Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
CYNGHOR PLWYF LLANBRYNMAIR.
CYNGHOR PLWYF LLAN- BRYNMAIR. Cynhaliwyd cyfarfod yn Ysgoldy y Llan, nos Iau, Gorph. 3, o dan lywyddiaeth Mr. Daniel Howell, y cadeirydd. Divfr Penddol. Yr oedd y Cyngor wedi anfon at Syr Watkin a Mrs. Seymour Davies, y ddau dirfeddianydd, yn gofyu iddynt ddwyn dwfr at wasanaeth preswylwyr y ddau bentref yma, Penddol a'r \Vinllan. Daeth llythyr oddi wrth Mrs. Seymour Davies ond ni ddaeth yr un oddi wrth Syr Watkin. Dywedodd Mr. H. L. Smith mai y rheswm na fuasai rhyw atebiad wadi dyfod oddiwrth Syr Watkin ydoedd eu bod yn awr yn rhy brysur gyda yr etholiad i fyned i edrych y lie. Byddai iddynt dalu ym- weliad a'r lie mor fuan ag yr aiff yr etholiad drosodd; ac yr oedd ef yn teimlo yn hollol sicr y byddai Syr Watkin yn barod i ddwyn ei ran ef o'r draul. Dwfr i'r Bont. Galwyd sylw at y mater yma gan y cadeirydd, yr hwn a ddywedai fod yna brinder dwfr neill- duol yn y Bont.—Mr. Richard Morris, Weeg, a farnai na ddylai y Cyngor ymwneyd dim a'r mater, mai dyledswydd y tir-feddianwyr ydoedd. Yr oeddynt wedi gofyn i'r ddau feddianydd ddwyn dwfr i Penddol a'r Winllan, paham na wnaent iddynt ddyfod a dwfr i'r Bont hefyd ?- Mr. John Watkins Lol i gyd ydyw fod eisiau dwfr i'r Bont. Y mae digon o ddwfr yn ffynon y capel, ac y mae mor bur a gin. Ond y mae rhyw anesmwythdra ar rai pobl yn y fan yma, a rhaid iddynt gael rhyw water supply mawr i'r Bont. Gan fod cymaint o amrywiaeth barn ynglyn a'r mater, penderfynwyd fod y cadeirydd, yr is- gadeirydd (Mr. H. L. Smith), a Mr. John Watkin i fyned i edrych y lie, ac i ddwyn eu hadroddiad i mewn i'r Cyngor nesaf. ( Yr Elusenau. Bu ymdriniaeth faith ar y mater yma. Pasiwyd fod y clerk i anfon at trustees elusen Mary Breese, i ofyn iddynt gyfarfod a'u gilydd, a phenderfynu pa un a oeddynt i'r arian hyny ddyfod o dan lywyddiaeth y Cyngor Plwyf, ai ynte a oeddynt am iddynt barhau dan eu rhcolaeth hwy fel trustees. Barn llawer ydyw nad oes gan y Cyngor Plwyf ddim hawl i gymeryd elusenau Mary a Wm. Breese, o dan eu hawdurdod o gwbl. Y Parch. D. Stanley Davies ydyw yr unig trustee ar elusen William Breese, ac yr oedd y clerk i anfon ato yntau hefyd. Civpbwrdd Llyfrau y Plwyf. Yr oedd planiau a specifications hwn wedi eu tynu allan gan Mr. John Davies, Dolgoch, ac y maent i'w gweled yn swyddfa y clerc,— Mr. A. P. Howell. Pasiwyd fod rhybuddion yn cael eu rhoddi i fyny yn gofyn am tenders, a'u bod yn gyfyngedig i grefftwyryn y plwyf. a y z, Prindcr ltd. Galwyd sylw gar. y cadeirydd yn y cyfarfod diweddaf at brinder tai gweithwyr yn y plwyf, a bu ymdriniaeth faith a brwdfrydig iawn arno yn y cyfarfod hwnw. Bu dan sylw eto yn y cyfarfod hwn, a chafwyd llawer iawn o siarad arno o bobtu. Pasiwyd penderfyniad yn y cyfarfod hwn i'w anfon i'r prif dir-feddianwyr i ofvn iddynt adeiladu ychwaneg o dai yn y plwyf, gan nad oes digon o dai cymwys i'w cael yn awr yn y plwyf i gyfateb i'r gofynion am danynt. Y cyfarfod nesaf o'r Cyngor Plwyf i'w gynal yn Medi yn Ysgoldy y Gwaelod.
