Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
--------------- --_.------------------'--------I…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
I 0 YNNWISIAD. I Amaethyddlaath yn Nghymru 3 Seneddwyr ar eu Gwyliau 3 Cyfalaf a Llafur 4 Helynt Chwarel y Penrhya 4 Y Rhyfel 5 Rhyl 5 Dinbych 5 Gwrecsam 5 Newyddion Orefyddol 5 Cymmanfa Gyffredinol y Methodisfclaid Calfinaidd yn Aberystwyth 5, 6 YSenedd 7 Bwrdd Gwarcheictwaid Llanelwy 7 Gorris .„ 7 Newyddion Diweddaf 8 Dlgwyddiadau -n 8 Prlf Erthyglau .« 9 Ffrwydrad Mawr Mewn Glofa yn Neheudir Cymru 9 Newyddion Cymreig 10 Llanelwy 10 Caernarfon 10 Amaethyddiaeth 10 CSymdeitbas Tiroedd y Goron yn Ngogledd Cymru 10 Coedllai 10 Colofn y Merched 11 Gormen Heddgeidwaid yr Almaen 11 Barddontaoth 11 Rhogllanerchragog, a'r Oylohoedd 11 Lloffion 11 Gohebiaethau 12 if Gyfraith 12 Brasnodion 12 Towyn 12 Newyddion Tramol 12 Genedlgaethaa, &o 13 Bangor 13 Llandudno 13 Marchnadoodd, &a. 13 Troseddan ]4 Oyhoddlad o Lofruddiaeth Wlrfoddol yn Fflint 14 Newyddion Amcrlcanaldd .n 14 Oyngbor Trefol Dlnbych 14 Meddyginiaeth 14 Goedpoetb a'r Cylchoedd 14 Oyfarfodydd Misol „ 15 Y Cyr ghorau Bir(I 15 Wyddgrug 15 Bethesda 15 Dlrweit ..15 Hyibysladau 1,2.-15, 16
SENEDDWYR AR EU GWYLIAU.
News
Cite
Share
SENEDDWYR AR EU GWYLIAU. DYWEDIR-ganddynt hwy eu hunain, o leiaf —fod ein seneddwyr yn teilyngu eu gwyliau yn fwy nag unrhyw ddosbarth o weithwyr o fewn pedair congl y Deyrnas Gyfunol. Gall hyny fod yn wir. Gall beidio bod. Nid ydym ni yn teimlo yn chwannog heddyw i ddadleu y cwestiwn ar y nill ochr na'r Hall. Yr oil a ddywedwn ydyw, eu bod wedi mynu cael eu gwyliau dros y Sulgwyn presennol er prydnawn dydd Gwener diweddaf gan nad pa un a ydynt yn eu haeddu a'i peidio. Ar gynnygiad arweinydd Toriaidd y Ty—g\^r yn edrych yn mlaen gyda mwy o aidd a dyhewyd am fymryn o wyl nag un g\Vr arall o fewn ein senedd, er mwyn cael myned i chwareu golf -yr hwn gynnygiad a wnaed yn brydlawn nos Iau-pasiwyd i beidio ymdrafferthu a. gorchwylion pwysfawr y wladwriaeth ar ol tranoeth hyd ddydd lau, y 6ed o'r mis nesaf. Ychydig wythnosau sydd er pan fuwyd yn gwylanta' o'r blaen, gan gym- meryd y Pasc yn esgus. Pa ryfedd fod Syr HENRY CAMPBELL BANNERMAN, ac amryw seneddwyr egwyddorol eraill awydd- us am waith yn gwrthdystio yn y modd cryfaf yn erbyn givyl mor faith o newydd, a hyny mor fuan ar ol yr un faith flaenorol Tystient hwy yn y modd mwyaf digel nad oedd angen am yr hir-\Vyl, mor bell ag yr oedd blinder ar ol gorlafur yn myned. Cymmerodd yr arweinydd Rhyddfrydig hefyd fantais