Hide Articles List

27 articles on this Page

YD.

Masnacb Yd yr Wythnos.

Y Dadforiou

Advertising

PARC Y FAENOL YN ERBYN Y BANGOR…

RYDAL MOUNT (COLWYN BAT).…

LLANDUDNO YN ERBYN BANGOR.…

COLEG NORMALAIDD BANGOR YN…

YSGOL SIROL LLANDUDNO YN ERBYN…

T CO LEG NORMALAIDD (BANGOR)…

Racing Fixt.

Bangor Tide:, raW

Lighting-Up., Time. 1~■-■—-

---Ffeirau: Bangor.

Ffeirian. Mon am 1904. amIR04.

CARNARVON.

Yn NghesailOerAnghy sur

News
Cite
Share

Yn NghesailOerAnghy sur CHWESL SYNHTBFPS. (Wedi ei Chymreigio gan Elidirfab). PENOD I. FFARWELIO A'R HEN GARTREF. "Yna yr ydych chwi wedi gwneuthur eich meddwl i fyny yn derfynol. Miss Evans?" gofynodd yr hen gyfreithiwr. Yr oedd ei !ais ef yn ffurfioi, ac ychydig yn galed ei don, ond yr oedd lleithder ar wydrau ei yspectol. yr hon a dynodd efe ac a i glanhaodd yn brysur. "Oh, ydwyf." Edrychodd Clara Evans i fyny gyda fflachiad brvsur o ddiolchgarwch yn goleuo ei llvgaid ei hunan. Yr oedd hi yn ffugr alarus yn ei gwi.*g o fowrning trwm, a'i dwylaw addfain yn gafael yn ochrau ei gown clu. Ie, dwylaw tra dihelp hefyd oeddynt yn edrych- ond dwylaw digon cymhwys i lodes ag yr oedd rhag- luniaeth fawr y Nef hyd yma wedi bod yn dirion iawn wrthi o'i mabandod, ond nid oeddynt o fawr wasanaeth i'r hon rhagllaw ag y byddai vn rhaid iddi ddibynu arnynt am ci bara beunyddiol, er mai ychydig ydoedd hi yn sylweddoli hyny y pryd hwn. ond eto dyma ydoedd y sefyllfa ag yr oedd y lodes ynddi yn awr. "Yr vdwyf yn dra diolchgar i chwi a Mrs Wil- liams," hi a siaradai yn mlaen, "ac crfyniaf i chwi ddiolch droswyf i'ch gwraig. Ond, yr ydych yn gweled nas gallaf aros yn y gymydogaeth tra bydd vr arwerthiad yn cvmeryd lie. ac v liiae MissElliott vn garedig wedi ysgrifenu v bydd yn rhaid i mi ddyfod i Lundain ati hi. ac aros hyd yr amser a fynaf fi." "Rhaid i chwi roddi i mi eich cvfeinad newydd, efe a ddywedodd. "Oh, rhaid, wrth gwrs. Yr oeddwn wedi anghofio hyny. Y mae arnaf ofn nad ydwyf eto wedi sylweddoli mai hwn ydyw y dydd olaf i mi fod yn yr hen gartref." Yr oedd y geneu anwyl. teimladol. yn dirgrynu, a dagrau yn ymgasglu yn brvsur i'r Uygaid ag y oeisiai hi eu cuddio rhag trem graff, ond caredig, ei chvdymaith. Nid ydoedd neb ond Clara Evans ei hunan vn gwybod pa beth ydoedd ystyr llawn yr orfodaeth i droi allan o Plas Ifan, lie yr oedd wedi bod yn pres- wylio drwy yr oil o'i bywyd ieuengaidd. Nid oedd ei bywyd hi wedi bod yn fywyd ffasivnol v rhan fwyaf o lodesi o'i hoed a i sefyllfa. Ond yr oedd ei thad a hithau wedi hoffi llawer ar fywyd syml y wlad, ac yr oedd dyddordeb y lodes wedi ei ganol-bwvntio yno byth er v pryd y daeth hi o'r ysgol yn ddiwedd- ol i gymeryd i fyny ei sefyllfa fel cydymaith ei thad unig a meistres ei dy. Ac vn awr yr oedd pob prydferthwch a berthynai i'r lle-yr ystafelloedd gwasgarog. v grownds llvdain, pob anifail ag a adwaenai ac a hoffai yn ymddangos fel pe yn achosi iddi ofid ffres. Y boen waethaf o'r oil ydoedd meddwl am yr ar- werthiant a gymerai le yr wythnos ddilvnol. am y dyeithriaid