Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
Y GOGLEDD.
News
Cite
Share
Y GOGLEDD. Mewn cyfa, fod o Egiwyswyr yn Nghonwy, nos Fawrth, pasiwyd penderfym&d ya ffafr y Mesur Addysg. Y mae enw Mr. Ben Davies yn mysg aelodau y cor a fydd yn cymmeryd rban yn ngwasanaeth y coroniad yn Weetmiosttir Abbey. Penderfynodd Cynghor Gwledig Lleyn, dydd Mercher, nad oeddynt am Lieidieisio dim arian o'r trethi tuag at ddathlu y coroniad. 4 Pabyddion Cymreig ar y Cyfandir' ydoedd testyn papur a ddarllenwyd gan Mr. W. Llewelyn Williams o flaen Cymdeitbas Cymmrodorion Llundain, nos Fereber diweddaf. Dydd Mercher cynnaliwyd gwasanaeth ordein- iad Mr. W. Pandy Thorns. myfyriwr o Goleg Preabyteraidd Caerfyrddio, yn weinidog eglwys yr Annibynwyr Saeauig yn Ehiwabon. Rhoddwyd gwahoddi&d i'r Parch T. J. Whel- don i fod yn bresennol yn ngwasanaeth y coroniad fel cymmedrolwr Cymdeithasfa Chwarterol Methodisfciaid Oalfinaidd Gogledd Cymru. Trefnir i briodas gymnrseryd lie rhwng yr Ar. glwyddes Lettice Grosvenor, chwaer ieuengaf y Duo o Westminster, a meroh ieuengaf yr ia- larlles Gro&venor, &g Iarll Beauchamp, Madres- field Court, Malvern Link. Mewn oyfarfod o Gynghor Dosbarth Gwledig Deudraeth, dvdd Mawrth, pendorfynwyd sicrhau gwasanaeth Mr. Foster i ddarparu cynllun dwfr i Trawafynydd. Y mae Mr. Foster yn darparu cynllun cyffelyb ar gyfer Harlech. Gwnaed cynnvgiad yn Mwrdd Gwarcheidwaid Bangor, dydd Gwener, i adeiladu tlotty newydd yn y lie hwnw ond nid oedd mwyafrif y gwar- cheidwaid yn oydolygu a hyny. Penderfynwyd, modd bynag, adgyweirio yr adeiladau presennol. Tra yr oedd Mrs. Drew yn gvru o Bwcle i Pen- arJâg, nos Fawrth, mewn cerbyd bycban, dychryn- odd y merlyn, a rhedodd. Daeth y cerbyd i wrtbdarawiad ft van, a chwilfriwiwyd ei yn hollol. Yn ffodus, diingodd Mrs. Drew gydag ysgytiad Ilym. Y mae Mr. David Davies, Piasdinam, ar fyned i daith i'r Unol Dalaethau ac Alaska, gan ddy- ohwelyd trwy Canada, lie y bydd iddo ei gwneyd yn ndd i ymweled & r drefedigaeth Gymreig y mae Cymrv Patagonia wedi ei dewis yn agos i Salt- coats. Rhoddodd Mrs. Herbert Roberts I At Home,' prydnawn dydd Marcher, yn ei thy, yn Aahdown Place, Llundain. Yr oedd nifer lioaog e aelodau aeneddol, ac eraill, yn bresennol. Canwyd amryw ganeuon gan Mr. Emlyn Davies, y baritone Cymreig adnabyddus. Ymwelodd dau o swyddogion y Swyddfa Ryfel A Llandnllo-yn-Rhos dydd Mercher, gyda.'r amcau o brynu ceffylau i'r fyddin. Cafodd oynnifer a deg ar hugain eu cynnyg, ond pedwar yn unig a brynwyd o honynt. Y prif wrtbwynebiad i'r gweddill ydoedd eu bod o dan ohwe blwydd oed. Cafodd cymmanfa ganu Presbyteriaid Saesnig rhanbarth sir Fflint ei chynnal yn nghapel City Road, Treffynnen, dydd Mercher, pan yr oedd corauo Fflint, Bwcle, Wyddgrug, Connah's Quay, Caer, Ewloe Green, a Ileoedd eraill, yn breeeunol Yr arweinydd oedd Mr. David Evans, Mus. Bac: Dywedir fod Mr. Samuel Smith, yr A.8. dros sir Fflint, wedi hysbysu ei bwyllgor etholiadol o'i fwriad i ymneillduo 0 Dy Y Cyffredin a bod csis wedi cael ei wneyd eisoes gan y Rhyddfrydwyr at sicrhau olyDydd iddo ond ymddengys nad oedd y boneddwr hwnw yn gweled ei ffordd yn glir i gydaynio a'r cyfryw gals. Dydd Mercher bu farw Mra. James Baird, Connah's Quay, penaeth y ffirm adnabyddus o adeiladu llongau yn y porthladd hwnw, ao oedd yn dwyn yr enw 'Ferguson a Baird.' Ysgotiad oedd Mr. Baird, ac yr oedd wedi dechreu adeiladu llongau ar yr afon Ddyfrdwy yn 1840. Efe oedd wedi adeiladu y rhan fwyaf o'r llongau oedd yn cael eu defnyddio ar yr afou. Cyfarfyddodd rheithor Marehwiel, a'r teulu, 4 damwain ddifrifol nos Iau, fel yr oeddynt yn myned gartref mewn ceibyd o Gwteasam. Tra yr oeddynt yn pasio Pontyffrwd, Marchwiel, dy- chrynodd y cefifyl. a rhedodd. Dleth y cerbyd i wrthdarawiad à cherbyd arall oedd ar y ffordd, a chafodd y rhai oedd yn ngherbvd y rheithordy eu taflu allan, pan y aerbyniodd Mrs. Sparling niweidiau trwm. Bu Mr. William Jones, yr A s. droa Arfon, yn gorwedd am amryw ddyddiau o dan anwyd trwm; ao yn gymmaint ag iddo golli ei lais, methodd a myoed .i'w gyhoeddiad i Rhydychain, a manao eraill; ond da genym ddeall ei fod wedi gwella, ac wedi ail ymaflyd yn ei ddyledswyddau senedd- ol. Y mae Mr. J ones wedi addaw anerch oyfarfod cyhoeddua yn Northampton, yn