Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ER COF AM GRIFFITH JOHN EVANS.

GALWADAU.

-_........_.....__..-__-_..__..-...._…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Nis gallwn heddyw fanylu ar yr ysgrifan, j ond credwn fod dod o hyd i feddylwyr fel y Parchn. J. G. James, Rhosycaerau, a D. R. Williams, Dowlais, yn bluen yng nghap unrhyw olygydd. Cafwyd pedair ysgrif mewn rhifynnau diweddar gan Mr. James sydd yn glod i'w ben a'i galon. Maent yn fires, gafaelgar a byw. A gellir dweyd yr un peth am un Mr. Williams yn y rhifyn hwn ar Ddylanwad Datblyg- iad ar ein Dull o Feddwl'—maes toreith- iog a medelwr medrus. Aed y Cennad rhagddo ar ei linellan buddiol a sylweddol. PALLA gofod i ni fauylu ar y Cerddor Misolion Eraill. sydd yn 11awn blasusfwyd i'n cerddorion, a'r Cronicl Cenhadol sy'n anhepgorol i fywyd uchaf a goreu ein heglwysi. Ac mae Cymru'r Plant a Dysg- edydd y Plant yn cadw eu lie fel cyfryngau medrus a dawnus i ddiddori ac arwain ieuenctid y genedl. MEWN clafdy y mae'r Prifardd o hyd, ond mae pob gobaith am ei adfer- Pedrog. lad. Deil i englvnu ar ei wely, ac mae ei awen trior chwareus a byw ag erioed. Ond ofnwn na bydd yn ddigon cryf i fynd i Fangor i dderbyn ei M.A. ar y 27ain, a gresyn o beth yw na bai'r Brifysgol yn gallu rhoi'r gradd dan amgylchiadau fel hyn heb i'r claf fod yn bresennol. Kitbr mae ei rheolau mor haearnaidd fel itad elhr, meddai'r academ- wyr sydd wedi eu morthwylio. Dyna paham yr aeth Dr. Griffith John i'w fedd heb ei D.D. o Gymru, er i Edinburgh ei rhoi iddo yn ei absenoldeb. Mae cyffion a snobyddiaeth y Brifysgol Gymreig yn gryfion, er iddi fod dan lywodraeth wer- inol! Mae gwir angeu am i Haldane neu rtiywun ei diwygio.