Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TYLLAU'R COED, CORRIS.

O'R FFAU,

Jldcjofton am ihoxxxsi,

"MANION. --

[No title]

CORRIS.

News
Cite
Share

CORRIS. Cafodd Frank, ail fab y Parch. R. J. Edwards, ficer, Corris, ei ethol i freintiau ac arhosiad yn St. John's Foundation School, Leatherhead. BWRDD YSGOL.-Cyfarfod arbenig, Mehefin i8fed. Presenol, Mri. M. Roberts, cadeirydd; W. R. Williams, is-gadelrydd; Rd. Williams, Rhys Owen, a D Ifor Jones, clerc. Dywedai y cadeirydd i'r clerc ac yntau fyned i ysgol Aberllefenni ddydd yr Arholiad, ac i'r arholydd eu hysbysu nas gallai ganiatau y deng punt grant yclxwanegol eleni, ohcrwydd fod y nifer o athrawon yno yn rhy fach i ateb i ofynion y ddeddf. Anogai y Bwrdd i nodi merch i ofalu am adran y babanod, yn y classroom, a gadael William Thomas Jones gyda'r dosbarth isafyn yr ysgol. Yn unol a hyn penderfynwyd fod Alice Hughes, Garneddwen, i fyned yno, a Ceridwen Jones i fod yn ysgol Corris fel pupil teachers. Penodir un i ofalu am y gwnio yn Aberllefenni yn y cyfarfod nesaf, ynghyd ag un i lanhau yr ysgol.

ABERMAW.

ABERDYFI.