nghwmni Mr. Robert Spencer, A s yr wytbnos hen. Mewn aiwerthiant ar gasgiiad gwerthfawr o lyfrau Cymraeg, eiddo y diweddar Mr. T. Roberts, Porthmadog, gwerthwyd copi o'r Llyfr Gweddi Cymraeg. a olyawyd gan Elia Wyn o Laaynya, awdwr Bardd Cwsq, am ddeg gioi. Copi Elis Wyn ei hun oedd hwn, a chynnwyaai ei enw ef yn ei lawyagrifen ei hun, yn gystal ag eiddo ei fab, William Wynne. Gwerthwyd y pump cyfres gyntaf o'r Archcclogta Cambrensis, mewn 46 o gyfrolau, am 21 ginis. Cyhuddwyd John Allen Edwards, Llandysilio, sir Drefaldwyn, o flaen yr ynadon yn yr Amwythig, dydd Mercher, o ladrata buwch, gwerth 13p. 108, eiddo Thomas Welshman, cariwr, Alberbury. Dangosai y dyatiolaeih i'r fuwch gael oi chclli o'r cae boreu Mai 14eg. Llwyddwyd i'w holrhain i Saiithfield Croesos- wallt, He y cafodd ei gworthu. Cafwyd hi wedi wedi hyny o Bradford. Traddodwyd Edwards i sefyll ei fcravsf yn mrawdlys chwarterol air Amwythig. Taflwyd cymmydogaeth Capel Curig i gryn gyffro ddechreu yr wythnos ddiweddaf, pan ledaenwyd y newydd fod Hugh Hughes, bachgeo chwe blwydd oed i William Hughes, chwarelwr, ar goll er dydd Sadwrn, M&i 24.in, Gwelwyd ef y diwrnod hwnw yn myned yn cghyfeiriad Pont Gyfyng-yr hon oedd yn croesi yr afon L'ugwy. Pan welwyd nad oedd y bachgtn wedi dychwelyd yn yr hwyr, aeth nifer o gymmydogion i gyo- northwyo y rliieni i chwilio am dano; ond ni Iwyddwyd i.ddyfod o hyd iddo. Aed ati i chwilio am dano dranoeth, pan y caed ef wedi boddi mewn Ilyn yn yr afon. Yn y trengholiad dydd Mercher dychwelwyd rheithfarn o Foddiad damweiniol.' Yn nghyfarfcd Bwrdd y Gwarcheidwaid, yn Llanerch/medd, dydd Mercher, galwyd sylw at aches un o'r tlodion oedd yn dorbyn cynnorthwy allanol o hancer eoron yr wythnos, yr hwn oedd yn mron a chyrhaedd ei 100 mlwydd oed, ac yr oedd wedi gwcled tri o ddathliad&u y coroniad ao os arbedir ef hyd Mehefia 27ain, byddai yn dyst o'r pedwerydd coroniad. Dywedir fod c6f yr hen vrr yn hynod o fywiog. Cofia yr adeg yr oedd te yn cael ei weithu am 9c yr wns, aiwgr 10c. y pwys, a ha."ea 6c yr was. Yr oedd wedi bod yn gweithio am 4ie. y dydd, to yn gwerthu wyn am 3&. y pen. Magodd burap o blant; ac wedi iddynt dyfu i fyny, yr oedd yu rbydd oddi wrth ddyltd. Gofynwyd i'r bwrdd ymwneyd a'r achoa fel un arbenig, a choroai' yr hen wr am y gweddill o'i ddyddiau trwy roddi 5s, yn wythnosol iddo. Cyttunwyd ar hyny. Etholwyd Mr. W. Winterbottom, Conway street, Rhyl, yn ddiwrthwynebiad, dydd Gwener diweddaf, yn aelod dros y ward ddwyrainiol ar Gynghor Dinesig Rhyl, yn lie y diweddar Cadben E. W. Keatinge. Y mae mwy o ddyfalu nag arferol gyda golwg ar pwy a etholir i gadair Undeb yr Annibynwyr Cymrsig y flwyddyn nesaf. Tro Gsgledd Cymru am gadeirydd ydyw, a chymmer yr etholiad le yn nghyfarfodydd blynyddol yr Undeb a gynnelir yn Nghaernarfon yr wythnos hon. Hysbysir fod y Parch. John J. Jones, diweddar giwrad Eglwys St. Mair, Bangor, yr hwn, bythef- noa yn ol, a draddodwyd i eefyll ei brawf yn mrawdlys Caernarfon ar y cyhuddi&d o gamy roe ddygiad, wedi colli ei aynwyrau, ac wedi cael ei gymmeryd i Waligofdy Dinbych yr wythnos ddiweddaf. Hysbyair fod o ddeutu 130p. wedi eu haddaw yn Nghorwen tuag at wneyd mynegfa a gwellhau y llwybrau o'r dref iPenyp'gio, er c6f am goroniad y brenin. Addawyd 25p at y treuliau gan bwyllgor yr eisteddfod. Hyderir, oa caifif y sym mudiad ei ftordd yn glir i fyn'd yn ei flaen, y gellir cwblhau y gwaith cyn amser yr eisteddfod. Fel yr oedd y bachgen Emrys Thonas, mab Eifionydd, Caernarfon, yn teithio yn y tiga ger Gwrecsam, syrthiodd ei het drwy y ffenestr; ao yn ei gyffro agorodd y drwa, a neidioddd ar ei hoi, gan dderbyn niweidiau difrifol. Y mae yn awr yn gorwedd mewn cJftwr peryglus yn Y bbytty Gwrecsam, Yr oedd y bachgen yn mynychu Yrgol Sir Gwrecsam. Nos Iau traddododd Mr. J. Parry, Glan Tegid, Bala, ddarlith ar ei ymweliad â. Gwlad Canaan, yn Ty'nybont. Dyma y tro cyntaf i'r ddarlith gael ei thraddodi. Cafodd pawb eu boddloni yn y ddar- lith, a thystient na chlywaant erioed ddiegrifiad mor ddyddorol o wlad sydd yn gyaaegredig gan bob Cymro. Yn ystod y ddarlith gwiagwyd amryw bersonau mewn gwisgoedd Dwyreiuiol Llywyddwyd gan y Parch. E, G. Jones, Cwm. Ffynai gryn drietweh yn Llangollen dydd Iau, pan dderbyniwyd y newydd am farwolaeth y