Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

YR ARGLWYDDI A'R BOBL.

MARWOLAETH MR. W. R. M WYNNE.

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR. W. R. M WYNNE. Bu Mr W. R. M. Wynne, Arglwydd Rhaglaw Sir Feirionydd, farw tua haner awr wedi un brydnawn Gwener, yn Liun. dain. Ganwyd ef yn 1840, a disgynai o deulu Gymreig hynafol. Efe oedd mab hynaf y diweddar Mr W. "W. E. Wynne, Peniarth, ger Towyn, yr hwn oedd yn aelod Seneddol dros Sir Feirionydd o 1852 i 1865. Addysg- wyd ef yn Eton, a bu yn swyddog yn y Scots Guards ar ol hyny. Yn 1865 aeth i'r Senedd i gynrychioli ei sir fel olynydd i'w dad, ond collodd ei Sedd yn 1868. Bu yn Uchel Sirydd yn 1866, ac yn 1891 penod- wyd ef yn Arglwydd Rhaglaw. Bu yn gwnstabl Castell Harlech, ac yn gadeirydd Chwarter Sessiwn y sir. Yn 1891 priododd a Mrs R. T. Williamson, merch Mr William Kendall. Cymerodd ran amlwg mewn pethau cyhoeddus yn Meirionydd. Mae llyfrgell Peniarth yn un o'r rhai gwerthfawrocaf yn Nghymru. Oynwysa. lawer o hen ysgrifau a llyfrau, a deallir ei bod hi i fyned i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yn 1865 dewiswyd ef yn olynydd i'w dad fel cynrychiolydd Ceidwadol dros Feirion yn y Senedd trwy fwyafrif o 31 ar Mr David Williams, Castell Deudraeth. Yn etholiad 1868 cymerodd y maes drachefn, ond yr oedd estyniad yr etholfraint yn dwyn ffrwyth, ac enciliodd Mr Wynne ddeuddydd neu dri cyn dydd yr etholiad, a dychwelwyd ei wrthwynebydd, Mr D. Williams. Ym. geisiodd am y sedd drachefn yn 1885, pan yr oedd ar y maes ddau yrngeisydd arall, sef Mr Morgan Lloyd a Mr Henry Robert- son, Pale, ac y dychwelwyd y diweddaf gyda mwyafrif mawr. Cyniychiolai Mr Wynne blwyf Llanegryn ar Gyngor Sirol Meirion o'i gychwyniad. Yr oedd yr ymadawedig yn ioneddwr hynaws a charedig, ac yr oedd iddo baroh mawr fel tirfeddianydd. Mae ffermydd ar yr ystad wedi eu dal am 40- mlynedd am yr un rent. Dywedir mai cyfenw cyntaf y teulu oedd Llwyd neu Lloyd, wedi hyny Ywain a'u bod o linach y Barwn Owen. Wedi hyny daeth Williams i'r teulu, ao yn ddiweddaraf Wynne. Yr oedd Mr. Wynne yn ddyn o bersonoliaeth hardd a phendefigaidd. Dydd Sadwrn, ar ddiwedd y Llys Sirol yn Nolgellau, galwodd y Barnwr William Evans sylw at farwolaeth yr Arglwydd Raglaw. Dywedai ei fod yn wr o alluoedd eithriadol, a byddai yn golled fawr i'r sir ar ei ol. Datganai ei gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth. Gwnaed sylwadau pellach gan Mri J. Charles Hughes, is-sir- ydd, a J. E. Fox, cyfreithiwr ac ynad heddwch. 0 barch i goffadwriaeth Mr Wynne hys- bysir na bydd i Mr Osmond Williams, A.S., [gadw ei ymrwymiadau i gynal cyfarfodyd'd cyhoeddus yr wythnos hon, Yi oedd i gynal cyfarfod yn Ffestiniog dydd Sadwrn. Cymer y gladdedigaeth 10 dydd Mercher (heddyw) yn meddrod y teulu yn Llanegryn I-

f Y FFYRDD HAIARM.

DYLEOiOH MISS CHARLESWORTH.

[No title]