Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y LLYWODRAETH NEWYDD
Y LLYWODRAETH NEWYDD Y mae y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfod i swydd, a Dadgorfforiad y Senedd yn cymeryd Ile dydd Mawrth nesaf. Nid oes dim neillduolion yn perthyn i'r Weinyddiaeth. Mae 8 neu 9 o honi yn aelodau o Dy'r Arglwyddi. Yr hen gang sydd oruchaf eto, ac nid oes gwaed newydd ynddi cyffelyb i'r diweddar Argl. Randolph Churchill. Mae'n wir fod Mr. Chamberlain yn aelod o honi, ond cymer fwy nag sydd ynddo ef i lefeinio y clamp toes Tori- aidd. Mae y penodiadau wedi eu gwneyd y fath nas disgwyliwn iddynt dori dim tir newydd na myned allan o'r hen rigolau. Ar y cyfan, lie yr oedd aelod wedi cymeryd rhyw fater yn destyn astudiaeth, mae hwnw wedi cael sw dd sydd yn hollol ddieithr iddo. Mae Mr. Chamberlain wedi cymeryd llawer o ddyddordeb yn Mesur Cyfrifoldeb Meistriaid, ac yn y cynyg- ion o blaid yswiriant i'r hen a'r meth- edig, a chyflafareddiad, a gallesid dis- gwyl felly y buasai ynysgrifenydd Car- trefol er mwyn eu cario allan, ond yn lie hyny gwnaed ef yn Ysgrifenydd y Trefedigaethau. c- 1- Ymddengys fod Arglwydd Salisbury wedi rhoddi cymaint a allai o ddognau marweiddiol i bob aelod o'r Weinydd- iaeth yn eu penodiad, fel y mae yn hawdd gweled y siomiant a gaiff y wlad os estynir ei bywyd. Yn mhellach, gwelwn ddiystyrwch bwriadol yn cael ei ddangos tuag at yr Iwerddon, gan fod yr Ysgrifenydd Gwyddelig yn cael ei gau allan o'r Weinyddiaeth. .I Y mae delw Arglwydd Salisburyyn amlwg ar y Llywodraeth, yr hwn sydd yn un o'r gwleidyddwyr culaf a mwyaf rhagfarnllyd y ganrif. Ni rydd ef unrhyw ryddid na breintiau i'r boblog- aeth o'i wirfodd, a phan y rhydd hyny dan ddirwasgiad, teifl ddirmyg a gwawd amben y rhai a'u derbyniant. Gall wneuthur addewidion amwys a lledrithiol am fesurau bychain, ond ni ddug byth yr un mesur arwrol i iachau y cancr sydd yn ysu rhan fawr o ddos- barthiadau y wlad.
ETHOLIAD MALDWYN.
ETHOLIAD MALDWYN. Y mae yn sicr y bydd yr etholiad yn nhrefi a Sir Drefaldwyn yn galed i'r oithaf, a 'da genym fod y blaid Eyddfrydig yn myned i'r frwydr yn galonogol. Mae (: Mr. Owen C, Philipps, heblaw ymwoled a'r gwahanol drefydd wedi declireu anerch ei etholwyr, ac y mae yn debyg o wneyd ymgeisydd cryf. Y mae ansawdd ei Eyddfrvdiaeth i'w weled wrth y mesurau a bleidia, sef Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys ac Ymreolaeth i'r Iwerddon. Mao y mesurau hyn yn faen- prawf yn awr. Pwy bynag sydd yn gywir ar y pynciau liyn, gellir penderfynu eu bod yn iawn fel rheol ar bob pwnc arall. Bwriada Mr. Humphreys-Owen anercli yr etholwyr trwy'r holl sir. Bu yn cynal eyf- arfodydd yr wytlmos hon yn Blaenypant a Penegoes.. Cynlielir cyfarfod mawr yn Machynlleth ar y lOfed o'r mis hwn, pryd y disgwylir y G. 0. M. Thomas Gee, ac eraill, ynghyd a'r ymgeisydd i fod yn bresenol. Y mae gan Mr. Humphreys-Owen hawliau arbenig ar ei etholwyr. Mae wedi bod yn hynod