Parch. D. Carrog Jones, yr hyn a gymmerodd le y boreu hwnw yn Seal, Kent, He yr oedd wedi ymaefydlu er dechreu y flwyddyn. Yr oedd Mr. Jones wedi bod yn giwrad yn Llangollen am ddeng mlynedd a bu yo dal bywoliaeth Llan- gadfan yn ddllynol. Yr cedd wedi priodi merch hynaf y diweddar Barch. E Rhys James, yr hwn a fu yn ficer Llangollen am dymmor maith a chydymdeimlir yn fawr â'i weddw a'i blentyn yn c eu trallod. Y mgynnnllodd nifer liosog o gyonrychiolwyr eglwysi y Methodiatlaid Calfinaidd yn rhanbarth Dyffryn Conwy i Laoduduo Junction, dydd Gwener, er cymmeryd o dan yatyriaeth y moddion goreu i godi gweddill Tryaorfa yr Ugeinfed Ganrif. Yr oedd y Parchn. Evan Jonea ao Ellis J. Jones, Caernarfon, a'r Parch. John Williams, Princeo road, Liverpool, yn breaennol. Hysbjrwyd vn y Gymdeithasfa Gyffredinol fod 80 OOOp. o'r 100,000p. y gwocid cvia i'w co<!i wedi cael eu haddaw. Gwnaed amryw drefniadau er gosod achos y drysorfa hen ger bron y gwahanol eglwyai yo y cylchoedd hyny.
Y D E H E U .
News
Cite
Share
Y D E H E U Yr wythnos ddiweddaf bu farw y Paioh. J Jooea, ficer Abergwesain, air Frycheiniog. Mewn canlyniad i arferion defodol yn eglwys Lambston, rhoddodd maer Hwlffordd ei swydd o warden Eglwysig i fyny. Cynnaliwyd eyf P., rfod gorlawn yn nghapel Salem, Blaina, nos Lun, pan y pasiwyd penderfyniad nn- frydol o gondemniad ar y Mesur Addysg. Dr. Musgrove a bennodwyd yn swyddog medd- ygol Cynghor Dosbarth Dinesig Penarth, yr wyth- nos ddiweddaf, yn lie y diweddar Dr. Nell. Yn nghyfarfod Bwrdd Yegol Gelligaer pender fynwyd eaniatau gwyl yn yr oil o'r ysgolion o dan y bwrdd yn ystod yr oil o wythnos y ooroniad. lsel oedd y prisiau yn yr arwerthiant ar yatad y Dao o Beaufort, dydd 1-tu. Ni chafwyd ond 750p am ddau gastell adfeiliedig, a.u maenoriai. Y mae Cyngbor Trefol Abertawe wedi pender. fynu i dalu am ddau ddiwrnod o wyli'rgweithwyr sydd o dan y gorphoraeth yn ystod wythnos y coroniad. Talodd c6r boneddigesau y Penrhyn ymweliad â,1 Aberdangleddyf; a ohatwyd cyngherdd llwydd. iannua yno i gynnorthwyo y chwarelwyr yn Bethesda. GWDeir trefniadan ar gyfer Eisteddfod Genedl- aethol 1903 (Llanelli). Disgwylir y bydd i restr y testynau gael ei chyhoeddi yn gynnar yn mis Gorphenaf. Pasiodd cyfarfod chwarlerol Bedyddwyr air Fynwy, yn eu cyfarfod yn Mlaenau Gwent, Aber- tileri, ddydd Mawrtb, benderfyniad o gondemniad ar y Mesur Addysg. Darfu i Esgob Llandaf gynnyg rheithoriaeth Llandanog a Llanbedr, air Fynwy, i'r Parch. D. Roberts, ciwrad yr eglwys Gymraeg yn DawlaiB, yr hwn sydd wedi ei derbyn. Nid oedd Bwrdd Yagol Castellnedd ynfoddlawn caniatau wythnos o wyJiau yn ystod wythnos y ocroniad, am eu bod yn ystyried fod y plant a'r athrawon yn cael gormod o wyliau. Yn nghyfarfod misol Blaenanerch, yr wythnos ddiweddaf, pasiwyd pleidiais o longyfarchiad a'r Parch. Moelwyn Hughes, ar ei waith yn ennill y gradd o M A., a PH. D., yn Mhrifysgol Leipttio. Pas-oid Cymdeithas llyddfrydig Dinbych y. pysgod benderfyniad yn dadgan nad oedd Mr. Terrell, K C yn oael ei gydnabod yn ymgeisydd priodol mwyach i gynnryohioli bwrdeisdrefi Penfro. Argymmhella Pwyllgor Gweithiau ao Amcanion Cyffredinol Cynghor Dosbarth Aberoarn ar i bump ar hugain o dai gael eu hadeiladu, o dan Gyfraith Tai i Weitbwyr, yn agoa i'r Fiowndri, yn y dref hono. Y mae Mr. D. A. Thomas, A. s., wedi rhoddi 300p. taagatdalu dyled Cymdeithas Ryddfrydig Deheubarth Mynwy, ac wedi ymgymmuryd dwyn yr holl dreuliau am dair blynedd, nea hyd oni ddswlsir ymgeisydd Rhyddfrydig. Y Sabbath a dydd Llun ail agorwyd capel Noddfa (B ), Abersychan, ar ol iddo fod o dan ad- gyweiriad. Y pregethwyr a gymmerai ran yn y gwasanaeth ydoedd, y Parch. D. T. Phillips, y Trafnoddwr Americanaidd yn Nghaerdydd, a'r Parch. A O. Hopkins. Penderfynodd ynadon Pontypridd, dydd Mer. cher, draddodi Henry Burfoot. Frank Palmer, a James Chandler-yr oil o Bristoi-i sefyll eu prawf yn y frawdlys chwarterol, ar y cyhuddiad o dy.doriad, ao yabeiiio gwerth lOOp. o emau. Cafodd Francis Price, o Bristol, ei draddodi i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o ddetbyn. Gadawodd y ddiweddar Misa Rowland, Castell- nedd, y cymmunroddion oanlyuol yn ei hewyllys: -200p. i Winifred House, Oartref i Blant analluog, TolliDgton Park, Llundain 200p. i Gartret