Hide Articles List

11 articles on this Page

Y LLYWODRAETH NEWYDD

ETHOLIAD MALDWYN.

TRO I'R AIPHT.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR. Dywedodd:- papyr y dydd o'r blaen fod addewidion ardderchog rhaglen Newcastle wedi profi fel ffrwyth y Mor Marw, ac y byddai eu chwerwedd yn aros yn hir yn y cynrychiol- aethau. Mewn cyferbyniad i'r opiniwn hwn yr ydym yn rhoddi y ffeithiau canlynol a gyhoedd- wyd gan un o'r Cymdeithasau Rhyddfrydig :â UGAIN PETH A WNAED GAN Y RHYDD- FRYDWYR. Er pan ddaeth y Rhyddfrydwyr i swydd yn 1892, y maent wedi:â i. Cario drwy Dy'r Cyffredin fesur cyfiawn a mawrfrydig o Ymreolaeth i'r Iwerddon, a fuasai yn gyfraith onibai am ryw ychydig ganoedd o bendefigion Undebaidd. 2. Pasio dwy o Ddeddfau Cynghorau Plwyf yn rhoddi i bobl ein pentrefydd yn Lloegr ac Ysgotland hawl i lywodraethu eu materion eu hunain, ac yn dodi etholiad gwarcheidwaid y tlodion ar seiliau poblogaidd drwy Lloegr oil. 3. Cario drwy Dy'r Cyffredin Fesur Cyfrifol- deb Meistriaid; eithr fe fynai Ty'r Arglwyddi ganiatau cytuno oddiallan i'r mesur, fel y bu raid tynu y mesur yn ol, am ei fod felly yn ddiwerth. 4. Pasio deddf i reoleiddio oriau gweithio gwasanaethyddion y ffyrdd haiarn, yr hon a wellhaodd amgylchiadau miloedd o weithwyr ar y ffyrdd hyny. 5. Pasio deddf i ddarparu ar gyfer addysg plant deillion a byddar. 6. Pasio deddf i gynyddu y symiau a gan- iateir fel buddsoddiadau yn Manciau Cynilo y Llythyrdy. 7. Pasio Cyllideb 1894, yn yr hon y gosod- wyd i lawr am y tro cyntaf fod trethiad ychivanegol i'w ddwyn gan y rhai allai fforddio i'w dalu oreu. 8. Pasio Deddf Cydraddoliad Trethi (Llun- dain), drwy yr hon y rhyddheir rhanau tlotaf Llundain oddiwrth drethi trymion ar draul y rhanau cyfoethocaf, y rhai hyd yma a ddi- angasant rhag dwyn eu cyfran deg o'r baich. 9. Pasio deddf yn gorfodi cyflogwyr i hysbysu damweiniau. 10. Pasio deddf yn rhoddi amddiffyn helaethach i gyfranddalwyr mewn cymdeith- asau adeiladu rhag twyll. 11. Pasio deddf i ychwanegu diogelwch bywyd ac aelodau y rhai a weithient mewn chwareli. 12. Mynu ar fod plentyn pob rhiant a geisiai hyny yn cael addysg rydd a bod ysgolion yn iachus, digon o faint, yn cael eu drenio yn briodol, &c. 13. Penodi nifer o weithwyr ymarferol yn arolygwyr cynorthwyol ar law-weithfeydd, ac am y tro cyntaf erioed, penodi merched i ar- olygu y galwedigaethau lie y fcyflogir merched. 14. Gwneyd ymchwiliad i grefftiau peryglus ac afiachus, fel y gellii ffurfio rheolau i am- ddiffyn y gweithwyr. 15. Cynyddu 30,000p. bob blwvddyn ar gyf- logau y gweithwyr a gyflogir gan y Llywodr- aeth, cwtogi oriau llafur pob dyn a bachgen a weithia yn llaw-weithfeydd a gweithdai Swyddfa Rhyfel a'r Llythyrdy a'r Dociau, i wyth awr yn y dydd, a rhoddi cyflogau ac oriau yn ol safon yr undebau crefftol i'r gweithwyr yn South Kensington a Bethnal Green. 16. Creu Swyddfa Lafur o Fwrdd Masnach gyda "Greal Llafur" misol, yn rhoddi hys- bysrwydd llawn am gyflwr gwaith yny Deyrnas Gyfunol, a chynorthwyo, gyda help Arglwydd Rosebery a'r Swyddfa Lafur, i setlo dadl fawr y glowyr yn 1893, a dadl fawr y cryddion yn 1895. 17. Penodi' nifer 0 weithwyr yn ynadon yn y bwrdeisdrefi, a dechreu ymwneyd a'r meinciau sirol. 18. Cynyddu yr hwylusderau i fuddsoddi a thynu arian 0 Fane Cynilo y Llythyrdy, ac i drosglwyddo cyflogau morwyr, gan estyn y gyfundrefn i weithredu mewn parthau tramor. 19. Diddymuyrheol a waharddai wasanaeth- yddion y Llywodraeth ymuno ag undebau crefftol. 20. Penodi dirprwyaethau i chwilio i'r dir- wasgiad amaethyddol, a chyflwr y tlodion oedranus. Nid rhyfedd i Mr. Chamberlaio gyfaddef nas gwyddai am Lywodraeth yn ystod yr haner canrif diweddaf a basiodd gymaint o fesurau o bwysigrwydd ag a gariodd y Llywodraeth ddi- weddar. Yn ein nesaf rhoddwn y Rhaglen Ryddfrydig am y dyfodol. Y PETHAU WNAED I GYMRU GAN Y RHYDDFRYDWYR. Er pan ddaeth y Rhyddfrydwyr i swydd yn 1892 y maent wedi: Sefydlu Cyfathrofa Cymru. Penodi y Ddirprwyaeth Dir Gymreig. Penodi Dirprwyaethau Chwarelyddol. Penodi Cymry yn is-arolygwyr swyddogol i'r chwarelau. Cydnabod yr iaith Gymraeg yn rhan 0 addysg elfenol a chanolraddol. Addaw io,ooop. at Goleg Aberystwyth. Penodi Cymro, Mr. Gwenogfryn Evans i chwilio i mewn i hen law-ysgrifg^ Cymreig anghyhoeddedig, a rhoddi grant at Cyhoeddi yn Gymraeg gyfieithiad o Ddeddf y Llywodraeth Leol (cynghorau dosbarth a phi wyf, ac wedi hyny y rheolau safonau ar gyfer y cyfryw gynghorau. Rhoddwyd y rhyfel-long fwyaf fedd Prydain i'w hadeiladu yn Nghymru. Gwneyd trefniadau i b] -t,- u roed ar diroedd wast yn Nghymru, ddechreu yn Sir Feirionydd. Penodi Dirprwywyr i ymchwilio i elusenau mewn gwahanol siroedd.

YR ETHOLIAD AGOSHAOL.

A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. ..

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

MACHYNLLETH.

PIGION.

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…