Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

geheubic Cgniru.

News
Cite
Share

geheubic Cgniru. Nos SADWRN, lonawr 1ge9, 1901. (Oddi vjrih ein Gohebydd 17 eillchwl J. Can Carcharciu.—Y mae y son all an fod dau yn chwaneg o'r carchnrau yn Neheudir Cymru. i gael eu cau ar fyrder sef, carchar Caerfyrddni a cbarchar Aberhonddu. Cauwyd y carcbarau yn Hwlffordd ac Aberteifi yn y fiwyddyn 1878, a symmudwyd cynnifer o garcharorion -1g oedd ynddynt, i garchar Caerfyrddin ac^oddi ar hyny hyd yn awr, carchar Caerfyrddin sydd wedi gwasallaethu anghenion y tair sir ac fel y mae goreu y modd, y mae yn ddigon, ac yn fwy I na digon, i atfceb yr eisisu. Pa gyhyd o arnser y bu carchar Hwlffordd yn agored, nid pes genyf fodd i wybod ar y foment ond mi wn i garchar Aberteifi fod yn agored am 216 o flynyddoe id. Sefydlwyd y carchar cyntaf yu y dref—yr lien Siå!, fel ei gelwid-Yll 1662 ac agorwyd y car- I char newydd, neu y carchar d.weddaf, yn 1797. Gwerfch y contract oedd 2,660^. ond y mae yn ymddangos ddarfod talu swm da o extras. Rhyw ddwy flynedd cyn cau yr hen garchar yr oedd Dr. David Davies wedi cael ei bennodi yn swyddog meddygol iddo, a'r cyntaf o'r fath a bennodwyd erioed, am gyflog o 10p. y fiwyddyn. Ond dvua, nid yw caicharau Hwlffordd ac Abarfceifi erbyn hyn amgeu pethau yn perthyu i Gymru Fa ac yn ol pob argoelion, fe baid caicharau Aberhonddu a Chaerfyrddin a bod yn bethau yn psrthyn i Gymru Fydd-cauir y ddau yn faan gwneir i garchar Abertawe wasanaethu yn eu lie. Nid yw cyfartaledd y carcharorion yn N ghaerfyrddiu wedi bod, yn y blynyddoedd diweddaf, er ei fod yn gwasau- aethu y tair sir, yn fwy nag 20 ac y mae y swyddogion ynddo, a chyunneryd yr oil i'r cyfrif, yn 14-chwaneg nag un swyddog ar gyfer pub dau garcharor. Bvvriedir, trwy leihau y carcharau,"iaihau llawer o'r draul ar y wlad, ac y mas hyny yn befch aymunol iawn. Marwolaeth y Parch. Henry Jones, Pfald-y- brenin.—Wythuos i heddyw (dydd Sadwru), bu farw y Parch. Henry Jones; Ffald-y-brenin, ar ol bod yn llesg a chystuddiol am dymmor maith. Ordeiniwyd ef yn 1859, a bu yn wein- dog i'r eglwysi Annibynol yn Ffald-y-brenin ac Esgairdawe, ar derfyn gogleddot sir Gaer- fviddin, am ddeugain mlynedd, Rhaid ei fod yn ddyn da ac yn weiuidog ifyddlawn, gan iddo dreulio cynnifer o flynyddoadd yn weinidog i'r uu eglwysi. Yr oedd, o herwydd ei lesgedd a plJall ei iechyd, wedi rhoddi i fyny y weinidog- aeth er's tua deunaw mis cyn ei farwolaeth. Yr oeddwn yu ei adnabod er's mwy na pbymtheg mlynedd ar hugain, er na wrandewais mo bono erioed yn pt-egethu ac y mae yn fliu genyf fod yn analluog heddyw i roddi dim o fanvlion ei banes. Nid peth hawdd yw dyfod i wybod I pobpeth am bawb hyd yu ood o fewn terfynau Deheuair Cymru. Marwolaeth Mr. J. Bagnall Evans.