yn Porthcawl: i Faer a Chorphoraeth Castellnedd, ei Ilyfrgell, a 2,OOOp. tuag at lyfrgell newydd, neu helaethiad y LlyfrgelCRydd bresennol; 2,OOOp. i Gymdeithas 'Nyrsio' Castellnedd, i adeiladu cartrefi i Nyrsua y Frenhines yn Nghaatellnedd, nea i gael eu rhoddi allan ar log, a bod yr hyn a dderbynid oddi wrtbynt i fyned at amcanion y aefydliad. Yr oedd yna gymmunroddion i bawb oedd yn aheulu Rowland yn Nghastellnedd, ac yr oedd y IIwm mewn un asagylohiad yu oyrhaedd 200p Gwnaed yn hysbys yn Nghywghof Dosbarth Maestsg, yr wpthrsos ddiweddaf, fod pump c achos- ion o'r scarlatina wodi tori allan ya ystod y p) t'aefnos diweddaf. Mewn cyfarfod o Gymdeithaa Fasnachol Caer- dydd, dydd Mercher, pasiwyd penderfyniad yn galw am chwaneg o drenau rhwng Caerdydd a Ffynconau Lliindrindod. Aeth y Parch. James Davies, gweinidog eglwys Bethel (C.), Cwmparc. i Jersey, yr wythnos ddi- weddaf, er cael adgyfnerthiad i'w ieohyd, yr hwn sydd wedi bod yn lied egwan er'a rhai misoedd. Cyflwynwyd aarheg o oriadur aur i Mr. W. G. Lean, yn y Philarmonio Restaurant, Caerdydd, nos Lun, ar ei ymadawiad o Gaerdydd i ymgym meryd â,'r swydd o beiriannydd yn Llythyrdy Leeds, Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gweinyddol Eistedd fod 1903, sydd i'w chycnal yn Llanelli. penderfyn- wyd £ ,o!ya i'r brenin a Thywysoa: a Thy wysogfs Cymru i fod yn noddwyr, a Mr. Carnegie i fod yn un o'r llywyddion. Y mae Syr John Jones Jenkins, yr hwn a syrth- iodd i lesmair sydyn yn ei swyddfa, yn Abertawe, rhyw bythefnos yn ol, wedi myned ar y Cyfandir yr wythnoa ddiweddaf. Yr oedd dwy o torched Syr John yn myned gydag ef. Cynnaliwyd treogholiad, dydd LInn, ar gorph Mr. Morgan Erans, fferm Nantddu, ger LIanym ddyfri, yr hwn a dorodd ei wddf y diwrnod blaen- orol gydag ellyn. Y rheithfarn ydoedd,' Hunan. laddiad yn ystod tymmor o wallgofrwydd.' Bydd i Undeb Cenedlaethol Ymdrech Cristion- ogol Cymru gynnal ei thrydedd gynnadledd flyn- yddol eleni yn y Barry, ddydd Mawrth, Mercher, M Iau, Mehefin 17eg, 18fed, a'r 19eg. Traddodir pregeth y gynnadledd gan y Parch. H. Elvet Lewis, Llundain. Gwnaeth y Parch. J. James, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Dowlais, yn hysbys i'w eglwya a'i gynnulleidfa, nos Ssbbath, ei fod wedi cydsynio & galwad a dderbyniodd o Frome, Somerset. Nid oedd ond rhyw dair blynedd a hanner er pan yr oedd Mr. James wedi ymsefydlu yn Dowlats. Y mae Annibynwyr Dowlaia wedi penderfynu rhoddi gwahoddiad ar i Undeb yr Annibynwyr Cymreig gael ei gynnal y flwyddyn nesaf yn y dref hono. Hysbysir fod Annibynwyr Merthyr Tydfil wedi penderfynu gwneyd cais am i gyfarfod ydd yr Undeb gael eu cynnal yn y dref hono y flwyddyn nesaf; ond dywedir eu bod hwy yn barod i dynu yn ol yn ffafr Dowlais. Hysbysai y Times yr wythnos ddiweddaf fod y dathliadau mewn cyssylltiad & dyfodiad Ardalydd Bute i'w oed, y rhai oedd i gymmeryd lie y mis nesaf, wedi cael eu gohirio hyd yn gynnar yn yr hydref, mewn canlyniad i'r coroniad, ac analla Arglwydd Bute i roddi ei Itresennoldeb, ar ydydd- iad hwnw, mewn unrhyw un o'r dathliadan a gvn. nelir ar ei amrywiol ystadau. Y mae gan y Parch. Hugh Price Hughes frawd o'r enw Mr. J. Arthur Hughes, yr hwn, hefyd, sydd yn llawn o ysbryd cyhoeddas a diwygiadol. Yn ddiweddar ymddiswyddodd o fod yn ysgrif- enydd Cynghor Tref Barry, fel gwrthdyatiad yn erbyn gweithrediadau y cynghor. Yn fuan wedi hyn etholwyd ef yn aelod o'r cynghor ao yn y cyfarfod dilyco1 cyntaf gwnaed ef yn gadeirydd. Cymmerodd etholiad 19 yn Ward Pantygroea, Llandudoch, er llenwi sMd wPg ar Gynghor Dos- barth y lie hwnw, yr hyn oedd wedi cael ei achosi trwyji aelod ddfe*elodi ei hun, am nad oedd yn mynychu y oyfarfodydd. Yr ymgeiswyr oeddynt y Mri. Henry 0 Daviea, adeiladydd, a Levi Williams, meddyg anifeHiaid — a'r ddau yn Rhyddfrydwyr. Y cyntaf a ddychwelwyd trwy dair pleidiais. Bn farw Mr. Thomas Bowen, trigiannydd adna- byddus yn Garnant, Caerfyrddin, o gynddaredd. Cafodd ei frathu yn Awst, 1900, gan fox terrier; a bu o dan driniaeth yn Sefydliad Pasteur, Paris. Yr oedd yn mwynhau ieohyd rhagorol hyd dydd Vao, pan y cftynai ei fod yn dyoddef o Idi wrth boen yn ei fraioh a'r diwrnod canlynol dadgan. odd meddyg ei fod yn dyoddef oddi wrth gynddar- edd yn ei ffurf waethaf. Cynnaliwyd