DINAS MAWDDWY.
DINAS MAWDDWY. BWRDD YSGOL.—Cynhaliwyd cyfarfod misol y bwrdd hwn dydd Mercher olaf 0 Mehefin, dan lywyddiaeth yr is-gadcirydd, Parch. T. Thomas, Mallwyd. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri. Morris Evans, Post Oftice Thomas Davies (Tegwyn) a'r ysgrifenydd, Parch. \V. Williams, Mallwyd. Cymeradwywyd y gweH- iantau a fwriedwyd wneyd ar ysgoldy Minllyn. Hefyd, penderfynwyd rhoddi tenders allan am y cyfryw, ac iddynt fod mewn Haw erbyn yr 2ofed 0 Orphcnaf. Hysbysodd Adran Addysg y byddai iddynt wneyd ymaith a'r arhohau blynyddol yn ysgol Minllyn, wrth ystyried y seiyllfa wir foddhaol yr oedd yr ysgol wedi t'i gyrhaedd. Tafia hyn gryn glod ar yr ysgol- feistr, Mr. Lloyd, a'i gvnorthwywyr. PLESERDEITHIAU.-—Bu aelodau Ysgol Saes- neg Aberdyfi, ar ymweliad a'r Dinas dydd LIun, Gorphenaf raf, a mwynhasant eu hunain yn rhagorol.Bu Ysgolion Sul EglwysiK Mallwyd a Mawddwy yr un dvdd yn Aberyst- vvvth lie y mwynhasant eu hunain yn faw. I)ARI.ITH.-Tr,tddododd y Parch. T. R. Jones, o'r America, ei ddarlith ar "Ddyn," yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Nid oedd y cynulliad yn fawr. MOELYDRE.
EGLWYS TAL-Y-LLYN.
EGLWYS TAL-Y-LLYN. Y mae yr eglwys hon yn cael ei hadnabod fel eglwys Tal-y-llyn, ond yn ol a ddywedir, Llan-fair-bryn-muallt yw ei hen enw. Er hyn, rhy brin, feallai, y cysylltid y dynodiant o Lan a'r eglwys hon ar y cyntaf, canys bu amser pan nad oedd namyn capel eglwysig mewn cysylltiad a'r fam eglwys, Towyn. Cafodd ei chysegru i Mair, Jac felly dichon ei bod yn ieuangach nag eghvysydd Penal a g "I Llanfihangel-y-Pennant. Yn ol Proffeswr Rees, byddid yn arfer cysegru eglwysydd i nawdd y seintiau eraill hyny yn flaenorol i'r amser y gwneid i Mair. Saif yn esgobaeth Bangor, yn neoniaeth Ystymaner, ac yn nawdd- ogaeth yr esgob. Bu yr eglwys hon a Llan- fihangel-y-Penant, yn cael eu gwasanaethu am dymorgan yr un gweinidog, ac ymddengys oddiwrth ddalen rydd yn llyfr eglwys Tal-y- Llyn i'r ddwy guradiaeth gael eu huno yn agos i ddiwedd y ganrif ddiweddaf. Ond yn Awst, y flwyddyn 1858, newidiwyd y drefn hon, a gosodwyd gwr egJwysig i wasanaethu ymhob un o honynt ar wahan. Gwaddolwyd y fyw- lolaeth a 400P. trwy r6dd frenhinol, ac a 1,400P. gan y Senedd. Mewn perthynas i'w gwasanaeth crefyddol yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, mynegir ymhlith yr achwyniadau yn erbyn offeiriaid esgobaeth Bangor, ar ymweliad Lewis Bayley, Esgob Bangor, a gynhaliwyd yn Mehefin, 1623. Ni arfenr cylch gerdded yn wythnos y gweddiau. Syr John Llewelyn yw y curat yno." Z, Uwch ben porth yr eglwys y mae yr englyn canlynol :— Aneddfawr sanctaidd noddfa-gorbrciniol Gerbron Duw a'r dyrfa Er dim na thyred yma Y dyn ond a meddwl da, Allan 0 'Cantref Meirionydd.
UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMRU.
UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMRU. Cynhaliwyd cyfarfodydd blynyddol yr undeb hwn Gorphenaf lOfed, lleg, a'r 12fed. Parch. J. Bowen Jones, Aberhonddu, yn y gadair. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. Job Miles, Aberystwyth, ar "Yr angen- rheidrwydd am ddarpariaeth ychwanegol i eglwysi gweiniaid, ac i enill y boblogaeth Gymreig yn Nghymru a Lloegr, nad ydynt yn mynychu moddion gras." Addawyd 500p. at yr amcan hwn. Ar ran Cymdeith- asfa y Methodistiaid, rhoddodd y Parch. W. Thomas a Mr. R. Rowlands wahoddiad i'r Undeb i Pwllheli. Traethodd y cadeirydd ar y pwnc "Dadguddiad Duw," gan wneyd cyfeiriad at Uwch-feirniadaeth. Cynhaliwyd cyfarfod ynglyn a'r Ysgol Sul a'r Genhad- aeth. Dygwyd i sylw y symudiad o blaid can'mlwyddiant Cymdeithas Genhadol Llundain. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel Penniount, pryd y llywyddwyd gan Mr. J. Hughes Jones, U.H., Aberdyfi. Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch. C. T. Thomas, Groeswen, ar Fferiiiivvr a'u gweision, a'u dyledswyddau i'w gilydd." Pwysai ar yr angen am fwy o gydraddoldeb rhwng dynion a dosbarthiadau mewn cymdeithas. Traethodd y Parch. J. Machretli Rees, Llundain, ar "Ddyledswydd Cymru ynglyn a'r Dadgysylltiad." Dywedodd fod y presenol yn argyfwng pwysig ynglyn a chyd- raddoldeb crefyddol.' Nid oedd o un diben beio'r Llywodraeth ddiweddar. Os oedd bai yn rhywle, ar yr aelodau Cymreig yr oedd yn gorphwys. Ni ddylai Cymru roddi heddwch i Loegr hyd nes y symudir y gormes hwn. Ein dyledswydd oedd anfon ychwaneg o gynrychiolwyr i hawlio terfyniad buan ar y cwestiwn. Byddai colli un neu ddwy eisteddle, heb son am leihad yn y niwyafrif yn ddim llai na tlirychineb. Rhaid parhau i gynhyrfu, nes cyraedd yr amcan o dynu yr Eglwys Sefydledig i lawr. Mr. I). Lloyd-George, A.S., a gafodd dderbyniad gwresog, y gynulleidfa yn codi ar eu traed i'w groesawu, ac ategodd yntau y sylwadau blaenorol. Dywedodd nad oedd wedi hollol sylweddoli paham yr oedd Cymru yn fwy blaenllaw mewn gwleidyddiaeth nag un genedl arall hyd y noson liono. Yr oedd yniru yn dvchwelyd 31 o aelodau dros acho, r y did a cliyfiawnder. Nid oedd ganddo ddim amheuaeth nad oedd gwleid- rioiMn1 ^edi codi oddiar ei Hym- Cvmi-n a<5 i oefld crefyddYmneillduaeth fel dvnCW'y i edrych ar ddyn %aa'ruii egwvddor oedd o dan 5 nei chiadau—nad oedd y &■quire ond dyn ac eglwyswr ond dyn, a bod yr Ym- • i/T\ JU 8'y(b'add a hwynt. Dyma'r i01 j f?edc^ yn sail i'w ceisiadau am gydraddoldeb gwladol a chrefyddol.
