'r byd. Ystyrir hwn yn un o'i gweithfeydd oiiaduron mwyaf yn y wlad, os nad yn yr holl fyd, ac y mae yn myned ar gynnydd parhaus, fel y bydd y rhif uchod yo cael ei chwanegu wrth y miloedd yn fuan. Uawn eiu hytbysu fod ya y gwaith liaws o arolygwyr ac Bydd yn deilwng o'r enw, ao yn foneddigton yn Dgwir ystyr y gair. H8fyd, yn Prescot y mae gwaith pwysig a masnachol arall, ag sydd yn hysbys i'r byd yn gyffredinol, gwaith ag y mae galw mawr am eu nwyddaa trwy'r holl wiedydd yn y biyoyddau hyn, ac yu myned yn fwv felly y uaiit flwyddyu ar ol y llall, sef, The British InsUl lated Wire Co. Ltd. Yn ol eu hadroddlai deall- wn fod dros 2 5UU o weithwyr yn bresennol yn y gwaith, ao yn eu mysg amryw o ddiweddar weithwyr Arglwydd Penrhyn. Nid oes unrhyw aroheb yn cael ei hanfoa i'r gwaith o'r wiad hon, nac o unrhyw wlad arall, o dan lO.OOOp. Ystyrir ef yn uu o'r gweithfeydd mwyat cyhoeddns a pbwysig yn yr holl fyd o'r natur yma. Yn y gwaith hwn, fel gwaitti yr oriaduron, y mae yma rai ug, iniau o swyddogion o wahauol natnr, perthynol i'r gwahanol adranau o'i gwaith, a lliaw* o brif arolygwyr, a llywodraethwyr uwch raddot. Carem roddi llawer mwy o iaoyiion am y gweithfeydd hyn a .Preec-jt yn gyfftedinol, ond fe allai y cawn amser i wneyd hyny etto. Y r ydym yn teimlo, hafyd, ein bod wedi myned oddi wrth y mater, sef, cyiaifod blynyddol yr Annibyuwyr Cymreig, WarriDgtou Roa i, yr hwn 'v a gynn& iwyd nosSadwrn, a'r Sabbeth, Mai Slain a Meheffn laf. Gwaaanaethwyd yn y cyfarftd eleni gan y Parchn. E Richard, Tonypaody, 1.10 P Jones, Liverpool Rhoddwydgwahoddiadcynnes i'r Cymry ac eraill yn y cyffiniau i fwynhau eu hunain. ar wiedd yr iachawd wriaeth. Yr oedd rhyw flls neillduol ar draddodial o'r 'Hen hen hanes gan weittion yr Arglwydd. Rhyfedd, yn wir, fel y mae gan yr hen Efengyl afael at yr hen genedl Gvmreig mewn He or fath ac fel y sylwodd Mr. Richards, ni byddili i'r efengyl byth golli ei blae a'idylanwad yn y byd. Daeth lliaws mawr o Gymry o bel!der ffordd, ac o wahanol leoedd i gydiymuno ag eglwys 'Ebenezer i gadw yr uchel wyl. Bydded i'r had da a hauwyd yn y lie yn ystod y cyfarfod fod er iarchawdwriaeth i lawer o Gymry oedd yn bresennol. Rhoddwyd allan y pennillion i'w canu gan y Parch 11. R. Otftn, gweinidog y Ua Trwy weithgarweh a aêl, a ffyddlondeb y gweinidog uchod y mae yn y He droa 60 o aaloiia, ao y mie yr e^lwys hefyd ya brysur yn aiyued ar gynaydd Yu sicr genyl, y mae gweithgarweh a ffyddlondeb Mr. Owen ynglyo a'r achos ya sicr o fod yu esiampl i lawer gweinidog yn ein ywlad. Y mae ei ym drechion i siorhau gwaith i bob Cymro & ddaw i'w gylarfod yn y lie yn neillduol. Doaiiwa fod ei ddylanwad 0 f wr ar arolygwr y gweithfeydd Nid yw ya ormJd ganddo gerdded an wythnos ar sicihau gwaith i un Cymro. Dym", Gymro o'r Cymry. yn wir. Credwyf fod y gweinidog hwn yn deilwng o'r swyddogieth bwysig ag sydd wedi ei hyrnddlried iddo, ac o fod yn was i'r Arglwydd. Gahem ddyweyd llawer yn chwaneg, ond rhaid ymattad ar hyn yn awr. Yr oedd y canu ya y cyfarfodydd, ya wir, ya odiiog, yr hen ysbryd Cymreig yn llanw y lie, neu fel y dvwedai y diweddar a'r anfarwol Tanymarian, pawb yn y He wedi ei feddiannu A'r hen daa Cy>nreig, fel nas tfallai y gwaiaidogiou lai na gwaeyd sy!w neillduol o'r canu. Yn ystod y cyfarfodydd gwnaed casgliadau tuag at dreuliau yr achos yn y lie. Cafwyd cyfarfodydd ardderchog.—TREBOR I'LECHID.