oynnadledd o gyncrycbiolwyr dros drefydd Trallwm, Trefaldwyn, Drefnewydd, Llan- idloes, Machynlleth, Aberystwyth, a Thowyn, yn Aberystwyth, er cymmery 1 o dan ystyriaeth gyn nyglad i estyn Hinell y tolephoa i Aberystwyth. Cymmeradwywyd y cynnygiad: a phsnuodwyd pwyllgor i ymweled a'r Postfeistr Cyffredinol, gyda'r amcan o gael cyfnewidiad yo yr ammodau, mewn ystyr arianol, &o. Ymddengys fod Cynghor Sirol Morganwg yn benderfynol o roddi Cyfreithiau Oriau Siopau 1892 ac 1896 mewn grym, pa rai, yn mysg pethau eraill, a ddywed y dylai pob meistr ddarparu nn lie priodol ar gyfer pob tair o ferched sydd yn gweini mewn Biopau. Yn Uys yr ynadon yn Caer- phili, ddydd Mawrth, gwysiwyd Thomas Thomas, dilladydd, Senghenydd, o dan y gyfraith hon, a dirwywyd ef i'r swm o 149., gangynnwysy costau. Yn nghyfarfod Bwrdd Cladda Aberdar, dydd Mawrth, derbyniwyd ymddiswyddiad Mr. H. P. Liaton, yr hwn oedd wedi bod yn glerc i'r bwrdd yn mron or pan y ffurflwyd ef, yn y flwyddyn 1857. Pasiwyd pleidiais o ddiolchgarwch i Mr. Linton am ei wasanaeth hirfaith a gwerthfawr. Wedi hyny pennoiwyd Mr. Charles Kenshole, yr hwn oedd wedi gweitbredu, yn ymarferol, fel clerc am 30 o flynyddoedd, i fod yn olynydd i Mr. Linton. Derbyniodd Mr. E. G. Davie", o Goleg Caer- fyrddin, alwad oddi wrth eglwys Saeinig Brynteg, Abertileri, ao y mae yntau wedi ei hatteb yn gad- arnhaol, gan fwriadu dechreu ar ei w-jinidozaebb tua mis Gorphenaf Eglwys newydd ydyw Bryn teg, wedi cael ei chorpholi rhyw ddwy flynedd yn ol. Agorwyd y capel yr Hydref diweddaf, ond y mae eieoes yn rhy gyfyng i'r gynnulleidfa gyn- nyddol. Brodor o Drewyddel ydyw Mr. Davies, wedi cael ei ddwyn i fyny wrth draed yr anfarwol Jonee.
CAERNARFON.
News
Cite
Share
CAERNARFON. LLYS YR YNADON BWRDEISIOL. Troseddu Cyjraith Cau y Tajarndai ar y Sabbath. DYDD LLUN cynnaliwyd llys yr ynadon bwr. deisiol, o dan lywyddiaeth y maer (Mr. R. O. Roberts). Cyhuddwyd Jane Roberts, yr hon oedd yn dal trwydded y Garnons Arms, o werthu cwrw a/ y Sabbath, Mai 4ydd. Mr. J. T. Roberts, yr hwn oedd yn erlyn ar ran yr heddgeidwaid, a ddywedodd fod yr heddgeldwaid wedi bod yn gwyJio y Garnon's Arms er's tro. Ar noeon y 4ydd o Fai yr oedd dan swyddog wedi ymguddio gyferbyn &'r ty. Sylwasant, i ddechreu, ar ddau ddyn yn myned i dy llafurwr o'r enw Edwards, yr hwn oedd yn byw wrth ymyl; ac yn fnan ar ol hyny gwel- wyd bachgen yn myned o'r tý-, ac yn euro wrth ddrws y Garnon's Arms. Aeth morwyn o'r Garnon's Arms, wedi hyny, i d, Edwards; a phan.ddychwelodd yn mhen ychydig funydau ar ol hyny, safodd wrth lamp oedd ar yr heol, yr hon oedd yn oleu, ac ymddangosai ya cyfrif yr arian oedd wedi ei dderbyn. Gwelwyd y ddiffynyddes ar ol hyny yn gadael y tafarndy, ac yn myned i dy Ed",ardp.. Ymdd&Ggosai yn cario rhywbeth mawt o dan ei shawl; ond pan aeth o dý- Edwards nid oedd ganddi ddim o dan ei shawl, ac yr oedd yn ysgwyd ei breichiau yn iawn. Rhoddodd y Rhingyll Heddgeidwadol Owen dyatiolaeth i gadarnhaa y mynegiad uchod. Mr. Carter, yr hwn a ymddangosai dros yr amddiffyniad—' Beth oedd y ddiffynyddes yn ei gario ?' Y tyst—'Nid wyf yn tybio ei bod yn cario dwfr (chwerthin). Yr wyf yu credu ei bod yn cario cwrw.' Dadleuai Mr. Carter nad oedd yna un dyat- iolaeth i gospi. Wedi ycbydig ymgynghoriad penderfynodd yr ynadon daflu yr achos allan. Cyhuddwyd yr un ddiffynyddes o drosedd cyffelyb nos Sabbath, Mai 18fed. Mr. Carter a blediodd euogrwydd ynngwyn- eb y cyhuddiad. Mr. J. T. Roberts, yr hwn oedd yn erlyn, a ddywedodd i'r un swyddogion fyned o flaen ty Edwards, ac iddynt fyned at wraig a ddaeth allan o'r Garnon's Arms, a chanfod jar o gwrw wedi ei guddio o dan ei shaui. Dywedai y ddi- ffynyddes, pan gyhuddwyd hi o werthu cwrw ar y Sabbath, fod Edwards wedi talu am dano y noson flaenorol. John Edwards, yr hwn a alwyd o du yr am ddiffyniad, a ddywedodd ei tod yn arfer cael cwrw yn y Garnon's Arms ar nos Sadwrn, ar gyter y Sabbath, ond ar noson yr 17eg, yr oedd y ddiffynyddes wedi anghofio anfon y cwrw i'w dt, fel yr arferai wneyd; a phan welodd hi ar yr heol y Sabbath, gofynodd iddi am y cwrw, ac anfonwyd ef iddo, er fod gwraig y ty yn erbyn hyny. Penderfynodd yr ynadon ddirwyo y ddiffyn- yddes i'r swm o 2p., a rhoddwyd gorchymyn i gofnodi y trosedd ar gefn y drwydded.