—Ar dde- c liven yr wythnos derbyniwyd y uevrydd fod Mr. John Bagnall Evans, Nant-yr-eglwys, Llau- beuily. wedi marw y dydd Sadwrn blaenorol yn Hyeres, Deheubarth Ffraingc, lie yr aethai efe iddo tua thri mis yn ol mewn gobaith cael ad- feriad iechyd. Nid oedd un boueddwr yn ngoniewiubarik sir Gaerfyrddin yn fwy ei batch gan bawb na Mr. Bagnall Evans, Nant-yr- eghvys, canys yr cedd yn hyfrydwch ganddo i wasgar caredigrwydd, a chynnorthwyo pob dyn a fyddai mewn augen. Yr oedd yn ynad heddwch yusir Benfro a sir Gaerfyrddin, ac yn gadeirydd y faingc ynadol yn Llaubeudy. Yr oedd yn 64ain mlwydd oed pan fu farw. Gladdedigaeth y Parch. Rees Morgan, St. Chars,—Crybwyllais yr wythuos ddiweddaf am farwolaeth y Parch. R. Morgan, St. Clear,i claddwyd ei weddillion dydd Gwenei", wythuos i'r diweddaf, yn mynwent Bethlehem. Yr oedd nifer liiosog iawn o bobl ynghyd yn yr angladd, Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. W. G. Williams, Capel Mair ac yn y capil ac wrth y -c' bedd gan y Parchn. Cadfwlch Davies, Cadvun James, a W. C. Jenkins, Cydweli, Marwolmth Mrs. Thomas, Givynfe,—Dydd Sui ba farw Mrs. Thomas, gweddw y diweddar Barch. W. Thomas, Gwynfe, yn 60ain mlwydd oed. Claddwyd hi yn yr un bed a'i phriod, dydd lau. Merch ydoedd i'r divveddar Mr. Thomas Davies, Berilan Dywyll, Llangathen a gwraig ragorol ar bub cyfrif. Damioain angeuol ar y ffordd haiarn- YlI ngorsaf Maenclochog, ar tfordd haiarn y Great Western, digwyddodd damwain alaethus nos Fercher. Tra yr oedd Mr. James Evans, Mountain, yn arncanu croesi i'r llinell i waered, tarawyd ef i lawr gan agerbeiriant cerbydies ar y llineil i fyny oedd yn dyfod i mewn i'r orsaf ar y pryd aoth olwyniou y peiriant dros y corph, gan ei ddryllio yn arswydus. Fe ddy- wedir ddarfod i frawd y trangeedg, rhyw bum m'yuedd yn ol, gael ei ladd agos yn yr un modd. N:d yw yr arnser yn mhell pan orfodir cael pont i groesi yn mhob gorsaf fIúrcld haiarn, ac y gwaherddir i deithwyr gardded ar draws y cledrau. J)ysgu Cynvracg yn Tsgolion Caerdydd.—Y mae Bwrdd Ysgol Caerdydd wedi penderfynu myuu llais y rhisui unwaith etto pa un a fynant ai ui fynant ddysgu Cymraeg i'w plant yn Ysgol ion y Bwrdd, Argraphir tua 5,000 o bapyrau i'w uanfon i'r teuluoedd a'r cwestiwn av y papur fydd—A ydych yu ewyllysio dysgu Cymraeg i'ch pleutyn chwi Ni fydd gan y xhieni ond atteb yu gaiarnhaol neu yn uacaol, yn 01 fel y byddo eu teimlad. Ni ddisgwylir gallu cwblhau y gwaith hyd tua diwedd y mis hwn. Bath fydd y canlyniad, y mae yn rhy anhawdd rhagwybod. Acldysg Gvefycldol yn ysgol ion Cvrra Rhondda. -Yn nghyfarfod Bwrdd Ysgol Cwm Rhondda, dydd LIuH, mabwysiadwyd cynnygiad y Parch. W. Morris, cadeirydd y bwrdd, fod gwers foesol itr ufudd-dod i rieni, dirwest, dyfalbarh;td, a chynnildab i'w rhoddi i'r plant yn y gwahanol ysgolion unwaith bob wythuos. Bsrnir nad yw y gwersi presennol mewn moesoldab a chrefydd yn ddigon effeithi01, o herwydd fod cynnifer o'r dysgyblion i>»uaiiigc nad ydynt yn cael ond y nesaf peth i ddim byfforddiant crefyddol ar yr aolvvydydd- gartref. Da y gwnelai llawer o Fyrddau Ysgol eraill symmud yn yr un cyfeir- iad, o blegid y mae miloedd o deuluoedd yn y parthau gweithfii >1 o Ddeheudir Cymru nad yw crefydd na moesoldab yn cael dim sylw ynddynt. Rhydcl y rhieni eu bryd yn mron yn gyfangwbl ar gael digon o gwrw. I/elynt y gwasanaeth crefyddol yn Nhlotty Abertawe.