o lafurus a ffyddlawn yn ei ddyled- swyddau yn y Senedd ac oddiallan iddi. Nid oes yr un bloidlais y gollir ei alw i gyfrif am dani. Syrthiodd y Llywodraeth ddi- weddaf trwy ddiffyg yr aelodau Rhyddfrydig zn yn "pârio," ond gofalodd of wnoyd. Nid aelod mud ydyw ychwaith yn y Senedd, ond sieryd a chaiff wrandawiad parchus. A ollir dweyd cymaint a hyn am Mr. Robert Wynn pe digwyddai iddo weled oi hun yno ? j Mae Mr. Humphreys-Owen wedi cymeryd dyddordeb dwfn yn symudiadau y sir. Cymerodd y rhan flaenaf ynglyn ag addysg amaethyddol a'r Ysgolion Canolraddol, ac fel cadeirydd y Cynghor Sirol o'r dechreu, n t71 t, mae wedi ei ddwyn i gysylltiad agos ag anghenion v Sir. Efe gymerodd lo Mr. Rendel fol cadeirydd Cyngrhair Rhyddfryd- ig Gogledd Cymru. Y mae yn Rhyddfryd- wr greddfol ac o argyhoeddiad, ac er nad yw ei areithiau yn cynyrchu llawar o dan, ceir ef bob amser yn rhestr y diwygwyr mwyaf blaenllaw. Hyderwn y deffry yr ar- weinwyr a'r etholwyr at eu gwaith, fel na choller yr eisteddle hon, ac fel yr enillir y bwrdeisdrefi hefyd. Buasem bron ag an- obeithio am ddyfodol Maldwyn po byddai i'r fath drychineb gymeryd lie ag i'r ddwv gynrychiolaeth fyn;d yn Doriaidd. tOnd credwn fel arall, y daw yr etholwyr o ddydd i ddydd yn fwy byw i'w rhwymodigaeth i ddychwclyd y ddau ymgeisydd Ehyddfrydig i'r Senedd gyda mwyafrif sylweddol. b
TRO I'R AIPHT.
TRO I'R AIPHT. GAN GOUOXWY JOXES. V.- Y Ty Teulu. Y mae y rhieni, yn enwedig y mamau, yn awyddus iawn am i'r plant briodiyniouainc. Yn fynych ni bydd y ferch ond deuddeg i bedair ar ddeg, a'r mab ond pedair ar ddeg i un ar bymtheg oed pan yn priodi, a threfuir y cwbl gan y rhieni neu berthyuas- au, neu rhywun a benodir ganddynt, yn bur debyg fel y gwnaeth A bran am pan yn anion ei oruchwyliwr Eleazar i chwiiio am wraig i Isaac. Yr wyf yn coilo unwaifch fod Hobort Owen, Ehyl, mewn Sassiwn plant yn gofyn, "Paham na buasai Isaac va myned i ciiwi;io am wraig ei hunt' A' ateb parod ydoedd "Am oi fod Yll rhy swii." Na, nid folly ychwaith; nid am fod Isaac yn rhy swil, ond dyna" arfery wlad," ac felly y mae hyd heddyw i fesur mawr yn yr Aipht. Ni bydd y gwr ieuanc o bosibl erioed wedi gweled gwyneb ei ddyweddi; ni pherthyn iddo wybod pa un ai hagr a'i hardd yw ei gwedd cyn ei phriodi. Rhaid mai rhyw foment ofnadwy ydyw hono i'r llane pan y mae yr hon a ddewiswyd yn wraig iddo gan hen ar- ieriad creulon cry' ar fin datguddio ei gwynebpryd iddo am y tro cyntai erioed. Pa fatl-i un ydyw hi tybed? Pa un ai ei eharu neu ei chashau a wna ? Beth fydd ei theimladau hithau tuag ato ef ? Yn fynych y mae yr olwg gyntaf yn tori'r ddadl am byth. Gwelsom rai wedi eu dwyn ynghyd fel hyn, ac yn byw yn eithaf dedwydd. Bryd arall bydd yr olwg gyntaf ar y briodas- ferch yn troi yn siomedigaoth chwerw i'r priodfab, nes peri iddo ei chashau a chas cyfiawn, ac amboll un yn meddu digon o wroldeb, i ymwrthod yn hollol a hi, ac o fewn chwe' diwrnod yn ol eu