Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GOSOD TEMTASIWN AR FFYRDD…

News
Cite
Share

GOSOD TEMTASIWN AR FFYRDD Y IIIIAI DRWG! YN y Daily News Llundeinig am dydd Gwener diweddaf ymddangosodd erthygl darawiadol, o ysgrifbin Syr ROBERT ANDER- SON, K c B., dan y penawd uchod; a chan ei bod yn ymdrin a phwngc nas gall pawb lai na theimlo oddi wrth ei bwysigrwydd, nid oes esgusawd yn angenrheidiol am wneuthur defnydd lied helaeth o'i ffeithiau a'i hym- resymiad yn yr erthygl hon. Penawd yr ysgrif ydyw, Y modd y temtir troseddwyr senym '—' How we tempt Criminals.' Gellir edrych ar y cwestiwn ynghylch pa fodd i attal cyflawniad troseddau, medd Syr ROBERT, oddi ar safleoedd gwahanol. Un ydyw safle V ddeddfwriaeth ei hun, wrth gwrs, a'r llysoedd yn mha rai y profir ach- osion o droseddau. Safle arall ydyw eiddo y cyhoedd—y cyhoedd yn ei fywyd cyff- redin bob dydd, pan yn dilyn ei orchwylion masnachol neu grefltwrol, neu ynteu yn myned ar ol ei bleserau. Ymofyniad o'r dyddordeb a'r pwysigrwydd mwyaf ydyw, yn mha fodd neu yn mha bethau y gallai ein seneddwyr wneuthur cyfreithiau y deyrnss yn llymach, yn fanylach, ac yn fwy effeitbiol i attal cyflawniad drwgweith- redoedd troseddawl. A chydryw bwysig a fyddai yr ymofyniad a oes gan ein barnwyr a'n hynadon rywbeth, o ran ysbryd a doeth- ineb, ag y galient hwy chwanegu ato yn eu dull o weinyddu y cyfreithiau sydd yn bresennol mewn grym, A Ilawn mor ddyddorol a phwysig a'r ddau ydyw yr ymofyniad :-A oes gan y cyhoedd ei hun rywbeth, trwy feddylgarwch ac ystyriaeth, ac yn enwedig gwyliadwriaeth, ag y gallai ef ei wneyd er peri lleihad, a pheth attaliad, ar y drwg 1 Yr ydym yn y modd mwyaf dibetrus yn dyweyd fod lie mawr i ddiwygio ein deddfau er eu gwneyd yn fwy effeithiol o lawer yn y cyfeiriad hwn. A mwy di- betrus fyth y dywedwn y gellir diwygio dull gweinyddiad y cyfreithiau sydd yn bresennol. Mewn llawer Ilys cyfiawnder, ni cheir ond yr enw cynawnder' yn aros. Mympwy mân ustusiaid (yn cael eu gwneyd i fyny o ddynion heb feddu syniad o gwbl am chwareu teg) fydd yn teyrnasu, gan anfon truan newynog i garchar am chwe mis am ladd cwningen neu iar phesant, a gollwng y mileinddyn a banner laddodd ei wraig ac a newynodd Ion aid ty o blant bychain yn rhydd ar ddim ond dirwy ysgafn. Nid yn y cyfeiriad yna yr ydym am fyned heddyw, modd bynag, eithr, o dan arweiniad y barwnig y crybwyllasom ei enw, edrych yn ystyriol pa beth y gall ac y dylai y cyhoedd ei hun ei wneyd er lleihau nifer y troseddau a gyflawnir a thrwy y cyfryw leihad, mewn gwirionedd, amddiffyn ei hun. A rhag bod unrhyw ammhtnaeth am ystyr dyledswydd y cyhuedd yn y cyssyllt- iad neillduol hwn, dywedwn yn ddi-gwmpas fod myrddiynau ar fyrddiynau o honom, yn hollol ddi-feddwl ac anwyliadwrus, yn gosod temtaaiynau o'r fath fwyaf hudolus, yn wir, anorchfygol, o flaen dynionach anonest a