ar y cynnygiad hwn i ofyn i'r Llywodraeth roddi dadganiad clir a dihoced ar ei chynlluniau cyn iddynt ymwahanu Yr oedd y cyfieusdra yn un o'r rhai mwyaf manteisiol i ofyn a rhoddi. Heb law hyny, prin y gallesid meddwl am unrhyw gwestiwn mwy anhebgorol angenrheidiol i'w ofyn. Gan mai ymwahanu a fynent am bythefnos. ac nad oes neb o'r tu allan iddi hi ei hun yn gallu dychymygu pa beth ydyw 'polisi' y Llywodraeth-od oes ganddi un -pa beth a allai fod yn fwy rhesymol a theg ar ei wyneb, ac hyd i'w waelod, na gofyniad syml Syr HENRY CAMPBELL BANNERMAN am ddad- leniad goleu a diammwys ar fwriadau y weinyddiaeth yn mlaen hyd ddiwedd y senedd-dymmor. ¡ Wrth gwrs, y rhyfelawd yn Neheubarth Affrica ydoedd yn meddwl y blaenor Rhydd- frydig pan yn gofyn ei holiad, ac yn medd- yiiau ei wrandawyr yn ogystal. Y gwir [ syml a ddywedodd efe pan yn sylwi na ba rhyfel fawr ar raddfa eang erioed a chyn lleied o wybodaeth yn cael ei roddi i'r cyhoedd yn ei chylch a hon. Ni raid petruso dyweyd mai y beirniad milwrol' (y military censor) ydyw y g-frr sydd wedi bod yn gwneyd mwyaf o waith ar hyd y deunaw mis diweddaf. 0 anfodd hwn y cawsom gymmaint o'r hanes ag a gawsom. Ac nid mewn cadw pethau oddi wrthym yn unig y mae y gftr hwn wedi bod yn brysur, ond mewn gwneyd y pethau y gwelai ei fawr- edd yn dda eu gosod ar edyn y mellt mewn ugeiniau o amgylchiadau yn hollol anneall- adwy, ac yn fynych ar eu gwyneb yn wir- ionffol. Nid grammadeg gwallus yn unig diffyo, synwyr holiol yn ogystal Ac i ZD Z5 'weitbgarwch,' gan nad beth am ddefnyddiol deb y swyddog rhyfedd hwn ceir teyrnged neillduol mewn cyfeiriad na buasem yn disgwyl am ddim o'r fath. Rhydd ei gania- t&d i restr y lladdedigion, y clwyfedigion, a'r cleifion i gael ei chyhoeddi yn llawn. Ond os Hadd a chlwyfo, yna ymladdfeydd, ys- garmesoedd, a brwydrau yn flaenorol i hyny. Ond yr un gair am danynt, Yr ydym wedi ceisio dyfalu llawer pa beth a allai fod ei reswm dros ollwng y rhestr trwy ei ddwy- law, a gwrthod dadguddio hanes y brwydrau. Yr oedd sylwadau arweinydd yr Wrth- blaid ar y dirgelu a'r cuddio hwn yn finiog i'r eithaf; ond yr un mymryn rhy fnio, Awgrymodd yn bur ddi-gwmpas nad oodd gan y Llywodraeth na Thy y Cyffredin (ni soniodd air am Dy yr Arglwyddi) ddim li-iwl o gwbl i son am \Vyliau hyd oni chaffai y wlad wybod yn swyddogol ac awdurdod- edig yn mha le yr ydys yn sefyll mewn perthynas a'r benbleth yn Neheubarth Affrica. Yn ofer y sonia Mr. BALFOUR yn hoew ac ysgafngalon ynghylch myned i awyr iach ar ol hir gaethiwed Ilafur caled. Nid oes