Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

DWYBAIN MEIRIONYDD

News
Cite
Share

DWYBAIN MEIRIONYDD Ys y Bala y cynnalivyyd y cyfarfod miaol hwn, dydd- iau Llun, Mawrth, a Mercher, Ionawr 14eg, 15fed, a'r 16eg, pryd y llywyddwyd gan y Parch. John Henlyn Owen. Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol Arwydclwyd cydymdeimlad & Mr. J. T. Jones, If. c £ W. Bank, Bala, yn ei alar am ei anwyl ch-waer. Hefyd, & Mr. Johd Jonas, Llanfihangel; yntau yn ei alar ar ol chwaer anwyl. Cyttunwyd i anfon cofion cynnes at Mr. Lewis Williams, Ysbytty, yn ei wael- edd. Dygodd y Parch. J. H. Hughes ddiolch cynnea i'r cyfarfod misol oddi wrth y Parchedig Edward Wil- liams, Cae mawr, am gofion a anfonwyd ato. Darllen- wyd cwsstiynau yr ymweliad, a plienderfynwyd ein bod yn argraphu pum cant o honynt. Darllenwyd llythyr yn dwyn perthynas Vr amgylchiadau yn Beth- esda. Cafwyd anepchiad gwir dda gan y Proifeswr E. Edwards ar' Addysg deuluaidd, yn wladol a chrefydd- ol.' Diolchwyd i Sir. Edwards am ei waith. Cafwyd ymdriniaeth faith a phwyllog ar 'Lwyrymwrthodiad yngltn fig aelodau y cyfarfod misol,' Hysbyswyd nad oes ond un, er's mwy na, deng mlynedd, wedi ei dder- byn i'r cyfarfod misol heb arwyddo dirwest; o blegid hyny. teimlem nad oeddym yn ennill dim wrth ddeddfu ar y mater. Casglwyd tafleni yr ystadegau a chylchlythyr yr ordeinio. Hysbyswyd fod Mr. E. G. Jones, Cwmtirmynach, wedi ei ddev.'is yn rheolaiud i'w ordeinio eleni. Derbyniwyd caigliadau, a darllen- wyd rheatr o honynt. Cafwyd adroddiad o bob eglwys ar Gasgliad yr Ugeinfed Ganrif ac ynglfn a hyn, cafwyd anerchiad penigamp ga.n y Parch. David Lloyd Jones, Llandinam. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Jones am ei araeth. Gohiriwyd mater yr ysbyttai yn Liver- pool hyd y cyfarfod misol nesaf. Nodwyd y Parch. William Williams i ysgrifenu anerchiad o flaen yr Ystadegau. Y Parch. John M. Jones, Ceryg y druid- ion, a Mr. Owen Hughes, Bala, i wneyd sylwadau arnynt. Y cyfarfod misol nesaf i fod yn Ngwyddel- wern, Mawrth lleg a'r 12fed. Y mater i'r seiat, Y pwysigrwydd o fod pethau ysbrydol a thragwyddol yn cael eu lie priodol genym fel crefyddwyr;' seihedig ar 2 Cor. iv. 18. Darllenwyd trefn yr ymweliad a'r eg- lwysi yn yr oil o r dosbarthiadau ond Glanau Ceiriog. Dosbarth Ceryg y druidion, Chwefror lleg: Tý mawr am ddau o'r gloch, a Bhydlydan am saith. Chwefror 12fed: Cefn brith am ddau o'r gloch, a Cheryg am saith. Chwefror 13eg: Llangwm am ddau o'r gloch, a Diumael am saith. Chwefror 14eg Gro am ddau o'r glocb, a Chynfal am saith. Chwefror lofed: Llanfihangel am ddau or gloch a saith. Dosbarth PenllYll Chwefror 25ain Pantglas am ddau o'r gloch, a Chwmtirmynach am chwech. Chwefror 26ain: Celyn am ddau o r gloch, a Llidiardau am chwecb. Chwefror 27ain: Tal y bont am ddau o'r gloch, a r Bala am chwech Chwefror 28&in: Llanfor am ddeg o'r gloch, Cefnddwysarn am ddau, a Llan- dderfel am chwech. Ochr ddeheuol-Cbwefror 25ain: Moelgarnedd