PENSARN, HARLECH.
News
Cite
Share
PENSARN, HARLECH. LLADRATA GLO. ARFEKAI Mr. J. Richards, marsiandwr glo, Pensarn, Harlech, golli gl6 o'i iard,' yn ngorsaf y ffordd haiarn, er llawer o flyn- yddoedd. Dydd lau, yr 22aiao Fai, gwelodd yr Heddgeidwad Davieb ddau ddyn yn cario bag bob un, o gyfeiriad yr orsat. Attaliodd hwy; ac wedi iddo wneyd archwiliad ar y bagiau, gwelodd eu bod yncynnwysglo. Cafodd ar yr hynaf o'r ddau ddyn y swm o 6ip. Cyf- addefodd y dyn ieuengaf iddo ladrata y glo ond gwadai y dyn.,trall y cyhuddiad. Dygwyd y ddau oflaen yr ynadon yn Penrhyndeudraeth dydd lau, pan yr anfonwyd John Hughes i gar- char am ddau fis, a John Evans (mib yn nghyf- raibh Hughes) am fis. Yr oedd Hughes, yr hwn y cafwyd y 64p. arno, wedi bod yn derbyn cynnorthwy allanol yn ystod afiejhyd diweddar.
CAERWYS.
News
Cite
Share
CAERWYS. LLYS YR YNADON. DYDD Mawrth cynnsliwyd y llys misol hwn, o dan lywyddiaeth y Milwriad Meshim. Gwysiwyd Thomas Kenrick, dyn ieuangc oedd yn trigiannu yn Ffynnonycyff, Ysceifiog, gan Robert Edwards, ceidwad helwriaeth yn ngwasanaeth Mr. Gillespie, am dresnasa i chwilio am wningod Mai 21ain. Tystiodd Edwards iddo, ar y dydd dywed- edig, tuag wyth o'r gloch y nos, glywed- awn ergyd yn dyfod o gyfeiriad tir amgauedig Mr. Gillespie. Yn union ar ol hyny hysbys odd ei fachgen bychan ef iddo weled y diffyn- ydd yn y tir amgauedig. Aethy tyst yno, a gwelodd 61 traed yn myned o'r coedydd. Aeth wedi hyny i Ffynnonycyff, a chyhnddodd y diffynydd o drespasu. Gofynodd y diweddaf iddo edrych dros hyn, ac na byddai iddo droseddu drachefn. Cafwyd y diffynydd yn trespasu ddwy waith o'r blaen y flwyddyn ddiweddaf, a rhoddwyd maddeuant iddo yr adeg hono. V r oedd yr ynadon yn ystyried fod yr achos wedi cael ei broi f; a dirwy wyd y diffynydd i 5s. ac 88. o gostau.
FFESTINIOG A'R CYLCH.