ganddo hawl i ddim o'r fath tra yn darnguddio y gwir, ac yn goddef i'r beirniai gloi pob gwybodaeth gwerth ei chael oddi wrth y rhai sydd yn dyheu am ei chael. Fel tamaid i'r Llywodraeth cyn dechreu segura dywedodd Syr HENRY — Y mae y cyboedd Prydeinig wedi bod yn nodedig o amyneddgar wedi dangos goddefgar- web, ac wedi ymattal rhag gwneuthur dim ag y gellid mewn unrhyw fo id edrych arno fel yn debyg o daflu rhwystr ar ffordd y Llywodraeth. Ond, y mae terfyn i beth fel hyn.' Ond ofer ydoedd pob appel. Ni wyddis ddim chwaneg yn awr rag o'r blaen. Nid bychan gan ein llywodraethwyr presennol osod boneddigeiddrwydd cyffredin dan draed. Ysywaeth, y mae y fintai ufudd, wasaidd, sydd ganddi wrth ei chefn yn ei gaUuogi i wneyd y peth a fyno hi. Tra y byddo y mwyafrif yn cael ei gadw mewn Haw, nid ydyw y cyhoedd yn cael ei gym- mervd i'r cyfrif. Gellir fforddio ei anwy- wybyddu, a myned i'r mor a'r morfa, i'r afon a'r mynydd, heb ddyweyd dim wrtho ond-O gyhoedd ehud parhewch iymddir- ied ynom ni Y mae genym yn awr eisieu pythefnos o seibiant!' Druan o Brydam Fawr dan deyrnasiad Toriaeth.
AMAETHYDDIAETH YN NGHYMRU.
News
Cite
Share
AMAETHYDDIAETH YN NGHYMRU. NID oes gelfyddyd yn bod, o bossibl, yn mha un y mae profiad yn cymmeryd rhan mor bwysig ynddi ag yn y gelfyddyd o y Z5 amaethu. Goreu po mwyaf o ddysg, goreu po mwynf o wybodaeth, a berchenogir gan y rhai a ymaflant yn y gelfyddyd hon, ond nis gall y naill nar llall wneyd i fyny am ddiffyg profiad. Yr ydym yn hollol bleidiol i'n colegau amaethyddol, ac o'r farn fod gwybodaeth o adranau o fferylliaeth bron yn hanfodol i'r ffermwr yn y dyddiau pre- sennol; ond ni bydd i'r naill na'r llall o'r pethau hyn wneyd ffermwr llwyddiannus yn annibynol ar brofiad. Gellir, pa fodd bynag, gael cymmhorth i brofiad personol oddi wrth brofiad y lliaws; ac yn y cyfeiriad hwn y mae yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir gan Fwrdd Amaeth- yddiaeth yn dra dyddorol, defnyddiol, ac addysgiadol. Y mae yn wybyddus i bob ffermwr y gofynir iddo, tua'r adeg hon o'r flwyddyn, i lenwi taflenau neillduol yn cyn- nwys manylion am ei gnydau, ei anifeiliaid, &c. Bu amser pan yr ofnai llawer lenwi y taflenau hyn, gan eu bod yn credu fod a wnelont a'r trethi. Ond nid oes amcan felly iddynt o gwbl. Eu hunig amcan ydyw cael i mewn yr ystadegau blynyddol, at ba rai yr ydym eisoes wedi cyfeirio. Ac at yr adroddiad blynyddol am 1900, yr hwn sydd newydd gael ei gyhoeddi, y dymunem alw sylw y darllenydd. Ni fydd i ni, ar hyn o bryd, ond sylwi ar y rhanau hyny o hono sydd yn dal perthynas a Ohymru. Ond hwyrach y bydd ychydig o sylwadau cyffredinol ar amaethyddiaeth y Deyrnas Gyfunol yn dderbyniol ar y cychwyn. 