Hide Articles List

8 articles on this Page

TYLLAU'R COED, CORRIS.

News
Cite
Share

TYLLAU'R COED, CORRIS. Er dangos tueddiad a pharodrwydd y Cymro at farddoni, yr wyf yn anfon yr hanesyn hwn fel y trosglwyddwyd ef i mi gan fy nhad. Yr oedd dwy bone islaw Pencaecoch, lIe y gweithid Hechau yn Twll Coed Isaf. Nis gallai y wagen ddyfod am lwyth i'r bone uchaf. Oherwydd hyny byddai raid i'r dynion gario'r ceryg i'r un islaw, ac weithiau ar frys mawr. Yn eu plith yr oedd William Edwards (Gwilym Padarv), yr hwn nad oedd ganddo duedd i ufuddhau o'i fodd. Gwyddai ei gydweithwyr am ei gastiau. Yn mhell cyn llawn llwytho, pan o dan ei faich cwynai yn dost fod pigin wedi ei daro, ac meddai "pigin, pigin, bobl anwyl, tyned rhywun hwn oddiar fy nghefn, neu bydd i'r pigin fy lladd." Darfu i rywun mwy tyner galon na'r cyffredin dynu'r ceryg oddiar ei gefn a llwyddodd yntau i ymlwybro i wal gyfagos, He y bu yn ochain am beth amser oherwydd y pigin. Ond yn fuan ymuniawnodd, a sylwodd rhywun fod ganddo grewyn, a'i fod yn ysgrif- enu rhywbeth arno. a phan oedd y gwaith iar ten, eisteddodd Gwilym yn lied syth ar y drafal,' a dyma fe yn dweyd yn bur hyglyw Chwerw yw bod mewn chwarel-yn cario, Ceryg o le uchel; 0 mor dost ar Gymro del Ymboeni heb 'run banel." Ac yn ol ei arfer hynod dywedai, Hy dal o." Yr oedd y gweithwyr wedi mwy na haner maddeu iddo ar bwys ei englyn doniol. E. Y. WILLIAMS (gynt o Pencaecoch).

O'R FFAU,

Jldcjofton am ihoxxxsi,

"MANION. --

[No title]

CORRIS.

ABERMAW.

ABERDYFI.