a drampient drwy yr hen ystaf noed.j anwvl, ac a gynygient am v pethau a fu yn dduwiau teuluaidd yr Evansiaid, ac a'u prynent i fyned a hwy yn mhell ac yn agos, am yr hen gartref a basiai ymaith i feddiant dyeithriaid. a'r lie y byddai i'r hen enw a'r hen deulu gael eu hanghofio yn fuan. Eto, gyda yr holl feddyliau trist hyn, nid oedd ganddi yr un meddwl i feio ei thadâei thad truan, ffol. vr hwn ydoedd wedi bod yn achos o r cvfan, ond yr hwn oedd yn huno ei hun olaf yn awr yn y fynwent fechan ar y bryn. Onid am ei "speculations" ef ni fuasai yr un angen am hyn, ac ni fuasai raid iddi adael ei hen gartref, a cheisia un arall yn mysg dyeithriaid. Ond yr oedd efe wedi gwneuthur y cyfan gyda'r meddwl goreu, fel ag y gwyddai hi. Ei erfyniad cyn marw am faddeuant, pan y daoth i wybod am r dinystr air ydoedd wedi ei goddiweddu hwy. ydoedd ddarfod iddo ef wneuthur yr hyn a wnaeth er ei mwyn h.. Er mwyn ei blentyn-i gynyddu er i mwyn hi y cyllidau prin a ymddangosent flwvddyn ar ol j blwyddyn yn lleihau y breuddwydiodd efe freuddwydion rhosynaidd o ymgyfoethogi drwy y "speculations" a ddygent lwvddiant i lawer; ac efe a anghofiodd nad oedd ganddo ef v reddf fusnesol graff. nag ychwaith y meddwl diamheus a berthynent i bobl eraill mwy ffodus yn eu hantur- iaethau. Ac os yr ydoedd efe wedi methu yn ei ymgais, ac wedi ei thynu hithau i lawr gydag ef i ddinystr. nid oedd ganddi le i'w feio, dywedodd Clara wrthi ei j hun, gan deimlo ond yn unig resyndod mawr at y dvn siomedig. yr hwn oedd ei fethiant bron wedi ei ladd ef. Ar ol i'r ergyd fawr gyntaf o ofid fyned drosodd yr oedd hi hyd yn nod yn teimlo mai gwell a fuasai iddo ef gael ei gvmervd ymaith cyn i'r gwaethaf ddi- gwydd-cyn i forthwyl yr arwerthwr a thyrfau llawer o draed swnio yn yr ystafelloedd mawrion, ac i'r hen gartref anwyl a garodd efe mor dJa fyned i ddwylaw dyeithriaid. 0 leiaf. nis gwyddai ef ddim am hyn oil, gyd3'i fanvlios poenus, caled; ac er y gwyJdai efe tod dinystr du enhuddol wedi eu goddiweddvd hwy, nid ydoedd efe yn hollol wedi sylweddoli o gwbl ei stH llawn. Hyny, o leiaf, a gadwyd oddiwtho d. ac am 1 ar. hyny yr oedd hi yn ddiolchgar. "Yna bydd i chwi anfon i mi yr hyn a fydd yn aros o'r gwerthiant ar ol i bobpeth ga"1 ei gofynai Clara, gan vmdrechu yn ga'd i t-adw ei hunan-feddiant, a llwvddodd i siarad yr. '1 uvel, er nas gallasai hi yn hollol gadw ymaith y dir:r.7J.iad bychan yn ei llais. "Ac ac efallii y Lydd yr. ngweddill ddigon i fy nghadw os y bywiaf jn dra chynil a gofalus." "Oh. yn ddiamheuol. efe a gydsyniodd, gan glino ei wddf yn ymddangosgar. a throai ei lygaid draw oddiwrth y gwyneb cariadus prudd. Mewn gwirion- edd efe a deimlai yn sicr na fyddai odid ddim iddi wedi i'r oil gael ei dalu. Yn wir, os y by'cai gwerthiant yr ystad a'r dodrefn yn nghyd ddyfod i fyny a holl ddyledion eu meddianydd diweJd-ir, byddai hyny braidd yn fwy nag y meiddiodd yr hen gyfreithiwr a gobeithio. Ond efe a'i ffcindiodd ychydig yn anhawdd i roddi yr ofnau hyny o'i oiddo mown