News
Cite
Share
FFESTINIOG A'R CYLCH. Anrhegu y Ffyddlawn ~Nos hUt yn nghipel Cwmorthin aorhegwyd Mrs. Mary A. Dtvies, Bodyohain (gynt o Gwmirthin) & Hyfrau grwerthfawr, am ei ffyddlondeb a'i llsfur gyda'r Y i'gol Sal yn y Ile. Mr. John Phillips a ly wydd- ai, a chafwyd anerobiad pwrpisol ganddo ar ddechreu'r cyfarfod, a chan gan Mr. W. W. Morris. Cinwyd ac adroddwyd yn y tod y cyfarfod gin Miss Edwards; William Parry, I Penmorfa; John S Jocei, Tany^risiau W. Jones, Cwmorthin Miss Maggie Evitos Misses Jones Anerchwyd mewn llinellau birddonolgan Elan Eifion a Gwilym Barlwyd. LlecJi'Chimreh Neurfouvdlaricl.—Dydd Gwener, aeth ein cvd-drefwr poblogaidd, ac is gadeirydd y Gynghor Dinesig, Mr. O. J. Owen, Granville House, Church Street, yma.ith i Newfoundland, i agor chwatel lechau yno. Bu Mr. Owen dros- odd yn flaenorol, ac atroddodd yn addawol ar y lie. Aeth wyth o weithwyr gyda Mr. Owen — pedwar o Arfon, a'r Mri. Thomas S. Owen, Wynne Road Robert Jones, Tanygrisiau William Owen, Cwm Cynfal; a W. Williams. Yroedd- ynt yn bur galonog yn cychwyn o Liverp-iol dydd Sadwrn. Disgwylir y bydd lie i lu o weithwyr yno cyn diwedd yr haf, os try yr anturiaeth allan gystal a'r arwyddion presennnl. Organ Newydd -Ua.fwyd cyfarfod lied lewyrch us ar agoriad organ newydd capel Bowydd (M.C,), noe lau, o dan lywyddiaeth Mr. Will.am Own. Plasnewydd. Chwareuwyd ar yr achlysnr gan Dr. Rogers, Bangor. Cafwyd gair g*n y Parch. John Owen, gweinidog, a datganwyd gan Mi.'s Sarah Lewis, Tanygrisiau, a Mrs. E. Ffestin Jones a J. T. Owen, Regent House. Y mae eglwys Bowydd vn weithgar iawn, ac yn llawn o yabryd aoturiaethus o'r evohwyniad-capel new- ydd yt/a gweinidog, yna ysgoldy oeng. ac yn diweddaf oil gweinidog newydd ac organ. Nid oe3 dim tebyg i waith am gadw ysbryd da, a dwyn ffrwyth teilwng. Ordeiniad Efrydydd Eglwysiq.—Da genvm weled fod y Parch. K. O. Jones, mab hynaf Mr. Jon.'I!. Glyndwr, Elienau, wedi sefydlu fel ciwrad yn Llandudno, ac wedi dechreu ar ei waith y Sabbath diweddaf. Y Sabha-th blaenorol ordein- iwyd ef yn 'Ddiicon Eglwvsig gan Esgob Llan elwr. Yr oedd Mr. Jones yn uwchaf ar ben y rhestr o un ar ddeg yo yr arholiadan, a chafodd yr anrhydedd, oblegid hyny i ddarllen 'yr eftngyl am y aydd yn y gwasmaeth ordeinio. Bu gyrfa ein cyfadl ieuangc yn hynod Iwyddiannus oddecmeu (i efryd adau, a dy« unwn iddo bob hapasrwydd a llwyddiant yn ei faes newydd. Cyfarjod Pregethu Blyuyddot Rhiw a Bowydd. —Dechreu wyd y cyfarfod hwn nos Wener, vn y ddau gapel; ac am ddau o'r gloch dydd Sadwrn cynnaliwyd cyfeillach gyffredinol yn nghapel y Rhiw, o dan lywyddiaeth y Parch. John Owen, Bowydd. Mater yr ymdriniaeth ydoedd Sain xxvi, 4-6 Am chwech yr hwyr pregethwyd yn y ddau gapel, a pharhawyd trwy ddydd Sul. Cafwyd eynnulliadau mawrion, a phregethau grymus. Y gweinidog' ion a wasanaethodd oeddynti y Parchn. John Williams, Princes Road, Liverpool; O. Ellis, Bootle; Ellis J. Jones, Caernarfon a William Thomas, Uanrwst. Y Fyddin —Aeth nifer o'n gwfr ieuaingc yroaith dydd Liun am Ddinbych, iwersyilu fel meircbfihvyr perthynol i fyddin sir Ddinbych, lle'r arosant am tua pythefnos. Rhoddir 5s 6c. y dydd i bob un o honynt, a phum punt am fenthyg ceffylau iddynt am bythefnos. EinUddfod y Gtcyr leuf),ingc.-Mae pwyllgor cryf wedi cyfarfod ertrefnu i gynnaIeisteddfod ar raddfa eang ddiwedd Chwefror nesaf. I Cadeirydd y pwyllgor yw Mr. H. Ariander I Hughes (Bange y Metropolitan), gyda Mr. John Griffith yn isgadeirydd; a'r ysgriienyddion ydynt y Mri. J. Cadwaladr, H. Ellis Hughes, a W. Williams Jones. Yr amcau fydd dyrchafu celt, lien, a chân. Duthlu y Coroniad —Y r ydym yn nghanol berw parotoi ab ddathiu coroniad y Brenin. Mae cwmni yr Oakeleys wedi cyfranu lOOp. at yr amcan, a chesgUr trwy'r hot! ardal er ffurfio cronfa deilwng at gael pobpeth mewn rhwysg teilwng o'r amgylchiad- Rhoddir tO i blant yr ysgolion, gorymdeithir, addurnir yr adeiladau a goleuadau amryliw, &c.