di-gydwybod i gyflawni troseddau; yn eu temtio iddynt, ac yna yn eu beio, os delir hwy, yn eu cospi am danynt, tra mai nyni ein hunain, trwy ffolineb a diffyg gwyliad- wriaeth anesgusodol, a'i gwnaeth yn bossibl iddynt eu cyflawni; ïe, a awgrymodd y trosedd iddynt! Yr ydym yn ysgrifenu yn gr) f, yr ydym yn addef. Ein gwaith o hyn i derfyn yr erthygl fydd profi nad ydym yn ysgrifenu yn rhy gryf. Yr achos o'r rhan fwyaf o'r lladradau a'r gweithredoedd twyllodrus a gyflawnir, medd Syr ROBERT ANDERSON, ydyw diofalwch hollol neu drachwant a gorawydd dybryd. Wrth gwrs, ceir eithriadau i hyn. Er es amp], ni waeth i ddyn pa mor ofalus bynag y bolltia efe farau ei byrth dros nos, nid ydyw allan o berygl cael' tori i mewn J iddo gan y lleidr medrus sydd, wrth ei alwed- igaeth megys, yn dy ysbeiliwr—lleidr yn gwybod am bob dichell ac ystryw a bprthyn i ysbeilio, ac a fedr agor dorau a ffenestri pa mor ddiogel bynag y byddant wedi eu sicrhau. Ond am y troseddau hyny ag y gellir eu rhwystro trwy arfer ycbydig o ofal a gwyliadwriaeth o du y rhai sydd yn awr, o herwydd diffyg hyny, yn syrthio yn ebyrth iddynt, yr ydym yn son yn yr erth- ygl hon. Er esampl, cymmerer y penteulu sydd yn cloi ac yn bolltio drws ffrynt ei dy, ac yn gadael drws y cefn heb ei gau ond yn unig a'r glicied; neu yn diogelu y prif ffenestri yn eithaf sicr, tra yn gadael un y fwydgell yn gil-agored. Esampl arall; pa mor ddwfn (neu, yn hytracb, pa mor fas) y dylai ein cydymdeimlad fod a'r gwr gol- udog hwnw a fedd werth mil o bunnau o lestri aur ac arian, neu o bsrlau, ond yn rhy grintach i brynu cist haiarn gwerth deg punt i'w cadw ynddi, pe yn eu colli bob un? 'Ac yr wyf yn cofio am un wraig foneddig,' medd Syr R. ANDERSON, a bryn- odd gist haiarn, a ddododd ei holl eiddo gwerthfawr i mewn ynddi, ac yna, wedi cloi y gist yn dra gofalus, a ddododd, yr all wedd ar ben ygist, ac a aeth ymaith.' Pan ddychwelodd hon yn ei hoi, wele ago red ydoedd y gist, a'r holl gelfi drudfawr yn ngholl. Wrth s6n am demtio lladron i ladrata trwy hudoliaeth gref mewn cyfleusdra agor- ed o flaen eu llygad, noda ein hawdwr ei fod ef yn myned ar hyd un o heolydd y brifddinas ychydig ddyddiau yn ol, pan y gwelai ddwy foneddiges, ac un o honynt yn dal pwrs oedd yn amlwg yn llawn, yn llac yn ei Haw, fel pe yn temtio unrhyw leidr i'w gipio oddi ami. Y mae yn syn genyf os na ddaeth y lleidr cyfarwydd heibio a gwneyd hyny,' efe a chwanega. Yn ein trefydd mawrion, wrth gwrs, y mae y di- ofalwch a'r anfeddylgarwch anesgusodol hwn yn fwyaf peryglus; ac felly yn ar- benigol pan fo yr heolydd yn llawnion o bobl. Bid siwr, y lleidr ei hun ydyw y pechadur mwyaf; ond yn bendifaddeu, nid ydyw y rhai a osodant y demtasiwn o flaen y dyn perffaith amddifad o'r syniad lleiaf am onestrwydd sydd wedi troi i fyw ar reibio eiddo pobl eraill i'w hesgusodi mewn un modd; a phe ceid