[No title]
rp *T0, J ^ydd Gwilym Dyfi yn myned i eiri°nydd, bydd yn galw heibio miL aCe'" tri<?fod y bardd liar." m 0 Gwilym Dyfi, wobr o gini, a thlws anan yn r lywle (nad ydym yn cofio yr enw ar hyn 0 bryd) yn y deheudir yr wythnos o'r blaen. pa fachgen. •■4
Jl&goftori am Morris,
Jl&goftori am Morris, GAN Y PARCH. EVAN JONES, OAERNARFON. VII. Trwy fod genyf i gadw tair seiat bob wythnos—yn Nghorris ac Aberllefenni bob wythnos, acynBethania ac Esgairgeiliog bob yn ail—yr oedd genyf lon'd fy mreichiau o waith. Nis gallwn fforddio llawer o amser i fyned allan yn y dydd, ond yr oeddwn yn rhwym o fod allan braidd bob nos, gwlaw neu hindda. Yn y gauaf, yn enwedig, gan fy mod yn myned o'm gwely i'm gwaith ac o'm gwaith i'm gwely, a hyny Sul, gwyl, a gwaith, teimlwn fod yr oruchwyliaeth yn effeithio braidd yn ddirywiol ar fy natur. Yn emredig gan fod y cymoedd ymha rai y mae ardaloedd Oorris, Aberllefenni, Esgir- geiliog, yn gorwedd yn gulion a dwfn, y mynyddoedd ar bob Haw iddynt yn uchel a serth, a'r nosweithiau yn dywyll tuhwnt i unrhyw fan y bum ynddo erioed. Teimlwn weithiau, yn fy unigrwydd, wrtliyf fy hun, fy mod yn cael fy llwyr lethu i'r 11awr. Ryw noswaith, wrth ddychwelyd adref o Aberllefenni-o bosibl wedi cael seiat a thipyn o hwyl ynddi (oblegid lie cysurus iawn oedd Aberllefenni)—daeth y gortlirym- der ofnadwy hwn arnaf f81 gwr arfog. Dyftia ti," meddai, o'r diwedd we(l.i dy ddal, a dy 'lwyr orchfygu. Mewn ardal, fechan, gul, fynyddig, dywyll, fel hon, yl bydd yn rhaid i ti fyw o hyn allan. O'r gwely i'r gwaith ac o'r gwaith i'r gwely, dyna fydd dy hanes. Er byw yn eu mysg, a myned i mewn i fesur i'w hamgylehiadau, y mac y bobl hyn i fesur mawr yn ddieithr i ti, ac yr wyt tithau, gyda thipyn o duedd- iadau Uenyddol a gwleidyddol—er dy rod yn caru duw inyddiaeth yn fawr:—yn rhwym o aros yn ddyn dieithr iddynt hwythau. Buost yn meddwl teithio'r byd-ymweled a Canaan, ,a Switzerland, ac America, a'r Aipht—ond wele di yn awr wedi dy ddarostwng megis "yn farw'n fyw," rhwng erchwynion y myn- yddoedd uchel duon hyn. Dyma dy gartref —dyma dy fedd." Aeth y meddyliau hyn drwy fy meddwl yn llawer cynt nag yr wyf yn gallu eu hysgrifenu yn awr ond y mae yr adgof am danynt mor fyw ar fy meddwl y fiinyd hon ag yr oeddynt y funyd y di- gwyddasant. Adeg ofnadwy ydoedd. Medd- yliwn daflu y cwbl i fyny; ond i ba le yr awn? Ie, dyna'r cwestiwn. Safwn yn syn ar y ffordd. Nid oedd neb na dim yn agos. 0 eiliad llawn o ing! O'r diwedd, 3-111- dawelais, a chlywn lais, megis o'r nef, yn dywedyd wrthy-f, Wel, os ydwyt mewn lie cul; os ydyw yn dywyll, ac oer, ac unig; ac os