LLANDUDNO.
News
Cite
Share
LLANDUDNO. Llyfrgell Iijidd.—Hysbysir fod Arglwydd Mostyuj cadeirydd y Cynghor Linesig, wedi derbyn llytbjr oddi with foneddwr sydd yu dyuiuno i'w enw gad ei gadw yn gyfriuachol yn cyimyg i'r cynghor eiddo gwerth 6,000p., fel rhodd y Coroniad, ar yr ammod fod i'r swm gael ei ddefnyddio i godi llyfrgell rydd, y cyfryw i'w hadeiladu a'i iheoli gan y cynghor. Gwrthwynebiad i Fesur Carthffosydd Cohvyn Bay.—Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dreth- dalwyr y dref tios Wener, gyd¡/l' amcau o gael eu caniatad i wario arian allau o'r trethi er gwrthwynebu Mesur Carthffosydd Oolwyu Bay yn y senedd. Nid oedd ond tua deg ar hugain 0 barsonau yn bresennol. Cwyoid nad oedd maoylion o'r gost debygol o flaen y cyfarfod a ehynuygiwyd fod i'r'mater gael ei ohirio hyd lies y ceir y manylion. Dywedodd Mr. Chamberlain y bydd y go-it tua 700^> ond nid oedd hyn oud amcan-gylrif yn unig, Cafodd y cyunygiad ei D basio.
DATHLU Y CORONIAD.
News
Cite
Share
DATHLU Y CORONIAD. PENDERFYKODD Cynghor Dosbarth Dinesig Llandudno bleidleisio 150p. o'r trethi at amcan- ion dathliad y coroniad; a chafodd cyfarfod o'r pwyllgor cyffredinol a bennodwyd gan gyfarfod cyhoeddus i gario allan y trefniadau ei gynnal noslau. Llywyddid gan Mr. Robert Roberts. Cafodd cynnygion amryw o is bwyllgorau eu cyflwyno i'r cyfarfod; a chyttunwyd ar y man- ylion i ddathlu y coroniad. Yr oedd y rhan fwyat o'r cyfarfod yn teimlo gwithwynebiad i'r hyn a basiwyd gan y Cyng- hor Dinesig, gyda golwg ar sefydlu ysgoloriaeth ynglyn a'r coroniad.
ABERYSTWYTH.
News
Cite
Share
ABERYSTWYTH. Marwolaeth a cliladdcdigaeth Mr. John Richards.-N os Luu, y 26ain o Fai, bn farw Mr. John Richards, dilledydd, Market Street, yn 69ain mlwydd. Bu r ymadawedig yu dioddef nychdod am y deuddeng mis diweddaf, fel yr ooid bron yn analluog idalu nomawr sylw i'w fusnes, gy{J.a'r hwn y cynnorthwyid ef gan ei frawd, Mr. William Richards. Yr oedd ofe, fodd bynag, i lawr yn y siop y c^dd Linn cyu ei farwolaeth ond yr un diwrnod gwaethygodd yn ddirfawr. Cymmerwyd ef i'w wely ac yn mhen yr wythnos i'r diwrnod bu farw, er pob gofal a medr o du ei deulu a'i feddygon, Dr. Rowlands a Dr. Harries. Mab ydoedd Mr. Richards i Mr. Moses Richards, y Black Horse, Qoginan, a ganwyd ef yu Troedyrhiw Dechreu- odd fusnes gyda'i dad, ac wedi hyny rhwymwyd ef yu egwyddorwas gyda Mr. Davi I Lloyd, Aberystwyth, yr hwn, ar y pryd, oedd yn cario yn mlaen fusnes helaeth yn Great Darkgate Street, yn y lie a ddelir yn awr gan Mr. David Howell. Wedi gweinyddu tymmor ei brentis- iaetb, aeth Mr. Richards i Lundain ac am amser bu yn Ilenwi swydd gyfrifol mewn mas- nachdy yn Woolwich. Ymadawodd oddi yno am Birmingham, i lanw swydd gyffelyb. Yn 1871 dychwelodd i Aberystwjth gan ddechreu busnes ar ei gyfrifoldeh ei hunyu Market Sheet; ef, y fan a ddelir yn awr gan y ffirm. Yna bu