Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

CHWAREUON CEEDBORQL MEWN CAPELAU.

News
Cite
Share

CHWAREUON CEEDBORQL MEWN CAPELAU. HYFRYDWCH ydyw deall fod y peth hwn yn dechreu tynu sylw yn ein gwlai, gan obeithio y caiff gymmaint o sylw ein gwahanol gyfundebau ac eglwyai fel ag i roddi terfya arno cyn iddo lwyr ddyfetha ein cenedl. Yn nghyfarfod Undeb y Bedyddwyr sir Fynwy, galwyd sylw at y niwed mawr a wneir gan ddwyn y chwareu-ganeuon hyn i'r capelau. Yr esgusawd dros- tynt ydyw, fod yn rhaid cael arian i ddwyn yr achos yn mlaen, ac fod yn rhaid defayddio y dulliau mwyaf effeithiol a liwyddiannus i gael arian. Dywedai j Parch. J. Williams, ysgrifenydd yr undeb, yr hwn a gododd y peth i sylw, ei fod yn ceisio perswadio pobl ieuaingc i gadw o'r chwareudai; end dywedant wrtho fod The Little Brown Jug,' I Tlte Little Captain," Ali Baba and the Forty Thieve; a'r Merry Milkmaids,' &c., yn cael eu chwareu yn y capelau. Felly, eu hym?esymiad Daturiol ydyw, nad yw yn werth myned i glywed a gweled y fath chwar- euon yn y chwareudai, na'u clywed a'u gweled yn y oapelau. Dywedai Mr. Williams mai gwell ydyw bod heb arian na chael arian drwy bethau mor ddaros- tyngoi a niweidiol. Na feddylied neb mai enwad parchug y Bedyddwyr sydd yn euog o hyn. Y mae yr holl enwadau Cymreig yn euog o hono, i raddau difrifol iawn, mewn rhat rhanau o'r wlad, o leiaf ac y mae hyn, fel pob afiechyd heintus, yn lladu yn gyflym, ac yn cymmeryd gafael ar eglwyai yn y wlad, yn gystal ag yn y trefydd mawrion. Y mae hyn, fel llawer o bethau eraill, wedi dyfod atom o wlad y Sais ao fel bob amser, y mae cenedl orchfygedig yn fuan yn mabwysiadu pethan gwaelaf y genedl a'i gorchfygodd felly ninnau, y Oymry, yr ydym yn gyflym fabwysiada chwareuon ac arferion isel a di-raddiol y Saeson, a chyda'n teimladau poeth- ach a mwy cynnhyrfiol yn cael ein niweidio gan y cyfryw Lethau yn llawer mwy na hwy. Gofidus iawn yn wir ydyw gweled rhai cerddorion Cymreig o safle yn ymostwns i barotoi 5chwareu- ganeuon er mwyn cyfarfod y llanw damniol bwn. Y mae yn bIu.' O ydyw, y mae yn talu yn dda mewn arian, yn ol pob tebyg. Ond beth am y gydwybod ? A ydyw yn bossibl fod dynion-nad oes angen arianol —er eu bod yn aelodau, ie, yn swyddoglon mewn eglwysi Ymneillduol yn Nghymru—yn gallu gwerthu eu cenedl mor rhad? Tybiodd Judas fod y cusan ofnadwy yn talu yo dda.' Druan o hono. Nid ydyw y rhai a broffasant bethau gwell ronyn gwell nag yntau pan yn ymostwng i'r fath both. Nid wyf heb wybod fod gwahaniaeth bain ar chwareuon, ac fod llawer o ddynion rhagorol yn cym- meradwyo gosod allan wahanol gymmeriadau ar y llwyfan, ac y gellir dysgn llawer o egwyddorion moesol a gwladgarol drwy hyny. Pob peth yn dda mor belled a hyny. A chaniatau yr oil a ddywedir o blaid y chwareudy yn ei Ie, ye dywedir, tra yn cadw w o fewn cylch priodol, a ydyw hyny yn cyfiawnhan troi ein lleoedd addoliad yn chwareudai? Ie, a