geiriau. Ac, wedi r cwbl, onid oedd gan y plentyn truan ddigon i w ddwyn yn barod, ac nid oedd angen dweyd wrthi am yr hyn na wnai ond yn unig ei thrwblo eto yn fwy hyd nes y byddai yn rhaid ei hysbysu; ac yn ddwfn i lawr yn ei galon ef yr oedd penderfvniad a wnaeth ef er3 tro i anfon taleb (cheque) iddi yn ddistaw dan yr enw o weddill arianolâwrth gwrs. ni fyddai iddi hi, yn ei hanwybodaeth o fusnes, amheu na fyddai yn weddill gwirioncddol perthynol iddi hi ei hun- an. J Yr oedd Robert Williams a'i wraig yn gwpl di- biant. ae yr oedd efe yn fwy cyfoethog nag y meddyliai llawer o bobl ei fod ef, er ei haelioni dis- taw a didwrf. Wrth gyfranu i gyfreidiau y tlawd a'r anghenus, ni fyddai ef yn udganu o'i flaen, er mwyn cael ei folianu gan ddynion. Yr oedd ei elusen ef yn y dirgel, ac yr oedd ei Dad, yr Hwn a wel yn y dirgel, wedi tatu yn dda iddo yn yr amlwg. "Ac"-edrychai Clara i fyny yn betrusolâ"a allaf I fi gymeryd un neu ddau o bethau gyda mi, a ydych chwi yn meddwl, Mr Williams? Nid lot, chwi a wvddoch. oherwydd, wrth gwrs, yr ydwyf yn gwybod v rhaid eu gwerthu. Ond y mae bwrdd rhoswydd bychan fy mam, wrth ba un y gweithiai, a'r gist fechan, lie v cadwai fy nhad ei lythyrau. ag y carwn I eu cael. Yr oeddvnt hwy mor ffond o honynt. ac J nid ydynt rhyw lawer, ac yn gvdwvbodol nid ydwyf Ii yn meddwl eu bod mor werthfawr a rhai o'r pethau eraill. "Fy anwyl blentyn," dywedodd yr hen gyfreithiwr, ac ni ryfeddodd ef o gwbl wrth y byrbwylldra a'i harweiniodd ef i gyfarch yr uchelwych Miss Evans yn y dull tadol yna. "chwi a ellwch gymeryd pob- peth bychan o'r math yna ag y digwyddweh eu ffansio, a gellwch eu hvstorio yn fy nhy hyd nes v bydd genych le digonol i gymeryd siars o honynt." "Ac os y bydd eu hangen mewn gwirionedd i wneuthur y dyledion i fyny.' dywedodd yr hen wr wrtho ei hun, "telir am dhnynt." "Wrth gwrs," efe a ychwanegodd yn ucht-l, "? mae eich 'wardrobe' chwi eich hun, a'ch gemau p-r- sonol yn eiddo i chwi o hyd. Ni fydd i'r arwerthwr gyffwrdd a dim ag sydd yn perthvn i chwi." "Diolch i chwi1" dywedodd Clara. Hi a wenodd hyd yn nod y pryd hwn wrth gofio pa fath stoc fechan o emau oedd ganddi. Ni fu ei thad erioed yn ddigon cvfoethog i brynu iddi hi na'i mam ond ychydig o'r pethau gwychion hyny. hyd yn nod pe y buasai hi yn gofalu am danvnt, neu eu hangen i fyned i gyrddau boneddigfaidd. Ei horiawr aur fechan a chadwen, ychydig o wddf- binau a "string" o berlau, a gynwysent yr oil. "Yna bydd i chwi ddewis v pethau v mae ari-rch eisieu eu cadw, a bydd i mi weled eu bod yn cael eu symud cyn yr arwerthiant," ychwiiegoid y cyfreithiwr. "Ac edrychaf allan am dren i tiwi yfory os ydych yn wir wedi penderfynu myned i Lun- dain ?" <sGwell fyddai genyf gael myned." dywedodd Clara. "Diolch i chwi eto, ac i Mrs Williams, hefvd; ond, yr ydych chwi yn deall. onid ydych chwi. ac ni fydd i chwi feddwl fy mod yn anniolch- gar." "Ni fydd i mi yn sicr." efe a ddywedodd, yn cael ei synu gan ostyngeiddrwydd newydd y lodes, yr hon hyd yma ag ydocdd wedi dwyn yr enw