harfor hwy, y mae ganddo hawl i'w hysgaru ond am y fercli druan, nid oes ganddi hi hyd y gwn i hawl i ddweyd ie na nage yn y mater o gwbl. Nid oes yno yr hyn yr edrychwn ni tD arno fel Cwrs o garu (court shipJ. Dim lover's lanes na moonlight rambles. Nid yw yn weddus yno i'r ddau ryw gyfeillachu a'u gilydd. Gresyn fod yn unrhyw wlad arfer sydd yn amddifadu ei hieuenctyd o swyn a melusder gwanwyn bywyd. Y mae y plant yno rywfodd yn myn'd yn bobl cyn gorphen bod yn blant. Y mae llanciau a llancesi yn ddiau yn ol trefn natur i fwyn- hau cymdeithas eu gilydd, ac ni ddylai fod arnynt gywilydd gwneyd hyny yn ngwyneb haul a llygad goleuni. Ar adeg Priodas fe welir rhw(vsg a helynt rhyfeddol hyd yn yn nod mown teuluoedd cyffredin, bydd nifer y gwahoddedigion yn lliosog iawn, ac ystyr- ir gwrthod neu ddiystyru y gwahoddiad yn sarhad o'r mwyaf ar y teulu. Gwelsom amryw o orymdeithion priodasol, y morwyn- ion a'u lampau, gwisgoedd y briodas, bydd y gwledda a'r dawnsio yn parhau amddydd- iau lawer, Ar amser Genedigaeth, yn enwedig y cyntafanedig, mawr fydd y disgwyliad a'r pryder, a ehwerw iawn fydd y siomedigaeth os mai morch ac nid mab fydd y cyntafanedig, ac nid ydynt yn meddwl am gelu y digter a deimlant. Yr oeddwn yn canfod golwg pur gynhyrfus ar un o'r gweision un diwrnod, a dywedai yn ddirodres ei drafferth wrthyf, sef fod' geiiedigaeth ar gymeryd lie yn y toulu. Y dydd canlynol daeth at ei orchwyl yn drist iawn, ac ni fynai ei gysuro. Melldithiai bawb a phob- peth, yn enwedig ei fam-yn-nghyfraith a phriod ei fynwos ei hun a dyna'r paham, merch a anwyd iddo ac nid mab. Gwrth- odai fyned i'w golwg hi na'r baban diniwed, a thraifertli fawr a gafwyd ei ddwyn i'w iawn bwyll. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng Plant yr Aipht a phlant Cymru. Bum. yn sylwi arnynt yn ceisio chwareu, ryw chwareu dwl di-amcan. Nid ydynt erioed wedi dysgu chwareu pel, top, marbles, na chyleh; ac yn sicr un o'r pethau cyntaf ddylid ei wneyd yn yr Aipht ydyw dysgu y plant i chwareu, ac yr wyf yn deall fod cryn lawer wedi ei wneyd yn y cyf- eiriad hwn drwy ddylanwad Prydain yn ystod y blynyddoedd diweddaf. Ceir ysgol- ion wedi eu sefydlu yma a thraw, yn mha rai y mae yr egwyddor o Addysgu drwy ddifyru yn cael oi lie priodol. Y mae yr Aipht fol Cyniru yn dechreu dyfod i ganfod mai y llwybr mwyaf effeithiol, ie, mai llwybr natur i ddadblygu a diwyllio meddwl y plentyn ydyw drwy ei ddifyru. Ehyfedd mor an- niben yr ydym ni hyd yn nod yn y wlad hon gyda hyn. Y mae yr Education Department yn amlwg o ddifrif gyda'r pwnc y dyddiau hyn fel y dengys y eylchlythyr diweddaf at arolvgwyr ysgolion ei Mawrhydi, ynglyn ag object lessons, ac yn sicr da fyddai i athrawon y plant yn yr Ysgolion Sabbotliol dalu mwy o sylw i hyn. Dylem gymeryd poon a thrafferth i barotoi ymborth i foddwl a chalonau y plant. lrxndrechu gwneyd y wers mor ddeniadol a dyddorol ag sydd bosibl i'r rhai bach, heb hyny nis