llwyddiant ar ei ymdrechion, a chyn hir d-eth ei fusues yn un o'r rhai helaethaf yn Aberyst- wyth, os uad, befyd, yn ardaloedd canolog Cymru. Cyflogid cynnifer a thri ar hugain o weithwyr ganddo. Bu Mr. David Pugh a Mr. Evan Rees, y rhai a fnont feirw yn ddiweddar, yn Dgwasanaeth Mr. Richards am dros ddeng mlynedd ar hugain ac y mae pedwar neu bump o'r dwylaw preseunol wedi ei wasanaethu, hefyd, am bymtheg neu un mlynedd ar bym- theg. Vr oedd yr ymadawedig yn aelod o g6r St. Mair, lie, hefyd, y gwasanaetbai fel sidesman. Cytranai yn hetteth i drysorfeydd yr eglwys, a bydd conerl nid bychan am dano, a'i gyn- i northwy sylweddül i bob achos da. (Jymmerodd y gladdedigaeth le dydd Gwener, yn Llan, BaDgor. Gwssanatthwyd wrth y tý gan y Parch. J. E. Lloyd, ac wrth y bedd gan y Parch. M. Morgan. Y prif alarwyr oeddynt:— Mr. illiams (brawd), a Mrs. Mary Davies, Trevor Road (cbwper), a pha rai y cydymdeimlir yn ddwfn gan y cyhoedd yn eu I)i-ofedigac-th.
LLANERFYL.
News
Cite
Share
LLANERFYL. DYDD Y COHONIAD. Nos Ftwi tn, "Thhí 27ain, cynnaliwyd cyfarfod yn yr Yt-goldy Ce edlaethol, i'r dyben o gydymgyng- hori mewn paithynas i'r dull mwyaf priodol o ddathlw Mehefin 261in-dydd coroniad Iorwerth y VII. yn freuin Prydain Fawr, &c. Dangosai bychander y cynnulliad mai ychydig ddyddordeb deimlai y plwyfolion yn y mater, neu, ynte, na roddwyd cyhoi'ddusrwydd cyffred- inol i amcau y cytnrfod, i ac amser ei gynnaJiad. Rhyw ddeg neu ddwsin o bersouau oedd yn bresennol. Etholwyd y Parch. T. D. James, rheithiwr, yn gadeirydd y cyfarfo ac i barhau yn gadeir- ydd y P." I gor hyd nes y bydd yr amcan wedi ei gwblhau Mr. LI. Rowlands, ysgolfeistr, yn ysgrifenydd a Mr. H. Howells, Coedtalog, yn drysorydd-y tri yn Eglwyswyr. Wedi i'r cadeirydd egluro amcan y cyfarfod, ac i amryw eraill siarad, deuwyd i'r penderfyniad 1 ddarparu le i holl blant y plwyf, ac, os byddai y drysorfa yn canistau, fod i'r holl blwyfolion gael mwynhau ihan o'r danteitbion. 01 bydd gweddill drachttfn, fod yr arianhyny i gaol eu defnydd'o i bwrcasu anrbegion i blant yr ysgol- ion. Darperir y to yn Ysgol y Bwrdd a'r Ysgol Genedlatthol. M,. Yn hytrach na chodi treth at yr amcan, pan- derfynwyd ymddiried ar anrhydedd yregwyddor wirfoddol a phennedwyd deg o bersonau i fyned oddi amgylch i ofyn ewyllys da y plwyfol- ion yn ngwahanol ranau y plwyf. Yu ardal B^ulah—rhan uchaf y plwyf—pennodwyd Miss Thomas, Dolgaregweti, a MifcS Roberts, Dolau; yn nghymdogaeth Gosen, M'ss Jones, Moelddolwen, a Miss Davies, Caeslwbwrn yu ardal y Diosg, Mr. Jones, Gcetre, a Mr. Vaughan, Ty mawr o ddeutu y Llan, Mr. Jones, Glantan.