Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

TY Y CYFFREDIN.

News
Cite
Share

TY Y CYFFREDIN. L DYDD MAWRTH, Mai 27am.-Cymmerodd y Llefarydd y gadair am ddau o'r gloch. Y BUSNES CYHOEDDUS. Y DRAFODAETH AM HEDDWCH A MESUR Y CYLLID. Mr. Balfour, mewn attebiad i Syr Henry Campbell Bannerman, a ddywedodd y byddai yn dra anghyfleus dadleu Mesur y Cyllid 'tra yr oedd pethau eraill yn y glorian.' Am- inhosibl fvddai attal dadl ar byngciau anghyt- leas, Felly yr oedd y mesur hwnw yn cael ei ohirio hyd amser ammhennodol. CYFLENWAD. Bwrdd Amaethyddiaeth. Ymffurfiodd y Tf yn bwyllgor ar amcan- gyfrifon y gwasanaeth gwladol. Cymmerwyd pleidlais tuag at gyflogau a chostau Bwrdd Amaethyddiaeth o dan ystyriaeth i ddechreu, yr hon oedd yn cyrhaedd 25,716p. Syr E. Strachey a gynnygiodd oetyngiad o lOOp. yn nghyflog llywydd y bwrdd ac wrth wneyd hyny dywedodd fod yna deimlad cry! yn y rhanbarthau amaethyddol nad oedd yr awrdurdodau lleol trefydd mawrion yn cario eu dyledswyddau allan yn briodol o dan Gyf- raifch Ymborth a Chyfferian 1899, ac nad oeddynt yn ddigon bywiog i attal llygriad cynnyrchion y llaethdy. Mr. Lambert a dadleuai dros i gikn defaid ffermwyr gael eu rhyddhau rhag dyfod o dan archeb safn-rwymiad sir Dyfneint. Mr. Cloyd Morgan, wrth gefnogi dadl Mr Lambert dros i gwn defaid gael eu rhyddhau hau oddi wrth archeb safn rwymiad a ddywedodd fod yr archeb wedi cael ei rhoddi mewn grym mewn amrywiol ranan o sir Gaerfyrddin, o dro i dro, yn ystod y pum mlynedd diweddaf, a hyny, y niae'n amlwg, heb unrhyw effaith. Os oedd yr archeb yn attal cynddeiriogrwydd, tybiai ef y dylai gael ei rhoddi mewn grym dros gylch Sang, ac am gwrs o amser. Mr. J. Herbert Lewis a amlygodd y farn fod y rhan fwyaf o'r swm enfawr a wariwyd'ar yr ymgais i yru yr haint ar foch ymaith wedi 11 cael ei wastraffu yn hollol. Credai ef y gellid gwneyd defnydd o fwy o arian i wella addysg amaethyddol. Mr. Humphreys Owen a ddymunai weled mwy o gefnogaeth yn cael ei roddi i fforestu. Wedi i Mr. Wharton, Mr. Helmer, Mr. Hanbury, ac eraill, gymmeryd rhan yn y ddadl, gofynodd Mr. Strachey am ganiatad i alw ei welliant yn ol. Yna cyttunwyd ar y bleidlais. IHrpnoyioyr yr Elusenau. Caed dadl wedi hyny ar y bleidlais o 18,442p. tuag at gyflogau a chostau Dirprwywyr yr Elusenau. Yn nghwrs y ddadl tystiodd Mr. Humphreys Owen a Mr. Herbert Lewis i'r modd deheuig yr oedd y Dirprwywyr wedi cario eu dyled- swyddau allan, a'r ysbryd haelfrydig oeddynt wedi ei arddangos yn ngweinyddiad darpar- iaethau Cyfraith Addysg Ganolraddol Cymru. Galwodd Mr. Herbert Lewis sylw, hefyd, at weithrediad Dirprwywyr yr Elusenau mewn perthynas i ddau swm o arian oedd yn gorwedd yn awr yn y bangc, y rhai a danysgrifiwyd yn Ngogledd Cymru tuag at gyhnorthwyo y dioddefwyr yn ystod y newyn cottwm mawr. Nid oedd yna nnrhyw gyfyngder yn awr yn y rhanbarthau eotwm, ac yr oedd y rhai hyny o'r tanysgrifwyr a ellid eu cyrhaedd yn ffafr defnyddio yr arian tuag at ryw elusen leol. Ond yn marn Dirprwywyr yr Elusenau, yr oedd yr athrawiaeth fod yr arian yn cael eu defnyddio i amcanion mor agos ag oedd yn bossibl i'r hj n a nodwyd, yn attal i hyn gael ei wnoyd; ond credai ef y byddent yn myned mor bell ag oedd yn bossibl wrth ddefnyddio yr arian yn y rhanbarth yr oedd wedi cael ei godi. Mr. Griffith Boscawen, yr hwn a gynnrych- iolai Ddirprwywyr yr Elusenau, a ddywedodd fod yr achos hwn yn un hynod. Yn ystod y newyn cotwm, pan yr oedd trysorfeydd cyn northwyol yn cael eu codi trwy yr holl deyrn- as,cychwynwyd dwy drysorfa yn NhrefFynnon, a gelwid un yn Lancashire Distress Fund a'r llall yn Lancashire Operatives Jtelief Fund. Anfonwyd symiau da o Dreffynnon i'r drysor- fa gyffredinol; ond o herwydd rhyw reswm, cadwyd gweddill o 60p. mewn cyssylltiad ag un drysorfa, a 65p. yn achos y Hall. Mewn achos o'r fath yr oedd Dirprwywyr yr; Elusen- au yn rhwym o weithredu wrth yr egwyddor eu bod yn caol eu defnyddio, mor agos ag yr oedd yn bossibl, i'r hyn a nodwyd allan gan y tanysgrifwyr. Yr oeddynt, o ganlyniad, wedi dyfod i'r penderfyniadl fod yr arian yma, os oeddynt yn cael eu defnyddio o gwbl, i fyned er budd y llaw-weithwyr yn y rhanbarthau cotwm. Yn bersonol, carasai ef gyfarfod & dymuniadau y gymmydogaeth, a defnyddio y drysorfa at ysbytty Treffynnon; ond wrth weicd fod yr arian wedi cael eu tanysgrifio i sir Lancaster, yr oedd yn rhaid iddynt fyned. Yr oedd Mr. Herbert Lewis yn siarad am banner awr wedi siith, ar y bleidlais at Goed- wigoedd a Fforestrydd, pan y gohiriwyd yr eisteddiad hy d naw. Pan ail ymgyfarfyddodd y Ty am naw o'r gluch ymffurfiwyd yn bwyllgor ar amcan- gyfrifon y gwasanaeth gwladol. Adroddwyd cynnydd am hanner nos, a chododd y Ty am bum munyd wedi hanner.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.

LLANRWST,

[No title]

Y PRIFATHRàW GRIFFITHS AR…

ESGOB LLANELWY AR Y MESUR…

IY MESUR ADDYSG.

CYNGHOR SIROL MORGANWG.

CYNGHOR SIROL SIR GAERNARFON…

'SYR WILFRID LAWSON A'R MESUR…

ARGLWYDD ROSEBERY YN LEEDS

LLANELLI.

[No title]