Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
I Pontsenni.
News
Cite
Share
I Pontsenni. Marwolaath Mr, John Aaron.—Chwitb iawn yw meddwl fod yr hen frawd adnabyddus a pharchus hwn yn ei fedd. Mae gwacter mawr ar ei ol yn yr eglwys ac yn yr ardal. Yr oedd yr ymadawedig yn un o fasnachwyr mwyaf cyfrifol y cyichoedd, ac mae trwch o brudd-der ar y rnasnachty ar ol claddu yr hen berchennog anrhydeddus. Cafodd oes faith, ond nid oedd 84 o fiynyddoedd yn ddigon i gwrdd a dymun-. iadau yr ardalwyr- Bu am gyfnod hir yn Nhrecastell ar ol dod yno o gymdogaeth Caerfyrddin. Yr oedd yn un o sylfaenwyr yr achos Annibynnol yn y lie, a bu'u ddiacon yno am flynyddoedd lawer. Nid oedd neb ffyddlonach na neb yn teimlo mwy o ddiddordeb yn yr acbos Bu o help mawr i'r eglwys newydd o'i baban- dod i fyny. Yr oedd ei symudiad i Bontsenni yn golled bwysig i'r frawdoliaeth yn Nhrecastell, ac yr oedd teimladau hiraethlawn mewn llawer mynwes ar 01 y teulu. Bu eto yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon teilwng yn Salem, Pontseuni, hyd awrei ymddatodiad, ac yr oedd yr achos yn Salem yn agos iawn at ei galon. Teimlir fod bwlch mawr ar y mar ar ol ei gladdu. Gadawodd weddw a thair o ferched hiraeth- Ion ar ei ol i gadw ei goffadwriaeth cysegredig yn wyrddlas yn y byd. Cafodd angladd anrhydeddus. Daearwyd ei weddillion marwol ym mynwent henafol Llywel. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch Volander Jones, Pentretygwyn, ac yn yr eglwys gan fleer y He. Yr oedd torf o berthynasau ya yr angladd o bell ac agos. Gwelsom amryw o weinidogion yn bresennol o wahanol enwadau, ymhlith pa rai yr oedd y Parch. Penar Griffiths, yr hwn sy'n fab chwaer i'r ymadawedig. Huned yr hen frawd yn dawel yn ei wely pridd.
MOLlANT A'R RHYFFL. I
News
Cite
Share
MOLlANT A'R RHYFFL. I GAN O. BEYNON EVANS, ABERTEIFI. I Mai a Mehefin ydyw misoedd y Cymanfaoedd Canu, a gofynwyd yn fynych y cwestiwn, Ai priodol en cynnal yn yr argyfwng presennol? A ydyw dydd o fawl yn ydweddu a rhyfel? Er yn ymddangosiadol anghymharus, ieuir mawl a rhyfel yng Nghaniedydd yr Hen Oruchwyliaeth; ac y mae amryw o'r Salmau yn nodvveddiadol o hyn, ac ymddengys eu bod wedi eu cyfansoddi ac i'w defnyddio ar adeg rhyfel. Sylwer ar yr adnodau caniynol yn y Salm olaf ond un:- 'Bydded ardderchog foliant Duw ya eu genau, a chleddyf dau-finiog yn eu dwylaw; i wneuthur arnynt y farn ysgrifenedig yr ardderchowg- rwydd hwn sydd i'w holl saint Ef. Molwch yr Arglwydd.' Y mae yna emynau fel adnodau yn gymwys i ddat- gan y teimlad ymhob sefyllfa, a da clywed am y defuydd wneir o hen emynau gan rai ar faes y gad ddysgwyd ganddynt pan yn blant, ac o bosibl yr amser hynny yn ddifeddwl, ond yn awr maent wedi dod yn werthfawr yn eu golwg, ac yn eu hatgofio o grefydd eu rhieni, ac yn rhywbeth iddynt i bwyso arnynt, a gwasanaethant fel arweinwyr iddynt at y 8 ?ddol a'r ysbrydol. Ond nid at y canu hyn y .i?ri, yn ennaf yn yr adnodau, 0nd at foliant yng nghynuUeidfa y saint, ac