0 gyferbynu y flwyddyn 1900 a'r flwydd- yn flaenorol, gwelir fod lleihad sylweddol wedi cymmeryd lie yn yr aceri yn mha rai yr oedd gwenith, maip, a chlofer yn cael eu hau. Oymmerodd lleihad arbenig le mewn gwenith-lleihhd o 156,000 o aceri ragor y flwyddyn o'r blaen. Ni fu y fath leihad o'r blaen er pan y mae yr ystadegau hyn wedi eu dechreu, ond mewn dwy flwyddyn yn unig-1895 a 1896. Yr oedd y lleihad hwn yn gyffredinol drwy y deyrnas, gyda'r eithriad o'r siroedd canlynol:—Caer, Lan- caster, a Cheredigion. Y mae cynnydd wedi cymmeryd lie mewn cnydau ceirch, mangolds, a ffurfiau neillduol o wraidd- lysiau. Hauwyd mwy o 66,000 o aceri o geirch yn 1900 nag yn 1899. 0 berthynas i gynhauaf 1900, syrthiodd yn fyr o gyr- haedd cynnyrch cynhauaf 1899 ac 1898 yn mhob math o gnwd, ac eithrio ffa. Yr oedd y cnwd pytatw yn cynnyrchu Ilai yr peer na'r un cnwd er y flwyddyn 1884. Fel y cofir, yn ddiau, yr oedd y tywydd yn ystod yr haf a'r cynhauaf yn amrywio yn fawr. Yr oedd Awst, ag eithrio un wyth- nos, yn wlyb; ond cafwyd Medi nodedig o hyfryd. Yn Mhrydain Fawr codwyd 52,639,809 bwsiel o wenith, yn gwneyd cyfartaledd o 28 53 bwsiel yr acer. Haidd, 62,314,510, yn gwneyd cyfartaledd o 31-31 Ceirch, 114,847,537, yn gwneyd cyf- artaledd o 37-95. Deuwn yn awr i sylwi ychydig yn fanyl- ach ar Gymru, gan roddi amryw ffigyrau am bob sir yn y Gogledd a'r Deheu. Gwenith.- Sir Drefaldwyn sydd ar y blaen yn, nifer y bwsieli 230,250 o wenith. Y nesaf yw Caerfyrddin, gyda 181,178; Dinbych, 170,961; Ceredigion, 169,998 Morganwg, 142,388; Fflint, 130,580; Brycheiniog. 96,319; Penfro, 95,863; Maesyfed, 76,261 Meirionydd, 21,712; M6n, 9,880; Caernarfon, 6,906. Tyfodd y gwenith ar y nifer canlynol o aceri:—Trefaldwyn, 10,111; Caerfyrddin, 8,490 Ceredigion, 6,176 Dinbych, 5,787 Morganwg, 5,285; Fflint, 4,318; Brychein- iog, 3,731; Penfro, 3,260; Maesyfed, 3,078; Meirionydd, 836 Caernarfon, 363; Mon, 219. Mae y ffigyrau hyn yn dyweyd cryn lawer am natur y tir. Er cyn lleied o wenith a dyfir yn Mon, etto, lie y tyfa, ceir gwell cnwd o hono yno nag yn un sir yn Nghymru. Fel sir gynnyrchiol o'r grawn hwn saif Mon ar ben y rhestr. Wele y ffigyrau yn nodi y nifer o fwsieli i'r acer (gan adael allan y man ranau) :■—M6n, 45; Fflint, 30; Dinbych, 29; Penfro, 29; Ceredigion, 27; Morganwg, 26; Meirion- ydd, 25 Brycheiniog 25 Maesyfed, 24 Trefaldwyn, 22; Caerfyrddin, 21; Caer- narfon, 19. lIaidd.