Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TYLLAU'R COED, CORRIS.

O'R FFAU,

Jldcjofton am ihoxxxsi,

"MANION. --

News
Cite
Share

MANION. Cafodd Shon Gorph ei ddiwrnodmawr "lladd mochyn yn Dolgellau yr wythnos o'r blaen. Tyrai y tyrfaoedd o bell ac agos. 4 Canmolid y pregethau yn ddieithriad. Sythodd Shon yn ofnadsen gan droi gwyn ei lygaid ar anerchiad yr Hybarch Thomas Gee i'r gweinidogion ieuainc. Dywedai bethau rhy lym ar ysmocio a dirwest i foddio rhai, a rhai phethau rhy geidwadol ar y fugeiliaeth i foddio eraill. Mor anhawdd eu boddio yw pechaduriaid Cafodd Shon Sentar yntau ei ddiwrnod mawr lladd mochyn yn y Dinas. Yno y bu Davies, Trelech, yn cordeddu brawddegau a synwyr, Henry Rees yn nofeleiddio gyda swyn, Elfed yn planu blodau, ac Owen fel twrf tonau ar danau calonau y dyrfa. Dywedir fod' lie iawn.i ddau beth yn y Dinas, sef gweinidog da, a diwygiad yn y canu. Pity garw fod yr eglwys mewn dyled i gwrnni y gledrffordd. O'r anwyl, y fath grcnic/cs gormesol yw Cwmniau Ceidwadol cledrffyrdd Dymunaf longyfarch Mr. Edward Rees, Machynlleth, a Dr. Edwards, ar eu dyrch- afiad haeddianol i'r fainc ynadol dros Sir Drefaldwyn. „ Cafodd canwyr Annibynol y cylch eu di- wrnod mawr lladd mochyn mewn canu yn Machynlleth. Emlyn Jones oedd yr arweinydd, ac arweinydd campus ydyw hefyd. Canmolid y .canu yn fawr. Sibrydai rhai nad oedd pob eglwys wedi parotoi yn deilwng. Gwisged yr esgeulus y cap, a diwygied rhagllaw. Tra'yn son am Machynlleth. Mae y si ar led mai toriaidd i'r eithaf yw ymddygiad y trefwyr yn ethol eu gilydd yn llywodraethwyr ar yr Ysgol Ganolraddol gan anwybyddu a snobio pobl y wlad. Os gwir hyn, nid drwg fyddai i bobl y wlad anfon eu plant i Towyn a manau eraill er mwyn eu snobio hwythau. Y mae a pha fesur bynag y mesuroch yr ad- fesurir i chwithau yn ysgrythyr. Ffair wael oedd yr olaf yn Machynlleth. Prisiau gwartheg a cheffylau yn gostwng. Pa ryfedd, gan fod cymaint o angen gwlaw. Y mae llawer Tori yn- sicrhau y ceir gwlaw bellach ar ol i Salisbury gael y(awenau i'w law Pa un ai yn Salisbury neu yn y B6d Mawr y mae gan y Toriaid fwyaf o ffydd Àtebedy neb a fedr y cwestiwn. Y mae tenantiaid Syr Watkin yn bwrw allan gythreuliaid -am et galongatedwch 'yn gomedd taBu dim yn ol yn yr ardreth y tal diweddaf. Gweddiaf am i hyn fod yn agoriad llygaid i'r amaethwyr druain nad tirfeddianwyr Toriaidd sydd yn debyg 0 fod yn waredwyr iddynt. Amaethwyr, cymerwch ddysg. Cwyrx am wiiNN7 sydd i'w glywed yn nxhob | rhan o'r wlad. Y mae wedi myned yn Sour mewn difrif. Gofynai rhywun, Pa le mae Ar. glwydd Dduw Elias y dyddiau hyn ? Fy ngof- yniad i yw, Pa le y mae gweddi Elias ? Pe caem ni weddi Elias, v, niae Duw Elias i'w gael eto. Tybed nad yw yn llawn bryd bellach i'r holl cglwysi i gynal cyfarfod ymostyngiad i y weddio am wlaw ? Beth y mae Cynghor Plwyf Talyllyn wcdi ei wneyd o'r dechreu heblaw gwella llwybr y Braich ? Yn ol yr adroddiad o'r Cynghor di- weddaf, ni wnaed nemawr heblaw hysbysu nad oedd y pwyllgorau wedi gwneyd cu gwaith, ac oedi sylw pellach ar y materion, er i'r Cynghor barhau am oriau. LLu *0 siarad a mwy o waith, os gwelwch yn dda at y dyfodol. CLUSTFEINIWR.

[No title]

CORRIS.

ABERMAW.

ABERDYFI.