ydyw byny yn cyflawnhau dwyn i'r capelau chwareuon heb ronyn o addysg, na rhith un egwyddor foesol—dim, ie dim, ond difyrwoh, dim ond aohosi chwerthin, a hyny gyda phethau mor ddi-chwaeth ag sydd yn bossibl, a chadw o fewn cyloh gweddeidddra; ac nid felly bob amser. I wneyd y petbau hyn ya fwy atgas, yn fwy niweidiol, ao yn fwy annheilwng, treulir y Sabbath i'w parotoi. Ond dygir yr un rheswm dros hyn, mai achos crefydd y maent yn ei watanaethn. A oes angen ymresymu peth fel byn. Pwy a fuasai yn cymmeradwyo adeiladu capel ar y Sabbath? Edrycher ar hyn o gyfeirlad cerddorol, oddi ar saile cerddoriaeth, a meiddiaf ddyweyd ei fod y peth mwyaf niweldiol yn bod. Sonir llawer am ddyrchafu y genedl, am godi safon cerddoriaeth. Yr ydym yn magu ceaedlaeth na fydd ganddynt ronyn o chwaeth at ddim ond y peth mwyaf arwynebol a di-ystyr, heb na ffurf, na mydr, aa melodedd, na chynghanedd, yr holl bethau yna yn cael eu hanghofio, a'u gwneyd yn afreidiol gan wisgoedd digrifol a di-raddiol yn ami, a chan ddywediadau hollol ddi-synwyr, a symmudiadau hollol annaturiol a dirmygus. Nid wyf yn dyweyd fod yr oil o'r opperations plentynaidd mor isel a hyn, ond y maent oil yn annheilwng o dJ Dduw. Gobeithiaf y bydd llawer yn rhyfeddu wrth ddar- llen y sylwadau hyn, am nas gwyddant ddim am y fath bethau. Gwyn eu byd. Diammheu, hefyd, y bydd llawer yn cynnhyrfu gan eiddigedd dros ddityn yr oes,' ac yn gwaeddi Phariseaeth.* Eithaf bodd- lawn. Ond daw ami un o honynt yn fuan i waeddi, O na wrandawswn ar lais fy athrawon.' Y mae rhai wedi dyfod i waeddi felly yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Dywedai gwr ieuangc a fa yn ffyddlawn gyda phlant ei eglwys am flynyddau, ac a fu yn fodd- ion i chwanegu degau o bunnau at gyllideb ei eglwys drwy gynnal cyngherddau gyda'r pethau hyn, ei fod yn hollol sicr, er ei ofia, fod y genhedlaeth hono o blant a phobl ieuaingc wedi eu dyfetha i grefydd drwy y cyfryw bethau; a phan geiBiodd eu cael i ymgym- meryd â. pbeth cyssegredig, aeth yn fethiant; ac nh gwyr yn awr pa fodd i ddad-wneyd ei gamgymmeriad ofnadwy. Rhyfedda yn awr fod yr eglwys wcdi goddef y fath both, a rhyfedda fod eglwysi y wlad yn goddef y fath beth. Prawf o'r modd y mae y chwareuon hyn yn medd. fannu y bobl ydyw, fod y fath gynnulliadau yn mhob man lie y ceir hwy, a bychander y cynnulliadau yn yr un lleoedd pan y mae gweithiau cyssegredig yn cael eu datganu. Ohwithig ydyw meddwl fod cdr o blant gydag un o'r chwareu-gerddi hyn yn llwyddo i gael banner cant o bunnau i'r eglwys, Ta'r cSr mawr yn myned i ddyled wrth roddi datganiad o oratorio gan un o'r prif feistri. Os na ohymmer ein heglwysi y mater i fyny yn fuan, bydd eu dyfodolyn dywyli iawn. Lletty'r Gdn. ASAPH. y<

CYFARFOD RHYDDFRYDIG YN CROESOSWALLT.

TYWYN, MEIRIONYDD.

[No title]

LLONGYFA RCHIAD

LLEF YR ANNUWIOL.

Y FRIALLEN.

CAN Y GWEIIYDD.

CAN DDISGRIFIADOL.

[No title]

IPCloffion.