o fod yn oer a balch a diddynesu ati, cymeriad ag ydoedd yn hollol anhaeddianol, ond i ba un yr oedd ei 4Aull uchelwych wedi rhoddi llawer o liw. "Os oes rhvw- beth arall ag y gallaf ei wneuthur i chwi gobeithiaf y bydd i chwi fy ngorchymyn i'w wneuthur, pe ond er mwyn eich tad," efe a ychwanegodd, fel ag y daliai i wasgu ei llaw hi yn gynes a charedig, ac yr j edrychai ar y gwyneb ieuanc, gwelw, prudd. "A, fy anwylyd, pa dywyllaf bynag y cwmwl, y mae iddo ei ymyl oleu, pe y meddem ffydd i gredu hyny; a pha beth bynag y trwbwl, v mae y 'Breichiau tra- gwyddol' o'r tu ol ac odditanodd. ac yn barod i'n hamgvlchu ni eto." Glynodd y geiriau diweddaf yna yn ei meddwl ar ol iddo ef ffarwelio a hi, a myned ymaith ar ei farch gwyn o olwg y ty. Nid ydoedd crefydd hyd yma yn meddu fawr o fywyd nag vsbrydolrwvdd iddi. Ni feddyliodd hi erioed am dani hyd nes y deffrowvd ei thad yn min marw am iachawdwriaeth i'w enaid, ac yr erfyniodd ef am help i'w chael hi. Er sefyll wrth ochr ei wely ef, a gwrando ar v dyn ag ydoedd wedi bod yn gymaint o gyfaill iddo ef ac o gynghorvdd cyfreithiol, yn ei gyfeirio ef at y Gwaredwr Mawr, yr Hwn yn unig a allasai daflu goleuni ar ddyffryn tywyll marwolaeth iddo ef, dal- iwyd hi ar y foment gan y syniad o rwydd pethau tragwyddol bwysig ag yr ydoedd hi cyn hyn wedi bod mor ddiofal o honynt. Anghofiodd hyny yn fuan iawn, ond hyd yn nod yn awr yr oedd geiriau yr hen gyfreithiwr yn deffro o'i mown eto, yr angen am rvvvbeth uwch na'i nerth ei hunan i orphwys arno. Yr oedd ei grediniaeth ef yn y "Breichiau tragwyddol" mor sicr a chryf fel ag y gwnaeth iddi hithau, hefyd, ewyllysio cael teipilo a chredu fel efe. Ac yna hi a droes ymaith yn fuan, a gwnaeth ym- drech i daflu heibio ei dymuniadau duwiolfrydig. Yr oedd llawer o bethau eto i'w gwneuthur, a'r amser yn fvr at y gwaith. Nid oedd ei phacio eto ar ben, ac yr oedd ganddi i weled fod v pethau ag y dymunai ei gwaredu o law yr arwerthwr yn cael eu dodi o'r neilldu yn barod i'w svmuel. Ond cyn y gallasai hi fyned yn ol at y pacio a rwystrwyd gan y cyfreithiwr daeth rhwystr arall, ac yn awr un nad ydoedd mor oddefol a'r llall. Daeth cerbyd "smart" i fyny, a disgynodd o hono ef yn union ddwy foneddiges, j ddwy wedi ym- wisgo mewn dillad prydferth, ac, yn wir, yr oeddynt yn rhy ordrwsiadus i'r wlad, ac yn amlwg, oddiwrth eu tebygolrwydd i'w gilydd, yr oeddynt hwy yn fam I a merch. Darfu i ymwridiad bychan liwio grudd v lodes fel ag y canfyddai bi hwynt drwy y ffenestr, ond hi a aeth yn mlaen yn dawel ddigon i'w cyfarfod, pan mewn moment yn mhellach yr hysbyswyd hwy. ac yr oedd ei symudiadau difrifol, hyfoesaidd. yn wrth- gyferbyniad grymus i ddynesiad dadvrddus y fon- eddiges henaf. "Yr oeddym ni yn meddwl y byddai yn rhaid i ni gael eich gweled chwi unwaith yn rhagor cyn i chwi fyned ymaith." hi a ddywedodd. "Y maent yn dweyd eich bod yn myned yfory. Ai gwir ydyw? Ac i ba le yr ydych cfawi yn myned? "Ydyw, mae yn hollol wir," dywedodd Clara yn dawel. "Yr ydwyf yn myned i fyny i