Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TYLLAU'R COED, CORRIS.

O'R FFAU,

News
Cite
Share

O'R FFAU, GAN LLEW. Y mae dynion hunanol yn ddiystyrwch i ddoethion, yn syndod i ynfydion, yn eilunodi weithwyr, "ac y gaethion i'w hyxxxff'rost eu hunain, medd rhywun. Yn 87ain mlwydd oed ymadawodd yr Is-filwriad Steward, Brynhyfryd, Penmaen- mawr, a daearwyd yr hyn oedd farwol o hono yr wythnos ddiweddaf. Rhyw ddisgwyl am fuddugoliaeth y mae Toriaid bwrdeisdrefi Arfon yr Etholiad nesaf. Meddienir hwy gan hyder cryf yr enillant y sedd oddiar y Jolly good fellow o Criecioth, a cheir fod Ir: Ellis Nanney, dewis ddyn y blaid, wrthi yn brysur yn canvassio. Yn nghyfarfod blynyddol pregethu Wesley aid, Tre'rddol, a gynhaliwyil dydd Gwener diweddaf, y Parclm. D. 0. Jones, a Hugh Jones, oedd y brodyr fu yn gwasanaethu, ac yn ol yr hanes a gyrhaeddodd i'r Ffaxi yr oedd y weinidogaeth yn fachog, a min- iog, a'r gwrandawiad yn astud. Mae dau o wyr enwocaf v pulpud Anni- bynol wedi derbyn galwadau taeriori yn diweddar, sef, y Parchn. D. Adams, B. A., Bethesda, a Parri Huws, B. D., Ffestiniog. Y naill i hen eglwys barchus Grove Street, Liverpool, a'r llall i Pencader ac Alltwalis, yn nghyfundeb Ceredigion. Nid oes sicr- wydd eto beth ydyw bwriad y gwyr hyn o berthynas i'r cais a ddaeth hyd atynt. Cylioeddir yn awr mai brodor o lan afon Cych, sydd yn arllwys ei hun i'r Teifi ger- llaw Genarth, ydyw H. M. Stanley, ac mai Howel Jones yw ei enw, a'i fod wedi bod yn cydchwareu pan yn blant a'r Parchedig Dr. Herber Evans. Beth nesaf? AYrth rodio i fyny ac i lawr heol aniben ac afluniaidd y Borth y dydd o'r blaen eanfyddwn yma ac acw laweroedd o ddi- eithriaid, ac yn ymddangos fcl pe yn lllwyn- hau eu hunain yn ardderchog, yn en wedi g y rhai oodd ar y traeth digymhar. Ond rhyw ochelyd eu cyrn braidd oedd y rhai a gerdd- ent yr heol arw. Da oedd genyl ddeall fod y preswylwyr yn dechreu deffro ychydig o berthynas i'r ffordd, a'u bod yn parotoi ei chalon i gael icatering-cart yn ddioed, er dyfrhau yr heolydd yn ddyddiol. Dyna rywbeth xxxegis y drlai fod, a cheir gweled yn fuan drwy yr anturiaeth fod xxxeddyg- iniaeth wedi ei sicrhau. Da chwi, y Borth- iaid morwrol, deffrowch yn gyflawn, ac na chysgwch, hyd oni wnewch y Borth yn un o'r lleoedd mwyaf atdyniadol i ddieithriaid yn ystod tymor yr haf ar wvneb daear. Os na ellwch sicrhau gwelliantau drwy eich Cynghor Plwyfol, cychwynwch, od yn bosibl, Fwrdd Lleol i chwi eich hunain, ac yna chwi a gewch yr hyn fydd yn angenrheidiol er wantais a lies y pentref yn gyffrodiuol. Y Cardies am gymanfa bregethu, fe sibrydir fod tua saith mil ynghyd ar y maes yn nghymanfa Glynarthen, ac eto, myn rhai ddweyd fod Ymneilduaeth yn diflanu yn gyflym o'r tir. Wfft i haerllugrwydd y rhai ddaliant i ddweyd ac vsgrifenu y fath ynfydrwydd. Yn ddiweddar, talodd arholydd ei Mawr- hvdi ymweliad a Choleg Aberystwyth, ac y mae yn llawen genyf alln cofnodi fod cymaint o'r efrydwyr Normalaidd wedi pasio mor llwyddianus mown cerddoriaeth. Llwyddodd 22 o honynt i gael full marks, tra v cafodd yr iselaf .35 allan o 50. Wrth y result hon safant yn gydradd ag unrhyw -1 r3 goleg yn y deyrnas. Y noson cyn, yr ar- y holiad, rhoddodd Mr. McKnaught