Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CYWYDD YR ADFAIL.

News
Cite
Share

CYWYDD YR ADFAIL. Y mae Abram Williams (Bardd Du Eryri), neu fel yr adnabyddid ef yn gyffrediu-Bardd y Cwmglas, yn haeddu sylw fel un o feirdd an- adnabyddus Cymru. Ganwyd ef yn Llanberis, yn y flwyddyn 1755. Dywedir i Abram Wil- liams, John Williams, Waenfawr, DafyddDdu, a Gwilym Peris, benderfynu myned i'r America i chwilio am ddisgynyddion Madog ab Owain Gwynedd. Torodd y lleill eu calonau, a'r can- lyniad fu iddo fyned ei hunan yn y flwyddyn 1793, gyda'i ail wraig, a bu ynpreswylio mewn amryw fanau yn America. Gorphenodd ei yrfa yn Grist Flats, Pensylvania, Rhagfyr 27, 1828, yn 73 mlwydd oed. Bu yn athraw barddonol i Dafydd Ddu a Gutyn Peris. An- fonodd gywydd anerch i Gutyn Peris, sef Cywydd yr Adfail," ac y mae hwn yn dangos ei fod yn fardd rhagorol, hyd yn nod yn ei hen ddyddiau. WTele y cywydd Ydwyf ganddryll hyll a hen, Fe rewodd y fer awen Cla' iawn ddrych, mae'r clyw yn ddrwg, A gwaelaidd yw y vohvo- Pallodd, enciliodd y cof, Du wedd ing, deuodd angof; Y troed fu 'rioed ar redeg, Yn awr daeth yn ara' deg Tafod pan oedd yn tyfu, Llyfn y caed iaith y llain cu, Ei eiriau sydd yn arwach Na mynglyd iaith gryglyd gwrach. Dwylaw, fu hylaw eu hynt, Odiaeth, anystwyth ydynt; Y danedd a fu dynion, Yn awr 'does fawr ond rhyw f6n, A'r bon nid yw ddaioni, Pocn oil ydyw i'm pen i. Aeth y gwrid, ofid afiach, Ac eto byw, Guto bach Gwaed y traed a'm natur i, Sy'n arwydd sy' yn oeri! Yn awr mae'r corff ar orphen Yn myd ei waith a'i daith den. Poenau henaint, penwyni 0 hyd yw mywyd i mi Mae'r corff yn myn'd i orphwys I fol ei fam ddinam ddwys, Cyn hir bryd o'r byd i'r bcdd I Caf finau le cyfanedd.

CYNGHOR PLWYF TALYLLYN.

O'R FFAU,

TRO I'R AIPHT.

NODION 0 TO WYN.

ABEBBYF1.

[No title]

Dy fir y 11.

LLAKTBHYKMAIR.

---------___-___--------------_---Mr…