yma y rhaid i ti fod byth, a wyt ti wedi gwneyd y goreu o'r pethau sydd o fewn dy gyrhaedd? Dyma y cymoedd dyfnion, tywyll, hyn, sydd yn cyfyngu mor ofnadwy arnat, a wyt ti yn gwybod eu hciiwaii ? Y ffyrdd a'r llwybrau sydd yn myned trwy- ddynt, y tyddynod a'r tai, ynghyd a'r bobl -L-y cyfrolau newyddion rhyfeddol hyny— sydd yn preswylio ynddynt. Neu dyma yr hen fynyddoedd uchel, cribog, tal, sythion, hyn, a wyddost ti eu henwau hwy, eu huchder, eu cynwys, a'uhaenau? Acuwch- law y cwbl, dyna'r nefoedd "las-lachar," chwedi John Jones, Talsarn, neu yr yiii- brela glas teulu," chwedl Mr. Caudle, yn troi noswaith ar ol noswaith uwch dy ben a fedri di rifo rhif- edi y ser, a'u galw liwynt oil Avrth cu henwau ? Dyma faes," meddai y llais, yn dy ymyl, yn troi rhyw gymaint bob dydd, yn newydd i ryw raddau bob nos, ac yn myned o amgylch o flwyddyn i flwyddyn. Ni raid i ti ddim myned o'r cymoedd dyfu- ion hyn, nac o'r ardal dywyll hon, i gael golwg ar y rhai hyn ? Ni chyst i ti yr nil y I geiniog goch i ddyfod yn hyddysg yn ser y nef. A bydd y macs livrn yn anrhaothol eangach, os nid hefyd mwy ei swyn na'r Aipht, na Chanaan, nac America." Effeith- iodd hyn arnaf yn fawr iawn: gwneyd y goreu bob amser o'r pethau o fewn fy nghyraedd. Ymdawelais. Penderfynais v noswaith liono, os yn N ghorris y byddai yn rhaid i mi dreulio fy oes, yn hytrach nrvg I ymofidio oherwydd hyny, y gwnawn fy ngoreu i wybod pobpeth oedd o fevra fy nghyraedd, ac yn enwedig y gwnawn fwy o ddefnydd o ser y nef, ac o'r eangderau tra- gwyddol oedd uwch fy mhen. Yn ddamweiniol gwelais hysbysiad am "The Midnight Sky in London, "llyfr saith a cliw, ech, cyhoeddedig gan Gymdeith- as y Traethodau,—gan Dunkin, yn cynwys mapiau misol o'r ser fel yr ymddangosent i'r llygad noeth. Prynais ef, ac wrth fyned a 9 1 dyfod i Aberllefenni, Esgirgeiliog, a Beth- ania, difyrwn fy hun ar nosweithiau clir wrth ddysgu y ser, ac ar nosweithiau cym- ylog, trwy wylio pa seren a ddeuai i'r golwg nesaf mewn unrhyw gwr o'r nef. Nid wyf yn seryddwr: ni thybiais erioed fy mod felly; ac felly nid wyf wedi apelio am ael- odaeth yn y Gymdeithas Seryddol Gymreig. Ond cefais hyfrydwch dihysbydd o hyny hyd yn awr wrth redeg fy llygad dros ser y nef. Teimlaf eu bod yn hen gymdeithion siriol a a ffyddlawn i mi; a pha bryd bynag y profaf wg, a gwagter, eiddilwch ac anwad- alwch y byd, byddaf yn cael noddfa glyd a rhodfa dawel yn nghymdeithas uchel, eang, disglaer, a gogoneddus, y bydoedd fry. Ychydig o ddefnydd ymarferol a fu hyn erioed i mi. Ond un tro, wrth fyned i'r America, daeth yr hyn a wycldwn am y ser i mewn yn fanteisiol