ddarlith ar "Addysgu Cerddoriaeth yn yr ysgolion 0 dyddiol, a'r dull goreu i gyrhaedd hyny." Yr oedd y ddarlith yn un wirioneddol dda. Penodwyd y Parch. Canon Silvan Evans, rheithior Llanwrin, yn ganghellydd Eglwys 71 Gadeiriol Bangor, yn lie y diweddar Barch. Thomas Briscoe, ficer Caergybi. Yn llaw Esgob Bangor yr oedd y penodiad hwn, a da genym ei fod wedi syrthio arun mor gymwys Yr oedd gilvan yn teilyng-u wneuthur o honynt hyn iddo. r: Yn nghyfarfod blynycldoL Undeb y Bed- yddwyr, yr hwn a gynaliwyd yr wythnos ddiweddaf yn Hwlffordd, pasiwyd miiKw o benderfyniadau pwysig, acyn eu plith eu bod yn eydymdieriiiiilo z^t'r-Arm'eii-iiaid. Beth ddywedai darllenWvr y NEGLTYDD •pe gwelent un o blwyfi. y Canolbarth yn yr un eyflwr a phlwyf Bedlingfield yn swydd Suffolk. Y mae yno eglwys ond heb un ficer,'ysgol hefyd ond heb feistr na meistres ynddi, ac am ddeg Sabbath olynol, ni bu un math o wasaiiaeth yn yr Eglwys. Gresynol dros ben. Ond os oedd y gni-asanaeth ar strike, yr oedd y degwm yn cerdded. Pw3r a amhena mwyach had ydyw Tiberog yn un o wyr yr awen, pan ddarllena yr englyn a ddanfonodd mewn' atebiad i wahoddiad a dderbyniodd i gyfarfod lie y bwriedid cyflwyno tysteb i Eos Dar. Yr oedd y bardd yn orweddiog pan ddaeth y gwahoddiad ato, yn dioddef gan goes wedi ei niweidio drwy ddamwain. Fel y canlyn yr atebodd:— u Slap i lawr daeth slip o lo,—a morddwyd Mewn mawr ddig wnaeth daro, O'r adeg hono rhodio—sydd feiclius, A hynod beenus yw'r hen Dib heno." Go dda yr hen Dib, onide? Dymunwn longyfarch y Parch. D. C. Davies, Salem, ger Aberystwythar ei dde- wisiad yn gadeirydd Bwrdd Ysgol Trefeirig. Y mae ynddo y cymhwysder angenrhoidiol i'w llanw i foddlonrwydd. Beth bynag ellid ddweyd am ragoriaethau y Gymanfa yn Exeter Hall, gellir dweyd ei bod yn gymanfa ddi-fwg; oblegid ni ehan- iateid ysmygu gan delerau y gosodiad. Eitliaf peth. Y mae bwlch eang.eto wedi cael ei wneyd yn nxysg gweinidogioh y pwlpud Bedydd- iedig, yn symudiad y Parch. J. P. Williams, Pontlottyn, i wlad well. Yr oedd wedi dringo yn uchel fel pregethwr, lienor, a gwleidyddwr. Ganwvd ef yn Bronhaul, Sir Gaerfyrddin, ar y 23ain o Ebrill, 1828. Derbyniodd ei addysg golegawl yn Nghaer- fyrddin, ac ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llanelian, Dinbych, yn 1853. Syiltudod(I aii-irvw weithiau; ond maes ei lafur am y 34ain diweddaf oedd Soar, Pontlottyn, lie y cyflawnodd waith efengylwr. Bu farw mewn tangnefedd ddydd Iau, Mehefin 20fed, a chladdwyd ef yn mynwent y Bargoed, ddydd Llun canlyn- ol, yn nghanol arwyddion o alar cyffredinol. Mewn C yfarfod Chwarterol -a. gynhaliwyd gan Annibyiiivyi- Doheiibarth Morganwg yr w_ythnos o'r blaen, gwnaed yn hysbys gan yr ysgrifenydd fod yn y dosbarth 37 0 eglwysi, 29 o orsafoedd pregothu, 6,673 o aelodau, 7,773 o aelodau o'r Ysgol Sul, 9,806 o wrandawyr, a 18,310 o eisteddle oedd. Beth ddywed yr esgobion am hyn tybed? Dyna bilsen arall, ond diau ei bod fel llawer un arall yn rhy fawr i'w llyncu. Yr oedd y Llew yn bwriadu galw sylw at lawer o bethau eraill, ond y mae y cenawon yn dechreu rhuo yn ofnatsen, ac felly rhaid ymatal hyd y tro nesaf.

Jldcjofton am ihoxxxsi,

"MANION. --

[No title]

CORRIS.

ABERMAW.

ABERDYFI.