gellir disgwyl iddi fod yn effeithiol. Un o'r pethau cyntaf dynodd fy sylw ydoedd eyfhvr y plant bach. Y boreu cyntaf wedi i ni gyrhaedd yno, aethom i non y ty i weled y wlad oddiamgylch, a chlywn swn plant. Gweliv, n nieivi-i gardd odidog ynglyn a phalas prydfertli gerllaw nifcr o blant yn rhyw lun o chwareu. Yr oeddynt yn haner noetli, a golwg hynod o ddiymgelodd ac aflan arnynt Cefais fod y tad yn wr o gyfoeth ac mewn saile uchel yn y ddinas, ac fod yr hyn a ym- ddangosai i mi yn gyflwr truenus y plant i'w briodoli nid i ddiftyg gofal ond i gariad y rhieni atynt. Credant fod rhyw Ysbrydion Afian a'u llvgaid beunydd ar blant prydferth a a glan, ac mai yr unig ffordd i ddiogelu plant rhagddynt ydyw drwy beidio eu hym- goleddu. Y mae y gwcision brodorol yn ar- swydo wrth weled plant yr Ewropeuid yn cael eu mynych olchi, ac yn disgwyl beunycld i'r ysbrydion eu poeni a'u cystuddio. Ni wyr plant yr Aipht ond ychydig os peth am oruchwyliaeth y dwfr a'r sebon. Mynych y gwclir honeddigcs wedièi gwisgo .mewn sidanau drudfawr, a'i gorchuddio a thlvsau arian ac aur a gernau gwerthfawr ynmarch- ogaoth mewn oerl v;, 1I11. ar anifail, a plilentyn bychan caipiog ac aflan yr olwg arno yn ei mynwes, a hwnw o bosibl ei chyntafanedig, a chanwyll ei llygaid.
GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.
GWAITH Y RHYDDFRYDWYR. Dywedodd:- papyr y dydd o'r blaen fod addewidion ardderchog rhaglen Newcastle wedi profi fel ffrwyth y Mor Marw, ac y byddai eu chwerwedd yn aros yn hir yn y cynrychiol- aethau. Mewn cyferbyniad i'r opiniwn hwn yr ydym yn rhoddi y ffeithiau canlynol a gyhoedd- wyd gan un o'r Cymdeithasau Rhyddfrydig :— UGAIN PETH A WNAED GAN Y RHYDD- FRYDWYR. Er pan ddaeth y Rhyddfrydwyr i swydd yn 1892, y maent wedi:— i. Cario drwy Dy'r Cyffredin fesur cyfiawn a mawrfrydig o Ymreolaeth i'r Iwerddon, a fuasai yn gyfraith onibai am ryw ychydig ganoedd o bendefigion Undebaidd. 2. Pasio dwy o Ddeddfau Cynghorau Plwyf yn rhoddi i bobl ein pentrefydd yn Lloegr ac Ysgotland hawl i lywodraethu eu materion eu hunain, ac yn dodi etholiad gwarcheidwaid y tlodion ar seiliau poblogaidd drwy Lloegr oil. 3. Cario drwy Dy'r Cyffredin Fesur Cyfrifol- deb Meistriaid; eithr fe fynai Ty'r Arglwyddi ganiatau cytuno oddiallan i'r mesur, fel y bu raid tynu y mesur yn ol, am ei fod felly yn ddiwerth. 4. Pasio deddf i reoleiddio oriau gweithio gwasanaethyddion y ffyrdd haiarn, yr hon a wellhaodd amgylchiadau miloedd o weithwyr ar y ffyrdd hyny. 5. Pasio deddf i ddarparu ar gyfer addysg plant deillion a byddar. 6. Pasio deddf i gynyddu y symiau a gan- iateir fel buddsoddiadau yn Manciau Cynilo y Llythyrdy. 7. Pasio Cyllideb 1894, yn yr hon y gosod- wyd i lawr am y tro cyntaf fod trethiad ychivanegol i'w ddwyn gan y rhai allai fforddio i'w dalu oreu. 8. Pasio Deddf Cydraddoliad Trethi (Llun- dain), drwy yr hon y rhyddheir rhanau tlotaf Llundain oddiwrth drethi trymion ar draul y rhanau cyfoethocaf, y rhai hyd yma a ddi- angasant rhag dwyn eu cyfran deg o'r baich. 