LLYS Y MAN DDYLEDION.
News
Cite
Share
LLYS Y MAN DDYLEDION. Achoston o Ad daliad i Chwarelwyr. Bu y Barnwr Syr Horatio Lloyd yn y llys hwn, dydd Mercher, yn gwrandaw amryw aohosion o ad-daliad i ohwsrelwyr. Cyfeiriodd Mr. Ellis Davies at achos Sarah Jones, Pen y groes, gwr yr hon, Rowland Jones, a fu farw mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd yn Mawrth diweddaf yn Chwarel Lechi Dorothea. Y cwestiwn ydoedd, pa un a oedd yr appelydd es yn dibynu yn hollol ar ennillion ei gwr, yn gymmaint a bod ei gwr yn cadw aiop hefyd. Wedi rhyw gymmaint o ddadlau cyttunodd Mr. Carter, ar ran Cwmni Dorothea, i archeb gael ei gwneyd am 214p o ad-daliad a chostau. Mr. Assheton Smith, perchenog Chwsreli Din- orwic, oedd yr attebydd yn y ddau achos can lynol:— Hawliai Robert JoBoa, Tanyfoel, ao ymddangos ai Mr. Ellis Davies ar ei ran-ad daliad am golli llygad ar yr 20fed o Awst diweddaf. Derbyniodd yr appelydd ad daliad yn ol 19a 6c yn yr wythnoa o'r 3ydd o Fedi hyd Hydref 8fed ond ar y dydd- iad olaf, ail ddechreuodd weithio yn y chwarel, aa yr oedd wedi parhau i weithio yno. Ond yr oedd oolli ei lygad, mewn rhan, modd bynag, wedi effeithio ar ei gyflog, gan ei fod wedi ennill cyn y ddamwain, am gytnod o wyth mis, ar gyfartaledd, 2p. 2s. Sc. yn yr wythnos, tra yr cedd y cyfartal- edd, ar ol y ddamwain, dros yr un cyfnod, wedi cael ei dynu i lawr i Ip. 12s 4c Mr. Lloyd Carter, yr hwn a gynnrychiolai Mr. Asaheton Smith, *» ddadleuai na effeithiwyd o gwbl ar allu yr appelydd i ennill cyflog; ac yr oedd yn sylfaenu ei ymresymiad mewn perthynas i hyn ar ei ennillion misol am y ddan gyfnod o wyth mia. Dangosodd y barnwr fod yna ostyngiad o lip. !3s. 8c yn ennillion y dyn yn ystod yr wyth mis oedd yn dilyn y ddamwain, wrth ei gymmharu a'r wyth mis blaenorol. Yr oedd hyn yn gwneyd gostyngiad wythnosol, ar gyfartaledd, o 7s. Ic., a'r anig ffordd iddo ef drefnu y mater yn deg fyddai, trwy ddyfarnu i'r appelydd hanner y swm hwn. Felly, rhoddwyd dyfarniad i'r appelydd am, 3s. 6c. yn yr wythnoa. Yr appelydd yn yr achoa arall yn erbyn Mr. Assheton Smith ydoedd Evan Owen, Brynhyfryd, Brynsienoyn. Ymddacgosai Mr. R. Gordon Roberts ar ei ran, yr hwn a ddywedodd fod Owen wedi tori ei goes, trwy i ddarn o graig syrthio arno. Derbyniodd ad-daliad o'r lleg o Fedi i Chwefror 5ed diweddaf, pan yr aeth i'r ohwarel draohefn, gyda'r bwriad o ail ddechrea gweithio ond gin ei fod mewn poen mawr, ba raid iddo fyned ymaith, ac arosodd i ffwrdd hyd y 3ydd o Ebrill, pan y deohreuodd weithio. Gotynid am ad-daltad o Chwefror hyd Ebrill. Yr oedd yr appelydd yn gweithio yn awr, er ei fod yn dycddef gryn lawer. Y barowr, Nis gallaf gymmeryd y boen o dan ystyriaeth yn awr. Ymddangosai Mr. Carter dros yr attebydd. Wedi gwrandaw yr aohwynydd, yr hwn a ddy wadai ei fod wedi bod yn gweithio yn Chwareli Dinorwic er's 34vin o flynyddoedd, penderfynodd y barnwr ohirio yr achos hyd y llys nesaf, mewn trefn i Dr. Lloyd Roberts roddi ei dystiolasth.
RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD.
