Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYNGHOR PLWYF LLANBRYNMAIR.

News
Cite
Share

CYNGHOR PLWYF LLAN- BRYNMAIR. Cynhaliwyd cyfarfod yn Ysgoldy y Llan, nos Iau, Gorph. 3, o dan lywyddiaeth Mr. Daniel Howell, y cadeirydd. Divfr Penddol. Yr oedd y Cyngor wedi anfon at Syr Watkin a Mrs. Seymour Davies, y ddau dirfeddianydd, yn gofyu iddynt ddwyn dwfr at wasanaeth preswylwyr y ddau bentref yma, Penddol a'r \Vinllan. Daeth llythyr oddi wrth Mrs. Seymour Davies ond ni ddaeth yr un oddi wrth Syr Watkin. Dywedodd Mr. H. L. Smith mai y rheswm na fuasai rhyw atebiad wadi dyfod oddiwrth Syr Watkin ydoedd eu bod yn awr yn rhy brysur gyda yr etholiad i fyned i edrych y lie. Byddai iddynt dalu ym- weliad a'r lie mor fuan ag yr aiff yr etholiad drosodd; ac yr oedd ef yn teimlo yn hollol sicr y byddai Syr Watkin yn barod i ddwyn ei ran ef o'r draul. Dwfr i'r Bont. Galwyd sylw at y mater yma gan y cadeirydd, yr hwn a ddywedai fod yna brinder dwfr neill- duol yn y Bont.—Mr. Richard Morris, Weeg, a farnai na ddylai y Cyngor ymwneyd dim a'r mater, mai dyledswydd y tir-feddianwyr ydoedd. Yr oeddynt wedi gofyn i'r ddau feddianydd ddwyn dwfr i Penddol a'r Winllan, paham na wnaent iddynt ddyfod a dwfr i'r Bont hefyd ?- Mr. John Watkins Lol i gyd ydyw fod eisiau dwfr i'r Bont. Y mae digon o ddwfr yn ffynon y capel, ac y mae mor bur a gin. Ond y mae rhyw anesmwythdra ar rai pobl yn y fan yma, a rhaid iddynt gael rhyw water supply mawr i'r Bont. Gan fod cymaint o amrywiaeth barn ynglyn a'r mater, penderfynwyd fod y cadeirydd, yr is- gadeirydd (Mr. H. L. Smith), a Mr. John Watkin i fyned i edrych y lie, ac i ddwyn eu hadroddiad i mewn i'r Cyngor nesaf. ( Yr Elusenau. Bu ymdriniaeth faith ar y mater yma. Pasiwyd fod y clerk i anfon at trustees elusen Mary Breese, i ofyn iddynt gyfarfod a'u gilydd, a phenderfynu pa un a oeddynt i'r arian hyny ddyfod o dan lywyddiaeth y Cyngor Plwyf, ai ynte a oeddynt am iddynt barhau dan eu rhcolaeth hwy fel trustees. Barn llawer ydyw nad oes gan y Cyngor Plwyf ddim hawl i gymeryd elusenau Mary a Wm. Breese, o dan eu hawdurdod o gwbl. Y Parch. D. Stanley Davies ydyw yr unig trustee ar elusen William Breese, ac yr oedd y clerk i anfon ato yntau hefyd. Civpbwrdd Llyfrau y Plwyf. Yr oedd planiau a specifications hwn wedi eu tynu allan gan Mr. John Davies, Dolgoch, ac y maent i'w gweled yn swyddfa y clerc,— Mr. A. P. Howell. Pasiwyd fod rhybuddion yn cael eu rhoddi i fyny yn gofyn am tenders, a'u bod yn gyfyngedig i grefftwyryn y plwyf. a y z, Prindcr ltd. Galwyd sylw gar. y cadeirydd yn y cyfarfod diweddaf at brinder tai gweithwyr yn y plwyf, a bu ymdriniaeth faith a brwdfrydig iawn arno yn y cyfarfod hwnw. Bu dan sylw eto yn y cyfarfod hwn, a chafwyd llawer iawn o siarad arno o bobtu. Pasiwyd penderfyniad yn y cyfarfod hwn i'w anfon i'r prif dir-feddianwyr i ofvn iddynt adeiladu ychwaneg o dai yn y plwyf, gan nad oes digon o dai cymwys i'w cael yn awr yn y plwyf i gyfateb i'r gofynion am danynt. Y cyfarfod nesaf o'r Cyngor Plwyf i'w gynal yn Medi yn Ysgoldy y Gwaelod.

DINAS MAWDDWY.

EGLWYS TAL-Y-LLYN.

UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMRU.

[No title]

Jl&goftori am Morris,

YR ETHOLIAD.

[No title]

CARNO.