—Yn nghyfarfod Bwrdd Gwarcheid- I •waid Abertawe, dydd lau, lie yr oedd Dr. j Gomer Lewis yn y gadair, y Parch. J, Alban Davies, yn unol & rhybudd blaenorol a roddwyd ganddo, a gynnygiodd fod caplan yn cael ei bennodi i wasanaethu i anghenion ysbrydol y rhai sydd yn y tlotty. Dywedai fod anghenion ysbrydol y tlodion yn y ty yn cael ou hesgsuluso yu arswydus; ac"yr oedd hyny, meddai, yn gwneutbur y pennodiad a gynnygid ganddo yn angenrheidiol. Y cadeirydd a ddywedai ei fod mewn cydymdeimlad a Mr. Davies, ac yn ciedu y dylai clerigwyr a gweinidogion y dref wneu- tbur chwaneg yn y dyfodol nag o.)ddynt wedi ei wneuthur yn y gorphenol. Mr. Solomon a ofidiai fod dadl grefyddol yn cael ei chodi ar fin terfyn tymmor swyddogaeth y gwarchsidwaid presennol canys os pennodid caplan, rhaid fyddai iddo fod yn glerigwr; ac nid oedd tebygolrwydd y boddlonai yr Acghydffurfwyr i'r pennodiad. Dangosai y liyfr ddarfod cynnal gwasanaeth yn y ty yn ystod y fiwyddyn ddi- weddaf fel y canlyn Gan leygwyr Eglwysig, 13 o weithiau gan y clerigwyr, 3 o weithiau gan = liSygwyr Ymneillduol, 22 o weithiau gan weinidogiou Ymneillduol, 5 o weithiau—yr oil yn 43. Awgrymai y gellid cael gwelliant trwy alw sylw Cynjthor yr Egiwysi Ilhyddion at y mater. Mr. Hill a olygai y byddai pennodi caplan yn holiol groes i'r farn gyhoeddus. Mr. W. Williams, Wern, a awgrymai fod i'r ysgrifeu- ydd ddanfon at yr amrywiol weinidogiou yn y dref i ddymuno am eu cydweithrediad mewn gofalu am anghenion y tlodion yn y ty, a gofyn ganddynt ffurllo cylch. Mr. Llewelyn Davies a ddywedai y byddai yn sarhad ar weinidogion a uhlerigwyr i awgrymu y gornmeddeut roddi eu gwasanaeth heb gael eu talu am hyny. Syr John Llewelyn a ddywedodd y byddai gan fwyafrif Ymneilldiiwyr Abertawe wrthwynebiad cryf i ddefnyddio dim o'r trethi i dalu am was- anaeth clsrigwr o Eglwys Loegr a thybiai y byddai gan y gweinidogion Ymneillduol wrth- wynebiad i dderbyn tal am wasanaethu yu y tlotty. Ond yr oedd yn beth o bwys fod eneid- iau y tlodion yn cael gofalu am danynt yn gystal a'u cyrph. Ar y cyfan, yr oedd clerig- wyr a gweinidogion Abertawe wedi gwasau- aethu yn weddol o ffyddlawn am lawer o flyn- yddoedd o ba herwydd yr oedd yn appelio at Mr. Davies i dynu ei gynnygiad yn ol. Yntau a wnaeth hyny, gan egluro mai gwneuthur daioni oedd yn amcan ganddo ei ddwyn ger brou, a'i fod yu credu ddarfod gwneuthur lies yn yr ymdriniaeth. Bellach, y cwestiwn yw, Beth sydd i ddyfod o'r achos yn y dyfodol ? Gan na wasanaethwyd ond wyth o weithiau gan boll weinidogiou a chlerigwyr y dref cydrhyng- ddynt trwy gydol y fiwyddyn ddiweddaf, ychydig o sail sydd i obeithio y cynnyrcha awgrymiadau aelodau y bwrdd lawer o gyf- newidiad ynddynt hwy. Pe byddai tâl o ddim mwy na 2s. 6c. y tro am wasanaethu yn y tlotty, nid yw yn fwy nag a ellir gredu y byddai y bylchau i leygwyr i wasanaethu yn lied brin. Pa fodd bynag, gan fod gwrthwynebiad i dalu caplan, a hwnw, hefyd, yn wrthwynebiad cyfiawn, fe ddylai yr eglwysi rhyddion a chaethion weled fod y tlodion yn y tlotty yn cael pregethu yr efengyl iddynt. Difaterwch beïus yw yr holl achos or diffyg. Euteddjod Whitlancl.