Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Mr. JIMMY MADDOCKS.

Advertising

-----Yr Adran Gymraeg.

Gwe y Pryf=coppyn.

News
Cite
Share

Gwe y Pryf=coppyn. 0'i wiw wy i weu e a."—Hen lineU. GWE XXXVI., Yn mha un y mae'r awdwr yn parhau i draethu ar yr ymenydd dynol. MAE'N bosibl marchog cydymaith i farwolaeth, ys y dywedir, ac mae arnaf ofn bob amser wrth arfer cydmariaethau i ryw un o'm darllenwyr wneuthur hyny, a thynu casgliadau oddiwrth fy ysgrif na feddyliais erioed o'r blaen am danynt. Rhag ofn i hyn ddigwydd, rhaid i mi ysgrifenu ychydig yn rhagor, a hyny yn fanylach, ar yr ymenydd nag a wnaethum hyd yn hyn. Cyd- mariaeth y gneuen Ffreinig, fel yr ydych yn cofio, oedd genyf dan sylw, a dangosais fod y penglog dynol a'i gynwys yn debyg i blisgyn y gneuen hono a'i chewyllyn. Mae yr asgwrn yn y penglog yn cyfateb i blisgyn caled y gneuen, .a'r croen oddimewn, yr hwn sydd yn ffurfio y gwahanleni rhwng y gwahanol ranau o'r ymen- ydd, yn cyfateb i'r croen sydd yn cyfiawni yr un gorchwyl i gnewyllyn y gneuen, tra y mae y croen sydd am yr ymenydd, yr hwn sydd yn suddo i lawr i'r rhychau, ac yn amgau yr ymen- ydd megis a gwisg, yn cyfateb i'r croen sydd yn nglyn a chnewyllyn y gneuen Ffreinig, ond yna y mae'r gydmariaeth yn cloffi, oherwydd wedi tynu y croen yna yn y gneuen mae'r cnew- yllyn o'ch blaen yn wyn o ran ei liw, a'r un o ran defnydd drwyddo draw. Ond tynwch y croen oddiar yr ymenydd, a thorwch ef ar ei draws, a chewch fod ei arwynebedd yn ffurfiedig o gaenen lwyd tuag wythfed o fodfedd o drwch, y ac o ran lliw yn llwyd, tra y mae y rhan mewnol o'r braidd oil yn wyn o ran lliw. Bu'm yn sylwi ar hyn o'r blaen, os ydych yn cofio, a'r pryd hyny dywedais fod y gaenen lwyd yna yn gyfansoddedig o gelloedd man gewynol, ac mai gyda hwynt y mae dyn yn meddwl. 0 dan y gaenen lwyd arwynebol yna gwelir fod yr ym- enydd yn wyn, a chyda tipyn o drafferth mae'n bosibi chwalu y talp gwyn yna oddiwrth ei gilydd, pryd y canfyddir ei fod wedi ei gyfan- soddi o aneirif linynau gewynol wedi ei lapio yn nghyd yn un talp. Wrth archwilio y rhai hyn yn fanwl cawn fod un dosparth o honynt yn cysyll- tu y celloedd arwynebol neu y cellosdd meddyliol sydd yn ffurfio arwynebedd yr ymenydd mawr, a'r ymenydd bach, ac a'r rhanau synwyryddol sydd yn gorwedd dan yr ymenydd mawr. Tybir yn debygol fod dau ddosbarth o'r llinynau hyn, un i gludo gorchymynion y meddwl i lawr, a'r lleill i gludo i fyny genadwri yn nghylch y cyf- newidiadau gewynol sydd yn digwydd yn bar- haus yn y rhanau synwyryddol a symudol, oher- wydd argraffiadau mewnol ac allanol. Mewn gair, ffurfia y llinynau gewynol hyn fath a bell- ebyr rhwng y deall a'r ewyllys ar y naill law, a synwyrau ar llaw arall, a thrwy un dosparth mae'r ewyllys yn danfon ei gorchymynion allan, tra trwy y llall mae'r deall yn derbyn gwybod- aeth oddiwrth y synwyrau o beth sydd yn di- gwydd oddiamgylch. Heblaw y llinynau hyn, eto ceir yn y talp ymenyddol linynau gewynol eraill yn cysylltu y gwahanol ranau o'r ymenydd a'u gilydd, a thrydydd dosparth yn gyfyngedig i'r ymenydd mawr, ac yn cysylltu y naill haner o hono a'r haner arall. Mae'n anhawdd gosod hyn allan yn ddealladwy fel i ddangos yr ymen- ydd, ond nid yw fawr o bwys: yr oil sydd arnaf eisiau i chwi ddeall yn awr ydyw fod yr ymenydd, nid yn dalp unrhywiog fel cnewyllyn cneuen, ond yn dalp cywrain, manwl, wedi ei ffufio o wahanol ranau, ac fod i bob rhan o hono ei waith neillduol ei hun. Sylwch am fynyd eto ar y croen yna sydd yn ffitio am dano fel y bydd maneg am law. Ar y.cynaf ymddengys yn eithaf syml.. ond sylwch arno, a chewch ei fod yn rhwydwaith o'r fath gywreiniaf, megis Gwe y Pryf Coppyn, neu blethiadau gloewon gwallt merch. Yn driphlith draphlith trwy y rhwyd yna, i mewn ac allan trwy ei masglau canfyddir nifer aneirif o rydwelyau (arteries) a gwythienau yn gweu gan ffurfio rhwyd o fewn rhwyd. Sylwch hefyd unwaith eto fod y croen rhwydog yna, gyda'r gwythienau, a'r cwbl. sydd yn ei fas- glau, yn suddo i waelod pob rhych yn yr ymen- ydd, gan gario bywyd yn y ffurf 0 waed i bob rhan o'r arwynebedd. Agorwch yr ymenydd eto, a chewch nad oes ond ychydig bach mewn cydmariaeth o. waed yn rhedeg i'r rhanau mewn- ol. Paham y mae hyn? Wel, dyma'r paham, am mai yr arwynebedd sydd yn cyfiawni y gwaith mwyaf, a lie y mae gwaith mawr rhaid cael llawer o fwyd, a chan mai gwaed ydyw bwyd-gludydd y corph, mae natur wedi gofalu fod y rhanau hyny o'r corph sydd yn gweithio yn galed yn cael digon o gyflenwad. Dywedir gan rai ddylasent fod yn gwybod fod y cyflenwad o waed sydd yn cael ei dywallt i'r rhwydwaith o amgylch yr ymenydd er cadw ei arwynebedd mewn trefn gweithgar, yn fwy, a'i gydmaru a maint y peiriant, nag sydd yn myned i un rhan arall o'r corph. (Tw harhau.)

Marchnadoedd yr Wythnos.

Anifeiliaid,

Marchnadoedd Eraill.

[No title]

Llanrwst.

Hunting Appointments.i

[No title]

Advertising