-Rhag meithder ni roddwn ond nifer yr aceri a nifer y bwsieli ar gyfer pob acer. Penfro, 19,220; Ceredigion, 15,415; Caerfyrddin, 14.331; Dinbych, 14,180; Trefaldwyn, 8,446; Morganwg, 8,138; Caernarfon, 5,690; Fflint, 5,687 Brycheiniog, 4,629 Meirionydd, 3,997 Maesyfed, 3,700; Mon, 1,615 Yr hyn oedd yn wir am M6n o berthynas i wenith sydd hefyd yn wir am dani o berthynas i haidd. Hi a saif etto ar ben y rhestr fel gwlad doreitbiog. Wele y bwsieli at gyfer pob acer :—Mon, 44; Penfro, 37; Dinbych, 34; Meirionydd, 33; Morganwg, 32; Fflint, 31; Ceredigion, 31; Caernarfon, 29; Maesyfed, 29; Trefaldwyn, 27; Caer- fyrddin, 26 Brycheiniog, 24. ee,irch.- Caerfyrddin, 29,208 Penfro, 27,231 Ceredigion, 26,883 Dinbych, 24,691; Trefaldwyn, 21,011; M6n, 19,778; Brycheiniog, 12,949 Maesyfed, 12,115; Morganwg, 11,513; Fflint, 11,296 Caer- narfon, 10,698; Meirionydd, 9,074. Am y trydydd tro saif M6n ar ben y rhestr. Wele y swm o geirch a gynnyrchir ar gyfer pob acer :—Mon, 48; Penfro, 40; Meirion- ydd, 39; Morganwg, 38 Ceredigion, 31 Dinbych, 30; Trefaldwyn, 30; Caernarfon, 29 Fflint, 29; Caerfyrddin, 28 Maesyfed, 27 Brycheiniog, 25 Ffâ.- Y chydig o ffa, mewn cymmhariaeth, a hauir yn Nghymru. Fflint sydd ar y blaen yn nifer yr aceri, gyda 552 Dinbych, 327 Trefaldwyn, 222; Morganwg, 87; Caerfyrddin, 24; Caernarfon, 20; Ceredig- ion, 19; Brycheiniog, 17; Penfro, 9 M6n, 9 Meirionydd, 2 Maesyfed, 0. Mon etto ar y blaen yn ei ffrwythlondeb Wele y ffigyrau -~M6n, 39; Penfro, 33; Morgan- wg, 30; Dinbych, 27; Brycheiniog, 26; Trefaldwyn, 24; Fflint, 23; Caernarfon, 18; Meirionydd, 18 Caerfyrddin, 16; Ceredigion, 16. P)is.-Y mae mwy o'r planhigyn hwn yn cael ei dyfu yn Nghymru nag y buasai y rhan fwyaf yn tybio-mwy o bys nag o ffâ. Yn Ngheredigion y tyfir mwyaf mewn un sir, sef 525 o aceri; Trefaldwyn, 382; Caer- fyrddin, 112; Dinbych, 107 Fflint, 103; Morganwg, 67 Byrcbeiniog, 67 Penfro, 73; Caernarfon, 45; Maesyfed, 31 Mon, 18; a Meitionydd, 12. Nid oes genym ofod i roddi yr holl fanyl- ion am y gwraidd-gnydau, ond gallwn nodi ychydig fleithiau cyffredinol am danynt. Ceredigion sydd yn planu mwyaf o bytatw; ond Meirionydd sydd yn rhoddi y enydau trymaf, sef, naw tynell i'r acer. Nid yw yr agosaf ati, sef Trefaldwyn, yn rhoddi ond pum tynell. Sir Fon, fel y mae yn rhyfedd dyweyd, ydyw y. waelaf yn Nghymru am bytatw. Brycheiniog sydd yn.rhagori mewn maip. Coda hi ugain tynell yr acer. Ni cheir yn Ngheredigion, y waelaf o'r siroedd Cymreig, yn yr ystyr hwn, ond naw tynell i'r acer. Hauir mwy o faip yn sir