*it, a Mr. Roberts, Ty'nrbos ac yn rhan isaf y plwyf, i Miss Vaughan, Llysern, a M'ss Howells, Cucd-I talog. Pennodwyd pwyllgor lliosog i gario'r gwaith yn mlaen, yn gynnwysedig o'r oil oedd yn y cyfarfod, y casglyddion hefyd, ynghyd & Difer o bersonau eraill a enwyd. Cyfarwyddwyd yr ysgrifenydd i aufon am gynnorthwy sylweddol at y boneddigion can- lynol, y rhai ydynt yu uieddu etifeddiaethau iiang yn y plwyf :—Sir \V. W. WYllU, B trwn Arthur Chamberlain, Ysw,; ac Argbvyd 1 Powys. Dymunir ar i'r casgliadau fod aiewu ilaw, ueu 0 leiaf yr addewidion, erbyn nos lau, Mehefiu 5ed, pryd y bydd y pwyllgor yn cyfarfod am y waith gyntif er trefnu'r amgylchiadau. Awyrym.—A fyddai ddim yn briodul neill- duol cynnal gwasanaeth crefyddol yu ngwahanol gapelau y plwyf ar ddydd y coruniad-cyfarfod- ydd gwedi io neu bregethu,fel y byddo amgylch- iadau yu caniutau, a hyuy yn y boreu a'r hwyr ? D'iau y bydd gwasanaeth felly yn eglwys y plwyf. llefyd, dymuno ar Mr. G. R. Davies, ceidwad y gwettty, i beidio gwerthu dim dud feddwol am y diwrnod.—Cofnodydd.
BRECHFA, GER CAERFYRDD1N.
News
Cite
Share
BRECHFA, GER CAERFYRDD1N. Y MAE y Parch. Thomas Price, gweinidog y Methodistiaid Oalfiuaidd yn Brechfa a Pant- ynyswen, wedi rhoddi rhybudd o'i fwriad i roddi y fugeiliaeth i fyny yn mis Medi nesaf, wedi bod yn weinidog llwyddiannus aruynt am 29iin mlynedd. Dymuniad ein calon ydyw iddo ef a'i briod gaol iechyd a mwyuiant, ac y bydd iddyut barhau trwy weddill eu hoes i wneuthur daioni gydag achos eu Gwaredwr.
CONWY.
News
Cite
Share
CONWY. Yr ileddlys. — Yn yr heddlys hwr, dydd Lltin, cyhuddwyd Thomas Twiston Davies, Talycafn, a Rowland Owens, Talywaen, am arfer cieu'.ondeb tuag at auifeiliaid. Cyhuddid y cyutaf o deithio, a')' olaf o ganiatau i hen gaseg deithio ar hyd y ffordd tra yr oedd yu nyoddef oddi with anaf i'w choesau. Rhodd wyd tystiol- aetbau yn yr acLo; gan y Rhingyll Evans a'r Heddwas Williams. Gwnaeth y cadeirydd (Mr. Albert Wool), sylwadau miniog ar ym- ddygiad y dilFynyddion, y rhai a orchymynwyd i dalu y costau yn unig. Cyhuddwyd David Rjberts a David Jones, dau lafurwr amaetbyddol yn y Fotty, ger Conwy, o wneyd niwed gwirfoddol. Dirwywyd hwy i 5s. yr un a'r co^tiu, a gorehymynwyd hwy, hefyd, i dalu y swm o 7s. rhyngddynt i wneyd i fyny y golled a achoswyd ganddynt. Gorehymynwyd i Evan Jones, pysgotwr, ddu 9s. yr wythnos tuag at gynnal ei ddau blejtyn, y rhai sydd yn y tlotty, yu amddifad o fam. Gwysiwyd bagad o sychedigion o flaen y llys am yfed yn ormodol, ond gollyngwyd hwy oil ymaith ar daliad y costau, o herwydd y newydd da am heddwch yn Neheubarth ASrica. Y Cynghor Trefol.—Cyfarfu y cynghor nos Lun, i ystyried yr amcangyfrifon o'r trethi am y flwyddyn. Llywyddwyd gan Mr. Albert Wood, y mae; Wedi ptth dadleu cynnygiodd Mr. J. Potter fod treth gyffredinol o 6s. 6c., a threth fwrdeisiol o lie., a throth o Ie. yn y b nt at gynnal y llyfrgell, yn cael en codi-y cyfan yn gwueyd Is. 6c. yn y bunt. Cynnyg- iold Mr. Oldham fel gwelliant fod y dreth gvffredinol i fod yn 6s. yn y bunt. Yr oedd y llsidlais yn gyfaital, a rhoddodl y maer ei b'eidlais derfynol yn ffafr 6s. 6c.
