Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Y LLYWODRAETH NEWYDD

ETHOLIAD MALDWYN.

News
Cite
Share

ETHOLIAD MALDWYN. Y mae yn sicr y bydd yr etholiad yn nhrefi a Sir Drefaldwyn yn galed i'r oithaf, a 'da genym fod y blaid Eyddfrydig yn myned i'r frwydr yn galonogol. Mae (: Mr. Owen C, Philipps, heblaw ymwoled a'r gwahanol drefydd wedi declireu anerch ei etholwyr, ac y mae yn debyg o wneyd ymgeisydd cryf. Y mae ansawdd ei Eyddfrvdiaeth i'w weled wrth y mesurau a bleidia, sef Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys ac Ymreolaeth i'r Iwerddon. Mao y mesurau hyn yn faen- prawf yn awr. Pwy bynag sydd yn gywir ar y pynciau liyn, gellir penderfynu eu bod yn iawn fel rheol ar bob pwnc arall. Bwriada Mr. Humphreys-Owen anercli yr etholwyr trwy'r holl sir. Bu yn cynal eyf- arfodydd yr wytlmos hon yn Blaenypant a Penegoes.. Cynlielir cyfarfod mawr yn Machynlleth ar y lOfed o'r mis hwn, pryd y disgwylir y G. 0. M. Thomas Gee, ac eraill, ynghyd a'r ymgeisydd i fod yn bresenol. Y mae gan Mr. Humphreys-Owen hawliau arbenig ar ei etholwyr. Mae wedi bod yn hynod o lafurus a ffyddlawn yn ei ddyled- swyddau yn y Senedd ac oddiallan iddi. Nid oes yr un bloidlais y gollir ei alw i gyfrif am dani. Syrthiodd y Llywodraeth ddi- weddaf trwy ddiffyg yr aelodau Rhyddfrydig zn yn "pârio," ond gofalodd of wnoyd. Nid aelod mud ydyw ychwaith yn y Senedd, ond sieryd a chaiff wrandawiad parchus. A ollir dweyd cymaint a hyn am Mr. Robert Wynn pe digwyddai iddo weled oi hun yno ? j Mae Mr. Humphreys-Owen wedi cymeryd dyddordeb dwfn yn symudiadau y sir. Cymerodd y rhan flaenaf ynglyn ag addysg amaethyddol a'r Ysgolion Canolraddol, ac fel cadeirydd y Cynghor Sirol o'r dechreu, n t71 t, mae wedi ei ddwyn i gysylltiad agos ag anghenion v Sir. Efe gymerodd lo Mr. Rendel fol cadeirydd Cyngrhair Rhyddfryd- ig Gogledd Cymru. Y mae yn Rhyddfryd- wr greddfol ac o argyhoeddiad, ac er nad yw ei areithiau yn cynyrchu llawar o dan, ceir ef bob amser yn rhestr y diwygwyr mwyaf blaenllaw. Hyderwn y deffry yr ar- weinwyr a'r etholwyr at eu gwaith, fel na choller yr eisteddle hon, ac fel yr enillir y bwrdeisdrefi hefyd. Buasem bron ag an- obeithio am ddyfodol Maldwyn po byddai i'r fath drychineb gymeryd lie ag i'r ddwv gynrychiolaeth fyn;d yn Doriaidd. tOnd credwn fel arall, y daw yr etholwyr o ddydd i ddydd yn fwy byw i'w rhwymodigaeth i ddychwclyd y ddau ymgeisydd Ehyddfrydig i'r Senedd gyda mwyafrif sylweddol. b

TRO I'R AIPHT.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

YR ETHOLIAD AGOSHAOL.

A&ol]jj}ia £ t 11 Maag. ..

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

MACHYNLLETH.

PIGION.

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…