Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

CYNOHORAU PLWYFOL OIL-! CENIN…

News
Cite
Share

CYNOHORAU PLWYFOL OIL-! CENIN A LLANBADARN TREFEGLWYS. FOSEDDIGION, Oredaf fod gweithrediadau diweddar y cynghorau uchod mewn perthynas i'r bont bren dro3 yr afon Brân yn werth i'r lliaws gael eu gwybod, canys y mae hanes ihyfedd i'r bont bren yn y fan hono. Oes, ddarilenydd. Aeth y bont o'r blaen yn wenfflam ar foreu Sul, er's tua dwy flynedd yn ol; ac nid oes neb, etto, wcdi dyfod i wybod pa fodd y cym. merodd y bont dàn, na pha fodd yr aed a hi i'r cae cyfagos i'w llosgi. Ond ei llosgi a gafodd, ar ol talu dau swilt ar-bymtheg a saith ceiniog am dani. Erbyn hyn y mae y cynihorau wedit eistedd, a phasio i gael pont newydd etto dros yr afon; a gellir meddwl fod Cyngbor Plwyf LIanbadarn yn ofni nad oes awdurdod i dalu y draul ganddynt hwy, canys y msent wedi cael gan y ddau ben teulu sydd yn gofyn am y bont i ymrwymo i dalu, os bydd yr archwiliwr (auditor) ya gwrthod pasio yr arian fel rhai cyfreith- lawn. Ac yn hyn y mae y cynghor wedi bod yn gall iawn, canys ront dros afon ydyw, a hyny o'r ffordd, neu y Ion sydd yn arwain at ffermdy Mr. William Rees, cadeirydd Cynghor Plwyf Crlcenin, sydd wedi bod a'r Haw flaenaf er cael y bont y tro yma. Galwyd cvfartod i'r dyben hwn yn mis Tachwedd diweddaf; ac yn hwnw cyanygiodd Mr. Richard Jones, ac eiliodd Mr. John Davies, fod yr achos yn cael ei daflu allan; ac felly, ymwrthodwyd a'r cyfan. Dechreu y flwyddyn hon, modd bynag, wele gyfar- fod arall yngtyn a'r bont yn cael ei alw; ond ni wnaed dim y pryd hwnw ond pasio i alw cyfarfod yn mhen yr wytbnos, a chael penderfyniad Cynghor Plwyf Llanbadarn ar y mater; a gwahodd y ddau bea teulu, sef y Mii. Jones, Glanbran, a David Jones, Cefngaer, i'r cvfarfod. Nos Iau, Ionawr 16eg, oedd noson y cyfarfod; ac erbyn hyn, Mr. Richard Jones oedd yn dadleu mwyaf dros gael y bont, a Mr. William Rees yn barod i'w eilio. Ac nid oedd ammod Cynghor Plwyf Llanbadarn yn ddigon da. Rbaid oedd gwario rhagor na hyny o arian. ao felly y pasiwyd. Ond pwy fydd i dalu os na wna yr auditor ganiatau y IIwm? Y mae Cynghor Llanbadarn wedi gofalu am hyn Da a fuasai i Gilcenin wneyd yr un fath. Ydwyf, &c., Cymro.

'CYMMERIAD HYNOD.'

LLANGEPNI.

DIRWESTOL.

CYMDEITHAS LENYDDOL MORIAH.

RHOSLLANERCHRUGOG A'R CYLCHOEDD.

CYFARFOD CYSTADLEUOL.

CYNGHOR PLWYFOL PENYCAE.

PREGETH.

DAMWAIN ANGEUOL.

Y TRENGHOLIAD.

LLANNEFYDD.

MYDDFAI.

ELUSENAU.

COLLED.

DAMWAIN.

[No title]

\ RHAY.L-i.s¡t ¡J'K. HES i\.MSER

Family Notices

CYSUR 1 DDIODDEFWYR ODDI WRTH…