Lundain i aros gyda hen ffrynd am amser." "Yna'n wir, felly, bydd yn rhaid i ni ddywedyd 'good bye,' dywedodd Mrs Melsom, eto gyda'r wen galed hono yn ymdroi o gwmpas ei gwefusau hi. Hyd yn nod y pryd hwnw darfu i Clara, gydag ychydig o galedwch yn ei gwefusau hi ei hun, sylwi na ddarfu iddi ofyn iddi ddyfod i ymweled a'r Grange, nag hyd yn nod fynegi dymuniad i'w gweled hi yn y dyfodol. ac etoâheb fod yn faith iawn yn olâyr oedd v foneddiges hon wedi bod yn awyddus iawn i'r lodes briodi ei mab hi, ac yr oedd hi wedi gwneuthur pobpeth yn ei gallu i yru y garwriaeth yn mlaen. Ond yr oedd hyny pan yr oedd yr Evansiaid yn cael eu hystyried yn brif deulu yn y gymydogaeth. ac yr oedd hyd yn nod eu bywyd tawel yn cael ei briodoli i ryw grintachrwydd rhyfedd ag oedd yn perthyn i Mr Evans, yn hytrach nag i'w ddiffyg moddion. Yn awr, wedi i'r methiant arianol ddyfod, yroedd pethau wedi cyfnewid yn wir. Clara yn eistedd ar ei hesmwythfainc mewn dull uchelaidd a diofalwch ymddangosiadol, ydoedd mewn gwirionedd yn dioddef arteithiau mownol tost yn ei phrofiad chwerw cyntaf o amgvlchiadau wedi cyfnewid. Pa fodd v gallai hi gadw i fyny ei sefyllfa flaenorol heb arian? Ond ni roddodd hi i'r ddrvgferch ddialgar, yr hon oedd wedi dyfod yno i'w gweled hi yn ei darostyng- iad, v boddhad o wybod fod ei hergydion wedi cyr- haedd hyd at ei chalon. Hyd yn nod pan, gyda diffyg mawr o ddoethineb. y cyfeiriodd hi at yr angenrheid- rwydd o'r arwerthiant, ac y gofynodd a ydoedd yn "wir hollol" y cynhelid hi yr wythnos ddilynol, hi a'i hatebodd yn ddigon tawel fod y poth yn berffaith wir. "Yn sicr rhaid eich bod wedi gweled v papyrau ar y parwydydd, Mrs Melsom?" hi a ddywedodd gyda pheth o swn chwerwdcr yn ei llais nas gallasai ei rwystro yn hawdd. "Y mae yn ymddangos eu bod yn mhob man, yr ydwyf yn meddwl." Crynhodd Mrs Melsom ei hysgwyddau tew yn nghyd gydag agwedd ffieiddiad a brawychdod. "Fy anwyl Miss Evans, ni edrychwn arnynt am yr holl fyd," hi a ddywedodd, er hyd yn nod y pryd hwnw fod ei llvgaid yn gwibio at y gist fechan a'i dirgel-gloerau, ag yr oedd Clara am ei chymeryd gyda hi, a phenderfynai ei phrynu am ei bod yn sicr o gael ei gwerthu yn bur rhad. "Ie, peth dychrynllyd iawn yw hyn dychrvnllyd, yn wir! Dyma y papyrau i fyny ar bob gwal a phost, o flaen eich llygaid yn barhaus! Yr ydwyf yn meddwl pe y buaswn yn eich lie chwi y buasai yn ddigon i fy lladd yn gelain gorn!" "Nis gall un farw mor hawdd," dywedodd Clara, gyda gwen fechan brudd. "Ac yr ydwyf yn meddwl yn fy achos i fod y trwbwl mwyaf yn llyncu i fyny y lleiaf." Ac yna dygwyd te i mewn, a hi a'i tywalltodd ef i'r ewpanau mor delaid a thawel a phe na buasai yn gwybod mai hwn ydoedd y tro olaf iddi i gynyg yr un croesaw yn yr hen gartrcf. Yr oedd yn ddigon gwir fod v trwbwl mwyafâ colli yr anwyl dad, yr hwn oedd wedi bod yr oil mewn oll iddi hi trwy ei holl fywyd-yn gwneuthur v gweddill i ymddangos ond fel pigiadau pinau mewn cvdmariaeth. Ond gall hyd yn nod y rhai hyn fod yn boenus, yn enwedig pan y bydd