Ddinbych nag yn yr un sir Gymreig arall. Nid llawer o fangolds a dyfir yn Nghymru. Yn sir Benfro y tyfir mwyaf o honynt, ond ceir y cnydau goreu yn Maesyfed Y cyfartaledd yn y sir hon ydyw 23 tynell i'r acer. Yn Aberteifi ni cheir ond 11 tynell i'r acer. Wrth gwrs, y mae rhan fawr o arwyneb- edd y Dywysogaeth o dan wair. Sir Ddinbych sydd wedi codi mwyaf o wair hadau; ond cafwyd y cnydau trymaf yn sir Benfro. Codir mwy o wair gweirglodd- iau yn sir Gaerfyrddin, ac y mae ar y blaen yn lied bell yn y cyfeiriad hwn. Ceir y cnydau trymaf yn sir Benfro. Ceir y cnyd- au ysgafnaf yn siroedd Meirionydd a Bry- cheiniog. Meirionydd ydyw y waelaf, hefyd, am wair hadau. Dyddorol, fe allai, fydd ychydig o ffigyrau yn dangos pa fodd y mae Cymru yn sefyll o'i chymmharu a Lloegr, Ysgotiand, a'r Iwerddon. Y ffbrdd decaf a byraf i wneyd hyny ydyw, trwy roddi yr hyn a gynnyrchir ar gyfartaledd ar bob acer. Rhoddwn hwy yn y ffurf o dabl, fel y canlyn Gwenith.—Lloegr, 28 bwsiel i'r acer Cymru, 25 etto Ysgotiand, 36 etto Iwerddon, 31 etto. Haidd.—Lloegr, 30 bwsiel i'r acer Cymru, 31 etto Ysgotland, 33 etto Iwerddon, 35 etto. Ceirch.-Lioegr, 39 bwsiel i'r acor Cymru, 33 etto Ysgotiand, a5 etto Iwerddon, 45 etto. Ffd.—Lloegr, 27 bwsiel i'r acer; Cymru, 25 etto Ysgotiand. 32 etto Iwerddou, 35 otto. Pfjs.—Lloegr, 25 bwsiel i'r acer Cymru, 21 etto Ysgotiand, 25 etto Iwerddon, 25 etto. Pytatw.—Lloegr, 5 tynell i'r acer Cymru, 4etto Ysgotiand, 4 etto Iwerddon, 2i etto. 4 Maip.—Lloegr, 131 tyuell i'r acer Cymrn, 151 etto Ysgotiand, 15! etto Iwerddon, 14f etto. Mangold.—Lloegr, 20t tynell i'r acer Cymru, 17t etto Ysgotland, 1St etto Iwerddon, 17t etto. Ciwair Hadau.—Lloegr. 28! cant i'r acer Cymru, 24f etto Ysgotiand, 33 etto Iwerdd- on, 32-1- etto. Gtueirgloddivair.—Lloegr, 24-4; cant i'r acer Cymru, 19g etto Ysgotiand, 31. etto Iwerdd- on, 49! etto. Bydd i ni yn awr roddi nifer yr anifeil- iaid yn y gwahanol siroedd Cymreig. Dechreuwn gyda Mon, mam Cymru. Y mae yn y sir hon 8,367 o geffylau, 56,653 o wartheg, 82,145 o ddefaid, a 15,438 o foch. Brycheiniog, 12,065 o geffylau, 41,920 o wartheg, 489,417 o ddefaid, a 8,232 o foch. Ceredigion, 17,537 ogeffylau, 72,229 o wartheg, 274,955 o ddefaid, a 22,897 o foch. Caerfyrddin, 22,152 o geffylau, 123,363 o wartheg, 271,869 o ddefaid, a 36,514 o foch. Caernarfon 9,435 o geffylau, 57,357 o wartheg, 269.692 o ddefaid, 19,028 o foch. Dinbych, 13,886 o geffylau, 70,882 o wartheg, 339,502 o ddefaid, a 26,409 o foch. Fflint, 6,743 o geffylau, 38,426 o wartheg, 86,215 o ddefaid, a 