iawn. Ar fwrdd y City of Richmond yr oedd cyfreithiwr adnabyddus o Lundain, nai i'r Canon Girdlestone, a dyn crefyddol iawn ei hunan. Daethom yn dipyn o gyfeillion. Cyfnewidiem syniadau a'n gilydd efe yn Eglwyswr a minau yn Ym- neillduwr. Un diwmod, y mae yn dyfod ataf yn brysur iawn, gan ddweyd, Y mae Bell Cox,"—periglor St. Margaret, Liver- pool, a defodwr gor-selog-" heddyw yu y carchar. £ -Aiie?" meddwn inau. "Ydyw," meddai yntau. Pa fodd y gwyddoch chwi hyny?" meddwn inau. "0," meddai, "myli ydyw cyfrelthiwr y Church Associa- tion." Pan ddaeth y papyrau ilaw, gwelwn ei fod yn dweyd y gwir. Ar y bwrdd hefyd, yr oedd meddyg o Philadelphia wedi bod yn yr Aipht-anffyddiwr, os gwelwch yn dda a'r nos o'r blaen yr oedd wedi bod yn drwm ryfeddol ar Mr. Girdlestone am ei grefydd. Cerddai y ddau ar fwrdd y llong, a daethant ar fy nhraws inau. "Yr oecld y doctor," meddai Mr. Girdlestone wrthyf, yn brysur j iawn yn dangos y ser i mi." "Felly yn wir," meddwn inau. "Ie," meddai y doctor dacw Aldebaran, a dacw Orion, a dyna Jirius," ac yn y blaen. Gwelais ar unwaith na wyddai y Doctor ddim mwy am y ser nag a wyr twrch daear am yr haul. Bob yn dipyn gelwais sylw at y ffaith nad oedd yr un o'r ser hyny ar y pryd ar y ffurfafen. Aeth yn collapse perffaith ar y meddyg a'r aufTNTddiivr. Chwarddai Girdlcstone yn ddi- derfyn wrth weled y pregethwr yn curo yr anffyddiwr ar ei dir ei hun, a bu y meddyg gwiw mor ddistaw a'r llygoden arhydyrholl I daith o hyny i'r diwedd; cafodd c-rgyd nes oedd ei lygaidyn serenu." NODIAD.—Yr wyf wedi cadw at y ser y tro hwn or mwyn i mi beidio cyftwrdd a'r Etholiad Oyffroclinol sydd mor brysur ar droed.
YR ETHOLIAD.
YR ETHOLIAD. C wyd llanw yr etholiac1 yn uwch bob dydd o blaid Pthyddfrydwyr, a chodi wnelo nes carlo llong Ilhyddfrydiaeth gyda'r hen Weinyddiaeth ar ei bwrdd fel crew, a'u mesurau Ilhyddfrydig fol carjto gwerthfawr i borthladd buddugoliaeth. Nid oes dadi nad hyn fyddai pe deallai y wlad pwy yw ei cliyfcillion. Cadw y werin inevm tywyllwcli yw hanfod llwyddiant Pabyddiaotli, ac y mae darnguddio'r gwirionodd trwy hucl addewidion yn erthygl l)wysig yn nghyifes b t.I Ü OJ û. ffydd y blaid Doriaidd, gan broifesu bod yn gyfeillion y lliaws, tra mewn gwirionedd y maent y clynion i bob gwelliant. Mae ou hymddygiad ystrywgar tuag at Ddadgysyllt- iad yn brawf nad ydynt yugyfoillion i'r werin Ynmeillduol. Edrycha llawer ar Ym- noillduwyr fel cythreuliaid mewn cnawd, ac ar ein capeli fel Synagogau Satan. Galwant ni yn lladron a chysegr-ysbeilwyr. Di- In hysbyddaiit y geiriaduron or cael cmwau digon sarliaus a phechadurus i roddi arnom. Pa