—Yn Ysgoldy y Bwrdd, yn Whitland, dydd lau, cynnaliwyd eisteddfod fechan lwyddiannus iawn, dan nawdd eglwys y Bedyddwyr yn nghapel Nazareth. Y ilywydd oedd y Parch. S. Jones, Ffynnon, a'r arweinydd oedd Mr. W. Scourfield, Whitland. Bairniad- wyd y gerddoriaeth gan y Parch. G. Bowen, Cdgerran, a'r llenyddiaeth a'r farddoniaeth gan Mr. B. T. Davies, Waengron. Cor Whitland fu yn llwyddiannus yn y brif gystadleuaetb. Ar y darn i leisiau gwrywaidd, dyfarnwyd cor Whitland a chor St. Clears yn gyfartal. Y mae genyf adgof malus am lawer eisteddfod yn Wbitland ac y mae yn dda genyf ddeall nad yw yr ysbryd ua'r doniau eisteddfodol yno yn prinhau dim. Anrhegti yr Henadur W. H. Morgan aH deulu. ,-Yn Neuadd Ddirwestol Penartb, nos lau, yr oedd nifer liiosog o Ryddfrydwyr Deheubarth M n-ganwg wedi ymgynnull ynghyd i anrhegu yr Heuadur W. II. Morgan a'i deulu, yn gydna- byddiaeth o'r ymdrech glodwiw a wnaed ganddo yn yr etholiad diweddaf i ennill y Eêld oddi ar yr aelod presennol. Y brif anrheg i'r gwr a'r wraig oedd epergne hardd wedi ei gosod i sefyll ar droed, a'r ysgrifen ganlynol arni Cyflwyn- wy 1 i'r Henadur Walter H. a Mrs. Morgau, gau Gymdeithas Ryddfrynig Deheubarth Morgauwg, yn gydnabyddiaeth o'u gwasanaeth yn etholiad cyflredinol 1900.' Yr oedd gweddill yr anrheg- ion yn gynnwysedig mewn shaving set arian i'r Henadur, manicure set arian i Mrs. Morgan, a gwahanol fachau arian i bob un o'r ddwy Miss Morgan. Diolchodd Mr. Morgan yn gynnes am yr anrhegion. Dywedodd na bu yr ymdrecb ddi- weddar yn un ofer, er iddi fod yn afiwyddiannns am y tro i ennill y sedd y waith nesaf y delo cyfleusdra bydd y Rhyddfrydwyr yn debyg o gyrhaedd eu hamcau. Y sefyll allan yn Ngldfei/dd Clydach Vale.— Y mae pethau yn argoeli dyfod i'r gwaethaf yn nglofeydd Clydach Vale, lie mae tua 3,000 o'r glowyr wedi attalg weithio oddi ar dydd Mawrth, wythuos i'r diweddaf, o herwydd, fel y dywed- ant hwy, nad oes digon o goed yn cael eu rhoddi iddynt yn mhob man i sicrhau diogelwch. Nos Wener cynnaliwyd cyfarfod mawr yn Neuadd Tonypaudy, lie y mabwysiadwyd penderfyniad i ddwyn allan yr offer, a phenuodwyd dirprwy- aeth i fyned at y llywodraethwr i ofyn caniatad i'r gweithwyr gael disgyn i'r pyllau i'r amcan hwnw a bod gweithio i beidio mor Ilwyr ag y byddo dichonadwy o'r diwrnod hwnw, ac na byddo i unrbyw gynnygiad arall i gael ei dder- byn. Y mae cais wedi cael ei wneuthur at y cyfarwyddwyr am dderbyn o honynt ddirprwy- aeth oddi wrth y gweithwyr eithr nid oes afcteb wedi ei gael oddi wrthynt amgen na'u bod hwy wedi rhoddi awdurdod llawn i Mr. Llewel- yn, y goruchwyliwr, i wneuthur fel y barno efe ddoetbaf. Gan i'r anfoddogion sefyll allan heb roddi rhybudd priodol, y mae y cyfarwyddwyr yn gommedd gwneuthur dim a hwy heb iddynt ddychwelyd at eu gwaith. Fe welir oddi wrth hyn fod rhywbeth j'w. ddywedyd ar bob tu a dïau mai y peth goreu fyddai ceisio cael gafael ar ben llwybr rheolaidd i ddwyn y cweryl i der- fyn iad.

1 MARWOLAETH IY PARCH. D.…

GWALLQOFDY GOGLEDD GYMRU.

Y TRirCHINEB YN DENTON.