9. Pasio deddf yn gorfodi cyflogwyr i hysbysu damweiniau. 10. Pasio deddf yn rhoddi amddiffyn helaethach i gyfranddalwyr mewn cymdeith- asau adeiladu rhag twyll. 11. Pasio deddf i ychwanegu diogelwch bywyd ac aelodau y rhai a weithient mewn chwareli. 12. Mynu ar fod plentyn pob rhiant a geisiai hyny yn cael addysg rydd a bod ysgolion yn iachus, digon o faint, yn cael eu drenio yn briodol, &c. 13. Penodi nifer o weithwyr ymarferol yn arolygwyr cynorthwyol ar law-weithfeydd, ac am y tro cyntaf erioed, penodi merched i ar- olygu y galwedigaethau lie y fcyflogir merched. 14. Gwneyd ymchwiliad i grefftiau peryglus ac afiachus, fel y gellii ffurfio rheolau i am- ddiffyn y gweithwyr. 15. Cynyddu 30,000p. bob blwvddyn ar gyf- logau y gweithwyr a gyflogir gan y Llywodr- aeth, cwtogi oriau llafur pob dyn a bachgen a weithia yn llaw-weithfeydd a gweithdai Swyddfa Rhyfel a'r Llythyrdy a'r Dociau, i wyth awr yn y dydd, a rhoddi cyflogau ac oriau yn ol safon yr undebau crefftol i'r gweithwyr yn South Kensington a Bethnal Green. 16. Creu Swyddfa Lafur o Fwrdd Masnach gyda "Greal Llafur" misol, yn rhoddi hys- bysrwydd llawn am gyflwr gwaith yny Deyrnas Gyfunol, a chynorthwyo, gyda help Arglwydd Rosebery a'r Swyddfa Lafur, i setlo dadl fawr y glowyr yn 1893, a dadl fawr y cryddion yn 1895. 17. Penodi' nifer 0 weithwyr yn ynadon yn y bwrdeisdrefi, a dechreu ymwneyd a'r meinciau sirol. 18. Cynyddu yr hwylusderau i fuddsoddi a thynu arian 0 Fane Cynilo y Llythyrdy, ac i drosglwyddo cyflogau morwyr, gan estyn y gyfundrefn i weithredu mewn parthau tramor. 19. Diddymuyrheol a waharddai wasanaeth- yddion y Llywodraeth ymuno ag undebau crefftol. 20. Penodi dirprwyaethau i chwilio i'r dir- wasgiad amaethyddol, a chyflwr y tlodion oedranus. Nid rhyfedd i Mr. Chamberlaio gyfaddef nas gwyddai am Lywodraeth yn ystod yr haner canrif diweddaf a basiodd gymaint o fesurau o bwysigrwydd ag a gariodd y Llywodraeth ddi- weddar. Yn ein nesaf rhoddwn y Rhaglen Ryddfrydig am y dyfodol. Y PETHAU WNAED I GYMRU GAN Y RHYDDFRYDWYR. Er pan ddaeth y Rhyddfrydwyr i swydd yn 1892 y maent wedi: Sefydlu Cyfathrofa Cymru. Penodi y Ddirprwyaeth Dir Gymreig. Penodi Dirprwyaethau Chwarelyddol. Penodi Cymry yn is-arolygwyr swyddogol i'r chwarelau. Cydnabod yr iaith Gymraeg yn rhan 0 addysg elfenol a chanolraddol. Addaw io,ooop. at Goleg Aberystwyth. Penodi Cymro, Mr. Gwenogfryn Evans i chwilio i mewn i hen law-ysgrifg^ Cymreig anghyhoeddedig, a rhoddi grant at Cyhoeddi yn Gymraeg gyfieithiad o Ddeddf y Llywodraeth Leol (cynghorau dosbarth a phi wyf, ac wedi hyny y rheolau safonau ar gyfer y cyfryw gynghorau. Rhoddwyd y rhyfel-long fwyaf fedd Prydain i'w hadeiladu yn Nghymru. Gwneyd trefniadau i b] -t,- u roed ar diroedd wast yn Nghymru, ddechreu yn Sir Feirionydd. Penodi Dirprwywyr i ymchwilio i elusenau mewn gwahanol siroedd.
YR ETHOLIAD AGOSHAOL.