am ddau o'r gloch, a'r Pare am saith. Chwefror 26ain: Dolbendre am ddau o'r gloch, a Llanuwchllyn am chwech. Chwefror 27ain: Cynllwyd am ddeg o r gloch, a r Glyn am chwech. Chwefror 28ain: Cefnddwygraig am ddeg o'r gloch, Rhos y gwaliau am ddau, a Llwyneinion am chwech. Ys- bytty a Phadoc-Mawrth 4ydd: Padoo am hanner awr wedi un o'r gloch, a'r Ysbytty am saith. Edeyrn- ion Ionawr 23ain, Glyndyfrdwy; Ionawr 24ain, Oarrog; Ionawr 30ain, Corwen; Ionawr 31ain, Gwyddelwern Chwefror lleg, Moel adda Chwefror 12fed, Cynwyd; Chwefror 13eg, Glan'rafon; Chwefror 14eg, Llandrillo. Hysbyswyd y byddis yn cynnyg y personau canlynol yn ymddiriedolwyr ar eiddo yn nbaith Llanarmon :—Y Meistri Robert Evans, Robert Roberts, Edward Smith, Thomas Morris, Richard Edwards, Edward Jones, Hugh Hughes, D. Evans, Edward Jones, J. D. Lloyd, y Parchn. J. J. Williams, a T. O. Jones. > odwyd y Parch. 1. Charles Roberts a Mr. Hugh Hughes i fyned i Nantyr a Glynceiriog i dderbyn llais yr eglwysi ar gael gweinidog. Pennod- wyd y personau canlynol yn bwyllgor i ystyried mater ynglvn a'r cyfraniadau arianol i r cyfarfod misol:—Y Parchn. J. H. Hughes: John Wiilfams; y Meistri Thomas Hughes. Gwyddelwern; Owen Hughes, Bala; Thomas Jones, Llanuwchllyn; John Roberts, Rhyd. lydan a D- H Howells yn gynnullydd. Pcnderfyn- wyd fod y cyfarfod misol yn ymgymmeryd 4 chyhoeddi y llyfr a ysgrifenir gan y Parch. W. Williams, Bants yr Achos yn nghylch y Cyfa^od. Mis-,?. Y personau canlynol i wneyd y trefniadau :—Y Parchn. Hugh Williams; John Williams; John Morgan Jones; T. 0. Jones; J. Owen Jones; y Meistri Robert Thomas, Llandderfel; Thomas Jones, Llanuwchllyn: ac E. W. Foulkes, Glynceiriog. Rhoddwyd caniatM i eglwys Glyndyfrdwy i aclgyweirio nen y capel. Hefyd, can- iatad i eglwys Llanfihangel i ddarparu ar gyfer ettyn ei chortynau. Rhoddwyd annogaeth ar fod i ymddir- iedolwyr y mae symiau bychain o dan eu gofal i gyf- Iwyno y cyfry w i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Galwyd sylw at lyfryn ar ffanet yr Arha. yn Ytlyt'y. n, rhodd- wyd annogaeth i'w bwrcasu. Penderfynwyd fod y trysorydd i dalu 15p. i Lanfihangel o drysorfa y cyfar- fod misol. Dewiswyd y personau canlynol yn bwyll- gor y genhadaeth :—YParcbn. T. O. Jones; I. Charles Roberts y Meistri Robert Roberts, Cynwyd Robert Evans, Cefnddwysarn; a J. LI. Jones, Ty mawr. Pennodwyd y Parch. William Williams, a Mr. Dav'd Jones, Bala, yn gyfarwyddwyr am y tair blynedd nesaf. Dewiswyd y personau canlynol yn gynnrvch- iolwyr i'r cymdeithasfaoedd am y fhvy< Idvn: — Y gwanwyn, y Parchn. W. Williams; John Jones; y Meistii Robert Evans, Cefnddwysarn; a Thomas Hughes, Gwyddelwern. Yr har, y Parchn. J. Howell Hughes Lewis Owen; Dr. Hughes, Bala a Mr. Thomas Morris, Nantyr Yr hydref. y Parchn. Hugh Williams; T. O. Jones; y Meistri David Jones, Bala; a David Jones, Ysbytty. Y gauaf, y Parchn. J. M. Jones; 1. Charles Roberts; y Meistri Robert Robert*, Cynwyd; a 1 ohn Owen, Ty mawr. Diolchwyd