llawer o honynt; ac nid oedd yn hawdd anghofio pa mor awyddus a fu y ddynes hon am ei chyfeillgarweh ychydig amser yn ol. ac mor wahanol ydoedd ei dull heddyw. Buasai yn wahanol, wrth gwrs, pe y buasai hi yn caru Frank Melsom, oherwydd yr oedd yn amlwg fod- ei fam ef am roddi pen ar eu cyfeillgarweh hwy. Darfu iddi hi a'i chwaer ef ymgadw yn ofalus rhag crybwvll ei enw ef yn ystod eu hvmweliad, ac yma- dawsant o'r diwedd gyda ffarwel ag ydoedd yn sicr yn un derfynol. "A dyna." sylwodd Mrs Melsom, fel ag yr oedd y cerbyd yn olwyno yn esmwyth ymaith, "ddiwedd da ar ein gwaith. Gallwn ddweyd wrth Frank yn awr ein bod wedi cyflawni ei gais a galw gyda'r lodes." Yr oedd Frank ei hun yn yr Iwerddon gyda'i gattrawd, ac wedi clywed yn ddamweiniol am farwol- aeth Mr Evans. "Yr ydwyf vn fwy diolchgar nas gallaf ddywedyd," hi a ychwanegodd. "am na fu un- rhyw ymrwymiad ffurfioi. Buasai yn ddinystr i fy machgen truan. Pa beth a fuasem yn ei wneuthur?" "Efe a all ysgrifenu ati eto." dywedodd ei merch yn fyfyriol. "Yr ydwyf yn meddwl fod ganddo ef ychydig mwy o synwyr na hyny." atebodd ei mam yn llvm. "Y mae efe yn gwybod nas gall fforddio priodi gwraig dlawd, ac nid ydwyf yn meddwl y gwnai hyny. Na, ni a allwn longyfarch ein hunain, yr wyf yn meddwl, o feddu dihangfa iddo of. Efe a ddywed y bydd iddo ef gael ychydig ddyddiau o wyliau ar ddiwedd yr wythnos nesaf, ac os y bwriada ef wneuthur rhyw- beth byrbwyll bydd yn siwr o alw yma y pryd hwnw. Myfi a gymerais ddigon o ofal i wadu y sibrwd fod Clara Evans yn gsCdael v gymydogaeth, chwi a wyddoch; ac nid ydyw efe yn gwybod dim am hyny. Ac erbyn yr wythnos nesaf bydd hi wedi myned I allan o olwg i Lundain fawr; ac, yn Iwcus, nid ydym yn gwybod ei chvfeiriad yno." A Clara ar y foment hono ydoedd yn esgyn v I grisiau yn arafaidd i'w hystafell ei hun. ac yn gwenu ychydig yn brudd. Yr oedd ystrywiau ei hvmwel- yddes yn ddigon clir iddiâmor glir yn wir fel ag yr oeddynt wedi peri ychydig o ddifyrwch iddi hi er gwaethaf ei phrudd-der. Frank Melsom druan! A oedd ei fam yn meddwl mewn gwirionedd ei fod mewn angen o gymaint o ofal? A ydoedd hi yn gyfryw lodes beryglus yn awr wedi iddi fyned yn dlawd fel ag yr oedd yn rhaid gwylio na ddeuai ef yn agos iddi hi? gwylio na ddeuai ef yn agos iddi hi? Ac yna hi a adgofiodd y byddai iddynt, yn ol pob tebygolrwydd, ddisgwyl iddi neidio at gynvgiad o'r eiddo ef mewn disgwyliad am gartref iddi hi ei hun -yr oedd hyn yn beth digon naturiol i lodes ddi- gartref, dylawd, i'w wneuthur. A chyfododd v 'I gwrid balch i'w gwyneb drachefn. "Ni raid iddynt ofni," hi a ddywedodd. yn haner uchel wrthi ei bun, fel ag y plygai dros drwnc wedi haner ei lenwi ar lawr yr ystafell-wely. "Er colli Plas Ifan, a'r ystad, ni chollais ddim eto o falchder fy hynafiaid Cymreig." (I barhau.)

[No title]

[No title]

I Ofalu am y Plant. .,

Colofn y Dyddorion.

Marchnadoedd Cymreig.

Priodas yn Nghaergybi.

Gwersyllfa y Cyfflegrwyr yn…

COLEG Y BRIFYSGOL, BANGOR,…

COLEG Y BRIFYSGOL YN ERBYN…

PORTMADOC.