gan y cyhoedd fod yn fwy ar ei wyliadwriaeth, gellir sicrhau yn ddibetrus mai buan y lleihaai byddin yr anonestiaid.' A 'byddin' gref arall a ddarfyddai yn ei rhif gyda'r 'fyddin' hon fyddai byddin y carnladron hyny ydyw, y rhai sydd yn prynu eiddo lladrad am bris isel gan y lladron, ac yn gwneuthur mas- nach eanillfawr yn y ffordd hono. Y g^r ydym yn ei ddilyn yn yr erthygl hon a ddywed mai Llundain ami ei phobl- oedd sydd ganddo ef yn fwyaf o flaen ei feddwl. Ar yr un pryd, nis gall y drwg yr ydys yn sôn am dano lai na bodoli yn mbob man i raddau mwy neu lai. Yn rhwydd y gallem liosogi yr enghreifftiau o anfeddylgarwch a diofalwch ar ba rai yr ymbesga yr ysbeilydd. Wele un yn chwan- egol at y rhai sydd eisoes wedi eu nodi:— 'Cyfaill i mi,'medd Syr ROBERT ANDERSON, 1 yr hwn, ycbydig cyn y Nadolig diweddaf, ydoedd yn myned drosodd i Paris, a goll- odd ei bocedlyfr ar y daith, neu ynte fe'i lladratawyd oddi arno Yn y llyfryn yr oedd twysged werthfawr o arian-nodau i glirio ei dreuliau yn Ffraingc a Belgium. Ychydig feddylgarwch a rhagocheliad a allasai arbed ei hull golled i'm cyfaill. Yr hyn y dylai dyn ei wneyd ydyw tori ei ar- ian-nodau yn eu hanner, a gosod y naill hanner yn llogellau ei lodrau a'r hanner arall yn llogellau ei gob. Effaith hyn fyddai, tra yr anrheithiai yr ysbeilydd pen- ffordd ef o'r oil a fyddai ganddo, y cyfan a wneid gan bigwr pocedau fyddai peri ychydig anghyfleusdra, ond dim colled. Oaiff y perchenos; cyfreithlawn, trwy ych- ydig drafierth, holl werth yr arian-nodau y byddai eu hanner yn aros, tra na byddai yr hanner arall yn werth dim i'r Ileidr, a gallai gael ei ddwyn i'r fagl drwyddynt.. 0 dan yr amgylchiadau hyn, nid yw y dyn a esgeulusa hanneru ei arian-nodau, cs na bydd yn filiwnydd (hawdd iddo fforddio colled) yn ddim amgen nag yn-1 fyttyn. Er hyny, yr eithriad, yn hytrach na'r rheol, ydyw yr hanneru doeth a rhag- ochelgar hwn. Diau y bydd llu o'n dar- llenwyr yn mynu gwib gwyliau yr haf pre- sennol i'r Cyfandir neu i'r Gorllewinfyd. A oddefant hwy y cynghor syinl a ganlyn genym 1 Pan yn codi arian o'r bangc, torer hwy yn y fan, cyn eu cymmeryd oddi yno, yn eu hanner, a chadwer yr hanneri gwahanol mewn llogellau gwahanol; a bydd perygl colled a phrofedigaeth felly yn cael ei o-goi. Un enghraifft chwanegol i ddangos y cys- sylltiad agos sydd rhwng diofalwch a chyf- lawniad troseddau Daeth cyfaill ataf yr wythnos ddiweddaf,' medd Syr ROBERT, i ofyn fy nghynghor ynglyn a cheque oedd wedi ei hanfon trwy y llythyrdy i fasnach- wr i dalu cyfrif lied fawr, ond yr hon a gelciwyd ar y ffordd, ac a newidiwyd gan leidr. 1 A ydoedd y cheque wedi ei gwneyd yn daladwy ar archeb (to order) ?' gofynais. 