Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

õgofion am (fcorrio.I

YR ETHOLIAD.

O'R FFAU,

News
Cite
Share

O'R FFAU, GAN LLEW. Yr oedd chwareu pel yn nyddiau Harri VIII. yn drosedd ac fe gospid y chwareuwyr gan y gyfraith. Dienyddiwyd Cadben Clarijo yn San Is:bor, yn agos i Madrid yr wythnos ddiweddaf am fygwth lladd y Cadfridog Primo de Rivera. Dangosodd gadernid a diysgogrwydd mawr hyd y diwedd a plian yn sefyll o flaen y milwyr oedd i danio arno, dywedodd wrihynt am anelu at ei ben a'i galon. Cynhaliodd Annibynwyr Gogledd Ceredigion eu eyfarfod daufisol yn Bethesda, Talybont, dydd Gwener, pryd y pregethwyd gan y Parchn. D. C. Davies, Salem G. Parry, Llan- badarn J. Llewelyn. Borth; a Job Miles, Aberystwyth. Oherwydd maint y dyrfa a ddaeth yiighyd bu raid trefnu at bregethu yn yr awyr agored yn yr hwyr, yr hyn a ddylasid fod wedi ei wneyd yn y prydnhawn. Yr oedd y cyfarfod mor hapus ag oedd y dydd o hapus. Yma y gweinidogaetha y Parch. J. Davies gyda chymeradwyaeth mawr. Yn unol a'i dymuniad llosgwyd gweddillion Miss Emily Faithful yr wythnos ddiweddaf yn y crematorium yn Barlow Moor-road, Chorlton- Cum-Hardy. Y mae hyn yn myned yn fwy poblogaidd y naill flwyddyn ar ol y Hall. Yn ddiweddar gosodwyd careg sylfaen capel newydd Annibynwyr Cymreig, Ffynongroew, Sir Fflint, i lawr. Y mae yr achos gychwyn- wyd yno tua blwyddyn yn ol gan y Dr. Pan Jones, Mostyn, yn myned rhagddo yn Ilwydd- ianus. Costiodd y tir i adeiladu y capel newydd arno 39p., a chostia yr adeilad yn agos i chwe' chant o bunoedd. Llwydd iddynt eto i'w gael yn rhydd 0 ddyled. Mehefin 5ed a'r 6ed, cynhaliwyd cyfarfod ordeinio Mr. Jacob Thomas, Pisgah, Ceredig- ion, diweddar o Goleg Bala-Bangor, yn weini- dog eglwys Tabor, Cefncoedcymer. Eifion Wyn, Porthmadog, enillodd gadair eisteddfod y Llungwyn yn Llangollen, am yr awdl oreu ar Owain Glyndwr." Pedair cyfrol o'r Gwyddoniadrtr ydoedd anrheg eglwys (M.C.), Elim, Llanddeiniol, i'r Parch. W. Llewelyn Davies, y gweinidog ar yr I achlysur o'i briodas a Miss Jones, Blaenplwyf. Y mae y Parch. D. Charles Edwards, M.A., wedi ei appwyntio yn oruchwyliwry Feibl Gym- deithas dros Ogledd Cymru. Felly bu raid iddo, oherwydd yr apwyntiad, roddi fyny ofal bugeiliol eglwys yr Hope, Merthyr, er gofid i'r holl frawdoliaeth; oblegid yr oedd Mr. Edwards wedi gwneyd lie dwfn yn serchiadau pobl ei ofal a'r dref yn gyffredinol. Dymunwn longyfarch y brawd ieuanc gobeith- iol Mr. D. J. Grfffiths, Ynyslas, Borth, ar ei waith yn dyfod allan yn ail ar y rhestr drwy y Deyrnas am y gradd 0 M.A. yn Mhrifysgol Llundain. Un 0 fyfyrwyr Coleg Coffadwriaeth- ol Aberhonddu ydyw Mr. Griffiths, a cheisio cyfaddasu ei hun y mae ar gyfer y weinidog- aeth. Nid yn unig ei ardal enedigol a ddylasai fod yn falch o hono, ond yr enwad Annibynol yn gyffredinol, ie, a Cymru benbaladr. Nid ydyw efe eto ond rhyw bump ar hugain oed, ac y mae hyn yn siarad yn uchel am ei alluoedd a'i fedrusrwydd. Caffed oes hir i wasanaethu ei Arglwydd, ei wlad a'i genedl. Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth y Parch. John Jones (M.C.), Ceinewydd, yr hwn a gymeroddle boreu Llun, Gorphenaf iaf. Bu yr ymadawedig yn nychu am rai misoedd, a dioddefodd lawer yn ei gystudd blin. Ond gwnai hyny fel un yn gweled yr Anweledig, a chafodd nerth drwy hyn i ymgynal o dan ei boenau, a'i arteithiau mawrion. Brodor oedd Mr Jones o Capel Dewi, ger Aberystwyth. Dechreuodd bregethu ar gais eglwys y Dewi, yn 1833 ac yn y flwyddyn 1838, aeth i Goleg y Bala, o dan y duwinydd enwog Dr. Lewis Edwards. Wedi hyny, aeth i Edinburgh, a cheir fod vmhlith ei gyd-efrydwyr yno, wyr enwog megys Mr. "Morgan Lloyd, Q.C., a'r Parchn. Dr. Owen Thomas, a Dr. John Parry. Ar ei ymadawiad o Edinburgh, ymsefydlodd fel cenadwr yn Llandysul, ac oddiyno aeth i Castell- newydd, ac erbyn hyn yr oedd galw mawr am ei wasanaeth drwy De a Gogledd. Cymru. Wedi S gwasanaethu yn Emlyn gyda ifyddlondeb am amryw flynyddoedd, symudodd i Ceinewydd i gymeryd bugeiliaeth y Tabernacl, ar gais y frawdoliaetli, ac yma y trellliodd weddill ei oes, mewn parch ac anrhydedd mawr. Meddai ddawn nodedig i bregethu yr efengyl, ac yr oedd yn nocledig am felusdra swyn ei wcini- dogaeth. Ond ei ddiwedd yntau a ddaeth, pryd y cafodd ollyngdod at ei wobr. Gorphwys- ed yn dawel. Yn ddiweddar, bu y Parch. R. P. Roberts, Borth, yn pregethu yn Llamgamarch; a'r wythnos ganlynol, talodd ymweliad ag amryw o leoedd o fri yn y gymydogacth, megis a Cefnbrith, man fydd yn enwog tra pery haul. Oherwydd mai yno y ganwyd ac y magwyd yr enwog John Penry, y merthyr, yrhwn a roddodd ei einioes i lawr dros egwyddorion rhyddid crefyddol. Dienyddiwyd yr efengylydd gwlad- garol a duwiolfrydig hwn am bump o'r gloch y prydnhawn, ar y 29ain 0 Fai, 1593, a hyny fel pe buasai y dyhiryn mwyaf anfad, ac nis gellir edrych ar ei ferthyrdod yn ddim amgen na llofruddiaeth greulawn a gwaedlyd. Nid oes gwybodaeth sicr ymha le y claddwyd cf, canys nid oes cymaint a "chareg arw, a dwy llythyren i nodi "man fechan ei fedd." Ond y mae engyl Duw yn adnabod y fan, ac yn gwylio ei lwch. A thra y bydd enw dirmygus yr Archesgob dialgar Whitgift yn pydru, y mae enw Penry, o'r tu arall, yn perarogli; ac mae yn haeddu ei gadw mewn bri ac anrhydedd genym ni fel cenedl, tra ybydd mynydd Eppynt a Banau Brycheiniog yn sefyll ar eu sylfaeni, a'r afon Irfon yn cerdded rhwng bryniau y gymydogaeth dawel a gwledig, lie ganwyd un o ragorolion y ddaear. Fe ddywedir fod y diweddar Kilsby Jones, yn arfer tynu ei het, pan y byddis yn pasio hen amaethdy syml a diaddurn Cefnbrith, am ei fod yn teimlo fod y lie yn llecyn cysegredig, oherwydd ei gysylltiad ,1!, y ag un o'r rhai rhagoraf ymysg ardderchog lu y merthyr. Yn gyffelyb y teimlai Mr. Roberts pan yn dynesu at y fangre gysegredig, meddyliai am y tadau gwrol a dewr-galon fu yn hau hadau rhyddid crefyddol mewn dagrau, ac yn gwrteithio y tir a'u gwaed, ac fel yn ydym ni yn awr yn cael medi o'r ffrwyth, eraill a lafuriasant, a ninau a aethom i mewn i'w Hafur hwynt."

DOLGELLAU.

ABERDYFI.

ABEEGYNOLWYN.I

NODION 0 TOWYN.

CYNGHOR PLWYF CEMMES.