y mae i fod yn ganiad newydd fel tonau ac emynau yr wyl ganu flynyddol. Beth bynnag ydyw cysylltiad moliant a rhyfel, mae yn amlwg fod cysylltiad agos rhwng moliant a'r sefyllfa y mae'r rhyfel wedi ein dwyn iddi, fel y dengys y cyfadnodau yn y Salm, ac yn y rbai a'i rhag- ilaenant, ac y maent yn gymhwysiadol iawn i'r adeg bresennol. Ynddynt cymhellir moliannu'r Arglwydd am roddi bara i'r newynnog.' Cael bara, a dyfeisio ffyrdd i gael parhad ohono, yw un o brif gwestiynnau y dydd. Yr ydym wedi llwyddo i'w gael hyd yn hyn, a'n dyledswydd ydyw moli Duw am dano. Cymhellir moliant am ddadymchwel Sordd y rhai annuwiol' sef y gelynioD, neu yn ol yr esboniwr Mathew Henry, 'cynddaredd y gormesydd a'r poenwr.' Gwyddom fod y Kaisar wedi bwriadu ac y/ndrechu ein newynnu, ac y mae'r suddlongau, &c., wedi cyflawni Ilawer iawn o ddifrod; ond y mae'r cynlluniau wedi methu yn eu haoican i'n newynnu, ac yn ol pob argoelion maent yn debyg o droi allan yn fethiant. Cymhellir moliant am bed i'r gwellt dyfu ar y myoyddoedd '-am gynhaliaeth o leoedd nad oedd yn derbyn llawer o sylw, ac annhebyg iawn. Onid yw hyn yn wir y dyddiau hyn ? Y cri ydyw, Gwnewch ddefnydd ac ymdrechwch wneud pob darn 0 dir yn gydhyrcliiol. Eto cymhellir moliant oblegid Efe a gadarnhaodd fftrrau dy byrth' -am ein diogelu rhag goresgyniad. Dylem fod yn ddiolchgar am fod y mor fel mur o amgylch Prydain i'r Hwn sydd wedi addaw bod yn fur o dan o amgylch Ei bobl.' Gorchmynnir drachefn i foli yr Hwn sydd yn gwneuthur ein bro yn heddychol,' ac yn nes ymlaen, yn ol y Saesneg, ychwanegir, ni wnaeth Efe felly a phob cenedl.' Er ei bod yn rhyfel erchyll mewn gwledydd eraill, mae wedi bod, ac yn bod, yn hedd- weh yn ein gwlad ni, ac iddo Ef y bo'r clod. Cymhollir hefyd foliant yn y eyfadnodau am fen- ditbion eraill, ac anogir pawb i foli'r Arglwydd fel eu Creawdwr, ac fel yr unig fod anfeidrol deilwng o addoliad. Nis gall neb ymesgusodi drwy ddweyd nad ydyw wedi ei freiutio a Ilais, oblegid y gorchymyn yw, 'Pob perchen anadl moJianned yr Arglwydd.' A'r rhai na allant ddilyn y nodau a'r gerddoriaeth a'u lleisiau, y maent i ganu a phyncio yn eu calon i'r Arglwy dd.' Yn ol y gweledydd Esaiah, dyma ran o waith y gwir broffwyd: 'I osod jneu i apwyntio] i alarwyr Seion fae y maent oherwydd y rhyfel yn lluosog iawn y dyddiau hyn], ac i roddi iddynt ogoniant yn lie lludw, olew llawenydd yn lie galar, a gwisg moliant yn lie ysbryd cystuddiedig,' a'r auican yn y cyfan yw, fel y gogonedder Ef.' Canys megis y gwna y ddaear i'w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i'w hadau egino,' disgwyliwn yn hyderus hyd nes y gwna yr Arglwydd lor i gyfiawnder a moliant darddu ger bron yr holl genhedloedd.' Ac hyd hynny—fel y cana Hiraethog— Caersalem, mola di Dy lor, dy ddyled yw Merch Seion, dyroha glod Diddarfod i dy Dduw: Barrau dy byrth a gadarnha, A'th blant o'th fewn bendithio wna.' Yna— Heddwch! wi heddweh Ha ha! Yn un floedd O'r tir a'r moroedd hyd Nefoedd nofia.'