18,124 o foch. Morganwg, 16,468 o geffyl- au, 56,485 o wartheg, 330,060 o ddefaid, a 16,406 o foch. Meirionydd, 5,219 o geffyl- au, 39,518 o wartheg, 433,727 o ddefaid, a 8,137 o foch. Trefaldwyn, 15,695 o geffyl- au, 73,273 o wartheg, 433,145 o ddefaid, a 22,521 o foch. Penfro, 15,984 o geffylau, 93,744 o wartheg, 133,199 o- ddefaid, a 29,482 o foch. Maesyfed, 9,677 o geffylau, 43,538 o wartheg, 283,590 o ddefaid, a 4,909 o foch Cyfanswm nifer yr anifeiliaid hyn yn y Deyrnas Gyfunol yw :-eeffylau, 2,000,415; gwartheg, 11,455,009; defaid, 31,054,726; a moch, 3,663,716. Yn yr adroddiad yr ydym yn dyfynu o hono, ceir prisiau gwenith, haidd, a cheirch mewn deg o drefi Cymreig yn y flwyddyn ddiweddaf. Y maent fel y canlyn :—Llan- gefni, gwenith, dim; haidd, Ip. Os. 3e. y chwarter; ceirch, 14s. 8c. Y swm a werth- wyd, haidd, 43 o chwarteri a 4 o bwyseli; a cheirch, 6,799 o chwarteri, a 4 o bwyseli. Caernarfon, dim gwenith haidd, I p. Os. 9c.; ceirch, 14s. lie. Gwerthwyd, haidd, 56 o chwarteri, a 3 o bwyseli; a cheirch, 3,642 o chwarteri, a 3 o bwyseli. Dinbych, gwenith, Ip. 6s. 5c.; haidd, 1 p. 5s. 2s.; ceirch, dim. Gwerthwyd, gwenith, 193 o chwarteri, ac 1 bwysel; haidd, 964 o chwarteri, a 5 o bwyseli. Gwrecsam, gwenith, Ip. 7s. 2c.; haidd, Ip. 5s. 5c.; ceirch, 178. 2e. Gwerth- wyd, gwenith, 1,439 o chwarteri, a 3 o bwyseli; haidd, 3,734 o chwarteri, a 2 o bwyseli; a cheirch, 212 o chwarteri, a 6 o bwyseli. Trallwm, gwenith, Ip. 6s. 4c haidd 1 p. 3s.; a cheirch, 17s. 5c. Gwerth- wyd, gwenith, 2,639 o chwarteri; haidd i 2,940 o chwarteri, a 5 o bwyseli; a cheirch, 290 o chwarteri, a 6 o bwyseli. Aberteifi, dim gwenith; haidd, 1 p. 5s. lie.; ceirch, 17s. Gwerthwyd, haidd, 308 o chwarteri, a 4 o bwyseli; a cheirch, 129 o chwarteri, ac 1 bwysel. Hwlffordd, dim gwenith; haidd, Ip. Is. 9c. ceirch, 15s, Gwerthwyd, haidd, 131 o chwarteri, a 5 o bwyseli; a cheirch, 2,933 o chwarteri, a 4 o bwyseli. Caerfyrddin, gwenith, 1 p. 14s. lie; haidd, dim; ceirch, 18s. 4c. Gwerthwyd, gwenith, 2 o chwarteri; a cheirch, 19 o chwarteri, ac un bwysel. Caerdydd. gwenith, 27s. 3c.; haidd, 24s. lie.; ceirch. 17s. 4c. Gwerth- wyd, gwenith, 776 o chwarteri; haidd, 4,262 o chwarteri, ac 1 bwysel; a cheirch, 876 o chwarteri, a 2 bwysel. Brycheilliog, gwenith, 28s. 8c.; haidd, 24s. 2c.; ceirch, 18s. 7c, Gwerthwyd, gwenith, 73 o chwar- teri; haidd, 298 o chwaiteri, a 4 o bwyseli; a cheirch, 401 o chwarteri. Yr oedd symmudiadau y farchnad yd ar hyd y flwyddyn fel y canlyn :—Yn nechreu y flwyddyn 1900, pris canolog y gwenith