YR ETHOLIAD AGOSHAOL. Datganiad a wnaed, mewn ffurf o bender- fyniad, yn NghynnadleddCymanfayr Annibyn- wyr a gynhaliwyd yn Mhenybontfawr, Mehefin, 1895:- Fod y Gynhadledd hon yn dymuno galw sylw mwyaf ystyriol Etholwyr Annghydffurfiol Sir a Bwrdeisdrefi Maldwyn, at yr argyfwng gwleid- yddol pwysig y mae y wlad wedi ei thaflu iddo mor ddiangenrhaid ac annisgwyliadwy ar hyn o bryd ac yivy rhagolwg y bydd i'r Senedd bresenol gael' ei dadgorffori yn ddioed; yn apelio yn y modd mwyaf taer a di- frifol ar i holl etholwyr ymneillduol Maldwyn i weithredu yn yr etholiad cyffredinql, pdd wrth y drws mewn ufudd-dod cyson a ffyddlondeb diwyrni i'r egwyddorion cysegredig a broffesir ganddynt, a thros y rhai yr ymdrechodd ac yr hunaiiaberthodd y Tadau. A hydera na byddo i neb wrando ar haeriadau amrwd ac amheus y rhai a geisiant eu hyd-ddenu i fradychu achos mawr rhyddid gwladol a chrefyddol, yr hwn a gostiodd mor ddrud i'r gwroniaid y mae eu coffadwriaeth mor fendigedig, ac na ddalier hwynt drachefn o dan iau caethiwed. Yn unig Ymwrolwch a byddwch wyr
A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. ..
A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. [Y GENINEN.] Mae rhifyn Gorphenaf allan yn brydlon, ac fel arfer, mor llawn a phlisgyn wy o fater a hwnw yn amrywiol a dyddorol. Tlws a thyner yw Colled Elfed, fel pob- peth ddaw dan ei law. Dyddorol iawn yw trydedd ysgrif y Parch. D. Griffith ar Ber- thynas yr enwad Annibynol a Llenyddiaeth Gymreig. Degys fod yr enwad wedi ac yn bod yn hynod fyw i lenyddiaeth Gymreig yn mhob agwedd arni, yn enwedig barddonol a chylchgronol. Cynwysa ysgrif yr hynafgwr o'r Cadnant gyhuddiadau difrifol yn erbyn pob enwad cre- fyddol yn Nghymru, gan gymeryd yr Eglwys Sefydledig i'r bwndel. Y mae Piser Alis," D. Samuel, M.A., fel llenllian Pedr, yn cynwys amrywiol goginfwyd; ond yn anhebyg i hono, anhawdd iawn deall y cysylltiadau, ac yn enwedig amcan y "weledig- aeth" hon. Trwy dryblith y duwiau yn eu cartrefi yn myd Anian, yn myd y meddwl, ac yn y byd moesol, yr arweinia ein hen gyfaill Baldwyn ni, ac ymddengys yn eu plith fel yn ei hen gynefin. Tueddfryd y bardd i bersonoli gwrthddrychau ar bob llaw yw ei fater. Esiampl deilwng o efelychiad bechgyn llafur a geir yn ysgrif dra darllenadwy Gwynedd ar y diweddar Elis Wyn 0 Wyrfai." Ysgrif ddyddorol iawn geir gan yr hybarch Dewi Ogwen ar Beryglon ieuenctyd oddiwrth bleserdeithiau," yn cynwys rhybuddion amser- ol a phftodol. Da y gwnelai ieuenctyd Cymru ddal arnynt. Nid yw yr uchod ond sampl" o'r grawn geir ar werth yn y rhifyn. Argymhellwn y Gejiinen yn galonog ar ieuenctyd ac eraill. 1). IFOR JONES.
ABERDYFI.