fodd, yn ohw pob rliesAvm y gall yr un Ymneilldxiwr bleidleisio i'r fath blaid ag Hydd.ar ei goreu i geisio ein dintddio l Atolwg, beth yw ymddygiad tirfeistri Toriaidd tuag yr amaethwyr ? Caiff tenant- iaid Wynnstay ateb y cwestiwn. Er iddynt trwy ddagrau daer geisio rhyw gymaint yn yn ol, y taliad diweddaf yn Machynlleth a Llanbrynmair, ni chafwyd lie i'w cwynion truain tlawd,-pa rai sydd yn gweithio'n galed yn hwyr ac yn foreu, a byw yn gynil, er cael dau ben y llinyn yngliyd. Chwysa'r amaethwr fer ei esgyrn, tra'r gelod yn sugno ei waed, a chreda rhai mai ei feisti tir yw ei gym wynaswr penaf. Ond a gred wch chwi denantiaid Wynnstay yn nghyhoeddiad di- weddaf y meistr ? Gelwir arnoch i floeddio Hwre Oherwydd dywed ef Mae'r wawr wedi tori! a'r haul i gyfodi—haul meirch a theirw, haul hyrddod a moch—haul gos- tyngiad parhaol. Ehwng gostyngiad yn eich rhenti a stock o high breed, gellwch fyw'n foethus a segur, er y golyga hyny i rywrai gadw llai o gwn a cheffylau races (?). Gwarchod pawb Y fath Shiboleth hud- olus Hyderwn na thwyllir hen adar ag us. Disgwylia llawer o amaethwyr y gwna y Toriaid osod toll ar nwyddau tramor fel ag i godi prisiau yd, defaid, gwartheg, a'r ymenyn, ac y mae cynffonwyr a paid agents y Toriaid, ac apostolion y Due o West- minster yn pregethu hyn ar hyd a lied y wlad. Cofier mai athrawiaeth rag and tail Toriaid yw hyn, ac fod arweinwyr y blaid, Salisbury, Balfour, a Hicks-Beach, wedi datgan yn bendant ei bod yn ormod o'r dydd i gynyg trethu nwyddau tramor. Felly, j ofer yw disgwyl ymwared o'r fan yna. 0 ba le y daw ynte ? Oddiwrth y Rhyddfryd- wyr, pa rai sydd yn cynyg gostwng y treth- oeth, trwy drethu ground rents a royalties, a thrwy iesur tir eang a theg yn sierhau rhenti teg, sicrwydd daliadaeth ac ad-daliad am welliantau. Dwys ystyrier hyn cyn pleidleisio. Amaethwyr, cymerwch ddysg. Ffermwyr, byddwch synhwyrol. Dyna eto Dy'r Arglwyddi. Mawr lawen- hawn wrth weled y lie amlwg a roddodd Roscbery, Harcourt, a I\Iorley, i'r iiiater hwn yn eu hareithiau. Dyma genadwri olaf yr hen wron William Ewart Gladstone wrth ffarwelio a Midlothian. Dros fod vn rhaid tori }Tsbardynau y Ty gorniesol hwnol cyn cael yr un mesur o ddiAvygiad i'r werin bobl. Ty'r Iarllod, a'r ysweiniaid, a'r gormeswyr, a'r upper ten yw y ty hwn, a'u harwyddair yw, I lav,Tr a'r werin a'r gweitlnyyr caled —asgwrn cefn y wlad." Dylai y Rhydd- frydwyr ar ol eu dychweliad, yn gyntaf o bobpeth ymosod ar yr Arglwyddi. a gwneyd eu ty yn anghyfanedd. Gwa straff ar amser, troth ar natur, gormes ar iawnder, a di- synwyr hollol yw i gynrychiolwyr y bobl i dreulio misoeedd i