ir Parch. J. T. Alun Jones a Yr. W. E. Jones am eu gwasanaeth gyda Thrysorfa y gweinidogion; ac ail ddewiswyd hwy am dymmor etto. Dewiswyd yn llywyddion y cyfarfod misol am y fiwyddyn, y Parch. J. M. Jones, a Mr. Thomas Jones, Llanuwchllyn. Hysbyswyd o Landderfel fod yr eglwys yno wedi derbyn yr aiian oddi wrth waddol y diweddar Barch. Robert Edwards yn y ffordd arferol. Darllenwyd papyrau rhagoro! ar Wyr amlwg o fewn cylch y cyf- arfod misol yn ystod y ganrif ddiweddaf gan y Parch. William Williams, y Meistri Robert Evans, Jeremiah Jones, a Hugh Hughes. Diolchwyd iddynt am eu llafur, Gwrandawyd hanes yr achos yn y Bala a Llanfor gan y Parch. D. LI. Jones. Da oedd deall fod yr achos yn yr eglwysi hyn ar yr adeg farwaidd yma yn gwneyd mwy na byw. Darllenwyd yr ad- roddiad canlynol o bwyllgor yr Ysgol Suh—Trefnwyd fod gweinidog i'w ethol o ddosbarth Ysbytty, Edeyrn- ion, a Glanau Ceiriog, a blaenor o ddosbarth Penllyn a Cheryg y druidion am fiwyddyn, a gweinidog o'r ddau ddosbarth olaf, a blaenor o'r tri dosbarth cyntaf y fiwyddyn arall. Sabbath yr Ysgol Sul, Ebrill 28ain. Gofynir i'r cyfarfodydd ysgolion yn mis Mawrth alw sylw arbenig yr ysgolion, yr eglwysi. y gweinidogion. ar swyddogion at y Sabbath hwn. Yr Arholiad Cyfundebol, Ebrill 17eg, Pennodwyd y Parch. H. O. Hughes, Henllan, yn arholwr am 1901—1902. Yn atteb i'r genadwri o ddosbarth Edeymien o barth i ddysgu allan Efengyl loan, a'r dull o brofi hyny, penderfynwyd ein bod yn parhau i ymddiried y pi-awf terfynol i swyddogion y cyfarfodydd ysgolion; ac er caniatau rhyddid i wneyd y prawf ar fwy nag un tro, na. ddylai y prawf fod ar lai na phum pennod ar un- waith. Annogir yn daer ar athrawon ae athrawesau i fynychu y cyfarfodydd darlleu, fel y moddion goreu yn eu cyrhaedd i fod yn well athrawou ac athrawesau. Gelwir sylw y cyfarfodydd ysgolion at hyn. Ein bod yn cymmhell yn gynnes ar fod y cyfarfodydd ysgolion yn rhoddi sylw ffafriol ac uniongyrchol i genadwri y Gymmanfa. Gyffredinol, yn galw ar i drefniadau gael eu gwneyd yn mhob dosbarth, i'r amcan o ddwyn gwahanol agweddau ar waith yr ysgolion ger bron, ac i syirbylu i weithgarweh a bywyd newydd ynglyn & r Ysgol Sul yn yr ugeinfed ganrif. Trefniant newydd y safonau:—Ymholwyd pa bryd y deuai y trefniant newydd i weithrediad, a rhoddwyd ar yr ysgrifenydd i wasgu am brysuro gydag ef, os na bydd wedi gweled goleuni dydd cyn cyfarfod pwyllgor yr undeb yn niwedd Ebrill. Annogir, yn y cyfamser, yr ysgol- o n i wneyd y dtfnydd goreu o r hen drefniant; a sicr- haai y Parch. 0. Jones fod y gwaith o ddysgu allan wedi ei ysgafnhau yn ol y trefniant newydd. Cadarn- hawyd adroddiad y pwyllgor a fu yn ystyried rheolau

[No title]

f Y TRAETHODYDD,' ctMt Ionawr.

Advertising

[No title]

CYFARFOD BHYDDFKYDIG YN CROESOSWALLT.

PRIFYSGOL GYM BIT.

IANGHYDWELEDIAD YNGHYLCH1…

Advertising

i,\ II ^Ibalggiab p Mimj.

IACHOS CHATHAM STREET: Amddijj-yniad…

Y GENINEN am Ionawr.

YMGAIS AT LOFRUDDIAETH A HUNANLAUDIAD…