I Y Parch. J. 0. Williams…
News
Cite
Share
I Y Parch. J. 0. Williams (Pedrog). Bydd yn dda gan bawb o ddarllenwyr y TYST ddeall fod ein cyfaill Pedcog yn gwella yn rhagorol ar ol yr operation a gafodd byth- efnos yn ol, ao fod pob arwyddion y daw yn fuan yn gryfach nag erioed. Y mae Mr. Williams wedi gweled tywydd garw a blin yn ystod y misoedd diweddaf Loes fawr iddo oedd colli ei briod ar ol cystudd o saith mlynedd. Cyn bron fod yr ystorm honno drosodd, collodd ei ail faohgen, Mr. Henry J. Williams, yn 25 oed, wedi misoedd o gystudd. Bachgen rhagorol oodd Harri, annwyl a pharchns gan bawb. Yn ychwanegol at y profedigaethau hyn, cafodd ei fab hynaf ei gl wyto yn Ffrainc, ac y mae ar hyn o bryd mewn Home' yn Manchester. Da gennym allu dweyd ei fod yn gwella yn l'hagorol. Yn Ffrainc y mae'r bachgea ieueogaf era misoedd, ae wedi myned trwy lawer parygl. Oystuddiol iawn fa Mr. Wiiiiams ei hun am fwy na blwyddyn. Ychydig fisoedd yn ol adferodd beth fel ag i allu'n rhannol ail afael yn ei hoff waith o bregethu ond dair wythnos yn ol, wedi pregethu ym Mrymbo y Saboth cyntaf ar ol marwolaeth ei fab, daeth yr hen afiechyd yn ol yn waeth nag erioed. Cytunoddy meddygon nad oedd gobaith adferiad heb operation, a bellach y mae'r cwmwl yn elirio'n gyflym Ond oi bu'r gaeaf heb ei belydrau haf. Sirioideb mawr i'w gyfeillion oil oodd gwaith Prifysgol Oymru yn penderfynu ei anrhydeddu a'r gradd o M.A. Ofnir, modd bynnag, lias gall wella mown pryd i fyned i Fangor eleni i dderbyn yr anrhydedd. Sirioldeb mawr hefyd iddo yw y dysteb genedlaetbol sydd yn awr wedi cyrraedd Hawn £500. Bwriedir oyflwyno y cyfryw iddo mown eyfatfod cyhoeddus mor fuau ag y caniata ei iechyd iddo fod yn bresennol. Bydded hir oes i'n hen gyfaill annwyl a ffydd- Ion ydyw dymuniad pawb gafodd y fraint o'i adnabod. O. L. O.L.
Advertising
Advertising
Cite
Share
ANNWYD, PESWCH, INFLUENZA.—Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur y Gwddf, Crygni Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyg- iuiaeth, DAVIES'S COUGH MIXTURE, eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cyn- hesu'r frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pi yd yn ddigon. x/dic. a 2/9 (postage sc.).—HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. SARZINE BLOOO MIXtURE. iCROEN IACH A GWAED PUR.-Dyna'r hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau. a dim arall. Nid yw yn honni gwella popeth fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiacb ysfa, pimples, toriad allan, scurvy, doluriau pendduynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynnweh botelaid o Sar- zine Blood Mixture gan y druggist nesaf atoch, 2/9 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ych. wanegol, oddiwrth y perchennog—HUGH DAVIES, Chemist, Machynllethl