OWN 'CYNDDEIRIOG' YN SIR GAERFYRDDIN.
News
Cite
Share
OWN 'CYNDDEIRIOG' YN SIR GAERFYRDDIN. Y MAE Arolvgydd Bwrdd Amaethyddiaeth ar hyn o bryd yn sir Gaerfyrddin. Dydd Gwener diweddaf dywedodd yr arolygydd fod y bwrdd yn Llundain wedi dyfod i'r casgliad fod y ci a eaethwyd yn y i-ir y dydd o'r blaen, we li bratbu o hono un o drigolion Caerfyrddion, yn dioddef oddi wrth effe thiau 'cynd Jeiriogrwydd ac mai yr anifail hwn, hefyd, a frathodd enethig fechan a drigai yn Hermon, ger Conwil, o ddeut t yr adeg. Mewn canlyniad i hyn tybir y bydd i'r archeb i 'gloi safuau' own gael ei hestyn i am- ryw o ranbarthau y sir, os nad y sir oil.
GWAHARDD FFAIR GWN AR Y SUL.
News
Cite
Share
GWAHARDD FFAIR GWN AR Y SUL. UN o ddigwyddiadau y flwyddyn yn Lincoln oedd y ffair gwn a gynnelid ar y Sul cyntaf yn Mehefin. Er's rhai blynyddau, bellach, byddai prif heol y dref yn orlawn o brynwyr a gwerth- wyr cvvn ar y dydd sanctaidd. Erbyn hyn y mae Cynghor yr Eglwysi Rhyddion wedi gwrth-v dystio yn erbyn y f;ith anweddeidd-dra, ac mewn canlyniad y mae Pwyllgor Llywodraethol yr Heddgeirlwai I wedi cyhoeddi gwaharddiad yn eibyn y fasnach hon ar ddydd yr Arglwydd.
CROESAWUJ CYNONFARDD.
News
Cite
Share
CROESAWUJ CYNONFARDD. Edwardsdale, Pa., Mai 14er.-Nid oes angen mynegu pwy ydyw y Parch T. C. Edwards, o blegid ei fod yn fyd-adnabyddus, yn neillduol felly i hen genedl anwyl y Cymry. Ar y Gad cyfisol cynnaliwyd cyfarfod croesawol brwdfrydig ar ei ddycbweliad yn ol o'r Aipht a Chanaau. lIawdd oedd deall ar wedd pob un yn y dorf fod anwyIyn ein tref wedi dyfod yn ol o'i daith bellenig, a llonaid ei euaid o bethau p.vysig i'w mynegu yn y dyfodol am y tir sanctaidd a llwybrau y 'dyn bach' fu yn y preseb. Cafwyd cyfatfod hwyliog dros ben—pawb wrth eu bodd. Oymmerwyd rhan yn y cyfarfod gan y porsonau canlynol, a gellir dyweyd ynddifloesgnifod pob unar ei uohel- fanau Parch. R. 0. Hughes (M.C), Parch. James Jenkins, Iowa (gynt o Warrior Run, Pa.); Mr. Joseph Williams, Miss Mamie Williams, Plymouth Mri. John D. Williams (Toan Bach), John J. Davies, David Davies, W. L Myles, Mrs. G- W Powell (Morfudd), Mr. D. Melindwr Jones, a Cynoufardd. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. William L. Roberts. Hefyd canodd y CÛ", dan arweiuiad Mr. Oliver Rbydderch, ice yr oedd fel clopa aur ar ben y cyfan.—O'r Drych.
CAMBRIDGE LEMONADE.
News
Cite
Share
CAMBRIDGE LEMONADE. Carefully prepared from Sicilian Lemons. Guaranteed to contain the natural refreshing constituents of tha Fresh Ripe Fruit, free from any added acid or other injurious ingredient. A Grocer writes The Cambridge Lemonade is tar and away the best I have sold yet. A customer to whom I introduced it has within the last six weeks used four dozen. She said she had used every other lemonade she could get, but CAMBRIDGE BEATS ALL.' 5k<i. per bottle sufficient to make two gallons delidons lemonado. Chivers & Sons, Ltd., Histon, Cambridge.