Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Brydain. Yr oedd hi yn ymdrech galed, tua'r adeg hon, i gael Prydain o dan lywodraeth y Pab; ao y mae hanes y frwydr yn ddyddorol iawn, a hanes y sefyll allan o du yr hen Eglwys Frytan- aidd. Tua'r flwyddyn 664 fe alwyd Synod Whitby, ar yr hon yr oedd y Brenin Oswy yn llywydd, a'r Esgob Colman yn siarad dros yr Eglwys Geltaidd, a'r Offeiriad Wilfrid dros Eglwys Rhufain. Yn nghylch amser cadw y Pasg y dadleuid; ac yr oedd Colman yn myned at loan fel awdurdod, a Wilfrid at Pedr, ao yn dyfynu y geiriau: Ti yw Pedr ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys; a phyrth uffern nis gorchfygant hi, ac i ti y rhoddaf agoriadau teyrnas nefoedd." Gofynodd y brenin i Colman ai gwir hyn. Gwir, 0 frenin," medd Colman. A ellwch chwi enwi rhyw awdurdod cyffelyb wedi ei roi i Columba, eich blaenor chwi?" medd y brenin. "Nis gallaf fi," medd yr esgob. A ydych chwi eich dau yn cytuno fod y geiriau wedi eu llefaru wrth Pedr, a bod allweddau y nefoedd ganddo?" medd y brenin. Ydym," meddai'r ddau gyda'u gilydd. "Yna," medd y brenin, yr wyf fi yn dweyd wrthych chwi mai efe yw y drysor; ac nid wyf yn myned i ddadleu dim ag ef, rhag, pan ddeuaf at ddrws y nefoedd, nad agorir ef, gan fod yr allweddau yn medd- iant fy ngwrthwynebydd." Gwelodd pawb resymoldeb y peth; a, rhoddwyd i fewn ar unwaith mai crefydd Rhufain oedd crefydd Prvdain i gyd i fod, am fod allweddau'r Nefoedd yn Haw Pedr! a chan fod Pedr yn un lied selog, gwell, er mwyn gwirldiogel obaith, gadw ar delerau da ag ef! Y mae uchafiaeth y Pab dros holl Brydain yn dyddio o'r flwyddyn 669, o amser yr Archesgob Theodore^ yr hwn oedd Roegwr o genedl ac o addysg. Ai tybed mai melldith y Pab o Rufain yw y Groeg a'r Lladin yma sydd wedi d'od i'n colegau wrth barotoi ar gyfer y Weinidog- aeth? Ai yn llaw yr ieithoedd hyn mae allweddau'r nefoedd ar y ddaear ? Gwnaeth ein Tadau Celtaidd yn Nghymru, yr Iwerddon, a'r Alban, ymdrech deg yn erbyn gallu Rhufain; ond pa mor bell y llwyddasant, neu pa mor llwyr y collasant y frwydr, nid ydym yn sier. Gwyddom fod Cymraeg yn flodeuog yn y burned a'r chweched ganrif; oblegyd yn y dyddiau tywyll hyny yr ydym yn cael yr Awen yn canu Cymraeg glan gloew o enau Taliesin, Aneurin, Llywarch Hen, Myrddin Wyllt (o fendigedig Gaerfyrddin goffadwriaeth), ac ereill. Ond pa faint o Gymraeg crefyddol, pa faint o Gymraeg eglwysig, pa faint, o ddefosiwn ac addol- iad, oedd yn yr hen iaith, nid ydym yn sicr, na pha mor llwyr y teyrnasai Eglwys Rhufain yn Nghymru, y mae yn anhawdd cael^ goleuni o'r tywyllwch hyn; oblegyd mae'r beirdd yn fynych yn well Cymry na'r offeiriaid.-Watcyn Wyn yn "y Geninen."

Colofn Gymreig y Rhondda.

Hanes Crefydd yn Nghymru.

Advertising

Rhondda's Everyday Dangers.

ithe New Hippodrome at Porth.

Advertising