'Nid wyf yn sic, 'Felly, wrth gwrs, ni ddarfu i chwi ei nodi fel un nad oedd i'w newid not negotiable) 1 'Naddo: yr wyf yn sicr na wnaethum ddim o'r fatb.' A ydych yn cofio pa un a ddarfu i chwi ei chroesiT 'Nid wyf yn meddwl fy mod wedi gwneyd.' Nid yw yr achos hwn ond un o liaws mawr ag y gallssid eu henwi. Yr esgeulusdra i gymmeryd ychydig ragoch- eliadau syml a roddodd i'r lleidr ei gyfleus- dra, neu, ynteu, o bossibl, a demtiodd rhyw glercyn gwan ac anghenus i gytiawni tros- edd na fuasid byth yn meddwl am dano oni bae am ddiofalwch anesgusodol yr anfonydd. Ceir yn yr enghraifft hon awgrym ymar- ferol teilwng o sylw hyd yn oed y rhai hyny sydd mewn amgylchiadau nad ydyw ychydig golli arian o nemawr bwysigrwydd iddynt. Nia gall fod unrhyw ammheuaeth am y ffaith fod y mwyafrif o'r troseddau damweiniol neu achlysurol a gyflawnir yn nglyn ag eiddo yn ein gwlad-hyny yw, y troseddau hyny nad ydynt wedi eu rhag- gynllunio—i'w priodoli gan mwyaf a chan amlaf i esgeulusdra a diofalwch y rhai fydd yn dioddef colled drwyddynt. Yr anonest, a'r egwan, a'r angbenus, ydynt yn barbaus yn cael megys eu bradychu i gyflawni gweithredoedd troseddawl trwy ymddygiad- au di-feddwl hyd yn oed y rhai a'i hystyr- iant yn rhwymedigaeth ac yn ddyledswydd arnynt eu diogelu rhag temtasiwn; ac etto hwy eu hunain, o ddiffyg moment o feddyl- garwch ac yscyriaeth, yn gosod y demtasiwn hono yn eu ffordd. Fel y dywedodd un :— 'Drwg yn cael ei wneyd o ddiffyg meddwl yn ogystal ag o ddiffyg calon.' Nid ydym ar hyn o bryd yn dadleu yn gymmaint dros gyfnewid ein cyfreithiau, na thros gael gweinyddiad mwy cymmesurol ar y rhai sydd genym; ond, yn bendifaddeu, yr ydym yn dyrchafu ein lief o blaid ychydig synwyr cyffredin ynom ni, y rhai ydym mor chwan- nog i alw ein hunain 'y cyhoedd mawr Prydeinig.' O'r braidd y ceidw y forwyn faeh ei He os digwydd iddi, yn anghofus neu yn amryfus, adael yr ysgubell neu y cawell glo ar lwybr ag y gallai ei uieisdres fursen- aidd fod ynyrenbydrwydd o daraw blaen ei throed yn ei erbyn, a thripio. Oud, beth a ddy wedwn am y feisdres ei hun, yn anghof- us neu yn amryfus, yn gadael sofren, neu berl, neu faen gwerthfawr, ar ledymyl nes peri temtasiwn i'r forwyn fach i gyflawni yr anouestrwydd a esyd ystaen ar ei chym meriad tra y bydd hi byw ? Nis gallem osod baich y cyfrifoldeb oil ar ysgwydd y forwyn. Yn sicr, rhcddem, o gyfiawnder, ran helaeth o hono ar ysgwydd y feisdres ddiofal ac esgeulus. Y diofalwch, a'r es- geulusdra, a'r diffyg meddylgarwch hwn, heb os nac oni bae, ydyw y moddion mwyaf cynnyrehiol yn lliosogiad lladron ac ys- beilwyr y tu allan i gylch dylanwadau gwreiddiol lygredig y galon ddynol ei hun. Pe llwyddem trwy erthygl syml ac anarferol o fath hon i greu mwy o ystyriaeth feddyl- gar yn y cyfeiriad hwn mewn rhai o'n darllenwyr, byddem wedi cyrhaedd yr hyn yr amcanem ato wrth gymmeryd ein hys- grifell mewn Haw yn llawn.

MR. SAMUEL SMITH, AS, A CHYNNRYCHIOLAETH…

PABYDDION CYMREIG AR Y UYFANDIR.

SIR FEIRIONYDD.

SIR DREFALDWYN.

.TREFORRIS,

TRAMOR.