Hide Articles List

14 articles on this Page

YR ETHOLIADATT.

---._.----SIR FEIRIONYDD.

[No title]

PIGION.

News
Cite
Share

PIGION. Ehoddodd y Llywodraeth ddiweddar rodd o gan' punt yr un i'r Parcli. R. Williams (llwfa Mon), a Mr. Charles Ashton, Dinas Mawddwy, am eu gwasanaetli i lenyddiaeth Gymreigv Rhoddodd, hefvd, 20,000p. tuag at godi adeiladau xiewydd i Goleg y Brif- ysgol yn Nghaerdydd. Profwyd ewyllys y diweddar Mr. George Paddock, Ynyshir, Glandyfi. Yr oedd yr eiddo personol yn werth 25,329p. Y mae yr eiddo tirol yn Swydd Stafford yn myned i'w feibion, Albert Edward a George Frank. Rhenir gweddill yr eiddo rhwng ei wraig, ei blant, a'i wyrion. Yn llyfr cofnodion plwyf Talyllyn, gelwir ardal Corris yii y flwyddyn 1744, yn "Corys." O'r flwyddyn 1787 hyd yn bresenol, "Corris." Dywed R. Prys Morris mai "Corus" y gelwid y lie gyntaf; a thybia ei fod yn cael ei alw felly oddiwrth fynach o'r enw hwn, perthynol i Lanbadarn. Yr oedd i un o'r tywysogion Cymreig fab o'r enw "Korus." Nid oes un dref yn Nghymru ag y mae mwy o welliantau yn cael ei ddwyn ymlaen ynddi nag Aberystwyth. Ceir ynddi gyf- lawnder o'r dwfr puraf-y mae y dref yn hynod lanwaith, a goleuir hi gan drydan- iaeth. Mae yma lawer o gynygion pellach i at-dynu dyeithriaid. Gobeithio. yn nghanol yr holl ymdrech, na wneir dim i lygru awyr foesol y lie hwn, sydd mor enwog am ei sefydliadau addysgol a chrefyddol. Alawon fy Ngwlad" a fydd enw llyfr a anfonir i'r wasg yn lied fuan gan Mr. N. Bennett, Glanyrafon, Llanidloes. Bydd y gwaith yn gynwysedig mewn dwy gyfrol unplyg, y rhai a gynwysant bum' cant o hen alawon Cymreig, y rhai y bu Mr. Bennett am flynyddoedd yn eu casglu ac addurnir y cyfrolau, hefyd, gan ddarluniau heirdd o ryw haner dwsin neu ragor o hen delynwyr Cymreig. Yn sicr, hwn fydd y easgliad cyflawnaf o'i fath a ymddangosodd erioed. Nid oes angen am well cymeradwyaeth iddo na dweyd ei fod yn cael ei olygu gan Mr. D. Emlyn Evans, a'i argraffu gan Roder, Llundain. Anfonir y gwaith i'r wasg mor fuan ag y derbynir digon o enwau i sicrhau na fydd y cyhoeddwr ar ei golled. Pris y ddwy gyfrol, wedi eu rhwymo yn hardd, ac mewn papyr da, fydd gini a haner, i'w talu ar dderbyniad y llyfr. Dyma gyfleusdra rhagorol i gerddorion i ychwanegu at eu trysorfa o alawon. Nid ydym wedi gweled un sylw wedi cael ei wneyd yn y newyddiaduron ar farwolaeth y Parch. Humphrey R. Jones "y Diwygiwr," yr hyn a gymerodd le yn ddiweddar yn Chilton, Wis., Unol Daleithiau, yn 62ain mlwydd oed. Ganwyd ef yn Tre'rddol, Sir Aberteiif, yn 1838. Ei dad oedd Hugh J ones, Ynvs Capel, a'i fam oedd un 0 ferclied Mr. a Mrs. Hugh Rowlands, Dolclatwr. Ym- fudasant i America yn 1848. Dechrenodd ef bregethu pan yn 16cg oed. Cafodd. ei gydnabod yn weinidog, gan y Methodistiaid Esgobol, a bu yn llafurio am beth amser gydà 'r Cymry yn Oshkosh. Adwaenid ef fel "Humphrey Jones y Diwygiwr," a chafodd gryn ddylanwad mewn amryw o'r sefydliadau Cymreig yn nhaleithiau Wiscon- sin a New York. Yn 1858, dychwelodd i Gymru, a bu yn foddion, gyda'r Parch. David Morgan, Ysbytty, i gvchwyn y diwyg- iad mwyaf llerthol a chylfredinol a welodd Cymru, "eithr darostyngwyd ei nerth drwy anmhariad ar ei feddwl. Ymhen amser, aeth drachefn i'r America, ond bu raid ei gadw yn ngwallgofdy Oshkosh am flynyddau. Ar ol ei adferiad, bu yn pregethu yn Wrankesha ac Oshkosh, ac yn y lie olaf y priododd ferch y diweddar John Owen, Corris; oncl bu hi farw yn fuan. Ar ol hyny, bu yn pregethu i'r Cyinry mewn llawer o'r taleithiau hyd ddhvedd 1893, pryd yr aeth at ei deulu yn Chilton, lie y bu yn dioddef -0 effeithiau y parlys hyd ei far- wolaeth. Yr oedd yn hoif o ii-aith Dr. Cunnning, a'i waith oedd proffwydo yn ddibaid. Yr oedd yn ddyn Duw yn ddiameu

TALYBONT.

.DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD…

URDDATT CERDDOROX,:—

■— :o:-TEULU'R FARIL YN…

-"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."

: o:——■ Y GLORIAN.

! Y SER.

Y DIWRNOD CNEIFIO.