News
Cite
Share
RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD. Oohoad.—Nos Sabbath diweddaf penderfyn- odd eglwys Annibynwyr Salem, Pongciau, yn urfrydol roddi galwad i Mr. T. O^wen Griffiths, o Goleg Du\»inyddol y Bala, i ddyfod yno yn weinidog. Cangen ydyw yr eglwys hon o eglwys Bethlehem, Rhos; nc er mai yn ddi- weddar y sefydlwyd hi, y mae yr achos wedi llwyddo yn fawr, feI erbyn hyn y mae gan. ddynt gapel hardd, he b lawer iawn o ddyled Y mae yr eglwys wedi bod hyd o'i dechreuad. dan weinidogaeth y Parch. R. Roberts. Da gin lawer weled ei bod wedi tyfu digon i gyn- nal gweinidog ei hun. Brodor o Bethesda yw Mr. Griffiths, ac y mae cwrs ei yrfa addysgawl bron ar ben yn y Bal*. Bu yma ddau Sabbath yn ddiweddar, a thraethodd bedair pregeth wahanol, ac oddi wrth hyn rhoddir gair da iddo gan bawb Y mae yn wr ieuangc yn meddu ar dalentau rhagorol. Y mae yn ddymunol iawn mewn traddodiad, yn syml a gwych mewn iaith a chyfansoddiad, ae yn ymddangos yn fwy na dim yn ddarllenwr mawr. Hyderir y bydd iddo dderbyn yr alwad, a bydd iddo dderbyniad cynnes yn Salem a'r Rhos
CYNGHOR PLWYFOL RHOS.
News
Cite
Share
CYNGHOR PLWYFOL RHOS. Cynnaliwyd cyfarfod arierol y cynghor hwn DOS Iau, yn Neuadd Gyhoeddus Rhos, pryd yr oeddyn bresennol:—Mri. J. Evans, D. L. Price, W. Green, S. Roberts, B. Davies, W. M. Jones, John Bowen, C. Morgan, -Z. Dodd, David Davies, Watkin Jones, R. Jones, J. Griffiths, a'r ysgrifenydd (Mr. J. Trevor Jones). Yn absennoldeb y cddeirydd (Mr. E. Hoosoa), cymmerwyd y gadair gan Mr. J. Evans, is- lywydd. Pwyllgor Golevo.-Cyflwynodd y pwyllgor hwn ei adroddiad. Cymmeradwyai y cyughor dalu y swm dyledus i Gwmni y Nwy; sef, 52p; 10?. Pasiwyd i adael y cwestiwn o ostyng- iad y y cyfryw rhwng yr ysgrifenydd a Mr. Woodford. Cyfarwyddwyd yr ysgrifenydd i chwilio i mewn i ostyngiad yn mhris y nwy yn y dyfodol. Pasiwyd i wrthod cais Cwmni y Nwy am oleuo y lampae, ac fod y cynghor yn cadw yr hawl i ddewis goleuwyr y lampau yn eu dwylaw eu hunain. Pasiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd (Mr. E. Hooson), am ei cheque o 2p. 13s. 8c sef, y swm chwanegol ydoedd y cwmni ynofyn, a'r cynghor yn gwrthod talu adeg 4 etreia y nwy ddechreu y ganrif diwedd- af. Pwyllgor y Llwybrau. — Cyflwynwyd adrodd- iad hwn etto, a chyinmeradwyai y cynghor i hyabysebu am tenders i baentio a llythyrena yn ngladdfa y Rhos. Pasiwyd i wneyd hyny yn ddioed. Ficer Pritcfianl.— Anfonodd y gwr rhydd- frydig hwn wahoddiad i'r cyughor bresennoli ei hun yn swyddogol yn ngwasanaeth y coroni yn yr eglwys ddydd y coroniad. Pasiwyd i'r ysgrifenydd gyflwyno diolchgar- wch cynnes y cynghor i'r ficer am ei wa. hoddiad. ond nad allent weled eu ffordd yn glir i fod yno yn swyddogol. Y Goromad,Cynnygiodd Mr. R. Jones fod y cynghor i wneyd appel at Mr. Smith, Llanerchrugog Hall, am wasanaeth y pare ar gyfer dathlu y coroni. Yr oeddynt mewn angen lie i ddechreu a threfnu yr orymdaith, a Ue hefyd i gyrchu iddo wedi y teithio. Yr oeddynt yn myned i dalu 10p. am wasanaeth y seindorf, a da fyddai iddynt ddarparu lie y gallai y seindorf chwareu er budd y bobl. Pasiwyd i ymweled & Mr. Smith, ac i drefnu pwyllgor arbenig o'r cynghor i gymmeryd a threfnu pob peth ynglyn a'r coroniad. Neuadd BlwyfoL i'r Rhos.—Cynnygiodd Mr. B. Davies fod gotyn i Mr. Dennis am ddarn o dlr ar y Pongciau i adeiladu neuadd, nen ryw. beth arall arno. Dywedodd fod yr adeg hon yn amser priodol iawn i wneyd hyny. Nid ydoedd y neuadd bresennol yn nnrhyw gr&dit i'r Rhos. Yr oedd yn teilyngu un llawer iawn rhagorach. Pe llwyddent i sicrhau darn o dir gan Mr. Dennis byddai yn gyfleusdra teilwng i ddathlu y coroniad, trwy sicrhau lie i neuadd blwyfol. Eiliwydgan Mr. Robertsganchwanegu fod mwy o eisieu ysbytty yn Rhos yn awr na neuadd. Pa ddefnydd bynag wneid o'r]tir, appwyntiodd y cynghor ddirprwyaeth i weini ar Mr. Dennis yngJýn a'r tir. Lleoedd Peryglus.—Cyfeiriwyd at ddau le peryglus, wrth afon Ty'nycoed, ae at ffordd Llwyn Einion. Gin fod y rhai hyn tu allan o gylch y cynghor, cyfarwyddwyd yr ysgrifen- ydd i <Jiebu a Chynghor Plwyfol Exclusiam Above, i dynu eu sylw at sefyllfa beryglus y lleoedd dan sylw.-Gohebydd.
CASTELLNEDD.