Undeb yr Annibynwyr Cymreig.…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
264 Hilda May Evans, Ysgol-y-Oapel 20 265 Blodwen Williams, Sardis, Maldwyn 20 266 Joseph Edward Gough, Bethlehem, Rhos 20 267 S. Audley Voyle, Carmel, Penrliiwoeibr 19 268 Robert Lewis Owen, Tabernacl, Lerpwl 19 269 D. Howard Lewis, Bethesda, Ton 19 270 Eluned Jones, eto 18 271 John D. Davies, Saron, Birchgrove 18 272 Blodwen Jones, Grove-street, Lerpwl 18 273 Morris Jones, Sardis, Lleyn 18 274 Ivy G. Morgan, Pendref, Llanfyllin 18 275 David Idris Williams, Sardis, Maldwyn 18 276 Brinley Bevan, Tabernacl, Hirivaun 17 277 David Owen Davies, Hermon, Treorci 17 278 Alfred L. Bees, eto 17 279 Thomas G. Needham, Rehoboth, Oomiah's Quay 17 280 Catherine W. Morgan, Penygroes, Maldwyn 17 281 Lilian Mary Astley, Pendref, Llanfyllin 17 282 Tillie Thomas, Carmel, Clydach 16 283 Muriel Jones, Tabernacl, Hirwaini 16 284 Daniel Donne Davies, Saron Birchgrove 16 285 Mary Catherine Roberts, Bwlchtocyn 16 286 Solomon Owens, eto 16 287 Blodwen Edith Ellis, Pendref, Llanfyllin 16 288 Myfanwy Howells, Moriah, Owmaman. 15 289 Alec James, Ebenezer, Tylorstown I i) 290 Maggie Ann Thomas, Pantycrwys 15 291 Ethel Israel, Efailisaf 15 292 Dorothy Jones, Sardis, Lleyn 15 293 Rebecca Jones, Soar, Meirion 15 294 Llewelyn Jones, Llandderfel 15 295 John W. Lloyd, Sardis, Maldwyn I. 15 296 Iorwerth 0. Lloyd, eto 15 297 Phyllis Anita Thomas, Tabernacl, Lerpwl 14 298 Annie Jones, Oana, Llanddaniel 14 299 Grace Evans, Ebenezer, Rhosymeirch. 14 300 Ellen Thomas, eto 14 30L Caradog Roberts, Llandderfel 14 302 Annie Mary Jones, Tabernacl, Hirwaun. 13 303 William John Thomas, Rehoboth, Connah's Quay 13 304 Martha Morris, Saron, Trewilliam 12 305 Tegwedd Lewis, Tabernacl, Hirwaun 12 306 Annie Williams, eto 12 307 Maggie Jones, Saron, Trewilliam 10 308 Blodwen Mathews, eto 10 309 Albert George Kenwyn, Carmel, Penrhiwceibr. 9 310 Bessie Evans, Bethesda, Ton 8 DOSBARTH III.—Dan 21 oed. JYIaeB y Llafur HaneB Israel." Arholwr—Parch. L. BERlAN JAME, S, B.A., Peuygroes. Uchafrif y Marciau, 100. Daeth 13 o bapurau i'm llaw. Cymerais amser a gofal manwl i'w. mhesur a'u pwyso. Yr wyf wedi eu trefnu yn bedwar dosbarth. Mae'r tri dosbarth cyntaf yn deilwng o glod, ond y mae Dosbarth 4 yn I N! ii iawn. Y mae'r marciau ar eu eyfer. Gwnewch chwi fel y dewiswck ynglyn a'r drefn. Nid oes amheuaeth gennyf^nad ydyw'r uchaf yn wir deilwng o'r wobr. Rhagora'r papuf .;hwn.yruliob cwestiwn ar unrhyw un arall. YJmae'r jieg^jyntafjrn.bapurau gwir dda. 4 OOllon goreu, L-:Cr.eiddoch yn bur, L. jBERIAN JAMES. 