Hide Articles List

14 articles on this Page

YR ETHOLIADATT.

News
Cite
Share

YR ETHOLIADATT. Y mae yr Etholiad Cyffredinol bron dirwyn i'r pen, a'r canlyniad o hono yn wahanol i'r hyn y proffwydodd neb am dano. Ni ddychmygwyd y buasai gan y Toriaid gymaint o. aelodau a'r holl bleidiau eraill ynghyd-yr hyn sydd yn debygol yn awr. Felly yr ydym yn gweled y Llywodraeth oreu a gafodd y Deyrnas yn cael gwrthod yr awenau iddi, a'r blaid Ryddfrydig yn cyfarfod a thrychineb amserol pan ar haner gwblhau ei gwaith. Bu'r Lly- wodraeth ddiweddar yn but i'w hym- rwymiadau, pasiodd neu amcanodd basio yr holl fesurau yr addawodd. Ond yn awr rhoddir terfyn am dymor i heddwch ac ewyllys da tuag at yr Iwerddon, a marweiddiad i bob ymgais difrifol tuag at ddiwygiadau cymdeith- asol yn Mhryciain. Dygwyd hyn oddi amgylch drwy ddifrawder ac anniolch- garwch y dosbarthiadau y gwnaed mwyaf erddynt. Nid oes i'r Rhydd- frydwyr yn awr ond myned i'r anialwch i fyw ar fanna a dwfr ac feallai mai dyna sydd oreu iddynt er eu dysgu i feddwl drostynt eu hunain, ac i fod yn ffyddlawn i'w hargyhoeddiadau. Nid awn i mewn i achosion gorch- fygiad y Rhyddfrydwyr. Chwilir iddynt eto, ac ad-drefnir y blaid yn drwyadl, a pharheir i ddadleu dros ei mesurau yn ddibaid. Nid oes yr un ran o'r rhaglen y gollynga ei gafael o hono. Ofer awgrymu y boddlona'r Gwyddelod ar Fesur Pryniant Tir a Chynghorau Sirol, yn lie Senedd fro- dorol i drin eu hachosion cartrefol, ac y gadawa'n Cenedl i Fesur Dadgysylltiad gael ei daflu i'r dyfodol pell. Drwy amynedd a diwydrwydd, aeddfedir yr etholwyr i bleidio holl raglen New- castle, a chodir y faner Ryddfrydig yn uwch nag erioed. Daeth y don Doriaidd i fesur i Gymru, drwy yr un dylanwad ag a fu yn Lloegr. Collasom bump o eistedd- leoedd yn y Deheudir, ond daliodd y Gogledd ei thir. Dengys etholiad Mr. T. E. Ellis fod Meirion yn ddiysgog fel ei mynyddoedd. Cafwyd y mwyafrif uwchaf bron yn Nghymru. Er gwaethaf holl ddylanwad ffyrnig Arglwyddi Tirol Maldwyn a'u pleidwyr, a'r cam- ddarluniadau a arferwyd ganddynt, cadwodd Mr. Humphreys-Owen ei sedd. Mae hyn yn deyrnged i anni- byniaeth yr etholwyr, er nad yr oil o honynt. Llwyddodd Mr. Owen Philipps er mor ddiweddar y daeth i'r gynrych- iolaeth i ostwng y mwyafrif, yr hyn a argoela llwyddiant hollol y tro nesaf. Dangosodd Ceredigion fel arfer ei bod yn rhy oleuedig i gael ei hudo gan wladlywiaeth gwacyddol y Toriaid, a chredwn y rhydd Mr. Vaughan Davies bob boddlonrwydd.

---._.----SIR FEIRIONYDD.

[No title]

PIGION.

TALYBONT.

.DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD…

URDDATT CERDDOROX,:—

■— :o:-TEULU'R FARIL YN…

-"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."

: o:——■ Y GLORIAN.

! Y SER.

Y DIWRNOD CNEIFIO.