ABERDYFI. DAM WAIN.—Cyfarfu Mr. H. Jones, Cae- ceiniach, Pennal, a damwain bwysig dydd Gwener. Tra yn cario sached o guano i'w gert syrthiodd rhwng yr olwyn a'r gert, a thorodd ei goes a'i fraicii. Mae yn gorwedd mewn sefyllfa beryglus. YMWKLWVR.—Lied wag yw y lie hwn eto o ddieithriaid, ond y mae llawer iawn o'r tai wedi eu gosod at ddiwedd y mis hwn a thrwy fis Awst. Diau y dywed yr etholiad dipyn ar hyd y tymor yn y lie nwn a lleoedd eraill. TRIPS.—Bu y Saeson, fel y gelwir hwynt, yn mwynhau eu hunain eleni fel Ysgol Sul yn Dinas Mawddwy,—lie dymunol a phrydferth ond trodd y tywydd allan braidd yn anffafriol. Ymdrecha y Cymry Ymneillduol gael undeb er mwyn myned i le go bell, a siaredir am Ffestiniog a Llangollen. YR AGERDDLONG. Da gan laweroedd yn y lie hwn oedd clywed y newydd fod yr agerlong Telephone wedi cael 35op. am achub y llong Arno rhag myned ar y sarn, er y teimlir y dylai y caclbcn gael Ilawer ychwareg nag a gafodd. Rhanai y barnwr y swm fel y canlyn :-perchenogion, 2oop.; cadben, 501. a'r dwylaw ioop.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. Nos Lun, daeth y newydd i'n tref fod Joseph Mee, mab i Mr. Mee, fishmonger o'r dref hon, wedi boddi tra, fe ddywedir, ar ei gychwyniad adref o Awstralia. Ni chawsom ddim o'r manylion. Cydymdeimlir a'i rieni yn fawr. GYNGHERDD.—Mehefin 25ain, cynhaliwyd cyngherdd yn yr Ystafell Gyhoeddus gan Gym- deithas Gorawl Idris. Yn y rhan gyntaf o'r cyngherdd dadganwyd Gweddi Habbaccuc (J. A. Lloyd) y-i ail ran yn amrywiaethol. Cymerwyd rhan ynddo gan Miss Gertrude Hughes, R.A.M., Miss Ada Hughes, Mri. Taliesin Davies, J. T. Thomas, Talsarnau Evn James, Ganllwyd, a G. Pierce. Siomwyd y gynullcidfa drwy abscnoldcb Mr. Maldwyn Humphreys, A.R.A.M., a Mr. O. O. Roberts, yr arweinydd, y rhai oeddynt yn dioddef dan afbehyd. Cafwyd cyngherdd rhagorol ar y cyfaii, a diweddwyd drwy ganu yr anthem genedlaethol. LLWYDDIANT.—Cymro o'r enw Norman Jones, o Ddolgellau, enillodd y gold medal am ganu Italian song yn y Gystadleuaeth Gyd- genedlaethol yr wythnos ddiweddaf yn y Royal Agricultural Hall, Llundain. Cyflwynwyd y rhodd iddo gan Madam Patti. Cyfyngwyd nifer yr ymgeiswyr i 24, a rhoddwyd chwe' munyd 0 amser i bob un.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. YMWELWYR.-Mehefin 25ain, daeth aelodau Ysgol Sul Tabernacl, Aberystwyth ar ymweliad a'r dref. Aeth nifer o honynt gyda'r trên i Gorris, tra y treuliodd y lleill yr amser mewn cerdded gwmpas, a chaniatawyd iddynt yo garedig gan yr Ardalyddes Londonderry i gerdded rhodfeydd y Plâs. Nid oes nemawr ddarpariaeth yn cael ei wneyd yn y dref ar gyfer y cyfryw ddieithriaid, er fod Machynlleth er's tro wedi cael manteision trefydd glany m6r ynglyn A tocynau gan gwmni y Cambrian* DAMWAIN.-Dydd Sadwrn diweddaf, tra yr oedd tren Corris yn rhedeg rhwng gorsaf Mach- ynlleth a Phont-ar-Ddyfi, neidiodd caseg ber- thynol i fferm y Ffridd dros y fence i gyfeiriad ei llwdn a safai y tu arall i'r rheilffordd, a daeth i wrthdarawiad 4'r peiriant, yr hyn a brofodd yn farwol iddi. Onid yw yn warth fod yr anifail heb ei chladdu hyd yn hyn, ac felly yn cael ei gadael yn wrthddrych atgas ac afiach yn y lie ?
PIGION.