basio mesur drwy Dy y Cyffredin ag i Dy'r Arglwyddi ei daflu allan mown haner awr. Trech arglwydd na gwlad (?) Derbynia Ty y lnvn o gyllid y deyrnas 338,776p. bob blwyddyn, yr hyn sydd yn gyfartal i fwy na 700p. yr un. Ai ni ellid defnyddio y swm uchod i gynal tlodion ein teyrnas, a gadael i'r Arglwyddi i saefhu ieir y mynydd a phetris, a hela llwynogod? Sicr ea bod yn fwy cyfaddas i hyn na deddfu. De Idfu Nage, rhwystro gwaith. Dyma eu lianes er's nnry na dau gan mlynedd. Hob eich poeni a'u hen bechodau, gosodwn ychydig ger eich bron o'r hyn y maent yn euog 0 honynt yn ystod y tair blynedd olaf. Taflu allan YiiiroolactlI i'r Iwerddon. Diuystrio Mesur Cyfrifoldeb Meistri i'r Gweithwyr. Yr un petli i Fesur jEvictions i'r Iwerddon. Gwrthod Mesur Tir Mr. Lambert i Gymru a Lloegr. Gwneyd eu goreu i ddinystrio Mesur y LIN-Nvocli-aetli Leol drwy ei lurganio. Dywrnlai Salisbury mown cysylltiad a hwn mai darn o humbug puritanaidd oedd cadw Cwrdd Plwyf a Chynghor Plwyr mown ysgoldy yn hytrach nag mewn tafarn. Dyna syniad urddasol am foesau ein gwlad. Dyna wed'yn Fesur j i Ymneillduwyr gael tir i godi capeli. Cofier achos y Bout, Llanbrynmair. Ar yr awr olaf taflasant allan Fesur diwygio'r Etholfraint i'r Iwerddon. Bygythient gael yr anrhydedd (?) 0 osod Mesur Dadgysylltiad i Gymru, a Mesur yr Etholfraint-ull dyn un bleidlais, a'r Dewisiad Lleol, yn yr un pentwr. Dvwedodd Syr Wilfrid Lawson y dylicl codi arwydd (signJ ar dalcen Ty'r Ar-1 glwyddi gan ysgrifen arni 7 done, hay; ■Awgrvxnwn gael un arall yn ei j; hymyl, ac ami nunvn llytliyrenau breision j1 Slaughter IIousc. Y mae y fath Dy gor- mesol yn warth ar ein teyrnas. Hai ati, ethohvyr Codwn fel un gwr er gosod y Tv hwn i lawr, a daiuros :uai "trech gwlad nas Arglwydd." GWLEIDYDDWR.
[No title]
Clywsom fod cyngerdd da, a cbvstadleuaeth I I ragorol, yn Denvenlas, nos Wener diweddaf. Cynulliad lliosog iawn. Yr elw er dwyn ymaith ddyled capel Weslcvaidd Glasbwll, yr hwn sydd wedi bod o dan adgyweiriad yn ddiweddar. Mr. H. R. Humphreys, Machynlleth, ydoedd beirniad y gerddpriacth. ■■■N.
CARNO.
CARNO. BAZAAR.—Cynhaliwyd bazaar yn y lie hwn dydd Gwener, yn Ysgoldy y Bwrdd, i'r amcan o ddileu dyled adgyweirioyr eglwys, ynghyd a dodrefnu yr Eglwys a'r ysgoldy. Yr oedd nifer o stalls a gwahanol eiddo arnynt wedi eu parotoi. Y Ficer (Parch. T. E. Jones), a hys- bysodd fod angen am 140P. at yr amcanion, ac yna galwodd ar y Waddolog Arglwyddes Wynn i agor y nodachfa. Yr oedd Mrs. Humphreys- Owen, Cadben a Mrs. Adams, Mr. a Mrs. Proctor, a lliaws da o'r gviiiydogaeth a'r cylch yn bresenol, a phrofodd y lazaar yn Ihvyddiaot.