Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

CORRIS.

News
Cite
Share

CORRIS. CYFLWYNO TYSTEB.—Y mae yn hysbys erbyn hyn fod Mr. H. S. Roberts, ysgolfeistr Ty'n- yberth, Corris Uchaf, wedi ei benodi gan Fwrdd Ysgol Talyllyn i gymeryd lleydiweddar Mr. H. Ll. Jones yn Ysgol Corris. Ryw wyth mlynedd yn ol symudodd Mr. Roberts o Penal i Ty'nyberth, ac yn ystod y cyfnod yna, bu mor llwyddianus ynglyn a'r ysgol, fel y rhoddodd arholydd y Llywodraeth hi o dan y code newydd fel nad oedd raid iddi sefyll arholiad eleni. er nad yw y code yn d'od i rym hyd ddiwedd mis Hydref. Y mae Mr. Roberts wedi bod yn llawn mor llwyddianus yn ei gysylltiadau cre- fyddol. Y mae wedi llafurio yn ddiflino gyda chaniadaeth y cysegr yn Bethania a'r cylch, ac wedi arwain corau i fuddugoliaeth lawer gwaith Dewiswyd ef yn swyddog eglwysig e'rs blyn- yddoedd bellach yn Bethania, a bu yn weithgar a ffyddlon iawn yn y cylch hwn hefyd, a dat- genir gofid ar bob llaw yma oherwydd ei ym- adawiad. Nos Fercher diweddaf, cymerodd y teimlad hwn ffurf sylweddol. Yn y gymdeithas eglwysig, cyflwynodd y Misses Evans, Tan- yfaen; Jannet Roberts, Ysgol y Bwrdd; Annie Jones, Gaewern; a Kitty Jones, Corris House, dysteb i Mr. Roberts ar ran yr cglwys, yn cynwys holl weithiau Williams, Pantycelyn Geiriadur Charles, ynghyd a Beibl Teuluaidd prydferth iawn. Datganwyd teimladau gofidus yn herwydd ymadawiad Mr. Roberts. Gwerth- fawrogid ei lafur, ei ymroddiad a'i ffyddlon- londeb yn ein plith, a theimlai y frawdoliaeth golled ddirfawr ar ei ol. Diolchodd yntau mewn teimladau drylliog i'r eglwys am yr amlygiad hwn o'u parch tuag ato, a dywedodd y byddai ei hiraeth yn ddwfn ac yn hir ar ol yr eglwys hon. BWRDD YSGoi,Gorplieiiaf 2il. Presenol, Mri. M. Roberts (cadeirydd), W. R. Williams (is-gadeirydd). Rhys Owen, Richard Williams, J. P. Jones, a D. Ifor Jones (clerc). Darllen- wyd llythyr oddiwrth Miss Elizabeth Evans yn honi hawl i aros yn ngwasanaeth y Bwrdd hyd fis Medi. Penderfynwyd cadw at reoly Bwrdd sef fod ei hamscr i fyny ar y i2fed cyfisol, ar ol mis o rybudd, ac nid tri mis. Penderfynwyd hysbysebu am olynydd iddi. Dewiswyd Jane Anne Jones, Brewhouse, i gymeryd gofal y gwnio yn ysgol Aberllefenni, ac Elizabeth Davies, Ty'r Capel, i lanhau yr ysgol. YR ETI-IOLIAD.—Cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus lliosog iawn i bleidio ymgeisiaeth Mr. T. E. Ellis, nos Lun diweddaf, yn Ysgoldy y Bwrdd. Mr. Humphrey Davies, U.H., yn y gaclair. Cynygiodd Mr. D. Ifor Jones, a chefn- ogodd y Parch. H. W. Parry, bleidlais 0 ym- ddiried yn y blaid Ryddfrydig, ac yn Mr Ellis. Ategwyd hyn yn helaeth gan yr Henadur John Hughes, Ffestiniog, a'r Parch. Hugh Roberts, Rhydymain. Traethwyd ar ragoroldeb y Llywodraeth ddiweddar yn y Mesurau a ddyg'odd i sylw y Senedd, ac a basiwyd ganddi. Yr oedd ymdriniaeth Mr. Roberts, a chwestiwn Ymreolaeth, Dadgysyllt- ,y iad, Dewisiad LIeol, a Difodiad Ty'r Ar- glwyddi, ac ar ymdrechiadau ein parchus aelod, yn oleu ac yn rymus iawn, a llawer 0 ergydion gwreiddiol ganddo, a derbynid yi cyfan gyda chymeradwyacth fyddaroJ. Nidyn fynych y cyfarfyddir a phobl y mae y tan Rhyddfrydig-yn cael ei gyneu mor hwylus ag ydyw yn yr ardal hon, a gobeithiwn y bydd "■ V R hyn yn troi yn weithred sylweddol ddydd yr etholiad. Talwyd y diolchiadau gan y Parch. J. J. Evans, a Mr. Rhys Owen.

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.

Y DIWEDDAR AEDRONICUS. |

PIGION.

Y GAKDDWIl.

ENGLYNION ANERCHIADOL

ETHOLIAD ME IRION.

Advertising

y j > ETHOLIAD CYFFKEDINOL.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

ETHOLIAD MEIRION

ETHOLIAD MALDWYN.

GAIR AT FY CHWIORYDD. ,

LLANBRYNMAIR.