oedd 25s. 9c, y chwarter; ac yn niwedd y flwyddyn ei bris oedd 26s. 4c. Y pris uchaf oedd 29s. 3c., yr hwn bris a gyr- haeddwyd ar yr wythnos olaf o Gorphenaf. Am y tri mis nesaf nid oedd fawr gyfnew- idiad ar y pris, a gostyngodd yn raddol ar ol hyny i'r swm a nodir uchod. Y canol- bris am y flwyddyn oedd 26s. lie., neu Is. 3c. uwch na chanolbris 1899. O'r tu arall, yr oedd canolbris haidd yn is o wyth geiniog y chwarter na phris 1899. Y pris isaf oedd 22s 10c., a'r uchaf 26s. 5c. Ddechreu y flwyddyn, 16s. 2c. oedd pris ceirch. Cododd yn Awst i 19s. 11 c., ond gostyngodd ar ol hyny i 17s. Yr oedd ei ganolbris am y flwyddyn yn uwch na chanol- bris 1899 o saith geiniog. Nid oes genym ofod na hamdden i fanylu ar yr allforion a dderbyniwyd i mewn yn ystod y flwyddyn, er fod y mater yn haeddu sylw arbenig yr amaethwyr. Byddai i ffermwyr ein gwlad wneyd gwaith da pe byddai iddynt brynu yr ystadegau hyn, a'u darllen yn fanwl. Gellir eu cael am Is. 4c. gan unrhyw lyfrwerthwr.
ETHOLIAD CROESOSWALLT
News
Cite
Share
ETHOLIAD CROESOSWALLT AM hanner awr wedi un prydna\vn ddydd Sadwrn, cyhoeddodd yr uchelsirydd ganlyniad yr etholiad a gymmerodd le yn Nghroesoswallt, er llenwi y sedd wftg yn eu cynnrychioliad seneddol, llleWll eanlyniad i farwolaeth Mr. Stanley Leighton (C.) Mr. G. O. Gore (C.) 4,518 Mr. A. Bright (R.) 3,430 Mwyafrif y'Ceidwadwr 1,088 Yn y ddwy ynulrechfa etholiadol a gymmer- odd le yn y rhanbarth hwn er's gryn ai-iiser; sef, yn 1885, yr oedd mwyafrif y Ceidwadwr yn 981; ac yu 1895, yr oedd yn 1,007. Yn etholiadau 1886, 1896, a 1900, dychwelwyd Mr. Stanley Leighton yn ddi wrthwynebiad. Cydnabyddodd Mr. Ormsby Gore ac Argl- wyddes Margaret Gore yr etholwyr am eu cefnogaeth; a diolchodd Mr. a Mrs Bright i'r personau hyny oedd wedi rhoddi eu cefnogaeth i'r faner Iiyddfrydig. y
(,HAWLIAU GLAN Y MOR YN NGHYMRU.
News
Cite
Share
(, HAWLIAU GLAN Y MOR YN NGHYMRU. CYNNALIWYD cynnadledd DOS Lun yn Westmin- ster rhwng cvnnrychiolwyr Cymdeithas Tiroedd Cymru, a Hawer o aelodau seneddol dros Gymra, Rhyddfrydwyr a ThOJÏaid, mewn perthvrjas i'r modd yr oedd hawliau Dirprwywyr y Coedwig- oedd a'r Ffcreatydd yn effsithio ar fanteision Heel, Blaenorid y ddirprwyaeth gan Mr. Koeeshire. LIywyddid gan Mr. Alfred Thomas, kS. Yn mysg vr aelodau eraill oedd yn bresennol vr oedd Mr. Herbert Ltwis, yr Aorhyd, G. T. Kenyon, Mr. W. Jones, inir. C. Morley, a Mr. Hurupbreys Owen. Ni phasiwyd trnrbyw benderfyniad ond y mae yn debygol y bydd i rai o'r cwestiyuau yr ymdriniwyd a hwy gael ea codi mewn da.dl sen- eddoL