PIGION. Mae Mr. Humphreys-Owen wedi penodi Mr. John Rowlands, cyfreithiwr, Mach- ynlleth yn brif oruchwyliwr iddo yn yr etholiad agoshaol. Mewn cyfarfod o'r Gymdeithas Geidwadol a gynhaliwyd yn Nolgellau, dydd Mawrth diweddaf, dewiswyd Mr. C. E. J. Owen, Hengwrt Uchaf, yn ymgeisydd Toriaidd dros Feirion yn yr etholiad. Y mae cryn sylw yn cael ei dalu y dydd- iau hyn i ymddygiad y tirfeddianwyr tuag at eu tenantiaid pan delir y rhenti ar y blyn- yddau gwasgedig hyn. Os digwydd i un o safle Syr Watkin wrthod rhoddi dim yn ol yn nhaliad yr ardreth, y mae hyny yn gefn- ogaeth i lawer o dirfeddianwyr llai i wneyd yr un fath. Mae yn naturiol ymholi ar adeg yr etholiad hwn pa fodd mae yr ymgeisydd Rhyddfrydig, Mr. Humphreys-Owen wedi gweithredu. Y ffaith yw y mae wedi rhoddi yn ol i'r holl denantiaid ar ei etifeddiaeth yn ol 15 punt y cant y taliad diweddaf, yn gystal ag am y blynyddau diweddaf.
LLYFRAU am Bris Gostyngol.…
LLYFRAU am Bris Gostyngol. -:0:- Am Bedwar Swllt a Chwe' Cheiniog. Geiriadur Saesneg a Chymraeg, R. J. Piys. 7s. Mynegair Ysgrytliyrol, Parch. Peter Wil- liams. Gs. 6c. Banau Duwinyddiaeth Hodge. 6s. Gemau Duwinyddol, Parch. R. Jones, Llan- llyfni. 6s. Am Haner Coron. Y Weinidogaeth, Dr. J. Hughes. 4s. Duwinyddiaeth Naturiol, Dr. Palev. 5s. 6c. E lwards ar Ryddid yr Ewyllys. 6c. E Iwards ar y Pechod Gwrciddiol. 3s. 6e. Y Pregethwr a'r Gwrandawr, Pareli: It. Wil- liams. 3s. Ge. Rhyfeddodau Natur a Chelfyddyd, Hughe. 3s. 6c. Cydymaith yr Ysgiytliyr, Parch. J. Hughes. 3s. 6c. Yr Eglwys o Ddifrif, Parch. J. A. James. 3s. 6c. Gemau Duwinyddol Americanaidd, T. Gee. 3s. 6c. Cofiant a Gweithiau Ieuan Gwynedd. 3s. Ge. Cyfatebiacth Butler. 3s. 6c. Grammadeg Cymraeg, J. Mendus Jones. 3s. 6c. Dr. Owen ar yr Ysbryd, Glan. 3. 6c. o ,.iau gyda'r lesu, Parch. 0. Evans. 3s. 6e. Arwoinydd y Gwr Ieuanc, Parch. J. A. James. 3s. 6c. Tr igwyddol Orphwysfa'r Saint, Baxter. 3s. 6c Traethawd ar Babyddiaoth, Parch. Robert Jones. 3s. 6c, Cy-ioildeb y Pedair Efongyl, Dr. Robinson. 3sti 6c. Elfenau Daearyddiaetli, Parch. D. Hughes, B.A. 3s. 6c. Corph Duwinyddiaeth Paterson. 3.s. 6c. Am Ddau Swllt. Hanes Bvwvd Icsu Grist, T. J. Hughes. 3s. Y Ty a'r Teulu, S. M. M. 3s. H i-uos yr Athrawiacth Gristionogol, Dr. J. Hugi-ies. 3s. Twr Dafydd, Dr. W. Roos. 3s. Emynau y Cyssegr, T. Gee. 3s. Sefyllfa Ddyfodol, Dr. Dick. 3s. Oydymaith i'r Myfvriwr Cristionogol, T. Gee. 3s. Am Ddeunaw Ceiniog. Hanes Bywvd H. M. Stanley. 2s. 6c. Gwaitli Barddonol Ieuan Madog. 28. 6c. Llyfr y Resolution, Dr. Davies, Mallwyd. 2s. 6c. Drycli Prophwydohactli, Parch. J. 2s. 6c. Ninifeh, A. II. Layard. 2s. 60. Esboniad ar Marc a Luc, T. Gee. 2s. 4". Esboniad ar Matthew, T. Goe. 2s. Darlithiau ar Seryddiaeth a'r Boibl, Dr. Chalmers. 2s. Detholiad o Y sgrifoniada u Charles Caei^ fyrddin. 2s. Llyfr y Gyfraith, T. Geo. 2s. Ar werth gan MORRIS TIIOMAS, BRIDGE STREET, CORBIS.