Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Y CAM NESAF I

ABRAHAM LINCOLN A'I ARAETHI…

Y DIWEDDAR THOMAS J. PRITCHARD,…

Advertising

[No title]

Y BARNWR WILLIAM H. THOMAS,…

CASGLIAD Y CAN MIL I

Y DDIWEDDAR MRS. WILLIAM G.…

GAIR 0 CARROLL, NEBR. -1

Y DDIWEDDAR MRS. DANIEL HUGHES,…

News
Cite
Share

Y DDIWEDDAR MRS. DANIEL HUGHES, PHILADELPHIA, PA. Gan J. Humphreys Griffiths Brydnawn Sul, Hydref y 12fed, yn ys- byty St. Agnes, bu farw y chwaer an- wyl, Mrs. Mary Hughes, anwyl briod Mr. Daniel Hughes, Latham Apart- ments, 17th and Walnut Streets. Bu yn dyoddef am amser, ac oddeutu chwe mis yn ol, aeth dan lawfeddygaeth, ac fe orfu iddi fyned drachefn; pan oeddym yn dysgwyl fod pobpeth wedi troi allan yn llwyddianus, trodd yn Y Ddiweddar Mrs. Mary Hughes angeuol iddi. Ganwyd yr ymadawedig, Gorphenaf 26, 1874, yn ferch i'r diwedd- ar William Edwards (Canwr Penillion), Ty Rhos, Mynydd Cilgwyn, a Mrs. Wil- liam Williams, Wind Gap, Pa., gynt o Ty Rhos, Cilgwyn. Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i mam pan yn bymtheg oed, ac(ymsefydlodd yn Wind Gap. Ychydig wedi hyny, daeth Mrs. Hughes i'r ddi- nas hon, ac ymbriododd a Daniel Hughes oddeutu 22 mlynedd yn ol yn eglwys Annibynol Wind Gap (a hwy oedd y par cyntaf i ymbriodi yn yr eg- lwys hono). Bu Mrs. Hughes yn un o golofnau cedyrn gyda'r achos Gymreig, ac yn wasanaethgar gyda'r gwaith. Wedi ei marwolaeth, cafwyd hyd i doc- yn o geiniogau wedi ei roddi o'r neill- du ganddi, a phan daw galwad am ryw- beth neillduol yn yr eglwys, yr oedd yn rhoddi o honynt. Gedy gyda'i phriod i alaru ar ei hoi, bump o blant, William, Thomas, Eliza- beth, Helen a Margaret, yr hon' sydd wedi cyraedd ei chwech mlwydd oed; hefyd, ei mam, Mrs. Williams, a'i phriod, a'i brawd, Thomas Williams, Wind Gap, Pa.; Mrs. Thomas Mills a Mrs. F. Sykes, Philadelphia, chwiorydd. Claddwyd yr ymadawedig yn myn- went Arlington, a gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch. R. E. Williams, ar lan y bedd, ac yn yr eglwys, yr hon) oedd wedi ei gorchuddio a phlethdorch- au, wedi eu rhoddi gan yr eglwys Gym- reig, ac eraill, yn llawn o gyfeillion i dalu y gymwynas olaf i'r chwaer. Cy- feiriodd ein gweinidog at ffyddlondeb y chwaer. Yr oedd yn. y seiat a chyfar- fod y Ladies Aid bythefnos i'r diwrnod y cynaliwyd y gwasanaeth. Cludwyd yr arch gan John Evans, Robert Rob- erts, Evan Roberts, John Ed. Jones ac R. O. Davies. Bu Daniel Hughes yn morio am flyn- yddau gyda'i thad, yr ysgrifenydd, a gadawodd y Hong yn Philadelphia gyda'r brawd John T. Williams (Menai Bridge) flynyddau yn of. Mab yw i'r diweddar Daniel Hughes, Eryri Works, Caernarfon; a chwaer iddo yw Mrs. Robert Jones, Garnon St.; a mab iddi yw William John Jones sydd ar hyn o bryd ar ymwisliad a Daniel Hughes, wedi cyraedd y porthlad(f ar yr ager- long, "Hypathia," ac yn hwylio oddiyma yr wythnos hon. Yr oedd marwolaeth ei fodryb i William John yn frawychus, gan nas gwyddai hyd iddo gyraedd. Pan y gadawodd yma fisoedd yn' 01, yr oedd Mrs. Hughes yn teimlo yn well. Brawd yw Thomas Hughes, yn Barry Dock, a brawd arall wedi ei ladd yn Ffrainc, ar ol bod yno am ddwy flynedd a haner; a phan ddeuwyd o hyd i'r corff ar faes y rhyfel, yr oedd darlun o Mrs. Hughes a'r teulu yn Ilogell y milwr oedd wedi syrthio dros ei wlad, ac fe anfon- odd yr awdurdodau lythyr a'r darlun yn ol i'r teulu. Cynaliwyd y gwasanaeth angladdol i'r chwaer ymadawedig yn yr eglwys Gym- reig naw mlynedd i'r diwrnod yr ym- briododd yr ysgrifenydd, a chladdwyd Mrs. Hughes a fy mhriod ochr yn ochr yn yr un. fynwent, ac fe gawn nifer o Gymry eraill wedi gofalu am feddrod yn yr un llecyn. Er nas gallwn wneyd dim i'r anwyl- iaid sydd wedi ein gadael, y mae yn gymorth pan deimlwn fod nifer o Gymry yn tawel orphwys ger llaw eu gilydd. Dymuna y brawd Daniel Hughes a'r teulu gydnabod y caredigrwydd a'r cyd- ymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt, gan fawr obeithio y cant nerth i ddal o dan y chwerw loes sydd wedi. dyfod i'w rhan. Duw a'u nertho, fel Tad yr am- ddifaid, a Barnwr y gweddwon.

EWYLLYSIAD A CHYFRIFOLDEB