News
Cite
Share
CASTELLNEDD. Gweithred wirionffol mewnceibydres.—Dygwyd John Harries, o Ystradgynlais, o flaen yr ynadon yn y lie hwn, am deithio mewn tren ar ffordd haiarn Nedd ac Aberhonddu gyda llawddryll llwythog ar ei berson. Wedi myned i'r cerbyd. bu rgos i Harris a dychryn ei gyd deithwyr i farwolaeth trwy danio pump o ergydion trwy ffenestr y cerbyd tra yn teithio o Gastellnedd i Colbren. Addefodd y diffynydd ei euogrwydd ac wrth bledio ar ei raa, dywedodd Mr. Jeffreys fod rhywun wedi ymosod ar Harris yn hwyr y nos tra yn teithio ar y ffordd rhwng Pontardawe ao Yatalyfera. Nid oedd y diffynydd yn caru cario yr ergydion gartref; ac felly, fe'i gollyngodd trwy ffenestr y tiin. Dirwywyd ef i 2p., a 18s. 6c. o gostau.
BANGOR.
News
Cite
Share
BANGOR. Y CYNGHOR DINESIG. DATHLU Y CORONIAD. CYNNALIWYD cyfarfod arbenig o'r cynghor noa Fawrth. o dan lywyddiaeth y maer (yr Henadur Henry Lewie), gyda'r aracan o wneyd trefniadan gyda golwg ar y coroniad. Darllenwyd gobebiaeth oddi wrth Gynghor Trefol West Horn, yn cyfeirio, yn ol yr awgrym- iadau oedd yn cael eu gwneyd yn y Mesur Addyeg, y cymmerai gryn chwanegiad le yn y trethi Ileol. Awgryment hwy fod Cynghor Bangor yn pennodi cynnrychiolwyr i roddi eu presennoldeb mewn cynnadledd yn Llundain, gyda'r amcan o wasgu ar y Llywodraeth y dymunoldeb o osod cyfartaledd mwy o goit addysg elfenol ar y drysorfa ymher- odrol. Ar gynnygiad Mr. T. J. Williams, yn cael of gefnogi gan Mr. E. Myrddin Jones, a'i attegu gan Mr. Bayne, penderfynwyd pasio penderfyniad yn amlygu cymmeradwyaeth a chydymdeimlad a'r pwngo a oaodwyd ger bron. Dirllenwyd llythyr oddi wrth lywydd ao ysgrif- enydd Cynghor Eglwysi Rhydd Bangor, yn hys- bysa fod yna fwriad i gynnal gwasanaeth crefydd- ol Cymreig yn nghapel y Tabernacl, Bangor, ddiwrnod y coroniad, a bod gwaheddiad yn cael ei roddi i'r maer, ao aelodau y Gorphoraeth, i fod yn bresennol. Ysgrifenodd y Proffeswr J. E. Lloyd, cofrestr. ydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, fod dirprwy- aeth oddi wrth Gynghor y Coleg yn bwriadu ym- weled a Chynghor Bangor, pan ymgyfarfyddent y tro nepaf, er dadgan diolchgarwch awdurdodau y coleg am y cynnyg haelionua o ddarn o dir i godi y coleg arno ac yr oedd yn bleser mawr i'r cyng. hor dderbyn y cyfryw gynnygiad. Dirllenwyd llythyr oddi wrth Syr Richard Bulkeley, yn diolch i'r cynghor am eu trofniadpu boddhaol ar gyfer y corpbluoedd yn ystod yr ym- weliad brenhinol. Amlygodd y maer ei ddiolchgarwch i aelodau a awyddogion y cynghor, yn neiliduol Mr. Gill, yr arolygydd bwrdeisiol, am eu cynnorthwy a'u cyd- weithrediad i gario y trefniadan yngl^n a'r ymwel- iad brenhiaol; a galwodd y maer sylw arbenig at y gwaith a wnaed gan y Cynghorwr Foster mewn cyaaylitiad â. hyn. Wrth agor y drafodaeth o berthynas i ddathlu y coroniad, yu ngwyneb yr ymweliad brenhinol diweddar, a dynesiad yr Eisteddfod Genedlaethol, nis gellid disgwyl i Fangor ddathlu y coroniad ar raddfa mor eicg ag y gwoeid mewn trefydd eraill yn Ngogledd Cymru a Lliegr etto, yr oedd yn rhaid iddynt wneyd rhywbeth Wrth gyfeirio at awgrymiai ar I gyflog gael ei bleidleisio i'r maer tuag at ddathliad y coroniad, cododd Mr. T. J. Williams wrthwynebiad i hyny, a dadganodd, mai "mwy dymunol fyddai i'r goat gael ei dwyn trwy danysgrifiad cyhoeddus. Cvp- nygiodd benderfyniad i'r perwyl hwnw, a chafodd ei gario.7 Pennodwyd pwyllgor o ddeuddeg o aelodau, gyda gallu i chwanegu at eu nifer, er cario y trefa- iadau allan. Mr. Owen Owen a gynnygiodd nad oedd yr fryl swyddogol i ymestyn dros un diwrnod. Y penderfyniad, modd bynag, y daethpwyd iddo ydoodd, fod y mater yn cael ei drosglwyddo i bwyllgor. Wedi hyny darllenodd y maer waboddiad oddi wrth Ddeon Bangor, yn gwahodd y cynghor I roddi eu presennoldeb yn yr eglwya gadeiriol ddiwrnod y coroniad. Arweiniodd hyn i gynnyg- ion eu bod yn rhoddi eu presennoldeb yn ngwasan- aeth yr Eglwysi Rhyddion ac yn yr eglwys pad- eiriol. Gan i'r cynghor fethu cyttuno ar y mater, pen- derfynwyd, ar awgrymiad o eiddo y maer, ar i'r mater gael ei adaøl i bob aelod.
[No title]
News
Cite
Share
Trengodd Parolo, hen Italiad o gardotyn, ar ol treolio"75 o flynyddoedd i gardota. Gadawodd ar ei ol gyfoath mawr. Edrychai ar yr alwedig* aeth o gardota. fel un anrhydeddns a chyfreitfclawn. Cymmerai arno synn yn ddirfawr, a dirmygai y rhai a'i gwrthodent.