1 Eira Eleanor C.lMorgan, Henrietta, Abertawe. (medal aur) 92 2 Hannah Davies, Seion, Llandysul (medal gold centre) 84 3 Jennie Jones, Capel Evan, Llanerchymedd (10/- mewn llyfrau) 82 4 Mary Jones, Saron, Birchgrove (7/6 mewn llyfrau) 80 5 Dora Mary Owen, Faerdref, Edeyrnion (5/- mewn llyfrall) 79 6 Elena Pugh Davies, Bethesda, Corwen 77 7 W. E. Chambers, G-wernllwyn, Dowlais 76 8 Mary Davies, Seion, Llandysul 75 9 David Bowen Davies, Ebenezer, Tylorstown 72 10 Ben. J. Evans, Horeb, Llandysul 71 11 Annie Evans, Tabernacl, Lerpwi 68 12 Owen Thomas Pritchard, Nazareth, Lleyn 67 13 Jenny Williams, Bethesda, Arfon 64 14 Margaret Nesta Pritchard, Pendref, Caernanoll. 63 15 Evan Rees Evans, Horeb, Oeredigion 62 16 Mary Dilys Jones, Bethania, Blaenau Ffestiniog. 61 17 Ellen Jones, Brynrhiwgaled, Ceredigion 60 18 Frederick Bowyer, Mynydd Seion, Ponciall. 59 19 Katie Taylor, Pendref, Caernarfon 58 20 Mary Evans,. Seion, LlandysIlI. 57 21 Gwen Arfon Hughes, Ebenezer, Tylorstown 56 22 Jessie Jones, Tabernacl, Ynysybwl 55 23 Myfanwy E. Jones, Pendref, Caernarfon 54 24 Dilys Williams, Olifton-road, Birkenhead 53 25 Catherine Ellis Jones, Bala 52 26 Lydia James Parry, Abersoch 49 27 Edward J. Davies, Horeb, Ceredigion 48 28 Elizabeth Ann Williams, Bethesda, Llansilin. 47 29 Robert Eifion Jones, Soar, Meirion 45 30 Idris Evans, Bala 44 31 Margaret Jones, Bwlchygroes, Oeredigion. 43 32 T. W. H. Roberts, Tabernacl, Lerpwl 42 33 Nellie Jones, Soar, Clydach Vale 42 34 Mary Winifred Jones, Llandrillo 41 35 Nellie Roberts, Tabernacl, Lerpwl 40 36 Maud Lloyd, Bethesda, Ton 40 37 H. E. Davies, Bwlchygroes 40 38 Mary Rowlands, Ysgoldy, Llauuwehliyn 39 39 D. Iorwerth Thomas, Bethesda, llansiliii 39 40, Mary Jones, Bethesda, Arfon 38 41 David J. Davies, Bwlchygroes, Oeredigion 38 42 Lizzie E. Jones, Ebenezer, Rhosymeirch 37 43 Buddug Jones, Bethania, Blaenau Ffestiniog 37 44 May Roberts, Martin's Lane, Liscard 36 45 Ethel A. Thomas, Bethesda, 'Ton 35 46 Ethel Humphreys, Seion, Talysarn 31 47 Grace Alice Hughes, Bethesda, Llansilin 30 48 Eluned Thomas, Clifton-road, Birkenhead 30 49 Linda G. Morgan, Saron, Birchgrove 29 50 Edwin Thomas, Marsh Lane, Bootle. 29 51 B. Y. Pritchard, Grove-street, Lerpwl 27 52 Evan John Jones, Soar, 26 53 Maggie Mary Evans, Saron, Ynyshir 26 54 Annie M. Douglas, Soar, Clydach Vale 25 55 Lewis John Thomas, Morah, Cwmaman 25 fi6 Lizzie Mary Jones, Soar, Meirion 25 57 Annie Griffiths, Seion, Talysarn 23 58 Eluned Denman, Grove-street, Lerpwl 23 59 (No Counter) 22 60 Gwen Evans, Tabernacl, Ynysybwl 20 61 Janet Jane Roberta, Sardis, Lleyn 20 62 L. Owen, Saron, Bryncrug I. 20 63 Polly Parry, Tabor, LleVD 20 64 William H. Lloyd, Bethlehem, Rhos 20 65 Annie Jones, Moriah, Gwalchmai 20 66 Elias Luke, Penypyllau, Treffynnon 20 67 Lizzie Thomas, Bethel, Oemaes 19 68 David William Roberts, Bala 19 69 Lizzie Jane Jones, Moriah, Owmaman 19 70 Ceinwen Howells, eto 18 71 Maggie W. Jones, Sardis, Lleyn 15 72 Gwladys Irene Davies, Clifton-road, Birkenhead. 15 73 Morgan Evans, Tabernacl, Hirwaun 15